Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Y MODDION CYHOEDDUS.
Y MODDION CYHOEDDUS. Cychwynwyd am 3 o'r gloch tua'r man lie yr oedd y moddion cyhoeddus i gael eu cynnal; yr oedd yma stage helaeth a chadarn wedi ei chodi i'r pregethwyr, ac hefyd i'r cantorion. Dechreuwyd y gwasanaeth gan Mr. Jones, My- fyriwr, a pbregetbodd y Peirch. J. Morgan, St. Brides; R. Lloyd, Casbach, a D. R. Jones, Abercarn. Cafwyd yn y cwrdd hwn rhyw lewyrch anarferol, ac a berodd i gannoedd obeithio a gweddio yn daer am i'r gogoniant aros hyd ddiwedd y (iymmanfa. Yn yr hwyr, gwasgarwyd y gweinidogion i addoldai y dref a'r gymmydogaeth. Yn Tabor, cawsom y plesar o wrando ar yr hen Frawd Parchus B. Williams, Darren Felen, yn ymwneyd a Duw mewn gweddi, gyda rhyw nerthag oedd yn toddi y gynnulleidfa fawr ac yna pregethodd y Peirch. J. G. Davies, Beulah E. Roberts, Bethel; a J. Jones, Rhumni. Du yn gwasanaetliu yn y capeli ereill y Parchedigion Griffiths, Risca; Williams, Ponthir; Evans, Deml; Hughes, Pisgah; Hughes, Blaenafon; Roberts, Blaenau; Jones, Victoria, &c. Dydd Mercher, am 7 o'r gloch y boreu, ymgynnullodd tyrfa fawr allan, pryd y dechreuodd y Parch. F. Evans, Llangynidr; a phregethodd y Parchedigion Reeves, Risca Jones, Docks, Caerdydd a'r Tlybarch T. Jenkins, Bristol. Am 10, ymgynnullodd tyrfa fawr etto. Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. S. Williams, Nantyglo a phregeth- odd y Peirch. E. Williams. Aberystwyth J. Williams, New- port, yn Saesneg ac E. Thomas, o'r un lie. Am 2, dechreuwyd gan y Parch. D. Lewis, Witton Park, a phregethodd y Peirch T. Thomas, Maesaleg; Dl. Morgan, Horeb, yn Saesneg, ac E. Evans, Dowlais. Yr oeed y dyrfa yn fawr anarferol yn y boreu a'r prydnawn. Am 6, darllenodd a gweddiodd y Parch. T. Bevan a phre- gethodd y Peirch. T. E. James, Glyn Nedd, (aelo,l gwreiddiol o eglwys Tabor); W. R. Richards, Machen a'r hen wron O. Michael, Penybont. Yr oedd y cwrdd hwn etto YII anarferol u boblogaidd a hwylus. Wedi i'r brawd anwyl Phillips, y gweinidog, roi anerchiad byr, a thalu diolnhgarwch i breswylwyr y He, am eu serchog- rwydd mawr, rhoddwyd yr hen bennill anwyl hwnw i'w ganu, 0 fryniau Caersalem ceir gweled," &c. Ac, yn wir, fe gafwyd rhyw hwyl annhraetbol; y dyrfa fawr fel pe buasent wedi euhoelio wrthy lie gan nerthy weinidogaeth; er fod mantellau y tywyllwch yn dechreuymdaenu, etto yr oedd. ent yn parhau i ddyblu'r gan yr oedd yno lawer ar y stage ag oedd yn cofio cymmanfaoedd er ys deugain mlynedd, yn tystio na welsont erioed Gymmunfa yn terfynu yn fwy hwylus a ben- digedig. Hir gofir am serchogrwydd a charedigrwydd pres. wýlwyr y Brynmawr a'rcylchoedd, acam ddaioniyr ArgUwydd tuag atom trwy yr holl Gymmanfa. Bydded ei hot ar filoedd er lachawdwriaeth dragwyddol. TIMOTHY THOMAS, Ysg.
CYMMANFA DYFFD.
CYMMANFA DYFFD. Cynnaliwyd y Gymmanfa hon eleni yn Mlaenyffos, ar y Mawrth a'r Mercher, Mehefin yr ail a'r 3ydd. Wedi cael cynnadledd frawdol yn y boreu, dechreuwyd y gwasanaeth cyhoeddus am ddau o'r gloch, pryd y pregethodd y Parchedig- ion B. Thomas, Castellnewydd Emlyn; T. Williams, Llan- gloffan; a D. B. Edwards, Aberhonddu. Am 6, y Parchedig- ion 0. Griffiths, Blaenconin; W. Owen, Felinganol; a J. Rowe, Abergwaen. Pregethwyd yr un amser yn yr holl gapeli cylchynol, pertbynol i bob enwad. Am 7, boreu dranoeth, pregethodd y Parchedigion D. Phil- lips, Groesgoch a T. E. James, Glyn-nedd. Am 10, y Parch- edigion Shem Evans, Arnsby T. Davies, D.D., Hwlffordd (yn Saesneg) a W. Morgan, D.D., Caergybi a therfynodd y Parch. T. E. James, Glyn-nedd, trwy weddi. Am ddau, y Parchedigion J. Jenkins, Trefdraeth H. Morgan, Dolgellau a R. A. Jones, Abertawy, a bregethasant. Am 6, pregethodd y Parchedigion Isaac Jones, Penrhyncoch G. H. Roberts, Tabor; a H. Price, Rhydwilym. Ar yr un pryd, yn Cilger- ran, pregethodd y Parchedigion Rowlands, Cainewydd James, Glyn-nedd a Jones, Abertawy. Yr oedd y Gymmanfa hon yn un bynod o dda, ac yn dra lluosog. Dangosodd yr Eglwys yn Mlaenyffos lawer o ddoeth. ineb a charedigrwydd mewn darparu, fel hefyd y gwnaeth yr ardalwyr caredig oil. Bydded iddi fod o les i lawer o eneidiau, yn gryfdwr i'r Eglwys, ac yn gystir mawr i'w gweinidog parchus, Mr, Price.— Gohebydd.
Y BEDYDDWYR YN NGHYMRU.
Y BEDYDDWYR YN NGHYMRU. Dyfynwn a ganlyn o bapyr a barotowyd yn ddiweddar gan y Parch. T. Thomas, D.D., Pontypwl, ar gais Undeb y Bedydd- wyr yn Llundain:- Yn 1790, nid oedd ohd 46 o eglwysi y Bedyddwyr yn Nghymru oil. Yroeddent yn gyfansoddedig o dair Cym- manfa. Poblogacth Cymru, gyda Sir Fynwy, ar ol y cyfiif diweddaf, oedd 1,286,495. O'r nifer hwn, cynnwysai yr enwadau Ymneillduol yn agos i 300,000 b aetodou. Os nad yw y Bedyddwyr mor lluosog a'r Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd, maent wedi meddiannu safle uchel yn y tir. Mae ganddynt o leiaf 65,000 o aelodau, 75,155 o wrandawwyr, 67,651 o ysgolheigion yn eu Hysgolion Sabbothol, yn nghyd S 9,209 o athrawon mewn 607 o ysgolion, yn gwneyd cyfanrtf o uwchlaw 217,000 o eneidiau mewn cyssylltiad â'u corff. Mae ganddynt 545 o eglwysi, a 120 o gangen-eglwysi, neu 665 o gynnulleidfaeedd. Gwasanaethir y rhai hyn yn yr efengyl gan 357 o weinidogion, a 258 o bregeth wyr, neu 609 o weinidog. ion. Maent yn ymgynnull yn nghyd mewn 576 o gapeli, a 181 o orsafoedd, yn gwneuthur 757 o leoedd addoliad. Cyf- rifir fod gwerth eu heiddo yn £ 340,000, ond beichir ef a dyled o 186,000. Nid ydyw hyn yn cynnwys yr eglwysi Cymreig yn Lloegr. Maey rhai hyn yn dair ar ddeg, gyda naw o gynnulleidfaoedd cangenol, pedwar &r ddeg o weinidogion, a phedwar ar ddeg o bregethwyr cynnortbwyol, 1,400 o aelodau, a 1>700 6 wrandawwyr. Mae ganddynt dri choleg. Yr henaf ydyw yr un yn Bontypool, yn Sir Fynwy, a sylfaenwydyn Abergavenny yn 1807. Mae wedi anfon allan 246 o weinidog- ion, ae y mae ynddo yn awr 33 o astudwyr. Sefydlwyd yr ail yn Hwlffordd yn 1839; addysgodd 102 o weinidogion, ac y mae ynddo yn awr 29 o astudwyr. Agorwyd y trydydd yn Llangollen, ac y mae ynddo naw o astudwyr. Cyfaririf yr« astudwyr sydd yn bresenol yn Ngholegau y Bedyddwyr yn Ngbymruydyw 71; tra y mae oddeutu 40 o ymgeiswyr am dderbyniad. Y mae gan y tri choleg chwech o athrawon, ac nid ydyw yr holl draul dros £2,200 yn y flwyddyn. O'r 530 gweinidogion a anfonwyd allan o'r sefydliadau hyn, y mae y rhan fwyaf yn, neu wedi bod, yn weinidogion eglwysi yn Nghymru ond y mae cryn nifer yn llafurio yn Lloegr, rhai fel cenaddnyn India, a llawer yn weinidogion ar eglwysi1 Cym- reiga Seisnig yn America. Y mae yn Nghymru ei hun oddeutu 130 o eglwysi heb weinidogion.
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Mawrth, Meh. 2. Eisteddodd y T9 am chwarter awr. Darllenwyd ysgrif Arian y Banciau Cynnilo y drydedd waith, a phasiwyd hi. Dydd [au, Meh. 4. Eisteddodd eu harglwyddiaethau am ugain mynyd. Nid oedd un peth o bwys o flaen y ty. Dydd Gwener, Meh. 5. Pasiwyd amryw fesnrau perthynol i reillFyrdd, Darllenwyd ysgrif Brech y Fuwch (Iwerddon), ac ysgrif y Pobdai, yr ail waith.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd Mawrth, Meh. 2. Cymmerodd Mr. Goschen ei eisteddle, fel aelod newydd dros ddinas Llundain. Gofynai Mr. Hopwood pa bryd y dygid yn mlaen achos yr Alexandria. Dywedai y Cyfreithiwr Cyffredinol fod ganddo bob achos i gredu y dygid yr achos yn mlaen pythefnos i ddydd Llun nesaf. Cynnygiai Mr. Whalley fod y Ty yn ymffurfio yn bwyllgor, er ystyried deddf gwaddoliad Coleg Maynooth, gyda'r amcan o'i diddymu. Eiliwyd y cynnyg gan Mr. Somes, a gwrthwyn- ebwyd ef gan Mr. Black. Amddiffynai Syr R. Peel y ddeddf drwy yr hon y gwaddolid y Coleg, gan nodi y dylid ystyried amgylchiadau y wlad, a'r m wyrif mawr o Babyddion a drigent ynddi mewn cymbariaeth i'r Protestaniaid; a byddai yn annghyfiawn i aelodau Eglwys Loegr gau allan eu cyd-ddeiliaid Pabyddol rhag mwynhau man- teision yr addysgiaeth a dderbynient yn Ngholeg Maynooth. Wedi i Mr. Newdegate lefaru dros y cynnyg, ac i Mr. Whalley ateb, rhanodd y Ty, pan y collwyd y mesur gan 198 yn erbyn 100. Dygodd Mr. Fenwick achos y pysgodfevdd gerbron, a chyn- nygiodd fod pwyllgor breninol i gael ei henodi, er chwilio i mewn y bysgodfeydd y môr, gyda'r amean o gynnyddu y cyf- lenwad o bysgod, er mantais i'r cyhoedd. Eiliodd Mr. Cave y cynnyg. Gwithwynebai Mr. Milner Gibson y cynnyg, ar y tir fod cyflafareddiad yn cael ei ddwyn yn mlaen yn bresenol ar y mater rhwng Ffrainc a Lloegr. Ar raniad, cariwyd y cynnyg gan 50 yn erbyn 27. Dydd Mercher, Meh. 3. Ysgrif y Tafarndai.-Cynnygiai Mr. Somes ail-ddarlleniad yr ysgrif hon. Dechreuodd drwy ddweyd nad oedd ef yn chwennych ymyraeth a rhyddid y gweitbwyr i fwynhau eu hunain. Nid oedd yn angenrheidiol, ebe fe, er cyrhaedd yr amcan hwn, i'r tafarndai fod yn agored am wyth awr ar y Sabboth Ymddangosai fod nifer y bobl a gymmerid i fyny am feddwdod yn Manchester rhwng deg o'r gloch nos Sadwrn a deg o'r gloch boreu dydd Llun, yn fwy na'r nifer a gym- merid i fyny drwy y gweddill o'r wythnos. Yna nododd opin- iynau Mr. Broughton, yr Ynad Coleridge, Iarll Shaftesbury, Dr. Chalmers, ac ereill, gyda golwg ar effeithiau niweidiol yfed i ormodedd ar gymmeriad y boblogaeth. Pan na chaniateid i fasnachu mewn petbnu ereill.ar y Sabboth, cmiateidi fasnachu mewn gwirodydd meddwol. Yr oedd teimlad y wlad yn gryf dros y mesur. Yr oedd 4,101 o ddeisebau, gyda llawnodiad 693,255 o bersonau, wedi eu derbyn yn ffafriol i'r mesur; pan nad oedd ond 180 o ddeisebau, gyda 148,577 0 lawnodiadau, wedi eu derbyn yn ei erbyn. Yna cyfeiriodd Mr. Somes at ysgrif gyffelyb oedd wedi bod mewn gweithrediad yn Ysgotland am naw mlynedd, ac yr oedd wedi gweithio yn dda. Yr oedd sefyllfa pethau yn nhalaeth Efrog Newydd, ac yn Tasmania, yr un fath, gyda chanlyniadau manteisiol. x Terfynodd yr aelod anrhydeddus ei araeth drwy gyfeirio at y bygythion oedd wedi dderbyn, a dywedai y gallai ef ddyoddef pethau felly yn rhwydd, pan mai ei amean oedd llesoli y dosparthiadau gweithiol. Eiliwyd y cynnyg gan Mr. Pease. Cynnygiai Cadben Jervis fel gwelliant, fod y mesur i gael ei ddarllen yn mhen tri mis. Dywedai ef nad oedd angen am y fath fesur. Yr oeddy T$i wneyd deddfau i'r holl wlad, ac nid i ychydig o feddwon. Eiliwyd y cynnyg gan Mr. Ker Seymer. Wedi i amryw aelodau siarad dros ac yn erbyn y mesur, rhanodd y T9, pan yr oedd Dros y gweUiant 278 Yn erbyn 103 Mwyrif dros y gwelliant.. 175 Dydd lau, Meh. 4. Codai Mr. Bagwell i gynnyg ei bod yn annoeth bellach i gadw Iwerddon allan rhag gweithredu gyda chyfundrefn y gwirfoddiaid, a'i bod yn annghyfiawn i drethi yr Iwerddon er cynnal gwirfoddiaid Seisnig. Eiliwyd y cynnyg gan y Milwr- iad French. Gwrthwynebai Major Stuart Knox y cynnyg, fel hefyd y gwnaeth Ardalydd Hartington. Dywedai Iarll Palaaerston nad oedd ef yn ammheu ffyddlon- deb y genedl Wyddelig, ac os ar un amser y byddai galwad am eu gwasanaeth, y byddent yn barod i wneyd hyny. Yr oedd y llywodraeth, fodd bynag, yn dra awyddus i'w cadw gyferbyn a rhyw achos yn y dyfodol. Yna ymffurfiodd y T^ yn bwyllgor ar fesur y Gwirfoddol- iaid, a threuliwyd y gweddill o'r dydd i ystyried ei wahanol benranau. Dydd .Gwener, Meh. 5. Dygodd Mr. Evans i fyny fynegiad pwyllgor etholiad Lis- burne, a barn y cyfryw bwyllgor oedd, nad oedd Mr. John D. Barbour wedi ei ethot yn aelod rheolaidd dros y fwrdeisdref hono, o berwydd y liwgr-wobrwyaeth a gariwyd yn mlaen. O heirwydd afiechyd Syr C. Wood, gohiriodd Mr. Laird ei gynnyg o berthynas i'r cyflenwad ogotwmo India. Mewn atebiad i Mr. Darby Griffiths, dywedai Iarll Palmer- ston i'r Ynysoedd Ionaidd gael eu creu yn daleithiau anni- bynol dan amddiffyniad Lloegr, drwy gytundeb, ac nid drwy weithred o eiddo y Senedd; ac unrhyw gyfnewidiad yn eu hamgylchiadau a ddygid yn mlaen yn yr un modd drwy gytun- deb, ond wrth gwrs gosodid y cytundeb gerbron y Senedd. Gobeithiai Mr. Seymour Fitzgerald y gosodid y gohebiaethaa ar v mater a'rgaHuoedd tramor ar y bwrdd. Nid oedd Iarll Palmerston yn tybied y gwrthwynebid uniad yr ynysoodd gan neb o'r galluoedd mawrion. Wedi i rai pethau fod dan sylw, dygwyd sylw y T9 at y goleuni gwefr-danol gan Argl. Lovaine, gyda golwg ar ei ddefnyddiad mewn goleudai ar y mor, &c. Siaradodd amryw ar y mater, ond ni ddaethpwyd i un penderfyniad. Wedi hyny, dygodd Mr. Fortescue gerbron achos Sergeant- Major Lilley, yr hwn a fu farw mewn carchardy yn Inhow, India; yn nghyd ag achosion Sergeant-Majors Duval a Wakefield, y thai a garcharwyd heb fod unrhyw gwyn wedi ei brofi yn eu herbyn. Gofynai ef a oedd y Milwriad Crawley, dan awdurdod yr hwn y cymmerodd hyn Ie, i gael ei ganiatau i gadw ei swydd yn y fyddin. Dywedai Ardalydd Hartington fod y Sergeants dan sylw wedi eu gosod yn ngharchar dan y cyhuddiad o gydfradwriaeth yn erbyn y Milwriad Crawley, hyd nes y profid hwy yn ol deddf filwrnl. Yr oedd y Milwriad Crawley wedi ymddwyn yn anmhriodol, a'r Cadfridog Farrell yn fwy felly, drwy aw- durdodi carchariad caeth. Pan ddygwyd yr achos i'w brofi i'r deyrnas hon, dywedai y barnwr ar yr achos fod y carchariad nid yn unig yn anmhriodol ond yn annghyfiawn. Dan yr amgyichiadau hyn, yr oedd y llywodraeth wedi penderfynu rhoddi ad-daliad i berthynasau Sergeant Lilley, drwy ganiatau iddynt y pension ag oedd ganddo hawl iddo. Gwnelid ymchwil- iad etto i achos y Milwriad Crawley. Yna ymffurfiodd y T9 yn bwyllgor cyfleuwadol, a phleidleis- iwyd amryw symiau at y gwasanaeth cyhoeddus.
Qtl1ffttdiuøl.
Qtl1ffttdiuøl. Ymddengys oddiwrth adroddiad chwarterol diweddaf yr Od- yddion mai holl nifer yr aelodau Odyddolydyw242,953. Cyu. nyddodd eu nifer y llynedd 24,276 o aelodau. Y mae cytundeb newydd gael ei wneyd a'i lawnodi rhwng y Porte a Llywodraeth ei Mawrhydi i agor pellebyr i India trwy Bagdad a Morgainc Persia. Y mae un o newyddiaduron America yn hysbysu nad oes dim ond un GwydJel yn y drefedigaeth Furmonawl. Y mae ganddo naw o wragedd a deugain o blant. Mae swyddogion y Goron, o'r diwe Id, wedi cyfansoddi cy- huddiad maith yn erbyn adeiladwyi- y gwnfad Alexandra. Nid ydyw y cyhuddiad yn cynnwys dim llai na84 o gwynion. Dys- gwylir y cymmer y prawf le yn mhen ychydig ddyddiau. Y mae peiriannwr, yn ddiweddar, wedi dyfeisio peiriant i rwygo hen garpiau cotwm o bob math, a gwneuthur y defnydd yn gymhwys i gael ei ail nyddu. Y mae y cotwm a geir fel hyn cystal a chotwm yr Aifft, a rhoddir pris da am dano ya marchnad Havre. FFOEDIGAETH Y NEGBOAID 0 MISSOURI.- Y mae y fath luoedd mawrion o Negroaid yn ffoi o'r rhanau gorllewinol 0 Dalaeth Missouri, fel nas gall caethwasiaeth fodoli yn hir yn y rhanau hyny. Nid yn unig y mae caethion siroedd y terfyn, ond caethion siroedd sydd yn gorwedd yn isel i !awr yr afon, yn ffoi yn lluoedd dros y terfyn, gangymmeryd pob peth sym- tnudol ymaith gyda hwynt, heb un rhwystr. Nos Wener, yr wythnos ddiweddaf, diangodd hanner cant ymaith gyda'u gilydd o sir Lafayette, gan gymmeryd cbwech o wageni, deu- naw ao geffylau, ac un cerbyd ymaith gyda hwynt. Dywed y Lexington Union na ddarfu dim llai na 300 ogaethion ddianc o Lafayette yn ystod y tair wythnos ddiweddaf. Aeth y caeth. ion hyn oil i Kansas. Hysbysa Journal of Commerce dinat Kansas fod gorymdaith o chwech o wageni, un cerhyd, pump ar geffylau, a deg ar draed, wedi pasio y lie hwnw yr wythnos ddiweddaf am K'insns. Cynnwysai pob wagen o ddeg i ddeu. ddeg o bersonau—y cwbl yn rhifo o bump a phedwar ugain i ddeg a phedwar ugain o gaethion wedi rhyddhau eu hunain. Yr oedd gan bob teulu gasgliad o ddodrefn t9, drylliau, pylor, dillad, &c., yn eu wageni, ac ymddangosai fod ganddynt oil gyflawnder o ymborth. Y mae y cyfryw ddygwyddiad yn cym- meryd lie bron bob dydd yn y rhan yma o'r dalaeth; a myn- ega y newyddiaduron fod ffoedigaeth gyffelyb yn cymmeryd lie mewn rhanau ereill.- Tribune. OFERGOELIAKTH YN AUSTRALIA.—Ymddangys fod sect yn Awstralia a alwant eu hunain "Israeliaid Cristioaogoi," ond a elwir gan ereill yn Wroeiaid." Bu farw eu "Pro- phwyd yn ddiweddar; 8C wrth gofnodi ei farwolaeth, dywed y Melbourne Weekly Review:—" Bydd yn beth newydd i'r rhan amlaf o'n darllenwyr, yn ddiau, i glywed fod yr hen ddyn a orphenodd ei yrfa fel hyn, yn cael edrych arno gan ei gan- lynwyr, hyd ei fynydau olaf, fel bod dan ysbrydoliaeth, a'i fod yn alluog i roddi bywyd tragwyddol i'r sawl a gredent ynddo. Etto y mae yn sicr nad oedd y dyn hwn yn ddim Uai nagynfyd- ddyn. Y mae yn gorwedd ger ein bron gyfrol o Fywyd a Gweithrediadau John Wroe, yr hon a gynnwysa lawer o ddadguddiedigaethau dwyfol' a wnawd iddo, fel yr haerir. Nid yw y llyfr, mewn gwiriouedd, ond math o efelychiad o brophwydoliaethau Jeremia ac Eseciel. Mae Mormoniaeth yo ddigou drwg; ond y mae Mormoniaeth yn rhesymol a phur wrth ei chyniharu ag addysgiadau John Wroe. Tystiai yr yn. fyd-ddyn hwn, na fyddai iddo ef na'i ganlynwyr deimlo ar- teithiau angeu, ond y byddai iddynt gael eu trosglwyddo i'r nefoedd fel Enoc ac Elias Gellir barnu ynte y fath siomedig- aeth a gawsant yn ei farwolaeth ond y fath yw eu sel yn yr athrawiaeth a daenid ganddo, fel y maent yn credu yr adgyfid yn fuan i'w plith." CYSGADUR MEWN EGLWYS.—Un Sabboth yn ddiweddar creuwyd cryn gyffroad mewn eglwys yn yr Ysgotlaud, drwy ymddygiad hynod "dynieuanc o'r wlad." Daeth y dyn i fewn gydag arddangosiad o bob hyder ynddo ei hun, ac eis- teddodd yn y cor perthynol i'r rhieni ydynt yn dwyn eu plant i gael eu bedyddio. Tynodd y gftr ieuanc sylw y gynnulleidfa ar y cyntaf, drwy ei fod yn amneidio ar ryw rai ar y llofft, yr hyn a barhawyd h, d nes i'r gweinidog ddyfod i mewn, a dechreu myned yn mlaen a'r gwasanaeth. Ar ddechreuad y oregeth, estynodd ein gwron ei hun ar yr eisteddle, a chwympodd i freichiau cwsg, gan chwyrnu yn gysurus drwy y bregeth. Ar ddiwedd y bregeth, rhoddwyd hymn allan i ganu, pan y daeth menyw ieuane i fewn, gan ddwyn baban yn ei breichiau, yr hwn oedd wedi ei wisgo mewn dillad pwrpasol i'r ddefod o fedyddio; ond yr oedd y prif weithredydd (tad y plentyn) yny seremoni yn cysgu yn drwm, heb teddwl dim am ei ddyled' swydd. Pan oedd y gynnulleidfa yn canu yr hymn, ymdrech- odd y swyddog ddihuno y dyn, drwy ei siglo yn dda, ond i ddim pwrpas. Gorfu i'r wraig ieuanc ymadael a'i phlentyu heb ei fedyddio, a therfynodd y gweinidog y gwasanaeth drwy weddi fer, ac ymadawodd y gynnulleidfa, ond ni aflonyddwyd ar gwsg hyfryd ein gwron. Cyfarfu yr Ysgol Sul yn y pryd- nawn, ond ui ddihunodd y cysgadur. Tua saith o'r gloch yQ yr hwyr, gan fod y bob) yn teiualo yn anesmwyth yn ei gylcb, cariwyd y dyn allan; ond gorfuwyd ei dreiglio ar hyd y borfa cyn ei ddihuno a'i ddwyn iddo ei hun. Y farn yw, fod yn rhaid fod rhyw un drygionus wedi rhoddi dogn o gysglyn i'r gwr ieuanc, yr hyn a rydd esboniad ar ei ymddygiad hynod.