Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ar y 3ydd o'r mis, cynnaliwyd cyfarfod chwarterol casglu Penuel, Rhumney. Pregethodd y Parch.. Howell Davies, Spelters, dair pregeth dda iawn, a chafwyd casgliad rhagor'.l.-BRAWD. CEFN BYCHAN.—Mai 17eg a'r 18fed, C nrialiodd yr eglwys uchod ei chwrdd blynyddol. Y brodyr a bugethasant ar yr ach- lyssr oedtlynt, Dr. Evans, Cefnmawr; Dr. Prichard, Llangollen T. Evans, Capelnewydd W. Roberts, Fforddlas J. Jones, Glyn a H. Jones, L!angoHen.—BRAWD. LLANGOLLEN.—Cynnaliwyd cyfarfod blynyddol yma Mai 14eg a'r 15fed. Y brodyr a bregethasant oeddynt y Parchedigion Thomas, Llandudno; Thomas, Llangefni; Robinson, Llansilin; Roberts, Rhos a Roberts, Llansantffraid. Agorwyd yr eedfaon gan y brodyi1 Thomas, Llandudno; W. P. Williams, myfyriwr; Jones, Glyn a Williams, Garth. Y Sabboth canlynol, pregeth- odd y brodyr W. P. Williams, myfyriwr; Thomas, Llangefni a Roberts, Llansantffraid. Yr oedd y dweyd o'r iawn ryw, yr oeddtyrfaiawryngwrando, ahyderwn mai, llawer fydd y rhai • "fyddant etto yn gwneyd yn ol yr hyn a glywwyd.-H. W. N RHOSLLANERCHRUGOG.—Cynnaliodd y Bedyddwyr yn y He hwn eu cyfarfod blynyddol eleni y lored a'r Ileg o'r mis hwn. Llywydd—y Parch. William Roberts, Rhos. Cymmerwyd rhan y gwasanaeth cyhoeddus gan vgweinidogion canlynol:—Parchn. Dr. Prichard, Llangollen Roberts, Plasnionwy Jones, Caer- dydd; Thomas, Llangefni; Robinson, Llansilyn a Jones, Crymbo. Cawsom bregethau da, bywiog, a grymus, ae yr oedd effeithiau daionus i'w gweled ar y gwrandawwyr. Y mae amryw wedi troi eu gwynebau i dy Dduw ar ol y cyfarfod.—D. R. ~~SARDIS, LLANBBRIS.—Cynnaliwyd cyfarfod llenyddol yn y lie hwn ar yr 16eg o fis Mai. Beirniad y traethodau a'r farddon- laeth oedd y Parch. J. Thomas, Waunfawr. Beirniad y gerddor- laeth oedd Eos Iolen ac A. Davis. Y llywydd oedd y Parch. J. Jones. Anerchwyd y cyfarfod gan Iorwerth Sardis. Beirniad y llaw-ysgrifen, Mr. O. Parry. Y rhai buddugol oeddynt Morgan Mor*»ns. J. (J. Jones, Hugh J. Jones, Edward VV". Edwards, Thomas, O. E. Hughes, Timetheus E. Hughes, Elizabeth "Jones, Seth Jones, B. O. Thomas. Canodd y cor yn rhagorol °vT u ^8n ^ywyddiaeth Eos Iolen. Cawsom gyfarfod da, a pnawb yn gwaeddi am gael ei gyffelyb etto yn fuan. CWMBACH.—Cynnaliwyd cyfarfod chwarterol yn y lie uchod dydd Sut, Mai 17, pryd y pregethodd y Parch. L. Thomas. Cas- tellnedd, am 11, 2, a 6. Am 2, cawsom bregeth hefyd gan y Parch. T. Price, Aberdar. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn lluosog iawn, a'r casgliadau yn fwy nag a welsom yma er yt blynyddau. LLANFYNYDD.-Cynnaliwyd Cwrdd Chwarter y Bedyddwyr dosbarth uchaf Swydd Gaerfyrddin, Mai 12fed a'r 13eg, yn y lie lie hwn. Nos Fawrth, am 6. gweddiodd y brawd N. Davies, Pembre a phregethodd y brodyr J. C. Griffiths, Llandilo a D. Morris, Carmel. Am 10, dydd Mercher, gweddiodd y brawd Lewis Roderick, Capel Seion a phregethodd y brodyr N. Davies, Pembre J. Davies, Llandyssil; a W. Hughes, Glanymor, Llan- elli. Am 2, gweddiodd y brawd B. Evans, Capel Isaac (A.) a phregethodd y brodyr John Thomas, Saron Thomas John, Llan- gendeyrn a J. Williams, Aberduar. Am 6, gweddiodd y brawd Thomas Powell, Capel Isaac (A.); a phregethodd y brodyr T. F. Williams, Saron J. W. Morris, Caio a M. Griffiths, Penrhiw- goch. Mae y cwrdd chwarter nesaf i fod yn y Felinfoel, ar yr ail Fawrth a Mercher ya mis Awst.—J. WILLIAMS, Ysg. EBENEZER, FRON.-Mai yr 16eg a'r 17eg, cynnaliodd yr egl wys uchod ei chwrdd blynyddol. Nos Sadwrn dechreuodd T. Edwards, Athrofa Llangollen, a phregethodd 0. Davies, Athrofa Llangollen, a W. Roberts, Fforddlas. Am ddeg dranoeth dech- reuodd 0. Davies, a phregethodd T. Edwards, a T. Evans Capel. newydd. Am ddau dechreuodd T. Edwards, a phregethodd H. Jones, Llan^oUen, a W. Roberts. Am chwech dechreuodd T. Evans, myfyriwr, a phregethodd O. Davies a T. Evans. Cafwyd cyfarfodydd da, a Duw Israel a'u bendithio er lies yr eglwys a'r gwrandawwyr yn o! Haw.—BuoNYnD. BRYN SEION, TRECYNON. — Cynnaliwyd cyfarfodydd ar agoriad y capel uchod ar y 3ydda'r 4ydd o'r mis hwn, pryd y pre- gethwydaryrachtysur gan y gweinidogion canlynol;—Mri. D. Howells, J. Jores, J. Lewis, D Price (A.), a Moses Thomas. Cafwyd pregfthau grymus ac effeithiol, y fath ag oedd yn hawlio gwrandawiad astud a difrifol gan y eyiinuileidfaoedd lluosog. Y mae y capel uchod yn un o'r rhai prydferthaf ag a fedd y Meth- odistiaid, ac y mae clod mawr yn deilwng i'r adeiladydd. LLANDEFSinoo.—Mai 8, traddodwyd darlith yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, gan y Parch. John Roberts (leuan Gwyllt), ar Gerddoriaeth y Cyssegr." Elid i mewn drwy docynau 6c. yr un yr elw at yr achos yn y lie. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. Thomas Job, Llanddarog, yr hwn, wedi agor y cyfarfod me <vn araeth fer ond pwrpasol iawn, a alwodd ar y darlithydd at ei waith. Cawsom sylwadau pwrpasol iawn arganu; yr wyf yn credu yn hollol y bnaaai yn dda gan bob un sydd yn haeru nad all ganu beidio a bod yno, oblegid daeth ag Ysgrythyr ger eu bron, fel na feiddiai neb ager ei enau. Cafodd blaenoriaid canu wersi ganddo hefyd, yn nghylch dewis tdnau yn cyfateb i'r farddoniaeth. Clywir llawer yn canu ton orfoieddus ar air hollol alarus, yr hyn sydd yn warth ac yn annhrefn o'r m wyaf. Canwyd amryw donau yn ystod y cyfarfod, y darlithydd yn arweinydd. Digon yw dweyd am y ddarlith hon ei bod yn un ag oedd ei llwyr angen arnom, gan fod y rhan hon o'r addoliad wedi cael ei hesgeu- luso mor fawr. Hir oes a llwydd mawr fyddo i'n gwron i'w thra- ddodi etto trwy Gymru oH.—GwRAKnAWWR. YSTRADGYNLAIS.—Cynnaliwydcyfarfod Cyaadeithas Rhydd- had Crefydd yn Bethlehem, nos Lun, yr lleg .'r mis presenol. Wedi ethol y Parch. R. Lewis, Ty'nycoed, i'r gadair, galwodd y Parch. H. Rees, Canaan, i roddi araeth ar y Gymdeithas uchod, yr hyn a wnaeth yn ddeheuig a grymus, ar ddechreuad, llwyddiant, a dylanwad y Gymdeithas. Siaradodd i bwrpas, achafodd yr araeth ddylanwad mawr ar y gynnulleidfa. Darllenodd y Parch. H. Rees, Sardis, bapyr fod codi treth i gynnal crefydd yn ormes ac yn drosedd ar hawliau cydwybod." Cefnogodd Mr. D. Jeremy hyny, a phasiwyd y peth yn unfrydol gan y cyfarfod. Darllenodd y Parch. W. Watkins, Maesteg, bapyr nad oedd yr eglwys wladal yn eglwys y genedl Gymreig." Cefnogodd Mr. Gwilym Davies hyny, a phasiwyd ef yn unfrydol gan y cyfarfod. Nid oes un plwyf a ddangosa hyn yn well n&'r plwyf yma. Mae yma 8 o deuluoedd Annghydffurfiol yn mhen pob un eglwysyddol, unarddeg o aelodau ganddynt i bob un yr eglwys, gwerth £ 8 0§0 o gapela Ymnelllduol gyferbyn ag eglwys newydd y £1,000 sydd yn hysbys trwy Gymru a Lloegr, a deunaw o Ysgolion Sabbothol gyferbyn a thair, &c. Wedi rhoddi diolchgarwch i'r areithiwr a'r cadeirydd, terfynwyd, a phawb oedd yn bresenol yn awyddus iawn am glywed Mr. Rees, Canaan, yn siarad etto ar y pwnc.—B. CYFARFOD BLYNYDDOL Y FEIBL GYMDEITHAS.—Cyn. naliwyd y Cyfarfod Blynyddol yn Nenadd Exeter, Llundain, ar ddydd Mercher, y Gfed o fis Mai, ac yr oedd v neuadd eang mor llawn ag arferol. Cymmerwyd y gadair gan y liywydd, y Gwir Anrhydeddus Iarll Shaftesbury; ac wedi i'r Parch. C. Jackson ddarllen a gweddio, darllenwyd yr Adroddiad gan yr Ysgrifenydd arall, y Parch. S. B. Bergne. Hysbyswyd fod y dosbarthiadau am y flwydeyn ya 2,133,860 o gopiau o'r Gair Santaidd mewn gwan hanol ieithoedd a bod y dosbarthiadau o'r dechreuad yn 43,044,334 o gopiau. Y r oedd derbyniadau y Gymdeithas yn ystod y fl wyddy- yn diweddu Mawrth 31, 1863, yn cyrhaedd i £ 158,750 18s. 9c. Yr oedd y derbyniadau cymhwysedig at ddybenion cyffredinol y Gymdeithas yn cyrhaedd i JE84,263_0S. oc., yn cynnwys £ 50,017 16s. 8c. o. Rydd Gyfraniadau oddiwrth Gymdeithasau Cynnor-i thwyol. Derbyniwyd at India a China yn bennodol y swm o £ 760 14s, 9c. Y derbyniadau am feiblau a thestamentau oeddynt £ 73'Jg7 4s. 0c. Yr oedd y treuliadau yn ystod y flwyddyn ya £ 150,290 8s. 5c. Yr oedd ymrwymiadau y Gymdeithas yo cyrhaedd i £94,285 9s. 9c. Traddodwyd areithiau rhagoml a chymhwys gan y boneddigion canlynol :-Archesgob York, Es- gobion Carlisle. Mauritius, a Melbovrne, larll Harrowby, Parch. Dr. Tidman, Parch. Emilius Bayley, Parch. C. Vince, a'r Parch. Luke H. Wiseman. ABERDULAIS.—Cynnaliwyd cyfarfod chwarterol yr ysgol yn y lie uchod piryanawn dydd Sol, Mai lOfed. Cymmerwyd y gadair gan Mr. D. Samuel, golygydd yr ysgol, ac wedi iddo agor y cyfarfod drwy araeth fer a phwrpasol, galwodd ar y brawd ieuanc D. Phillips i adrodd y 9fed bennod o Daniel. Wedi canu ton, ac anerch s.orgcdd gras gan T. Hopkins, holwyd y plant mewn pync- iau; adroddwyd barddoniaeth, canwyd amryw donau, a ch twsom araeth ragorotgat) y brawd E. Gethin ar loan Fedyddiwr, yr hon oedd yn hollol ysgrythyrol, a':n dymuniad yw, ar iddo gael einioes ac iechyd i'w thraddodi etto. Yna galwwyd ar yr ysgrifenydd i ddarllen cyfrifon yr ysgol am y chwarter diweddaf—adroddwyd 125 o bennodau, a 3,860 o adnodau. Yna ethol wyd y brawd W. Rees yn olygydd yr ysgol am y chwarter dyfodol. Tertynwyd trwy weddi gan y Parch. T. Williams, a chanu y don Alma. Cawsom gwrdd da yn mhob ystyr o'r gair. Bydded ymdrechiadau yr ysgol o dan fendith Dn w i godi bechgyn fyddo yn ogoniant iddo, ac yn anrhydedd i grefydd ac y mae yn dda genyf ddweyd fod naw o ddeiliaid ffyddlon yr ysgol yn awr o daen yr eglwys. Rhagddi yr ,elo i ddwyn Ilawer etto.-W. R. CAERGEILIOG, MON.—Cynnaliwyd cyfarfod yn y lie hwn dydd Mercher a dydd Iau, Mai l3eg a'r 14eg, pryd y pregethedd y brodyr Jones, Pensarn Jenkins, Llanfachreth Hughes, Llan- erchymedd Davies, New Park-street; Ellis, Caernarfon. Digon yw dweyd eu bod oil yn eu hwyliau goreu, a phawb wrth en bodd. Cynnaliwyd cyfeillach i aelodau y gwahanol eglwysi am 9 o'r gloch yr ail ddydd, a chatwyd anerchiadau pwrpasol a gwreseg gan y gweinidogion i'r aelodau a'r pregethwyr. Cytuna y saint- oil i ddweyd mai da oedd bod yiio a'u dymuniad yw, ar i'r brodyr dreulio awr yn mhob cyfarfod yr un modd. Oni ellid yn rhwydd cael seiat o'r fath boreu dydd y gymmanfa am 81; ac oddieithr iod rhyw rwystr eyfreithlon, paham na ellid casglu y saint at eu gilydd o wahanol eglwysi y sirar yr adeg grybwylledig? Mae yn hyfivd canfod fod yr achos yn y B.>nt a Chaerneilicjg uuwn sefyllfa lew- yrchus, er pan y mae y Parch. J. William* wedi cyinineryd ei gofal.-G.. 'J

CYFARFOD CHWARTEROL DOSPARTH…

CAERGYBI A'l DYGWYDDIAEAU.

[No title]

I pi i-ro 1 '