Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Y GYMDEITHAS HENAFIAETHOLI…
Y GYMDEITHAS HENAFIAETHOL GYMREIG. l Cynnaliwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas hon arQ 1864 yn Hwlffbrdd,yr hwn a ddechreuodd dydd LlIm, Awst 22ain, ac a barhaodd drwy yr wythnos. Cynnaliwyd y cyfarfod cyntaf yn neuadd y dref, hwyr dydd Llun, dan lywyddiaeth J. H. Scourfield, Ysw., A.S. Nid oedd ond tua 50 o'r aelodau ac ereill yn wyddfodol yr hwyr cyntaf; ond yr oedd y gynnulleidfa yn Uuosocach y dyddiau canlynol. Yn ystod yr wythnos, ymwelodd yr aeledaa ag atnryw leoedd nodedig yn yr ardal; megys y Priordy yn Hwlffordd, adfeiliau hen balas y Per- ots yn Haroldstown, Castell Beaton, Castell y Gam, Castell Poyntz, Eglwys Gadeiriol T^ Ddewi,: Castell Picton, Castell Wiston, Mynydd Percelli, &c., &c. Yn y cyfarfodydd, darllenwyd y papyrau ^nlynol:—Ar offerynau a wnawd o esgyrn a cberyg, y rhai a gafwyd yn Ynys Caldy, Castell Pellfro) &c,, gan y Parch. G. N. Smith. Cwmfres- ar Harroldston, a Theulu y Perrotts; ar *^eddillion Moesenaidd yn Mhrydain, gan Dr. ^yollaston, &c. Dywedir fod y cyfarfod eleni yn n o r rhai mwyaf llwyddiannus a gynnaliwyd er ttffiad y gymdeithas yr oedd yr hin yn ddymunol, a derbyniodd aelodau y gymdeithas garedigrwydd awr oddiar ddwylaw boneddigion y dref a'r gym-
Y RHYFEL YN AMERICA.
Y RHYFEL YN AMERICA. (Gyda'r St. David.) Efrog Newydd, Awst 12. Hysbysiaeth swyddogol oddiwrth y Gwrth- ryfelwyr, a rydd ar ddeall i'r Milwriad Ander- son roddi fyny Fort Gaines heb ganiatad y y Cadfridog Payne. Beiir y Milwriad Ander- son yn fawr gan y Gwrthryfelwyr, a gosodir ei ymddygiad allan fel un hollol fradwrus. Ymadawodd y Gwrthryfelwyr o Fort Powell ar yr 16eg, yr hon wedi hyny a chwythasant i fyny. Yr oedd yr oil o gadlongau y llynges Wrth- ryfelgar, gyda'r eithriad o un llestr, naill ai wedi eu suddo, neu ynte wedi eu dal. Yr oedd galluoedd y 3adfridog Sheridan yn symud i fyny ar hyd Dyffryn y Shenandoah, yn erbyn y Gwrthryfelwyr. Cadarnheir yr hanes gyda golwg ar lwydd- iant y Cadfridog Averill yn Moorfield, Virginia, Nid yw Mr. Stanton wedi rhoddi ei swydd i fyny, fel yr hysbyswyd yn ddiweddar yn y New York Times. Cymmeradwya llywodraethwr Pennsylvania y Llywodraeth i godi 15,000 o felisia, er am- ddiffyn y dalaeth hono. Dywed y Richmond Enquirer i'r Gwrthryfel. wyr ymadael o Fort Powell, ar Ynys Dauphing, ar nos y 5ed, yr hon wedi hyny a chwythasant i fyny, ac i Fort Gaines, drwy fradwriaeth y Milwriad Anderson, i gael ei rhoddi fyny i'r Undebwyr ar yr 8fed. Yr oedd yr Amddi- ffynfa yn gref, ac ynddi ddigon o ymborth ac adnoddau rhyfel, i 600 o wyr, am chwech mis. Dywedir fod y Cadfridog Beauregard wedi cael gorchymyn i ymadael o Petersburg, er cymmeryd llywyddiaeth yn Mobile. Yr oedd sefyllfa pethau yn Petersburg yn ddigyfnewid. Dygwyddodd ffrwydriad ar fwrdd b5d yn llawn o adnoddau rhyfel, yn City Point, ar yr Afon James, boreu dydd Mawrth, gan chwythu y bad yn dipiau man, a pheru niwed mawr i'r adeiladaethau cytagos, gan ladd neu glwyfo 180 o filwyr, gweithwyr, a dynion ereill. Ni wyddid pa beth oedd achos y ffrwydriad. Yr oedd galluoedd Sheridan wedi eymmeryd meddiant o Martinsburg, a chychwynent yn mlaen er ymosod ar Early. Cymmerodd amryw ysgarmesion le yn agos i Winchester ar y lOfed. (Gyda'r Africa.) Efrog Newydd, Awst 13. Dywed Mr. Stanton fod encilwyr oddiwrth y Gwrthryfelwyr yn hysbysu fod Mobile wedi ei chymmeryd. Llosgodd yr yspeil-long Tallehasse chwech o longau triugain milltir i'rde-ddwyrain o Sandy Hook. Efrog Newydd, Awst 18. fi'Croesodd dau gatrawd o fyddin Grant i'r ochr ogleddol o'r afon James, ac y maent wedi ennill sefyllfan o fewn chwech milltir i Rich- mond. Ystyrir gweithfeycld y Gwrthryfelwyr gyferbyn a'r lie hwn yn gryf iawn, Darfu i Sherman encilio i Winchester. Derbyniodd Early adgyfnerthion, ac yr oedd yn awr yn cychwyn yn mlaen tua'r Gogledd- Cyrhaeddodd yspeil-long Tallehesse Halifax. Z, Y mae y Hong yspeilgar hon wedi dinystrio Iluaws o longau masnachol perthynol i'r Un- debwyr. (O'r Times.) Ymladdodd y Tennessee ag holl lynges yr Undebwyr am awr a hanner o amser, ac ni roddodd i fyny hyd nes i'w llyw gael ei an- mharu. Dywedir i'r Undebwyr golli 250, a'r Gwrthryfelwyr 300, yn benaf mewn carchar- orion.
DENMARC A GERMANY.
DENMARC A GERMANY. Cyrhaeddodd Brenin Prwsia Vienna ar yr 20fed o'r mis diweddaf, a derbyniwyd ef yn ngorsaf y rheilffordd gan yr Amherawdwr. Aeth ei fawrhydi yn mlaen i balas Schonbrunn. Llefara newyddiaduron Vienna am ymwel- iad Brenin Prwsia a Vienna fel y sicrwydd penaf gyda golwg ar heddwch Ewrop. Sicr- hant hefyd fod annibyniaeth a dioselvvch Ger- many yn sicr; ac o ganlyniad, Ilwyddiant a heddweh y taleithiau. Newyddion o Hamburg a hysbysant fod meddianniad Holstein gan y Prwsiaid a'r Aws- triaid wedi ei benderfynu. Yr oedd y Cad- fridog Gablenz, llywydd y catrodauAwstriaidd, wedi cyrhaedd Altona, er gwneyd y paroto- adau angenrheidiol. Dywed y Pays am Awst 24 :—" Hysbysa telegram o Vienna fod cyflawn ddealltwriaeth yn bodoli yn bresenol rhwng Prwsia ac Aws- tria. Y mae hawl Uch-dduc Oldenburg yn ennill tir. Ni fydd i Prwsia, fodd bynag, ym- adael o Schleswig-Holstein heb iawn. Nidyw llywodraeth Awstria yn bresenol yn annghym- meradwyo gwladlywiaeth Prwsia."
SWITZERLAND.
SWITZERLAND. Newyddion o Berne, dyddiedig Awst 23, a hysbysant fod terfysg wedi tori allan yn Geneva. Gan fod y dalaeth yn analluog i ddarostwng y terfysgwyr, galwodd y swyddog- ion am gymhorth y llywodraeth Gynghreiriol. Y canlyniad fu, i filwyr gael eu hanfon yno, y rhai a lwyddasant 1 adferu beddwch. Yr achos o'r annghydfod oedd i'r pwyllgor Radicalaidd ddiddymu etholiad M. Cheneviere, yr_ ymgeisydd Ceidwadol. Pan ddaeth y Ceidwadwyr i wybod hyn, amgylchynasant yr adeilad He yr oedd y cynghor yn eistedd. Yn ganlynol, arfogodd y trigolion eu hunain, a bu ysgarmes, yn mha un y lladdwyd pedwar, a chlwyfwyd 15.
Advertising
Er mor lluosog yw yr arddangosion vn Llundain, nid oes un o honynt yn fwy dyddorol rag ystafelloedd Cwmni Wheeler a Wilson, yn 139, Heol Regent, lie y gellir gweled eu Peirianau Gwnio o bob math. Synid ni wrth ganfod y gwahanol fathau o waith a allent wneyd—stitches, godreon gynan, hemau, gwrth. banau, rhwvd waith—mewn gair yr oeddynt yn alluog i wneyd pob gwaith braidd a wneir a'r Haw. Ni ddylai un teulu fod heb un o'r peiriannau hyn. CUHE OF 14 YEARS' ASTHMA, BY DR. LOCOCK'S PULMONIC WAFERS.—" Hindley, March 2, 1863.— I have much pleasure in transmitting the following copy of a testimonial I received this morning.—T. WALLS." "West Houghton. Dear Sir,—I feel great pleasure in informing you of the great benefit my wife has received from the use of the Dr. Locock's Wafers I bought from you. She can now sleep soundly the whole of the night, without being disturbed by her cough and shortness of breath, although for 4 years be- fore I got the wafers she had not been able to sleep more than a very short time at once. She is better now than she has been for the last 14 years. JOHN ECKERSLEY." Dr. Locock's Pulmonic Wafers give instant relief and a rapid cure of asthma, consumption, coughs, and all disorders of the breath and lungs, All throat affections are immediately relieved by allowing one occasionally to dissolve in the mouth. To singers and public speakers they are invaluable tor clearing and strengthening the voice. They have a pleasant taste. Price Is. I id., 2s. 9d., and lis. per box. Sold by all medicine vendors. At Ysgolfeistri. YN EISIEU, yn Seion, St. Clears, Ysgolfeistr, er JL cario yn mlaen yr ysgol ddyddiol yno. Rhaid iddo tod yn un o brofiad, ae yn dwyn gydag ef gym- meradwyaethau dau neu dri o weinidogion. Cyfeirier at—Mr. John Bowen, Merchant, Saint Clears. Darlun Bedyddiad Crist. Y mae y Darlun yn Haw y cerfiwr, a rhoddir gwybod yn fuan beth fydd ei bris. Parotoir i'r Wasg, pris3c-, y Trydydd Rhifyn o'r CYNNADLIEDYDD. (Y NAWFED FIL.) GAN H W. HUGHE (ARWYSTL), DINAS, PONTYPRIDD, GLAM. Mae ychydig o'r rhifynau blaenorol ar law. Anfoner pob archebion, &c., at yr awdwr. Yn y Wasg, a chyhoeddir yn fuan, PWNO I'R YSGOL SABBOTHOL AR YR ORDINIIAD 0 FEDYDD. GWAITH JOHN CRAPS. Wedi ei drefnu i'r perwyl hyny, a'i gyfieithu gan y PARCH. H. PRICE, RHYDWILVM. Pob archebiou i'w hanfon at y Parch. H. Price' Rhydwilym, Narberth. Pris Ceiniog yr un, neu 8s. y cant. Am arian parod yn unig. Esboniad y Dr. Gill AR y Testament Newydd yn Gymraeg, argraffiad Caerdvdd, yn 52 o ranau, Is. yr un, neu yn ddwy gyfrol hardd wedi en rhwymo, £ 3. Gwerthir yr ail gyfrol ar ei phen ei hun am 30s. Cyfeirier at-D. Griffiths, Bookseller, Cwmavon, Taibach, Glamorganshire. CYFLENWI ANGEN YR OES. Pa mor ami y clywwn y traethiad, "Nid wyf yn teimlo yn iach;" a pha gynnifer 0 bersonau a dreuliant yr oll o'u hoes yn y sefyllfa annghysuras hono ? PA BETH YW Y liHESWM ?j Yn unig hyn Gadewir i'r cylla tyned allan o le,[ac y mae y holl gyfundrefn o ganlyniad mewn annhrefn. Esgeulusiv ceisio cymhorth meddygol yn ami hyd nes y goddiweddir n dyn gan afiechyd; ac os adsefydlir yr iechyd, y mae hyny ami ar ol llawer o boen, a phob amser gyda'r ychwallegiad anhyfryd o FILL Y DOCTOR. PA FODD YR ARBEDIR HYN? Y mae hanner can mlynedd o ymarferiad wedi profi for PELENI WORSDELL KAYE yn feddyginiaeth sicr ac effeithiol yn MHOB AFIECHYD; ac os cymmerir hwynt mewn pryd, attaliant, a thrwy an defnyddio, gwellhant bob anhwyldeb yn mysg y bobl. Y maent yn rhad, o hyd cyrbaedd i bawb, a thrwy eu eyfan- eoddiad llysieuol, yn PURO Y GWAED drwy weithrediadau rhwydd a buan. Y maent yn anmhris- iadwy i bennau tueluoedd, canys, lie y defnyddir hwynt, nid oes ANGEN MEDDYGINIAETH ARALL. Parotoedig yn unig gan John Kaye, Ysw., Prospect Hall. Woodford, Essex. Ar werth gan holl Werthwyr Meddygin- iaeth, am Is l^c., as. 9c., a 4s. 6c., y blwch; ac yn gyfan. werth yn 22, Bread Street, London. zzc.- To Parents & Guardians. WANTED, a Respectable Youth as an Apprentice !t to the General Drapery trade, were a thorough knowledge of the trade can be obtained. For terms, apply (in own handwriting), stating age, &c at 161, Bethnai Green Road, London. Yn awr yn barod, yr ilil Ran, pris Is., o ESBONIAD Y TEULU, GAN Y PARCH. T. LEWIS, CAERFYRRDIN. Teimla Awdwr a Chyhoeddwr yr ESBONIAD yn ddiolchgar i bawb ag ydynt yn bwriadu ei dderbyn am anfon eu henwau i mewn yn ddioed, gan na fwriedir argraffn rhyw lawer o gopiau dros ben nifer y derbyn- wyr. Gobeithiant gael cynniter a phump enw at yr ESBONIAD yn mhob eglwys berthynol i'r Bedyddwyr, o leiaf; a theiuilent yn ddiolchgar pe byddai ryw frawd yn mhob eghvys i gymmeryd at gasglu y nifer a nedwyd, er sicrhau un copi yn rhad. Archebion i'w hanfon at y Cyhoeddwr,-W. M. Evans, Carmarthen. Now Ready, price 3d., 4 copies post free for 12 stamps, SHORT SERMONS FOR THE PEOPLE, BY CHRISTMAS EYANS. Contents.—I. God dwelling with man in Christ II. The plan of SalTation a subject of wonder to Angels. III. Removal from Dentil to Life. London H. J. Tresidder, 17, Ave Maria Lanelh-C. Maesydd y Myfyriwr." D A V( y lljrfr nehod allan yu rhifynaa gas cia Got- mokwyliwr, Mr. W. T onigs, Cwmtnan, yn eya- nwys y gweithiau awdurol canlynol o eiddo y Parek. D. W. Morris, Cwrntarndda :— 1. Dylauwad Esiampl (buddugol mewn Eiiteddfed). 2. Addyeg i Blant y Dosparth Gweitkgar (etto). 8. Atferofc Iachawdwriaetlt. 4. Elias ya y Cerbyd. 5. Tywydd y Merthyron. 6. Pennod y Mor. 7. Paul yn myned i'r nef, a dychwelyi. 8. Pa fodd y ty wvllodd yr aur ? 9. Po. blwyddyn dan gores. 10. Trigfanaa Ty fy Nhad. 11. Tir Emmanuel. 12. Bunyan a Bedford. 13. Hengoediana. 14. Onestrwydd Buddugol. • 15. Y Gweithwyr Cymreig. Bydd y llyfryn yn cynnwys dau draethawd gaa awdivyr ereill, ac yn wobrwyol mewn Eisteddfod. Cyanwysir y Maesydd mewn tri Rhifyn, Chwe Cheiniog yr un a gellir ei gael drwy anfon at Mr. W. Lamb Thomas, Cwmaman, Llanelly, Carmarthenshire. JOHN EDWARDS^fiS^ 25, UNION STREET, LIVERPOOL;, A DDYMUNA hysbysu ei gydgenedl y Cymry, & 11. fwriadant ymfudo i America neu Australia, ei fod yn bookio yn y steamers a'r hwyl-longau i'r ddwy wlad a nodwyd am y prisiau iselaf yn Liverpool. Gellir cael yr hysbysrwydd cywiraf am y clud-dal, amser hwylio, ymborth, &c., trwy ddanfon llythyr yu cynnwys. UR stamp i'r cyfeiriad uchod. Yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, yn cym- meradwyo Mr. John Edwards i sylw pob ymfudwr, fel un y medrwn roddi pob ymddiried ynddo. T. Price, M.A., Ph.D., Aberdar, W. Thomas, Liverpool, W. Roberts, Blaenau, J. Lloyd, Merthyr, T. E. James, Glyn-nedd, E. Evans, Dowlais, Rees Evans, Liverpool, W. Morgans, D.D., Caergybi, ( Gweinidogion y Bedyddwyr. O.Y.—Llettyaeth dda am bris rhesymol, yn nghyd a He cyflens i drin ymborth eu hunain, a He i'r luggage yn rhad. Agerlongau i Efrog Newydd bob wythnos am 4s. Boed hysbys i bawb nad yd wyf mewn un cyssylltiad a Mr. Lamb o hyn allan. MUTUAL ASSURANCE WITHOUT MUTUAL LIABILITY. POLICIES ISSUED IN 1864 PARTICIPATE IN THE NEXT DIVISION OF PROFITS. BRITISH EQUITABLE ASSURANCE COMPANY, 47 & 48, King William Street, London Bridge, E.C. Capital-A Quarter of a Million. IN the last Nine Years 10,063 New Policies have been issued, amounting to £ 1,630,673. The new policies issued in the last three years were Policies issued. Years. No. Amount. 1861 1,091 £ 177,075 1862 1,267 200,357 1863 1,583 252,115 216 Claims have been paid, amounting, with Bonus- es, to £ 31,454. At the last Division of Profits a Policy on a person's life, 21 years of age, for LI,000, which had been 9 years in force, had a Reversionary Bonus alloted of X] 35, being 77 per cent. of the premiums paid by the poliey- holders. TRIENNIAL DIVISION OF PROFITS. District Agents Wanted. Apply to Mr. David Evans, Lletty Rhys, near Aberdare.
YR EISTEDDFOD
10. Cywydd i'r Nos;" dim i fod dros 150 o "Oellau. y goreu oedd loan Arfod. Gwobr £ 5, a thlws. U. Y Fugeilgan. Goreu, Gwilym Pennant. <obr, £ 8, a thlws. *2. Canu Deuavvd; merched yn unig i gystadla. Goreu, u;ss Eyans. Cwmvslo, a'i chyfeilJes. Wedi canu Anthem Tywysog Cymru, terfynwyd cyfarfod y boreu Am 5.30, dechreuwyd y Gyngherdd a chafwyd Cyngherdd ardderchog. Yr oedd y canu uwchlaw Canrnoliaeth. DYDD IAU. Cvfarfu pwyllgor celfyddydol yr Eisteddfod Wa heddyw yn Neuadd St. George. Cymmer- \VY.d y gadair gan y Parch. Hugh Owen, Llyn- Ileiflad, yr hwn -a alwod d ar Mr. Lewis Hartley, o Manchester, i ddarllen papyr a barotowyd gan y ?°neddwr hwnw ar yr angenrheidrvvydd oiklysguyr iaith Seisnig yn fwy cyffredin nag a wnelid yn bre- Senol yn y dywysogaeth. Dilynwyd ef gan Mr. John Pryse. Rhosybol, Mon, ar Lythyraeth y Gym- raeg. Wedi hyny, dygwyd gerbron bwnc addysg y Cflnol radd, yr hyn a ddygwyd. y sylw y dydd blaen. orol gan Dr. Nicholas. Siaradodd amryw ar y mater, a chymmeradwyoi bawb gynllun Dr. Nich- olas; ond nid yuwyf yn deall i ddim yn effeithiol gael ei benderfynu. Rhaid i'r Cymry gael siarad llawer cyn dwyn un mater o bwys i weithrediad; toor wahanol i hyn yw y Saeson. Llywydd yr Eisteddfod heddyw oedd y Gwir Barchedig Esgob Bangor; a'r Cyfarwyddwr oedd Clwydfardd. Yr oedd y babell eang- yn orlawn heddyw, a'r esgynlawr wedi ei britho a phrif fonedd- Iglon a bondddigesau y dywysogaeth. Darllenodd Mr. John Williams yr Anerchiad i'r Llywydd. Wedi i'r Llywydd anerch y cyfatfod mewn araeth hyawdl, galwwyd ar y Beirdd, amryw o ba rai a draethasant eu hanerchiadau. 1. Darllenwyd beirniadaeth y Proffeswr Griffith M DdaearegCvmrH, gun Creuddynfab. Rboddwyd y wobr o £10, a thlws, i Mr. J. E. Thomas, Rhaiadr. 2. DarlJenwyd beirniadaeth Llawdden a Cheiriog ar yr Awdl Farwnad oreu i Alaw Goch, gan Clwyd- fardd. Y goreu oedd eiddo Mr. J. R. Hughes, Paenol, Bangor. Gwobr, £10, a thlws. 3. Cystadleuaeth mewn canu pennillion gyda'r delyn. Rhanwyd y wobr rhwng Mr. David Lloyd a Mr. Edward Jones. 4. Beirniadaeth ar y Canon goreu, i dri llais. Dyfarnwyd y wobr gyntaf ( £ 5) i LIane, a'r ail (10s.) i Frescoe, y rhai nid oeddynt wyddfodol. 5. Am y Traethawd goreu ar Amaethyddiaeth Cymru ei sefyllfa bresenol, a'r modd l' w gwella. Gwobr, je20 a thlws. Y cystadleuwr buddugol oedd Dr. Jessie Conway Davies, Treffynnon. Wedi i Miss Edith a Miss Kate Wynne ganu Y Ddeilen ar yr Afon, anerchwyd y eyfarfod mewn modd hyawdl yn Gymraeg gan Talhaiam. AWDL Y GADAIR. 6. Darllenwyd beirniadaeth Nicander ac Emrys ar Awdl y Gadair, gan. Nicander. Testun, loan yn Ynys Patmos. Gwobr, ^20 a thlws. Derbyniwyd cyfansodcliadau yn dwyn y ffugenwau c.,iiilynol Dysgybl o'r Wlad, Caswallon, Policarp, Peredyr, Alltud, Rhys yr Ynys Wen, a Barakel, yr un llwyddiannus, sef Mr. Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd), o Dinbych, yr hwn sydd yn awr yn fyfyriwr yn Athrofa y Bala. Gosodwyd y bardd yn y gadair gan Ciwydfardd a Thalhaiarc, yn ol defodau henafol yr Orsedd. 7. Cystadleuaeth ar y Delyn Deir-rhes. Gwobr, £ 5 a thlws. Buddugol, Mr. Lewis Williams. Rhoddwyd gwobr o £1 hefyd i Mr. Ellis Davies, gan Eryr Moelfre. 8. Cystadleuaeth mewn canu glees. Gwobr, £ 5. Nid oedd neb yn deilwng o'r wobr. 9. Am yr An them a Cymreig goreu. Gwobr, £ 10 a £ 5. Beirniad, Pencerdd Gwalia. Ennill- wyd v ddwy wobr gan Mr. Joseph Parry, diweddar 0 Ferthyr Tydfil, ond yn awr o America. Nid oedd neb yn cystadlu am y wobr am ganu corawl. Nid oedd neb ychwaith yn cystadlu am y wobr am y Paentwaith Hanesyddol goreu, gwobr zelo 10s. 10. Cystadleuaeth ar y Delyn Deir-rhes. Gwobr R5, yr hon a ennillwyd gan Mr. J. Ellis Davies. Dygwyd yr Eisteddfod i derfyniad drwy i Glan Alun gynnyg pleidlais o ddiolchgarwch i'r llywydd, yr hyn a gydnabyddwyd gan ei arglwyddiaeth.