Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

AMERICA.

POLAND.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

POLAND. Cymmerodd brwydr le rhwng y Gwladarwyr a'r Rwsiaid ar yr 16eg o Fawrth yn Londek, tair milltir o Kahsch. Gorfodwyd i'r Rwsiaid encilio, a daros- tyngwyd y dref i ludw. Nifer y Gwladgarwyr oedd tair mil. Danfonwyd adgyfnerthion i'r Rwsiaid oy boreu dranoeth o Kalisch. Oddiwrth newyddion o Stockholm, dyddiedig Mawrth 18, ymddengys fod y Tywysog Polaidd Constantine Czartowyski, yr hwn oedd ar ei ffordd i Stockholm, wedi cael y derby niad mwyaf croesawus yn mhob dinas yn Sweden ag oedd ef yn teithio drwyddynt. Mae yr heddgeidwaid milwrol perthynol i Lywodro aeth Rwsia wedi newydd ddarganfod fod llawer arlwyon rhyfel ar goll o ystordai y Llywodrath, ac fod twysged o ledrad wedi cymmeryd lie. 0 Cracow, Mawrth 18, dysgwn fod y Llywydd Mazinoff wedi gorchymyn attafaelu tri chant o dir feddianwyr yn Lithuania a boi y Gwladgarwyr wedi bod yn fuddugol ar y Rwsiaid yn Raduika. Dysgwn hefyd o Lemberg, yr un dyddiad, fod Raezynki, un o benaethiaid y Gwladgarwyr, ar ol llawer brwydr, wedi llwyddo i dywys ei gatrawd i Pinsk. a'i fod yn awr mewn meddiant o'r dref, a'i fod wedi cyhoeddi y Llywodraetfi Genedlaethf* oedd ei gatrawd yn ychwanegu bennydd daith. Llythvron cyfrinachol o Berlin, dyddiedig y 18ed o Fawrth, a ddywedant fod yr ArcbDdugConstantine wedi penderfynu peidio myned o brif cisteddle y rhyfel, o herwydd fod ei eisicu mewn cynghor rhyfel. Newydd o Cracow, Mawrth 19* a rydd ar ddeall fod holl swyddogion y corfforaethau yn Lithuania, pob barnwr, a phob swyddog perthynol i lysoedd cyfreithiol, wedi rhoddi fyny < u swyddi dan Lywodr- aeth Rwsia. Mae y weithred hon o'u heiddo yn sylfaenedig a/ y penderfyniad i beidio derbyn unrhyw ohebiaeth oddiwrth y Llywor leth yn y iaith Rwsaeg, yr hyn oedd y Llvwodraeth yn parhau j'w wneyd yn groes i'r cytundeb a wnawd fod pob mater- ion perthynol i Poland i gael eu gwneyd yn y Bolaeg. Mae y swyddogion sydd wedi taflu eu swyddi i fyny yn cyhoeddi pob un a gymmerd eu lleoedd hwy yn "waradwyddus." Pellebriad o Lemberg, Mawrth 18, a ddywed fod y newydd wedi cyrhaedd yno o Thoruow fod y Cad- fridog Langiewicz wedi trechu y Rwsiaid oedd dan lywyddiaeth y Cadfridog Schochowsky, mewn dwy frwydr ary 18ed a'r 19eg o Fawrth, gan gymmeryd llawer o arlwyon rhyfel oddiarnynt. Pellebriad o Berlin, Mawrth 20, a ddywed fod llythyron cyfrinachol o Warsaw yn hysbysu fod cloddfeydd yn cael eu codi o amgylch y ddinas hono ar ei hamddffyn. Mae trigolion Warsaw yn credu yr ymosodir ar y ddinas tua'r Pasg. Mae'r Lyceum, prif goleg Warsaw, wedi eu gau, ac y mae'r holl astudwyr wedi myned oddiyno i uno a chatrodau y Gwladgarwyr. Mae cofrestriadau ar gyfer y symud- iad cenedlaethol yn cael eu cario yn mlaen YII gy- hoeddus yn Warsaw, ac y mae'r trigolion yn cyfranu eu ceiniogau a'u llestri aur ac arian i'r drysorfa genedlaethol. Newyddion o Cracow, Mawrth 20, sydd i'r pervsyl canlynol:—"Taenir y gairyma fod Langiewicz wedi eael ei yru ar ffo, a bod ei fyddin wedi gwasgaru. Mae Langiewicz yn awr yn Opatpwice m&eei fyddia yn lleihau yn gyflym. Yr oedd am fyned i Gal- licia, ac ymdrechodd gael gan yr a-vdurdodau Aws- triaidd i ganiatau iddo fyned drwy y dalaeth hono, yr hyn a nacawyd.

—♦ - MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNADOEDD CYMREIG. *