Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Yn awr yn barod, pris 2s. 6c., YBEDYDD CRISTIONOGOL A "THAENELLIAD BABANOD." Gany Parch. J. JONES (Mathetes), Rhtimni. Archebion i'w hanfon at yr Awdwr, neu ynte at y-Cyhoeddwr, -W M. Evans, Seren Cymru Office, Carmarthen. Daofonir y llyfr i nnrhy w gyfeiriad ar dderbyniad ei werth mewn stamps. Rhoddir y seithted vn rhydd i bwy bynag a gasglo chwech o enwau, Y mae y Jlyfr hwn yn cymmeryd golwg fwy cyflawn ar y pwnc nag un arall sydd wedi ymddangos yn y Gymraeg. AT EIN GOHEBWYR, &c. EIN DERBYNIADAU.—J. Howells, Rhondda-Parcb. R. Jones- Carwr Cywirdeb—GwaHaiaw—Cynghor—Henry W. Harris- Gohebydd Gogledd Lloegr Ab Edmund -Parch. H. W. Ht)ghes, Ledbury-Elias Bowen-Cadwaladr Jones Parch. Hugh Jones-Hen Simon-Parch. T. Williams-Simoi James -Ned y Teiliwr-W. W.-T. E.-Morgan Jones. BRODOR o GLYN EBWY a'n hysbysa am wraig ag oedd yn aelod gyda y Methodistiaid, yr hon a roddodd enedigaeth i ddau o blant, ac i'r fam ac un o'r rhai bach farw, ac iddynt gael eu claddu yn yr un arch ond wedi yr angladd, darfu i'r Parch. D. Davies, y gweinidog, daenellu yr un bach arall tra ar farw yn y cawell; o leiaf, yr oedd yn rhy wan i' w godi o'r caw ell i dderbyn y dyferynau dwfr oddiwrth fysedd y Parch. Mr. Davies. Mae Brodor am i Mr. Davies i'w hysbysu beth yw cyflwr v ddan blentyn bach yn y byd arall-mae un heb ei daenellu, a'r Hall wedi el daenellu gan Mr. Davies, ond yn groes i'r Beibl, ae yn groes i gyffes ffydd y Methodistiaid, gan nad oedd gan y baban ffydd-ei fam grediniol wedi marw, a'i dad byw yn annghred- adyn. Yn awr, Mr. Brodor," gwell i chwi fyned i'r h-ad quarters ar unwaith, at y Pab, i geisio y wybodaeth hor.. Nid yw Mr. Davies ond rhyw retailer bach dinod onwyddau y Pab pan yn cyflawnu y fath orchwyl a'r hwn y cyfeiriwch ato. Y syndod yw, fod masnachydd fel Mr. Davies yn cael unrhyw fath o dderbyniad i'r fath nwyddau gan drigolion Cymry yn y bed- waredd ganrif ar bumtheg. ELIAS BOWEN.—Mae y ddadl rhwng Didymus a chwithau wedi myned yn hollol ddiflas. Mae eich llythyr presenol yn llawer rhy bersonol, ac yn llawer rhy bigog i m i'wgyheeddi. Yn enw synwyr cyffredin, paham na all dau Gymro siarad ychydig ar bwnc fel hwn heb gynnygyn union at iselhau eu gilydd. Buasai dau Sais yn ysgrifenu dwy gyfrol yr un heb gynnwys degwm y geiriau isel, gwael, ac ensyniadol a gawn yn y pwtyn dadl fach hon am Dywysog Cymru. Yr ydym ni a'n darllenwyr wedi cael digon o hyn. MORGAN LEWIS, British Columbia-Mae eich llythyr, dydd- iedig Mawrth 26ain, wedi dyfod i law. Mae yn achos o lawen- ydd i'ch cyfeillion yma eich bod yn iach. Drwg iawn genym glywed am y caledi dirfawr y mae llawer o'r Cymry wedi ei ddyoddef yn herwydd caledi yr amseroedd. Hoff genym gtywed am y Gymdeithas Gymreig. Llwyddiant mawr iddi. Bydd yn dda genych ddeall fod eich holl berthynasau yma yn iach. Mae yr achos goreu yn myned yn mlaen-capel newydd a hardd yn yr Ynyslwyd, cynnulleidfa dda yn dyfod iddo, a'r ysgol yn blodeuo. Da 'machgen I, nac annghofiwch eich crefydd, gan nad sut y daw arnoch. Cofiwch ni yn garedig at Mr. David Grier a Chuhelyn. IDWAL.—Mae eich llythyr chwi yn ymosodiad ar berson a chym- meriad yr ysgrifenydd, yn lie trin y pwnc mewn dadl. Rhaid i chwi newid eich dullwedd yn gwbl cyn y rhoddwn dudalenau y SBREN at eich gwasanaeth. Nid ydym yn gofalu dim am eich bygythion. Yr ydym yn llawer rhy hen i gael ein dychrynu genych. YMOFYNYDD.—Mae eich gofyniadau i weinidog ——— yn ensyn- iadol, ac o duedd ddrwg iawn. Yr ydym hyd ag y gallwn yn gwrthod dolurio meddyliau dynion da fel hyn. Felly, nis gallwn gyhoeddi yr eiddo chwi. MARIA LEWIS.—Nid ydym yn earn rhoddi atebiad i chwi heb weled yr ewyllys. Gallem trwy hyn eich camarwain, yr hyn ni charem wneyd. GWEDDW.—Gallwch yn awr gymmeryd eich taith i fyned i Lys Llandaf, neu fyned at gyfreithiwr yn eich ardal, er cael yr ewyllys. wedi ei phrofi oud y ffordd rataf yw, i chwi fyned ar unwaith i Llandaf. Rhaid myned a'r sectwyr gyda chwi, gan na ellwch brofi yr ewyllys yn eu habsenoldeb hwy. AT EIN GOHEBWYR AWENYDDOL. IFANFRYN.-Unwaith etto yr ydym yn hysbysu nad oes a fynom a'r Dychymmygion yn y SEREN. Nid yn fynych y gwelsom rigymau mor druenus a'r pethau yr ydych chwi yn ewyllysio eu galw yn Englynioc." HYWEL MEURIG.-Rhy faith i SEREN CYMRU, a rhy annghoeth- edig i SEREN GOMER. Dychwetwn y Bryddest ond i chwi anfon dwy geiniog bapyr i ni. ANNE LLOYD.—Caiff eich pennillion ymddangos yn eu tro. CEILIOG Y RHED YN.-G welwch ein nodiad i Ifan fryn o berthynas i'r Dychymmygion. D. DAVIES, Trecynon.-Nid ydych i fyny a safon y SEREN. D. T. RISIARD.—Yn eich tro. P. MORGAN.-CaitI eich llinellau ymddangos. Ymarechwch sillebu yn fwy cywir y tro nesaf. TALOGWYN.—Llawer o fyfyrio yn angenrbeidiol cyn y daw eich cyfansoddiadau yn addas i'w cyhoeddi. J. J., Cwmtwrch.—Nid ydym yn gallu dyfalu beth yr ymgeis- iwch ato yn yr ail bennill. Diwygiwch eich cyfansoddiad, ac wedi hyny anfonwch ef i ni. S.-CaifF eich pennillion ymjldangaa-.rhywbryd, ond y mae yr Englyn yn rhy wael, yn wir. W., Miner.—Diolch i chwi am eich canmoliaeth a'ch dymuniad da i ni, ond nis gallwn 6 gydwybod gyhoeddi eich pennillion. Ymdrechwch ysgrifenu yn fwy rheolaidd a chywir. TELYNOG.—Yn y Swyddfa. Ouid ydyw y ddwy linell gyntaf yn annghyfunhyd ? BARDD TRWSTAN.- Yn eich tro. UN YN DECHREU.—Y mae eich cyfansoddiad cynddrwg fel y mae yn anmhosibl ei "gyweirio," ac yr ydym yn synu atoch yn cynnvg cyhoeddi y tri englyn cyntaf" a gyfansoddasoch erioed," a chwithau heb fod erioed yn astudio rheolan barddoniaeth." IORWERTH SARDIS.-Y mae yr ail, y trydydd, a'r olaf o'ch Englynion yn afreolaidd. A pha beth a olygwch wrth— Codir trwch llwch y llechau Yn llafnau Mr i'w llyfnhau V JOHN PRICE.—Nis gwyddom pa foddy gall "Our truly friend and brother in the faith ddysgwyl i'r fath rigwm gael lie yn y SERBN. THOMAS MORGAN.—Yn y Swyddfa. 1W. Danfoner pob hanesion Crefyddol a Chymdeithasol, archeb- ion a thaliadau, at y Cyhoeddwr,— Mr. W. M. Evans, Seren Cymru Office, Carmarthen. fr Y Traethbdau, Gohebiaethan, Gofyniadau, a llyfrau i'w hadolygu, &c., at Rev. Thomas Price, Aberdare. tggr Y Farddoniaeth,-Rev. J. Rhys Morgan (Lleurwg), Llan- glly, Carmarthenshire. "SEREN CYMRU" WYTHNOSOL. PRIS SEREN CYMRU i dderbynwyr a dalant am dani wrth ei derbyn, neu a dalant cyn pen wvthnos ar ol i'r chwarter ddyfod yn ddyledus, yw Is. 1c. y chvvarter neu Is. 3e. os na wneir hyny. AT DDERBYNWYR SEREN CYMRU." Dymun wn hysbysuein darllenwyr y bydd eh warter Seren Cymru i fyny gyda Rhifvn 184. Deuddeg Rhifyn fydd yn y chwarter hwn etto, gan i ni golli pythef/Jos ar ddechreu y fl wyddrn. Byddwn ddiolchgar i'n Dosparthwyr am wneyd hyn yn hysbys i'r Der- bynwyr, fel y byddont barod i ateb ein gofynion ddiwedd y mis hwn. Ymdreched ein holl dderbynwvr fod yn brydlawn a rheol- aidd yn eu taliadau, gan fod hyn yn rhwyddhau y ffordd i ni i'w gwasanaethu. Nid ydym yn addaw anfon y SEREN i neb rhag- llaw nad ydynt yn cydsynio â'n hammodau. Bwriedir helaethu SEREN CYMRU ar ddechreu y chwarter nesaf, yn nghyd a dwyn i mewn welliannau ereill. Gan y gesyd hyu ragor o gost arnom, hyderwn y gwna ein gweinidogion a'n dos- parthwyr ymdrech ychvvauegol i belaethucylchrediad y SEREN, fel y galluoger ni i ddvvyn allan Newyddiadur wythnosol gwir deilwng o enwad y Bedyddwyr yn Nghymru.
AIR.. SOMES A'R TAFARNDAI.
AIR.. SOMES A'R TAFARNDAI. MAE sylw cyfFredinol y wlad wedi cael ei dalu i Fesur Mr. Somes, er cael gan y Senedd i gau y tafarndai ar ddydd yr Arglwydd. Er fod Mr. Somes a'i gyfeillion wedi methu yn eu hamcan am eleni, nid oes achos i ewyllyswyr da y mudiad i ddigaloni. Mae y llwydd- iant ag y maent wedi ei gyrhaedd yn llawn ddigon i'w cyfiawnhau i beidio llaesu dwylaw yn y mater, ond yn hytrach i gymmeryd cysur, ac ymwroli erbyn y dyfodol. Dylem gofio mai dyma y cynnyg cyffredinol cyntaf i gyrhaedd yr amcan pwysig hwn. Ymdrechwn yn awr mewn byr eiriau i adolygu y mudiad hwn am y xnisoedd diweddaf. Yn gynnar yn yr eisteddiad pre- senol, cafodd Mr. Somes ganiatad i ddwyn i'r Ty fesur gyda y bwriad i gau holl dafarndai y deyrnas ar y Sabboth drwy gyfraith. Yr oeddem ni yn teimlo wrth ddarllen y mesur nad oedd yn meddu y symlrwydd hyny a fuasem yn ei garu—yr oedd yn ymddangos yn un lied anhawdd i'w gario i weithrediad yn y dull o'i weithio allan er hyny, credem, pe buasai yn cael ei ail-ddarllen, y gallesid cyfarfod a'r diffygion yn y Pwyllgor wrth fyned a'r mesur trwy y Ty. Yr ydym wedi talu llawer o sylwi'r gwahanol farnau aamlygwyd am y cynnygiad trwy y wasg. Mae yn amlwg fod llawer o ddynion da-llawer o ddynion crefyddol-yn Lloegr, yn ammheu yr hawl a'r priodoldeb i'r Senedd i wneyd cyfraith ar y mater. Yr oedd eu gwrthwyneb- iadau yn sylfaenedig ar yr egwyddor na ddylai y Senedd trwy gyfraith i ymyryd a'r peth a elwir yn rhyddid y bobl. Ond yma nid ydym ni yn gweled nerth yn yr wrthddadl, am y rheswm fod y Senedd yn barod yn gorfodi y tafarndai i gael eu cadw yn nghau am ran o'r Sul. Mae yn gorfodi i beidio agor y drysau hyd un o'r gloch canol dydd, ac wedi hyny am ran o'r prydnawn ac yn mhellach, yn eu rhwymo i gau awr yn gynnarach nos Sul na nosweithiau ereill. Felly, mae y Senedd yn awr yn arfer ei hawl, pa un ai iawn neu beidio yw hyny. Mae ereill yn erbyn cynnyg Mr. Somes oddiar yr un teimlad a bechgyn Ephesus gynt-maent yn gweled yr "elw" yn myned; yna symudant nef a daear i gadw i fyny y fasnach ar y Sabboth, gan waeddu, Mawr yw Diana yr Ephesiaid. Maent yn proffesu mawr gariad at, a mawr ofal am y dosparth gweithgar. Maent am iddynt gael y fraint o feddwi a drygu eu hunain a'uteuluoedd ar y Sul i fwy o raddau nag y maent yn eu wneyd am y chwech di- wrnod arall. Mor bell ag yr ydym ni wedi cael He i farnu teimlad y dosparth gweithgar, mae mwyafrif mawr yn ffafriol i gau y tafarndai ar y Sul; tra mae llawer o honynt yn ddifater ar y pwnc, nid oes ond nifer fechan iawn iawn wedi datgan eu barn yn erbyn mesur Mr. Somes. Ac yn wir, gwyddom fod cannoedd lawer o'r tafarnwyr yn hollol ffafriol i'r cynnygiad, a chredwn y byddai yn dda gan laweroedd o honynt pe byddai y cynnygiad diweddar yn dyfod yn gyfraith. Mae Llynlleifiad yn lie mawr a phwysig, ac yn fath le ag y gallasem ddysgwyl i fod yn bleidiol i bethau fel y maent; yna, mae o bwys i ni wybod teimlad a barn poblogaeth fel eiddo Llynlleifiad. Cymmerwyd mesur- au yno i wybod yn lied agos beth oedd teimlad y trig- olion. Rhoddwyd papyrau argraffedig yn mhob teulu, gyda dymuniad ar i ben y teulu i'w lanw, a rhoddi ei bleidlais mewn un o bedair Hordd :-1. Dros gau y tafarndai ar y Sul. 2. Yn erbyn cau y tafarndai ar y Sul. 3. Dros gau trwy y dydd ond "dwy awrneu yn 4. Dros beidio dadgan barn ar unrhyw ochr. Mewn canlyniad, cafwyd 50,235 o bapyrau wedi eu llenwi, a'r pleidleisiau fel y canlyn :— Dros gau yn hollol 44,149 Yn erbyn cau 3,330 Dros agor am ddwy awr 6,419 Heb ddadgan unrhyw farn 6,339 Mae ffaith bwysig wedi dyfod i'r golwg yn y dychwel- iadau hyn, sef fod yn mhlith y rhai hyn 30,000o grefft- wyr, a gweithwyr islaw crefftwyr, wedi pleidleisio dros gau yn hollol, tra nad oes ond 2,121 o'r dosparth hwn wedi pleidleisio yn erbyn cau yn hollol. Mae ffaith arall a ddymunem ei nodi, ddarfod i'r tafarnwyr yn Llynlleifiad bleidleisio ar y pwnc hefyd. Safent hwy fel hyn Tafarnwyr yn mecldu yr hen drwydded dros fau yn hollol, 432 yr un dosparth yn erbyn, 119. )yma fwyafrif mawr a chalonog. Ond am y tafarn- wyr heb yr hen drwydded, h.y., y beerhouses, yr oedd y mwyafrif fel arall. Fel hyn y safent: Dros gau yn hollol, 119; ac yn erbyn cau, 132. Yn awr, mae y ffigyrau hyn yn hynod o bwysig, ac mor addawol ag ydynt o bwysig. Credwn fod sefyUfa Llynlleifiad yn ddangoseg lied gywir o deimlad y wlad yn gyffredin. Felly, gan nad beth fydd teimlad y Senedd am rai blynyddau i ddod, credwn y bydd teimlad y wlad yn debyg iawn o'u gwasgu i wneyd yr hyn ag y maent wedi wrthod wneyd eleni. Paham y gofynir am gyfraith i rwystro y gweithiwr gonest i gael ei gwrw am fod yehydig o ffyliaid yn dewis camarfer eu rhyddid trwy feddwi ar y Sul? Wel, paham J codir carchardai ? a phaham y eyflogir y fath fyddin o heddgeidwaid ? Nid er mwyn y diwyd a'r gonest, ond er cadw tretn ar yr yehydig afreoleiddwyr anonest sydd yn y wlad. Gan nad beth all fod yn iawn mewn theory, ni garem yn ein calon weled y tafarndai yn cael- eu cau ar y Sabboth, a chredwn y byddai y daioni a" ddeilliai o hyn i'r tafarnwyr a'u teuluoedd, ac i'r dos- parth gweithgar, yn mhell tuhwnt i fod yn gydbwys a throseddiad theory ein hathronwyr gwleidyddol; a chyn' y bydd ganddynt hwy ddwylaw glan i ddadlu dros eu theory, rhaid iddynt daflu y tafarndai o led y pen trwy y dydd, ac nid trwy nerth cyfraith eu cau am ran o'r Sul, fel y gwnant yn awr. Fel yr awgrymasom yn barod, nid oes eisieu i gyf- eillion y mudiad ddigaloni Yr oedd y ddadl nos Fercher, Mehefin 3ydd, yn bwysig, ac ar y ewbl yn llwyddiannus, gan fod ddim Uai na 103 o gyfeillion yn pleidleisio drosto. Mae yn wir fod 278 yn ei erbyn. Beth am hyny, mae genym yn awr lawer o gyfreithiau da ar ddeddf-lyfr Prydain na chawsant hanner y gef- nogaeth hon ar y cychwyniad. Ni ddylem ddigaloni, ynte; ond ymwregyswn ein lwynau i fyned etto i'r maes pan ddelo yr adeg briodol i hyny.
EISTEDDFOD CAERFYRDDIN.
EISTEDDFOD CAERFYRDDIN. AR y 30ain o'r mis hwn, bydd ein cyfeillion yn Nghaer- fyrddin yn cynnal eu Heisteddfod. Mae yr Eistedd- fod hon mewn cyssylltiad a Chynnadledd Flynyddol y Gwir Iforiaid, yr hon a gynnelir yn yr Assembly Room ar y laf o Orphenaf. Mae Eisteddfodau yr Iforiaid wedi arfer bod yn boblogaidd, fel y gall llawer dystio a fu yn Aberaman, Llanelli, Treforis, Llandilo, ae Aber- dar, yn gystal a lleoedd ereill. Yr ydym yn hyderu na fydd yr Eisteddfod eleni yn ol i'r cynnulliadau ag sydd wedi eu mwynhau yn barod. Mae yr amcan sydd gan ein cyfeillion yn Nghaer- fyrddin mor dda, fel y mae ar unwaith yn hawlio sylw a chymmeradwyaeth y dyngarwr a'r Cristion. Mae yr elw oil i fyned at Glafdy Sir Gaerfyrddin. Byddai yn anhawdd i ni feddwl am achos mwy teilwng o gefnog- aeth na hwn. Mae y boneddigion sydd ar y pwyllgor yn meddu ymddiried llawn pawb a'u hadwaenant, tra y gallwn ddysgwyl i'r Llew, fel arfer, roddi perffaith foddlonrwydd i'w edmygwyr. Bydd y Parch. Latimer M. Jones, Caerfyrddin, a'r Parch. Thomas Price, Aberdar, yno hefyd yn anerch y bobl. Yr ydym yn teimlo mai afreidiol hollol yw i ni wasgu i sylw ein darllenwyr y pwys o gefnogi mudiad mor dda, gan fod eu hadgofio o'r amser yn ddigon. Yr ydym ni o'n calon yn dymuno i'n cyfeillion Eisteddfod wrth eu bodd—• un a fydd yn llwyddiannus yn mhob ystyr o'r gair.
Family Notices
GENEDIGAETH. Mai 31, priod y Parch. D. M. Evans, gweinidog y Bedyddwyr yn Greenfield, Llanelli, ar fab. PRIODAS. Mai 31, yn y Cap-I Newydd, gan y Parch. T. Evans, y gwein- idog, Mr. William Brown, a Mrs. Margaret Evans, y ddau o Lanidloes. MARWOLAETHAU. Ebrill 5, yn 5 mlwydd ac II mis oed, yn Esgairyrhew, Josiah, mab y Parch- D. Davies, Dolau, Maesyfed. Mai 14, Myfanwy, merch Mr. Henry Rowlands (Harri MyIlin), Llanrhaiadrmochnant. Nfehefin 2, yn 79 mlwydd oed, wedi wythnos o gystudd trwm, Mr. Lewis Evans, Aberllechau. Yr oedd yn hen frawd parchus, ac yn un o'r Bedyddwyr henaf yn Cwmrhondda, Ystrad-dyfodwg. Gallwn ddweyd yn hyderus fod marw yn elw i'r hen frawd.
[No title]
DAMWAIN TRWY GWYMPIAD CAREG.—Ni <vyr dya pa foment y bydd farw. Nid oes un amgylchiad yn fwy sicr o gyfarfod dyn na marw, etto nid oes dim yn fwy ansier nair tymhor neu y dull y cymmer hyny le. Aeth ybrawd anwyl, Thomas Thomas, yr hwn oedd yn byw yn Mhenydarren, at ei waith boreu dydd Llun, y 25ain o Fai, fel arfer, ond cludwyd ef tua thri yn y prydnawn yn gorff marwol. Bu farw yn y gwaith, trwy i garreg oddeutu pedwar cant o bwysau gwympo arno a chan nad oedd neb yn bresenol ond yn unig ei fab henaf', John Thomas, yr hwn ar ol ymdrech galed a fethodd godi y gareg, gorfu i'n hanwyl frawd anadlu ei anadl olaf o dan y gareg. Y dydd Iau canlynol, hebryngwyd ei weddillioa marwol i fynwent Capel Seion, Merthyr. Yr oedd ei angladd yn un o'r rhai lluosocaf a welsom erioed. Cyn cychwyn yr orymdaith, darllenodd a gweddiodd y Parch. C. Griffiths, Seion. Yn yr addotdy aeth y Parch. W. Lewis, Moriah, trwy yr un gwasanaeth. Anerchwyd y dyrfa gan Y Parch. T. Owen, Elim, yr hwn hefyd a draddododd y bregeth angladdol y nos Sabboth canlynol gyda nerth a dylanwad mawr. Yn marwolaeth ein hanwyl frawd collwyd diacon tfydd- Ion yn eglwys Elim, Cristion cywir a brwdfrydig yn ei gariad at Dduw ac at ei bobl, gwr sercbog a ffyddlon, a thad cynnil a gofalus. Llywodraethai ei d" ei hun yn dda. Ei ddyfodiad gartref fyddai bob amser gyda gwen ar ei enau. Cynghorai ac annogai ei blant i'r hyn fyddai dda dysgai hwynt yn ddiwyd mewn pethau crefyddol, ac y mae ei weddiau a'i esiamplau perarogl yn eu plith, ac a fyddant felly tra cof em danynt. Dilyned ei blant ei lwybrau, gan ddewis Duw eu tad yn Ddavr iddynt hwytbau. Yr oedd Thomas Thomas fel dyn yn nodedig am ei ddiniweidrwydd-y real stamp o hono, ac nid y tfug. Yr oedd sel natur yn argraffedig arno. Yr oedd eiddo y golo- men wedi ei hidlo i'w dymher mor ofalus, na chafodd neb a1"' goel fod gronyn o ddichell y sarff yn nglyn ag ef. Ynhyn ddiamheu, yr oedd yn cream of human nature." y Arglwydd i'w symudiad fod yn fendith i'w deulu, yr eg w. r a'r gymmydogaeth, a llanwed y byd a'i gyffelyb.—■CYFAXLJ"