Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

patmott ©gtwpig.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

patmott CYNNYDD Y BEDYDDWYR AM Y TRI- IJ GAIN MLYNEDD DIWEDDAF. TWy wahoddiad Pwyllgor Undeb y Bedyddwyr, ymgynnnllodd cwmni lluosog o foneddigion a bon- eddigesau yn Ngholeg Regent's Park, hwyr dydd Sadwrn, Ebrill 25ain, er cynnorthwyo yn nghyflwyn- Jad ardebau i'r Parch. J. H. Hinton, A.C., a'r Parch. Ddr. Steane, fel cydnabyddiaeth o'r gwasan- fceth ag y mae y ddau weinidog uchod wedi ei wneyd 1 enwad y Bedyddwyr mewn modd neillduol, ac i :,cbos'y Ceidwad mewn modd cyffredinol. Llywydd- "Yd y eyfarfod gan Syr S. Morton Peto, A.S. Wedi !rlyned drwy seremoni v cyflwyniad, darllenodd Dr. Angus, Llywydd y Coleg, bapyr tra dyddorol a fiwerthfawr ar y cynnydd y mae enwad y Bedyddwyr Wedi ei wneyd yn Lloegr a Chymru yn ystod y tri- ugain mlynedd diweddaf. Gan fod y ffeithiau a ddygwyd gerbron ar y pryd o werth i'w gwybod gan 'eln brodyr yn Nghymru, gosodwn grynodeb o honynt Sfirbron ein-darllenwyr. Taflodd y Dr. ei olwg yn am driugain mlynedd, a dywedodd Ar ddechreu y cyfnod hwnw yr oedd Carey yn ^gafael a'r cyfieith ad cyntaf o'r Ysgrythyrau i iaithyr Indiaid, ac yn awr yr oedd 30,000 o gopiau yn cael "eu gwasgaru yn flynyddol gan genadon y Bedyddwyr yn unig; y pryd hwnw yr halogwyd' y Ganges n .drwy fedyddiad y dysgybl cyntaf i Grist, ac yn awr yr oedd yr eglwysi cenadol yno yn rhifo 2,000 o Aelodau, neu, a chyfrif Karens a Burmese, yr oedd y dycliweiedigibn yn 20,000. Yr oedd trigolion Jamaica, yr amser hwnw, wrth y degau o filoedd, yn gaethion ond yn awr y maent yn rhydd, a'r gwa- hanol eglwysi yno yn cynnal en hunain. Biiuid glknau Affricay pryd hwnw gan y caeth-longau, ond yn awr mae cenadon bedd wedi ymsefydlu yno y Mae y Niger wedi ei hagor i'n masnach, ac Ethiopia y& decbreu cstyn ei dwylaw at Dduw. Ar Gyfandir *j»wrop, yr oedd cyfnewidiadau lluosog wedi cymmeryd o fewn cof i nid ychydig. Nid oedd eglwysi Bed- yddiedig i'w cael ar y cyfandir driugain mlynedd yn i ond yn awr, yn benaf drwy fendith Duw ar lafur dyn, yr oedd yno dros fil o orsafoedd pregethu, a ddeng mil o ddychweledigion. Gartref hefyd nid yw y llwyddiant wedi bod yn bynod. Triugain mlynedd yn ol nid oedd yn Nghymru ond pedwar ugain o eglwysi —un eglwys fcyferbyn a saitb mil o drigolion, yn cynnwys 6,000 o "elodau; ond yn awr y mae Sir Fynwy yn unig yn SjUnwys cynnifer o eglwysi ag a gynnwysai yr oil o'r i^Wysogaeth amser yn ol; ac yn nhair sir ar ddeg j ytnru yr oedd yn agos i 600 o eglwysi, neu un eg- ^gyferbyn a phob 2,000 o'r trigoiion, gyda yn i8°s 65,000 o aelodau fel yr oedd un o bob ugain o'r V{?*y'ynaelodau o eglwys Fedyddiedig, pan nasgallai •l?edyddwyr yn Lloegr hawlio ond un o bob cant. ir"igain mlynedd yn ol nid oedd ond 417 o eglwysi fedyddiedig yn Lloegr; yr oedd yno yn awr dros ^•700.—yr jjyU gydd yn gynnydd ar y pedwerydd. *r ?edtl y boblogaeth wedi mwy na dyblu yn y tri- mlynedd; ond yr oedd eglwysi y Bedyddwyr ;yj yr un amser wedi cynnyddu ar y pedwerydd. Ar aechreu y g»nrif yr oedd un eglwys Fedyddiedig ar Jyter pob 20,000 o'r boblogaeth, ond yn awr yr oedd J? gyfer pob 11,000, yn annibynol ar Gymru. f gyCrif rhif yr aelodau, gwelid fod y cynnydd yn yfyth. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, yr j 500 o eglwysi newyddion wedi eu codi, yr hyn yn ol y cyfartaledd o 25 bob blwyddyn. fea 1 mae bywyd ysbrydol enwad crefyddol i'w |0j mewn llawer ffordd heblaw drwy gymmeryd ar rif yr eglwysi. Pa beth am y weinidogaeth, Wth ,"°n *euamc a ymbarotoant ar ei chyfer? Pa cenadiaethau, a'r cymhorth a rydd yr i^ysiiddynt? ,Y mae y ddau gwestiwn hyn yn .aeos geltir eu hateb yn foddhaol, dengys yr Tr eglwysi yn fcnrhydeddu yr efengyl, eu dyledswydd et ei gwasgaru. Ffurfir a chynnelir eglwysi yn benaf i'r dyben yma -i roddi yr efengyl i'r byd. Triugain mlynedd yn ol yr oedd gan y Bedydd- wyr ddau sefydliad er hyfforddi dynion ieuainc i'r weinidogaeth; un yn Bristau, a'r Hall, mewn cys- svlltiad a'r Bedyddwyr Cyffredinol, yn Llundain. Yr oedd ynddynt tuag 20 o fyfyrwyr. Y mae yn awr wyth, a nifer y myfyrwyr yn parotoi gyferbyn Wr weinidogaeth dros 200. Yr oedd y cost o gynnal y ddwy tua a61,200 y ffwyddyn y mae traul yr wyth yn £ 7,000. O'r myfyrwyr, y mae 81 yn Bristau, Bradford, a Regent's Park. 71 yn Mhontypool, Hwlffordd, a Llangollen. 10 yn Chilwell, a 50 yn Nhabernacl Mr. Spurgeon. 212 Y mae y colegau hyn wedi anfon allan yn ddiweddar tua 45 o fyfyrwyr bob blwyddyn; a gellir cyfrif y bydd i'r Tabernacl, gyda'r nifer preseDol o fyfyrwyr, anfon allan 25 bob blwyddyn; y cwbl felly yo 75. Y mae genym yn awr yn Lloegr a Chymru 2,150 o eglwysi, 150 o barai a berthynant i'r-Bedyddwyr Cyffredinol, a 2,000 i'r Bedyddwyr Neillduol. Yn y Baptist Handbook," y mae enwau' 1,984 o weinid- ogion, o ba rai v mae 333 heb ofal gweinidogaethol. Y mae feIJyJ,650 o weinidogion i 2,150 o eglwysi; neu y mae 500 o eglwysi yn Lloegr a Chymru heb weinidogion. O'r 1,650 o weinidogion, rhwngyr I oedran o 25 a therm naturiol bywyd, geUir dysgwyli 40 farw bob blwyddyn ac o bump i ddegroddi fyny y weinidogaeth o herwydd diffyg iechyd neu achosr- ion oreill. Mydd cyflenwad o 50 o fyfyrwyr, gan hyny, bob blwyddyn, yn ddigon i gwrdd àqçingenion yr eglwysi, hyd y nod pe delai yr holl eglwysi i'n colegau i ddewis gweinidogion. Fodd bynag, yr oedd amryw weinidogion effeithiol yn myned i'r weinidog- aeth mewn ffyrdd ereill; felly bydd raid i'r bedwar- edd ran, ueu dyweder ugain bob blwyddyn, o'r myf- yrwyr ieuainc dori tir newydd, gartrefneu oddicartref, neu ddyfod yn weinidogion ar rai o'r 500 eglwys sydd heb weinidogion, y rhan fwyaf o ba rai a ystyrir yn rhy dlawd i gynnal gweinidogion eu hunain. G-ellid meddwl drwy y cyfrif yma, fod gormod o fyfyrwyr yn ein colegau ond pan gofir fod pumtheg neu ugain o eglwysi newyddion yn cael eu ffurfio bob blwyddyn -fod rbai o'r 500 eglwys a nodwyd yn debyg o gyn- nyddu a cbryfhau, a bod ein trefedigaethau, a'n gorsafoedd cenadol, yn galw am ddynion, nid oes achos ofni am gyflenwad gormodol uniongyrchol, os bydd y rhai hyn a anfonir allan yn ddynion difrifol, santaidd, a gwybod us. Y mae y casgliadau at ein cenadiaethau yn ystod y triugain mlynedd wedi cynnyddu o'r un cyntaf JE13 2s. 6ch. i ^622,300 y flwyddyn; ac yr oedd £35,000 wedi eu tanysgrifio tuag at y wasg genadol. Tafia y ffeithiau caslynol ychydig oleuni ar gynnydd y gweithrediadau cenadol. Yn y saith mlynedd yn diweddu gydag 1799, yroedd cyfartaledd derbyniadau ein Cymdeithas Oenadol yn 561,126 y flwyddyn. Rhwng 1800-1,809, yr oedd yn a62,700 y fl. Aihwng 1810—1819, yr oedd yn £7,400 y fl., heblaw tanysgrifau i'r swm o a610,000 tuag at y tan yn Serampore. Rhwng 1820—1829, yr oedd yn £11,962 y fl. Rhwng 1830-1839, yr oedd yn £14,700yfl. heblaw ^614,000 tuag at gapeli Jamaica, a £ 6,000 at genadiaethau newyddion. Rhwng 1840 -1849, yr oedd yn 3623,167 y flwyddyn, heblaw £ 34,300 at Drysorfa y Jubili. Khwng 1850—1863, yr oedd yn ^22,306 y flwyddyn, Y mae yn agos i filiwn o bunnau fel hyn wedi eu gwario yn y maes cenadol; ae nis gall neb ddweyd pa gymmaint o ddaioni sydd wedi ei wneyd. Dyma ynte olwg ar gynnydd yr enwad am y triugain mlynedd diweddaf; ac y mae genym achos i lawenhau o her- wydd y llwyddiant oedd wedi cydfyned a'r ym- drechion.

GRAMMADEG Y GYMMRAEG.J