Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Y DDWY FIL A'R DRYSORFA.
Y DDWY FIL A'R DRYSORFA. MAE yr adeg wedi dyfod etto pan fydd yr enwad yn cynnal cyfarfodydd blynyddol y gwahanol Gymman- faoedd trwy Gymru- yn wir, bydd y cyntaf o hon- ynt wedi myned heibio cyn y daw y llinellau hyn o flaen y darllenydd. Yn ein Cymmanfaoedd llynedd cafodd aohos y Drysorfa Fenthyciol sylw ein brodyr 'da, yn weinidogion a lleygwyr. Mae blwyddyn wedi gwneyd gwahaniaeth mawr yn agwedd pethau gyda golwg ar y mudiad pwysig hwn. Yn ystod y flwyddyn Jiiae ymdrechion mawrion wedi cael eu gwneyd—mae y llwyddiant sydd yn barod wedi dilyn y gwaith yn destun syndod pob un sydd yn caru lies a llwyddiant teyrnas Crist. Yr ydym ni yn credu nad yw y Bedyddwyr yn Nghymru erioed wedi deall eu nerth. Mae y flwyddyn hon wedi darganfod rhan o hyny. Mae yr enwad yn meddu nerth, gallu, a dylanwad tu- hwnt i ddim a feddyliodd neb am dano o'r bIaen. Y rhai sydd yn synu fwyaf yw cyfeillion goreu yr enwad. Mae cyfnod newydd wedi agor ar gyfenwad 7 Bedyddwyr yn Ngliymru. Dymajr adeg fwyaf bwysig a fu erioed ar y Bedyddwyr Cymreig. Y "ewbl a ofynwn am dano yn awr yw, undeb a chyd- loeithrediad, a phrophwydyn y bydd y Cymry yn yr oesoedd a ddaw yn diolch i Dduw a dynion am "eithrediadau y cyfnod o 1862 hyd 1867. Mae ein Calon ni yn JIawen wrth feddwl am weithrediadau y flwyddyn o Fehefin, 1862, hyd Fehefin, 1863. Mae ya wir nad yw yr holl eglwysi etto wedi dechreu gweithio, ond y mae digon wedi dyfod i'r maes i roddi nodwedd i'r mudiad. 0 Mae y mudiad ei hun yn awr yn great fact—mae yn ddigon cryf bellach i gyhoeddi ei hun uwchlaw pob gwrthwynebiad. Yn y Cymmanfaoedd llynedd nid oeddem yn gwybod yn jawn pa beth oedd oreu i'w wneyd. Rhai a feddyl- ient mai goreu oedd ffurfio Trysorfa i Gymru yn Unig, ereill a feddylient mai y peth goreu oedd uno a Thrysorfa Llundain, a thaHu ein holl arian yno a thai a dybient yn well ffurfio cymdeithas yn Nghymru yn ganghen o Drysorfa Llundain. Mae yn iawn i ddweyd fod y Pwyllgor Gweithredol yn hollol o'r teimlad mai uno a Llundain oedd oreu. Agorwyd go- bebiaeth i'r perwyl hyny, a chredodd y Pwyllgor pan gyfarfu yn Llanelli fod y ffordd yn rbydd i'r Cymry ffurfio cangen gymdeithas o Gymdeithas Llundain, ond taflwyd goleuni pellach ar y mater er cyfarfod y Pwyllgor yn y Casnewydd. Yna nodwyd is-bwyil- tor i dynu i fyny gyfansoddiad i'r gymdeitbas newydd, ac i ddwys ystyried y ffordd oreu i weith- tedu—pa un ai uno a Chymdeitbas Llundain ai ynte ffurfio Cymdeithas yn Nghymru, a hono yn annibynol ar wahan oddiwrth bob un arall. Grosodwyd yr ohebiaeth o flaen y Pwyllgor hwn—awd i mewn yn fanwl iawn i'r holl fater, a phenderfynwyd yn un- frYdol i sefydlu Cymdeithas i Gymru ar wahan i LIundain. Dartu i'r Pwyllgor yn Abertawe gadarnhau yr hyn ag oedd wedi ei wneyd gan yr is- "Wyllgor yn Nghaerdydd. Mae y Pwyllgor Gweithiol yn unfrydol yn myned i gymmeradwyo i sylw y cyf- arfod cyffredinol yn Awst y priodoldeb o sefydlu gymdeithas i Gymru yn annibynol ar, ac ar wahan Gymdeithas Llundain. Yr ydym ni yn teimlo yn sicr o hyn, pe byddai yn ddichonadwy i Dob tanysgrifiwr fod yn wyddfodol yn y cyfarfod cyffredinol yn Awst, y byddai rhesymau y Pwyllgor, gyda y »ohebiaethau rhwng Cymdeithas Llundain ^>wy%or» i fod yn foddion iargyhodedi 999 o bob 000 o honynt mai dyledswydd y Cymry yw sefydlu ymdeithas i Gymru, Mae yn wir nad yw pawb o Syfeillion y mudiad yn gweled hyn etto, ond ni a yderwn na fydd iddynt daflu un rhwystr ar ffordd y ^udiad. Gallwn sicrhau pawb o'n darllenwyr fod y wyllgor o'r dechreu wedi gweithredu yn y modd goreu er lies y Bedyddwyr Cymreig yn neillduol, a'r gyfenwad trwy y byd yn gyffrediriol. Mae yn 6 Wng o sylw hefyd fod aelodau y Pwyllgor, gan faint oedd eu dymuniad ar y cyntaf i uno a Llundain, yn awr am weithredu ar wahan, a hyny trwy argyhoeddiad wrth chebu a gwyr Llundain. Mae dywedyd fod gwyr Llundain yn fwy adna- byddus, yn fwy diogel, yn fwy hyn, ac yn fwy'r llall, y fath o libel fach dawel arnom ni y Cvmry-libel ar ein cymmeriad fel dynion cyhoeddus, a dynion, a'n cymmeryd gyaa'n gilydd, ydym mor adnabyddus a Phwyllgor LIuodaio-líbel ar ein gonestrwydd, os tybir nad ellir ymddiried y swm a ddaw i law y try- sorydd a'r vmddiriedolwyr sydd genym yn awr, neu a ddewisir gan y cyfarfod blynyddol cyffredinol yn Awst-libel yw arnom ni i ddywedyd" nas gallwn drafod cymmaint a hyn o faterion yr enwad. Onid ydym wedi cael prawf o hyn yn sefydliad a dygiad yn mlaen Athrofeydd Pontypwl a Hwlffordd, a cbawn hyny yn mhellach yn Athrofa y Gogledd. Am Gymmanfaoedd Cymru, maent ar bob golwg yn rhagori ar Gymmanfaoedd yr enwad yn Lloegr. Bydd Cynnadledd y Gymmanfa leiaf yn Nghymru eleni yn fwy lluosog, bywiog, a dylanwadol na ebyf- arfod Undeb yr holl Fedyddwyr trwy y deyrnas yn Llundain mis Ebrill diweddaf. Y gwir yw, mae sefyllfa yr enwad yn Nghymru yn inhob ystyr yn tra rhagori ar sefyllfa yr enwad yn Lloegr. Yna, yn enw pob peth, pa eisieu sydd i ni daflu ein holl arian i'w trafod yn Lloegr sydd, pan allwn wneyd hyny yn well, yn rhatach, a llawer mwy effeithiol na allant hwy yn Lloegr wneyd ? Ie, meddai rhai, mae Trvsorfa Llundain mor fawr-dros £ 50,000. Mae y sawl a ddywedo hyny yn euog o ddywedyd anwir- n edd pwysig. Nid yw Trysorfa Gyffredinol Llundain yn gwbl ^68000, yr byn a all y sawl fyno weled ond darllen y mynegiad olaf oil. Mae wedi cyrhaedd y swm hyn yn mhen dwy flynedd ar bumtheg. Mae ein gobaith ni yn gryf iawn y bydd Trysorfa Cymru yn fwy ni hyn cyn pen y pum mlynedd. Mae yn dda iawn genym weled fod Cwrdd Chwar- ter Sir Fon wedi penderfynu taflu ei ddylanwad o blaid y Drysorfa Gymreig. Diolch yn fawr iddynt am hyny. Mae yn bleser genym weled fod Mr. Llewelyn Jenkins yn cael derbyniad mor galonog yn y Gogledd. Dichon fod pobl Llanelian wedi eu bwriadu gan yr Hollalluog i fod yn foddion, fel poteled o soda water, i oeri tipyn ar y brawd anwyl Jenkins, rhag i'r steam godi yn rhy uchel. Mae yn rhaid i ni gael ein cadw lawr dipyn, ac felly y gwnaeth pobi Llanelian; er hyny, trueni oedd hyn. Mae James James yo un o blant eglwys Calfaria, ond yn hyn nid yw yn debyg i'w fam. Mae yn dda genym ddywedyd yn mhellach, fod yr arian yn dyfod i mewn bob dydd-mae cannoedd yn llaw y Trysorydd yn barod. Yr oedd Mr. Ben- jamin Lewis, aelod parchus, a swyddog ffyddlon yn eglwys Hermon, Nantyglo, wedi addaw z650 yn y pedair blynedd, ond mae ef yn barod wedi talu y £50 yn llawn, tra y mae yr arian yn dyfod o'r Deheu a'r Gogledd. Mae yn wir fod y peiriant wedi symud, ac nid oes un gallu mwy a all ei attal; ond byddai eydundeb a chydweithrediad yn llawer o help iddo fyned yn y blaen.
ATHROFA. PONTYPWL.
ATHROFA. PONTYPWL. MAE ein gofod yr wythnos hon yn fyr, ac wedi ei rag- feddiannu, er hyny mae ynom awydd i ddywedyd gair am y sefydliad ardderchog hwn. Cawsom y fraint eleni o ymweled a'r Coleg yn amser y cyfarfodydd blynyddol. Yr oedd yn dda genym ysgwyd llaw a'r Dr. Thomas a'r Parch. George Thomas, A.M., o dan ofal pa rai y cawsom ein derbyn 21 o flynyddau yn ol. Mae amser er hyny wedi gwneyd ei ol arnynt hwy ac ernom ninnau ond i Dduw y byddo y diolch, mae y ddau athraw yn awr mor addas, ac yn wir yn fwy felly, i fod yn athrawon nag erioed. Da oedd genym gyfarfod a 33 o ddynion ieuaine gobeithiol, y rhai ag ydynt yn awr yn yfed gwybodaeth o dan gyfarwyddyd y Tomas- iaid anwyl. Yr ydym ni yn meddwl mai anhawdd fyddai cael 33 o fechgyn a fyddai yn rhagori ar y rhai ag ydynt yn awr yn fyfyrwyr yn ngholeg Pontypool. Yn nghyfeillach ein cyd-olygydd Lleurwg, eawsoid gyfle i gyfeillachu a'r efrydwyr, nos Lun, Mai 18. Dranoeth cymmerodd yr arholiad le. Y Parch. John Rhys Morgan oedd yn arholwr yn y ddosran dduwinyddol. Yr oedd y 33 wedi eu rhanu i bedwar dospaith. Buom yn sylwi, yn edrych, a gwrandaw, a chawsom ein mawr foddloni yn Lleurwg fel arholwr, ac hefyd yn atebion pwyllog ond parod, gwylaidd ond penderfynol, y myfyrwyr. Deallwn fod y gwyr ieuainc wedi rhoddi perffaith foddlonrwydd i Mr. Morgan, ac yn wir felly y teimlai y degau ereill ag oedd yn gwrandaw. Y Parch. Daniel Morgan, Blaenafon, oedd yr arholwr yn yr iaith Hebraeg. Deallwn iddo gael cyflawn foddlonrwydd yn y gwyr ieuaine a holwyd ganddo. Y Parch. Charles Short, A.M., Abertawy, oedd yn holi yn y Groeg a'r Lladin. Yna etto aeth y dynion ieuainc trwy eu gwaith yn foddhaol dros ben. Yn y prydnawn, darllenwyd traethawd yn Seisnig gan Mr. Taylor, un o'r myfyrwyr. Y nos ganlynol, cynnal- iwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Gymraeg, pan ddarllenwyd traethawd gan Mr. Howells ar Brophwydoliaeth Noah am ei Feibion;" a phregethwyd i'r myfyrwyr gan y Parch. E. Williams, Aberystwyth. Yr oedd y cwrdd hwn yn dda iawn, y traethawd o gyfansoddiad da, y darlleniad yn eglur, a'r syniadau yn gyfryw ag a roddent foddlon- rwydd cyffredinol; Mr. Williams yn ei lawn hwyl, a'r cyfarfod yn llawn bywyd. Boreu dydd Mercher, wedi cynnal Pwyllgor am ddeg, dechreuwyd y gwasanaeth cy- hoeddus, pan bregethodd y Parch. Evan Probert o Gaer- odor ac wedi hyny cawd cyfarfod cyhoeddus o dan lyw- yddiaeth Mr. Phillips, y Trysorydd. Mae yn achos o wir ofid i ni feddwl a dywedyd fod sefyllfa arianol yr Athrofa mewn cyllwr anfoddhaol. Nid yw y derbyniadau yn awr yn dyfod i fyny i'r treulion pwysig o gynnal y nifer presenol o fyfyrwyr. Mae yn rhaid gwneyd un o ddau beth, naill ailleihau nifer y my- fyrwyr neu godi y drysorfa. Mae yii annichouadwy cadw i fyny y nifer presenol i fewn heb ychwnnegu y cyfran- iadau byddai yn resyn i leihau y nifer ac yn wir sut i wneyd hyny nis gwyddys, gan fod 20 o fechgyn ieuainc yn awr yn ymgeiswyr am dderbyniad i'r coleg. Mae y feddyginiaeth yn llaw yr eglwysi a chyfeillion y sefydliad. A all rhai o honom ni ddim dyblu ein tanys- grifiadau ? A oes dim modd i ni gael ereill i ddyfod i danysgrifio ? Mae yr enwad yn Nghymru yn cynnyddu tua 3,000 bob blwyddyn ond beth mae y 3,0o0 hyn yn ei wneyd at ein sefydliadau crefyddol? Dim y degwm o'r peth ag a ddylent wneyd, a hyny yn ami am nad ydynt yn cael eu gosod ar y ffordd i wneyd hyny. Mae ein brodyr ieuainc yn awr yn gwynebu at yr eg. Iwysi. A gawn ni appelio at ein cyfeillion i roddi der- byniad croesawgar i'r myfyrwyr, a'u danfon yn ol ag un rhan o dair yn fwy o gasgliad nag o'r blaen. Mae gwir angen. Mae 20 o ddynion wrth y drws, ac yn curo am dderbyniad, tra nad yw y casgliadau arferol yn ddigon i dalu treulion y rhai ag ydynt i mewn yn barod. Gwyddom fod gair yn ddigon i wir gyfeillion addysg.
ENWOGION CYMREIG.
ENWOGION CYMREIG. GAN Y PARCH. D, OLIVER EDWARDS. PRIODOL y dywed y ddiareb, Yn mhob gwlad y megir glew." Mae cenedloedd ereill yn ofalus iawn i gasglu bywgraffiadau eu henwogion gresyn fod y Cymry wedi bod gymmaint ar ol yn hyn o beth. Er mai gwlad dlawd yw ein gwlad fechan ni-er ein bod wedi ein hurddio i iselder a dinodedd trwy ymladd â chenedloedd ereill; ac er ein bod wedi llafurio dan anfantelsion dirif drwy yr oesau etto gallwn ymffrostio yn ein henwogion. Mae ein beirdd wedi bod yn enwog-ein llenorion yn uchel—a'n pregethwyr yn nerthol. Yn ol rhif ei thrigolion, nid oes gwlad dan haul wedi magu mwy o ddynion mawr na hen wlad y bryniau; ac y mae y rhan fwyaf o honynt wedi eu geni nid mewn palasau, ond mewn bythynod-wedi hanu nid o dywys- ogion urddasol ac anrhydeddus, ond o weithwyr tlawd a dienw-wedi gweithio eu ffordd yn mlaen, nid dan wenau hawddfyd a llewyrchiadau haul llwyddiant, ond yn hollol i'r gwrthwyneb,—cawsant eu curo gan ystor- mydd blinfyd-gwelsant ddyfnderoedd cynnydd tlodi— gwrthwynebid hwy gan luoedd profedigaethau ond, er hyny, dringasant y rhiwiau, gorcbfygasant yr anhaws- derau, cerfiasent eu henwau ar lechres hanesyddiaeth, a chyrhaeddasant y safleoedd uchel ac anrhydeddus o fod yn brif wroniaid eu gwlad. Mae yr ysgrifenydd rhywiog Smiles wedi cyhoeddi yn ddiweddar gyfrolaid o fywgraffiadau dynion mawr y Saeson mae rhyw ysgrifenydd a gyfenwa ei hunan yn Laswyn yn cyhoeddi yn y Byd Cymreig hane*