Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
YMDDYDDANION Y TEULU,
YMDDYDDANION Y TEULU, GAN Y PBYFGOPYN. PEN. IX. AR brydnawngwaith, pan ag oedd Morgan Jones, Mrs. a Miss Jones, a'r bechgyn yno, gyda dau neu dri o gyf- «illion, awd dros hanes y frwydr fawr gerllaw Chancellors- ville gyda llawer iawn o bryder ac., ofn, canys er pob peth mae teimkdau Morgan Jones yn gynhes o blaid y North, welwch chwi; a pheth enbydusiawnfuasaii Mr. Hooker, y General, gael ei orchfygu yn y fan wedi croesi yr afon. Wedisynfyfyriotipynyn go lew, a chrafu eiben, gofynai Morgan Jones i Miss Jones- "We), y merch I, beth sy gen ti yna yn rhoddi cym- maint o hwyl i ti? 'Dwyt ti scant yn gwrando ar y stori eithus yma am y rhyfel ?" "Yn wir, nhad anwyl," meddai Miss fach, yr oeddwn yn cael pleser annghyffredin wrth ddarllen yr hanesyn bach sy o mlaen I fan hyn." We], os nad oes yna rhyw secret, beth pe bai ti yn ei rhoi e' 'for the good o' the company,'ys dywed y Sais." Nhad anwyl," meddai Robert, "yr i chi bron myn'd yn Sais, feddyliwn." Silence, boys, i merch I gael darllen," meddai y tad. Ga' I ddarilen yn Saesneg, nhad," gofynai y ferch. "Nonsense, my dear," meddai pen y teulu, "yn ftymraeg, bidsiwr." goreu, nhad," oedd yr ateb, mi roddaf y syn- yrjr i chwi yn Gymraeg. Enw y chwedl gaiff fod— "JOAN FACH." Rhyw ddeuddeg neu dair-ar-ddeg o flynyddau yn oj. Jsyr oedd hen weddw o'r enw Sarah yn bvw yn un o elus. endaiygweddwon yn Stockholm. Yr oedd hi yn hen wraig o dymherau drwg a nwydus iawn. Yr oedd yn byw gyda hi eneth fechan amddifad, yr hon oedd wedi ei hymddiried iddi i'w magu. Yr oedd y weddw yn arfer bod yn absenol yn agos trwy'r dydd, a phob dydd yn gwerthu gwallt-blethiadau (am yr hyn yr oedd y Sivediaid yn nodedig), er ennill ei bwyd. Yn. yr amser hwn, yr oedd yn dot y drws, fel yr oedd Joan fach yn garchares barhaus, ac yn ami byddai yr hen wraig yn annghofio (?) gadael bwyd yn y ty i'r un fach. Fel hyn, byddai Joan fach yn ami hyd at newynu cyn dychweliad Sarah, y weddw, yn y piydnawn. Nid oedd Joan fach yr hyn a fernid yn dlos a hardd, ondyroeddganddi bar o lygaid yn Ilawn bywyd, a gwynebpryd yn adlewyrchu gwybodaefch. Yr oedd hi, er yn fechan, ynhynododalentog gyda y plethu, a phrof- odd o lawer o help i'r hen wraig. Yr oedd yn beth digon annymunol i'r plentyn gael ei gadael yn y ty trwy y dydd, ac yn ami heb damaid ofwyd 0 r boreu hyd yr hwyr; a phan ddychwelai yr hen wraig yn yr hwyr heb lwyddo i werthu y plethiadau, yr oedd Joan fach yn cael myned i'r gwely heb swper, ac yr oedd yn ei ystyried ef yn fraint i beidio cael ei churo yn y fargen. Ar ddiwrnod teg yn mis Mai, yr oedd Joan fach yn eistedd yG unig yn y ty, ac yn ddiwyd wrth ei gwaith. Yr oedd eisieu bwyd, yr hyn sydd bob amser yn galed 1 blentyn chwech mlwydd oed, yn gwasgu yn galed ami. Ond gan nad oedd dim yn y ty i'w fwyta, ymdrechodd annghofio y gofid trwy ymosod yn fwy penderfvnol ar ei gwaith, ond teimlai mor unig a digalon. Yr oedd y deigryn mawr poeth yn ymsaethu i fyny. i'w Uygaid, fel nad oedd yn gallu gweled y plethiadau. Ymdrechodd yn galed yn ei erbyn, ond y cwbl yn ofer. Unar ol y llall y dagrau a redent i lawr ei gruddiau, a wylodd yr un fach yn cbwerw do,st-I Nid oes neb i fy ngharu 1-— nebj siarad gair tyner wrthyf,' meddai yn uchel. "Qndy Ilestr, sydd yn cael ei arllwys heb ei weled gan <Myn, sydd weledig i Un, yr hwn bob amser agymmysga rhyw felusder gyda y moddion chwerwaf. Felly y bu yma. Yr oedd gan yr hen wraig gath o'r enw Pearl. Pan oedd dyoddefiadau Joan fach wedi cyrhaedd y man ucliaf, hi a ddygwyddodd edrych ar y gath, yr hon oedd yn gor- wedd ar yr aelwyd mor newynog a bithau. Pearl dlawd yr wyt ti mor newynog a minnau,' meddai wrth y gatb. Os na allaf wneyd fy hun yn gysurus, gallaf wneyd rhywbeth i dy gysuro di.' Ar hyn, cymmerodd y gath i'w harffed, gan dynu ei Haw i lawr dros ei chefn ac hyd ei chynffon ond bob vn awr ac yn y man yr oedd deigryn yn syrthio ar gefn Pearl. "Mae un yn blino ar bob peth gydag amser, hyd y nod ar wylo; a, phan ddangosodd Pearl yn y man ei bod yn myned i gysgu, darfu i Joan fach roddi fyny wylo, rhag pfn dihuno Pussy. Hi eisteddodd ilawr mewn myfyrdod flystaw, gan edrych i fyny i nen y ty, ac adeiladu castelli "yn yr awyr. Yr oedd yr haul arfyned ilawr, ac yr oedd ei belydrau yn talfu goleu euraidd ar y coedydd gwyrdd ar yr heol. O'r man lie yr eisteddai Joan, gallai weled perbydau y gwyr mawr yn myned tua'r Park, a'r bonedd- Jgion a'r boneddigesau yn cerdded yn ol ac yn mlaen, er jqiwynhau yr awel hafaidd. Buasai yn dda ganddi fyned yn nes i'r ffenestr, ond ofnai symud rhag dihuno Pearl. D'r diwedd, dihunodd Pussy yna cododd Joan fach, a thaflodd y ffene-str yn agored, ac mor ddymunol yr oedd pob peth yn-arogii-oerodd ei gruddiau deigrog. Yr oedd adar y to hefyd yn rhyw ddawnsio ar y brigau, a chlywai y fronfraith ytl canu yn y fan draw. Teimlad olawenydd a adtywiodd yn eichalon-teimlada brofir yn ami gan blant, a'r hwn a erys am flynyddau lawer. Yr oedd yn ymddangos fel pe byddai angel da wedi dyfod i mewn trwy y ffenestr. Yr oedd yn gwasgu Pearl at ei mynwes, pwysodd ar y ffenestr, a gwrandawodd ar yr adar yn canu nes iddi fyned i hwyl, a dechreu canu ei hua. Yr oedd ei llais clir a phlentynaidd yn seinio yn hyfryd, ac yn cydgordio a llais yr adar, a meddyliai Joan fach ei bod yn deall eu llais. Ar y foment, daeth boneddiges o radd uchel lieibio i'r eJusendý, ac arosodd i wrandaw ar y plentyn ieuanc, yr hon oedd yn rby brysur efo'i chanu bach i sylwi fod neb gerllaw. Yr oedd y foneddiges yn synu wrth swyn llais y ferch fechan, gwyneb yr hon oedd yn bvwiocau, fel eiddo angel, pan yn canu. Yr oedd y foneddiges fel pe wedi gwreiddio yn y fan. Teimlodd y foneddigesddyddordeb ynJoan fach gwnaeth ymhol- iadau o berthynas iddi, ac wedi deall ei sefyllfa anfonodd hi i'r ysgol; ac mewn amser, llwyddodd iddi gael ei der- byn i un o'r prif sefydliadau vn y deyrnas. "Yr oedd blynyddau wedi myned heibio er yr adeg hono, a gwnaeth Joan ei hymddangosiad cyntaf o flaen y cyhoedd yn yr 'Huntsman's Bride,' ac yn fuan wedi hyn cafodd ei derbyn a'i hanner addoli gan holl Ewrop o dan yr enw JENNY LiND '• Well done, Joan fach, yn wir I," meddai pen y teulu. Dyna stori fach ffamws, ferch, ar ie." Yr own I yn meddwl y bysech chi yn lico hona, nhad-mae rhywbeth rhyfedd i'w weled yna. Mae yn amlwg fod Uaw Duw yn gofalu am y feehandlawd," meddai merch Morgan Jones. Yr oedd pawb yn cyduno i ganmol Jenny Lind am gofio y tlodion wedi iddi hi ei hunanddyfod yn gyfoethog
BYR-GOFIANT AM MRS. KYLE,…
BYR-GOFIANT AM MRS. KYLE, CASTELL-NEDD. Hunodd ein hen chwaer Mrs. Kyle, yn Nghrist, boreu y Sabbotb, Mai 3. Bedyddiwyd hi er ys yn agos i hanner,can mlynedd yn ol, yn nhrsf Castellnedd, a derbyniwyd hi yn aelod o'r eglwys sydd yn addoli yn awr yn Bethania. Yr oedd hi yn adnabyddos i ugeiniau, i'e, i gannoedd o weinidngion Cyroru,—yn un peth o herwydd ei chyssylltiad perthynasol, fel mam.yn.nghyfraith, i'r Parch. Titus Jones, Caersalem Newydd ond yn fwy neillduol felly, i'r hen weinidogion, rhan fwyaf o ba rai ydynt, fel hithau, wedi ymadaw, trwy ei Hetty, garwch a'i hymgeledd iddynt, pan fyddent yn dyfod i'r lie, pryd yr oedd yr achos i raddau yn ieuanc a gwan. Fel ag y mae yn wybodus i lawer, yr oedd yn arferiad gan yr hen wein. 0 idogion, oddeutb deugain a thriugain mlynedd yn ol, a chyn hyny, mae'n wir, i wneyd teithiau mynych a meithion i bre- gethu, cynghori, a chadarnhau yr Eglwysi. Ac yn enwedig, byddent yn ymweled ag eglwysi newyddioa a gweiniaid ond nid i'w gwneuthur yn wanach y byd lent, ond eu cryfhau a'u calonogi, fel Barnabas yn Antioehia. Yr oedd yr hen weinidog- ionyn genhadon trwy froydd a bryniau ein gwlad a byddai, fynychaf, yn mhob ardal lie y byddai achos y Gwaredwr yn dechreu, ryw rai, neu ryw un, ag a fyddai yn agor ei ddrws i weinidogion Crist i gael ymborth a Hetty, a'r cyfryw un yn meddu gallu ac ewyllys. Yn Nghastellnedd, Mrs. Kyle oedd un o'r fath hyny. A phan ymwelai Maurice Jones, Merthyr, Timothy Thomas, Aberduar &c., &c., a'r ardal hon, byddent yn hollol artrefol yn ei thy hi. Yn yr ystyr hyn, Mr. Dd. Thomas, tad Mr. J. Thomas, Glyn-nedd, a hithau, oeddyntbrif golofnau yr achos yn Nghastell-nedd. Yr oedd ein chwaer yn y 9, un o'r rhai mwyaf manwl am burdeb egwyddor, a bywyd diar- gyhoedd gyda chrefydd. Gweddiai lawer, a darllenai lawer, yn neillduol ar ei Beibl; fel ag yroedd yn dra athronyddol yn mhethau crefydd. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf selog hefyd dros yr egwyddorion a broffesai, a'r enwad y perthynai iddo. Mae yn wir nad oedd hi yn hoffi cadw culni at ddynion da perthynol i enwadau ereill, etto, nid oedd ganddi fawr o gydymdeimlad nachyd-brofiad a'r rhai hyny awrthodent blygu i ordinhad bendant ac eglur Crist, sef bedydd; acystyriainad oedd dim yn fwy eglur yn y Testament Newydd na bedydd y crediniol drwy drochiad, ac nadoeddafynai yr ordinhad a babanod o gwbl. Treuliodd ein chwaer ei blynyddau olaf, fel aelod, yn y Tabernacl, eglwys Seisnig, Castellnedd. 'Yregwydd- orion a broffesai oedd sail ei gobaith wrth farw, a hi a fu farw yn ffyddlon ar eu pwys. Pan ofynai ei mab-yn-nghyfraith, y Parch. T Jones, iddi, ychydig amser cyn ei hymadawiad, os oedd ganddi ryw ran o'r Ysgrythyr yn fwy neillduol na'u gilydd i bregethu mewn cyssylltiad a'i hangladd, &c., hi a ateb- odd yn union, gyda y bywiogrwydd mwyaf, Oes, ond nid 'Ti a bwy-swyd yn y cloriannau, ac a'th gaed yn brin, Ond, Mi a ymdrechais ymdrechdeg, mi a orphenais fy ngjrfa, mi a gedwais y ffydd. 0 hyn allan rhoddwyd coron gogoniant i mi," &c. Dydd lau canlynol i'w marwolaeth, hebryngwyd y gweddillion marwol i gladdle Eglwys Llanilltyd, ger Castell-nedd, hyd foreu y Gwisgo ag anfarwoldeb." Boreu dydd Sul, Mai 31, pregethodd y Parch. B. D. Thomas, bregeth angladdol iddi, yn dra effeithiol a chymhwysiado!ddiwrth ei thestun dewis- iedig uchod, yn y Tabernacl; ac am chwech yr hwyr yn Beth- ania, oddiwrth yr un geiriau, gan y Parch. B. Evans. Bydded i'r Arglwydd fod yn dirion a gofalus etto, fel ag y mae wedi bod, o'r ferch a'r mab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. Jones, sydd wedi eu gadael i alaru ar ei hol.
[No title]
DIANGFA HYNOD.—Dydd Sadwrn cyn y diweddaf, dy- gwyddodd amgylchiad hynod ar y rheilfFordd o York i Lundain. Wedi i'r gerbydres basio gorsaf Askern, tua saith milldir i'r GogVedd o Doncaster, drwy ysgydwad y cerbvdau, fe ddichon, agorodd un o'r drysau, yn erbyn yr hwn yroedd merch fechan, tua phum mlwydd oed, yn pwyso. Cwympodd y plentyn, yr hon a deithiai gyda'i mam, allan o'r eerbyd. Taflodd hyn y teithwyr ag oeddynt yn yr un cerbyd a'r fam i'r braw mwyaf, a chawsant gryn drafferth i rwystro y fenyw druenus rhag neidio allan o'r cerbyd. Pan gyrhaeddodd y gerbydres Don- caster, gwnawd yr amgylchiad yn hysbys i swyddogjon yr orsaf, y rhai, wedi anfon bryseb gyda'r pellebyr i rwystro pob cerbydres i basio gorsaf Askern, a anfonasan.t beiriant yn ol i chwilio am y plentyn. Cafwyd y ferch fechan yn eistedd yn dawel yn agos i'r lie y cwympodd; a'r hyn sydd yn hynod yw, nid oedd wedi derbyn dim niwed braidd.
-----------HYN A'R LLALL.…
HYN A'R LLALL. Llythyr at Ithel Huws. ANWVL GYFAILL,-Darllenais eich llythyr doniol a chyn- nwysfawr cyfeiriedtg ataif yn y SEREN gyda hwyl, pleser, a hyfrydwch mawr. Yr ydych wedi bod yn ffodus iawn yn new- isiad eich testun i ohebu arno, ac felly ni fydd achos i mi yn fwy na chwitbau (fel y nodasoch), ofni y eyhuddiad cyffredin a grwydro oddiwrth y testun," yr hyn sydd yn fantais mawr i fod yn boblogaidd fel gohebydd. Bydd hyn neu y llall yn sicr o gael ein sylw bob amser; mae yn anmhosibl i ni fyned y tu allan i'r terfyn nwn. Ond y gamp fwyaf wrth ysgrifenu yn gyhoeddus fel yma yw llwyddo i foddloni y darllenydd sydd yn meddu barn a chwaeth uchel. Hyderaf, gan fod digon o des- tuuau dyddorol, llesiol, ac adeiladol wrth law, allu ysgrifena rhywbeth a dal am y draul o'i ddarllen etto nid wyf wrth ddy- wedyd fel hyn yn credu mai rhywbeth a wna y tro i foddloni darllenwyr SEREN CYMHU na, na, credwyfeubodmortM* telligent a darllenwyr rhy w gyhoeddiad arall; maent yn ddoetb, yn alluog, ac yn feddylgar. A wado hyn aed a hi, A gwaded i'r haul godi." Fel y cyfryw, mae yn rhaid iddynt gael "bwyd cryf," net byddant yn sier o'i wrthod. Gan nad wyf yn bwriadu ysgrifenu epistol maith, ffolineb fyddai gwneyd rbagymadrodd uir. Nid yw y pen yn fwy na'f corff, nid yw y porth yn fwy na'r adeilad felly ni ddvlai ? ihagyrnadrodd fod yn fwy na'r ysgrif. Clywsom yr enwog Cynddelw pan yn pregethu yn dywedyd unwaith, Wei, yn bryd i ni bellaeh ddod at fy nhestun," ar ol rhagymadroddt ain dros ddwy awr; ond ni fydd i ni efelychu Cynddelw 19 hyn short and sweet fydd ein nod. Wel, gyfaill, mae yn llawen genyf weled cymmaint o ysbryd diwygiad wedi eichmeddiannu, yr hwn ysbryd sydd i'w ganfod yn fynych iawn yn yr oes bresenol. Ni fu yr un oes a chym- maint o ddiwygiad mewn celfyddyd, gwleidyddiaeth. a dull 0 grefydda, na'r oes hon, ac "etto y mae lie;" mae divvygiadatt mawr yn angenrheidiol etto cyn y bydd y ddaear yma yn bur. Er fod llawer carchar wedi ei agor, llawer caeth wedi ei rydd- hau, a llawer o wledydd wedi taflu eu drysau o led y pen t efengyl y bendigedig Dduw fyned i mewn iddynt, etto i gyd mae yr awrhon fyrdd o garcharau t'o. drysau yn gauedigr myrdd o gaethion yn gruddfan mewn cadwynau, a lluaws 0 wledydd yn ymdrecbu a'u holl egni i gadw "cyhoeddwr hedd yn y gwaed rhag dyfod i mewn i'w pyrth. Effeithiodd Gari- baldi ddiwygiad mawr yn hyn, ond mae He iddo effeithio di, wygiad etto ac mae gogoniant Duw, Ilwyddiaiit y gwiri Ionedd, anes dynioti yn gwaeddi yn uchel arno am ddyfod at ei waitb i yn fnan. Ond yr oeddech chwi yn crybwyll yn eich llythyrau yr ang- enrheidrwydd o gael diwygiad yn Eglwys Loegr a barnwyf yr un fath a chwi yn hoilol ar y pwnc hwn. Mae cyfansoddiad yr Eglwys yn dwyllodrus, yn groes i egwyddorion teyrnas Crist, a thrwy hyny mae yn gwisgo deIw ei mam, 'EglvvY* Rhufain. Nid yw Duw wedi bwriadu erioed i'w eglwys gf fod yn gyssylltiedig a'r wladwriaeth mae y sefydliad yn ddy fais asympwy gyfeltiornus, a 'does dim i'w ddysgwyl ond dryg- ioni o hono. Pa gyssylltiad sydd rhwng Cristionogaeth gwladwriaeth ? Dim; maentyn ddau beth hollol wahanol; nid oes mwy o gyssylltiad rhyngddynt nag sydd rhwng da » drwg, neu oleuni a thywyllwch. 'Does dim rheswm medd«'^ fod yr un Haw yn talu yr offeiriad ag sydd yn talu Calcraft, yr hangman. Mae got mod o orfodiaeth yn perthyn i'w gweith' rediadau; nid ydynt yn talu digon o sylw i Air Duw fel rbeoi crefydd. Ond credwyf na fydd i Dduw oddef hyn yn hir; byddyn sicr o ddangos ei anfoddlonrwydd i'r sefydliad mevvo rhyw ffordd neu gilydd. Goddefodd yr Americaniaid am oesa" 1 gaethiwo dyn, "argiwyddygreadigaeth;" ond y mae at.. wyddion yr amseran yn ein dysgu yn awrei (od ef yn pender- fynu rhyddhau yr holl gaethion amen,dywedaf finnau-buo y gwawrio'r boreu ae fe ddaw terfyn ar lygredigaeth EgW* Loegr yn amser da Duw. Yn awr, mae yn rhaid imi derfynu, gan fod yrawrlais vredi taro Unarddeg, a'r awdurdodau yn fy ngorchymyn i'r gwely' Hyn yn Fras a gwael, ar frys gwyllt," Oddiwrth eich didwyll gyfaill, CADWALADR JONICS-
EXCURSION FLYNYDDOL EGLWYS…
EXCURSION FLYNYDDOL EGLWYS HEOL ELDO^r LLUNDAIN. Cymmerodd yr Excursionhon Ie eleni ar y 26ain o'r JJ)iS diweddaf, ar yr Eastern Counties Railway, o Shoreditch St." tion i'r Crown Ornamental Gardens, Brouxbourne, Hertof Yr oedd y diwrnod hwn yn ddiwrnod ag y bu llawer o fedd*}r pryderu, a siarad am dano gan lawer o'n eyfeillion, mae'n ammheu. Pawb yn meddwl cael enjoyment gampus, osby^^8] i Lywiawdwr mawr yr elfenau weled yn dda adael diWn ffafriol i ni, er i ni gael" Trip o fwg y dre, a'i nwyfre cas 8"' hyfryd." Y rhiaint yn meddwl cael eu difyru wrth weled e? rhai bach yn ymbleseru ac yn cyflawnu eu gorchestion dini^! &c.; a hwythau y rhai bychain yn dysgwyl cael rhyw doreithiog o bleser yno; tra yr oedd yr young men a'r ifo0l ladies yn edrych arno gyda phryder dwys, yn gymmysgedig gobaith, wrth feddwl am gael cyfarfod a chyd-dreulio divvr^ yn nghwmni dyddan yr un yrymserchent ynddi neu ynddo»^' Nmnau, yr hen lanciau a'r hen ferched, yn dysgwyl cael gyfran o'r danteithion, hyd y nod pe na buasem ond ar ein hanffawd o fethu denu un i'n caru a chadw ein &c. Felly, yr oedd pawb o honom yn dysgwyl hunain mewn rhyw ddull neu gilydd. Cr M*»e y rhagymadrodd wedi myned yn faith, ond at y Qjtam'r dydd wedi gwawrio arnom o'r diwedd; a chanty' i gael myned yno, yr oeddwn i fyny erbyn tua 6 o'r SloC J0t edrych pa fath ddiwrnod oedd mewn addewid i ni, ac Ol ffafriol i ni yr edrychai natur—yr haul wedi dyfod -n ystafell fel cawr, ac ar yr adeg hyny yn ei iaith meg?8 addaw gwneyd ei'ran er ein cysur a'n dedwyddwch, a<5 mwynhau ein pleser am y dydd. O'i flaen yr oedd 7 j mylau wedi cilio, hyd nes oedd natur drwyddi draw yu ar ein dinas, fel yr oedd yn anmhosibl braidd i ni beidio -tb cyn bod yn barod i gychwyn. Oddeutu hanner awr we(" cefais genad i fyned, a ffwrdd a mi. Oddentu 9 °'r |b0re' cychwynasom^am StationLondonBridge, ac oddiyno ditch, lie v cyrhaeddasom yn ddigon prydlon, ac y cwrd ditch, 11e ycyrhaeddasoro yo ddigon p1'ydlon, aC )'cw pyøt, a thorf luosog o'n cydgenedl a golwg barchus dymunolaJV^g, a phawb yn barod i gychwyn. Erbyn yr amser app^y0 sef 10, wele bawb yn cychwyn tua'r gerbydres, ac fahAt0d'' chwarter awr yr oedd pawb yn ei le, a'r ceffyl tan yn 1» garlamu ffwrdd. Gan hyny, rhoddwyd arwyddlon peth yn all right, a dechreuwyd gollwng ei awenau y»
ADDOLDAI DIDDYLED.
Da genyf am y Uwyddiant sydd wedi bod arymdrech- ion y brawd Jenkins hyd yn hyn yn y Gogledd. Bydd ei ymweliad o fendith i'n heglwysi yn yr amser a ddaw. Y mae wedi profi y gallon weithio, ond i ni gredu hyny. Hyderaf y bydd ei lwyddiant etto fwy fwy. Cofiwn trwy Gymru am gyflawnu ein haddewidion. Yr ydym wedi addaw i drysorfa yr Arglwydd. Pan yr addawodd efe ei Fab i ni, ni annghofiodd. Pan addawodd yr Iesu y Dyddanydd arall i'w ganlynwyr, ni annghof- iodd gyflawnu. Mae rhwymau boneddigeiddrwydd a chrefydd yn galw arnom i gyflawnu ein haddewidion at ei achos bendigedig ef. Gan ddymuno pob llwydd i bob mudiad da, Yr eiddoch, &c., Llangollen, Mehefin, 1863. H. JONES.