Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Yn awr yn barodt y 35 Rhifyn o'r GEIRIADUR BEIBLAIDD ADUWINYDDOL. U Dan oly^iaeth y Parch. J. Jones (Mathetes). Gellir cael yr oil o'r Rhifynau o'r dechTeu, drwy y post, i unrhyw fan, drwy anfon at y Cyiioeddwr,— W• N. Evans, Caerfyrddin.
AT EIN GOHEBWrE, &c.
AT EIN GOHEBWrE, &c. EIN DERAYNIADATT. — Hoffwr Chwareu Teg— Cilgpranian—Mair Gellyon—Gofidus—Myred— Parch. E. Roberts—E. Lewis—Ufelwyn—Rhiw- allan-David Jones. Trawsfynydd—John Tho- mas-Bedyddiwr o Sir Gaer—Parch. J. P. Wil- liams— Rhydderch—Gohebydd Rhymni-Parch. D. Morris—Parch. B. Evans- Parch. Thomas Lewis Parch. W. Harris-Hoffwr Cariad- Parch. J. James Aclod-Brodor-Un oedd yno—Taliesin—Gutto'r Crydd-D. Powell-W. H.-Isaac y Borth. CILGGRANIAN. Diolch i chwi am eich llythyr caredig am symudiadCilanur. Mae eicb teimlad yn ganmoladwy; ond pe byddem yn agor y drws i lythyran ar ymadawiad personau unigol, ni byddai genym le i ddim arall. Mae genym ni wir barch i Cilanur, a dymunwn ei lwyddiant pa le bynag yr elo. RHIWALLON.—Mae eich gofyniadau i'r Parch. Stephen Thomas, Nefyn, yn rhoi ar ddeall ei fod ef fel gweinidog wedi diarddel dynion da, ac wedi diarddel dynion heb ymgyssylltu dim a'r eglwys ond gan nad ydydi wedi rhoddi i ni yr hanes, gyda manylion priodol i Ifurfio barn am y pri- odoldeb o gyhoeddi y gofyniadau, nis gallwn I eu gadnel i ymddangos. Yr ydym ni yn synu yn awr aceilwaith glywed fod gweinidog yn diaelodi heb ymgynghori i'r eglwys, neu fod diacon yn traws-lywodraethu ar eglwys! Pa le mae y bai ? Nid ar y gweinidog nac ar y diacon, ond ar yr eglwys a fydd yn ddigon ysmala a difywyd i ddy- oddef y fath beth. Nid oes yr un gweinidog ag sydd yn addas i fugeilio eglwys, na'r un diacon yn addas i'w swydd, a wna hyn. Os oes y fath beth yn cymmeryj lie, mae y bai yn gyfangwbl wrth ddrwa yr egrttya. JoHn THOMAS, Hsnley.—Diolch i chwj 8m gopi o'r Birmingham Daily Post A'r hanes o Zealand Newydd. Bydd i ni wneyd defnydd o'r llytbyr, ,er dangos i'n darllenwyr sefyllfa druenus yr ytn- fodwyr yno. Yr ydjm ni o'r farn y dylid alltudio o'r wlad yr Agent cyflogedig sydd yn y wlad hon yn twyllo dynion i ymfudo o'r wlad, trwy ladaenu celwyddau am y gwledydd yr ymdrechant gael 'o dynion iddynt. CYFIAWNDER.-Mae eich gofyniadau at y Parch. Enoch Price fel llywydd yr Hen Gymmanfa yn Llanfair-yn-muallt, yn nghylcb y dull o ranu yr arian, yn bwysig, ond hefyd yn gyfryw na ddylid eu cyhoeddi heb eich enw priodol wrthynt. Mae yr hyo sydd eisioes wedi ei ysgrifenu am Gym- manfa Caerfyrddin a* Cheredigion, gyda eich gofyniadau chwithau am yr Hen Gymmanfa, yn dangos tod y dull o ranu yr arian yn galw am sylw buan, difrifol, a pbwyUog,—gan bwy ?—Y Cyfarfodydd Chwarterol o hyn i'r Gymmanfa nesaf. DAVID JONES, Glandwr.- 1. Mae y Trustees pennodedig yn yr ewyllys i weled fod yr ewyllys yn cael ei plirofi, a'i holl amcanion yn cael eu cario i weithrediad. 2. Mae gan y Trustees hawl yn 01 y gyfraith i gadw pob treulion angenrheid- iol a rhesymol a fydd iddynt hwy fyned iddynt er cario allan aincan yr ewyllys, er nad yw yr ewyllys yn son dim am hyn. Mae y gyfraith yn gofulu am hyn. Mae y Trustees i gael eu treul- ion oil cyn dechreu rhanu rhwng y plant. 3. Bydd cost y llys o jC3 10s. i je3 15s. ar bob cant. Yma bydd y gwerth yn £250, a rhaid talu ar £ 300; felly, bydd y gost yn o ^10 10s. i £115s. Nid oes yr un dewin a all ddywedyd i'r mymryn. 4. Mae cost y profi i fyned o'r ystad cyn dechreu ihanu. Gair at y Trustees, gan nad pwy ydynt, —Gofelwch cyn ymadael a'r meddiant naill i dalu neu gadw digon o arian i dalu y legacy duty, neu yn mhen pedwar neu chwech mis cewch dalu y cyfryw o'ch ilogellau eich hunain. CYMMANFA RHYDARGAEAU.—Yr ydym ni yn credu ei bod yn ddyledswydd arnom i ddwyn yr ohebiaeth ar y mater hwn i derfynia I. Yr ydyrn wedi cadw y drws yn agored ddigon hiri wyntyllu y mater dan sylw. Yn fuan ar ot y Gymmanfa cyhoeddasom lythyr yn galw sylw at y pwnc. Yr oedd y llythyr hwnw oddiwrth un o gyfeillion goreu yr achos mawr o fewn Cymmanfa Caerfyr- ddin a Cheredigion. Dysgwyliasom am ryw esboniad, ond ni ddaeth vrun. Yn ganlynol, ym- ddangosodd llythyr Mr. Roberts, y trysorydd, ar y cyfrifon. Wedi hyny, yssrifenodd y Parch. Thomas Lewis at y Parch. Mr. Jones, yr ysgrif- enydd, ac mae ef yn y canlyniad yn cyhoeddi Ilythyr. Mae Mr. Lewis yn cyhoeddi ail Iythyr; wedi hyn mae Mr. Jones yn hysbysu na fyddai iddo fel Ysgrifenydd ateb Mr. Lewis. Mae eglwrs Rhydargaeau yn rhoddi ei golygiadau ar y mater. Yn ein rhifyn presenol. mae gan Mr. Lewis Iythyr yn crynhoi yr holl ffeithiau i gwm- pas bychan. Trwy hyn oil, mae y pwnc yn deg 9 flaen y wlad, mor bell ag y gellir ei gael ar hyn o bryd. Mae gyda ni lythyrau ereill ar y mater, wedi eu bwriadu i'w cyhoeddi yn y SEREN, tra y mae genym luaws o lythyrau oddiwrth ddynion da, yn weinidogion ac ereill, yn ceisio genym i osod terfyn ar y ddadl. Yr ydym yn gwneyd hvn yn awr, gan fod genym gyfle i wneyd hyny heb fod un blaid yn cael cam. Mae y ddwy ochr yn awr o flaen y cyhoedd ond os dechreawn gy. hoeddi llythyrau, byddwn yn sicr o ychwanegu at yr hyn sydd yn anhyfryd yn y ddadl, heb gyr. haedd un gwir les. Yna, maddeued y brodyr ag ydynt wedi ysgrifenu atom, am gadw eu llythyrau heb ymddangos. Derby nied y brodyr da ereill ein diolchgarwch am eu cynghorion da, a'u haw- grymiadau doeth. Mae yn debyg fod pethau yr un fath yn yr Hen Gymmanfa. Ai nid gwell fyddai cymmeryd y pwnc yn debtun siarad yn un neu ddau o'r cyfarfodydd chwarterol, fel y galler effeithio cyfnewidiad, os bernir hyny yn ddoeth ? Ar y draul, feallai, o gaei ein cyhuddo o fyned o'r ffordd, ni a nodwn drefn Morganwg ary pwnc hwn. Mae casgliadau yr eglwysi at gynnal y Gymmanfa yn cael eu talu i Drysorjdd y Gym- manfa, Mr. Phillip John, er's pedair blynedd ar ddeg. Y mae ef ar ddiwedd y dydd yn rhanu y cyfanswm yn ddau, a thalu drosodd yn y fan un hanner i'r eglwys sydd yn cynnal y Gymmanfa, ac y mae yr eglwys i wneyd fel y myno a'r han- ner hwnw yna, mae y Trysorydd yn cymmeryd yr banner arall, ac yn ei ranu yn bedair rhan gyf- artal, ac yn talu drosodd un rhan o bedair ar gyfer po1) Cwrdd Chwarter am y flwyddyn ddy- fodol. Mae y bedwaredd ran hon yn cael ei rhanu rhwng y gweinidogion a fyddant yn bre- senol yn Nghynnadledd y Cwrdd Chwarter, yn ol y milltiroedd a deithiant. Os bydd un gweinidog wedi teithis tair nailltir, efe a ga yn gyffredim dair ceiniog. Os bydd un arall wedi teithio tri ugain, derbynia driugain ceiniog, gan mai rhyw- beth fel ceiniog y filltir y daw, weithiau yn fwy, ac weithiau yn Hai, yn ol rhif y gweinidogion gwyddfodol, a phellder y ffordd. Ond mae pob gweinidog, bach a mawr, hen ac ienanc, enwog ac anenwog, gweinidog yr eglwys fawr a gwein. idog yr eglwys fach, yn cael yr un driniaeth yn holiol-hyn a hyn ar gyfer y filltir a deithir i'r Cwrdd Chwarter, nid yw o wahaniaeth pa un t bregethant ai peidio, yr un faint fydd iddynt. TeHr yr arian hyn ar ddiwedd Cynnadledd y Cwrdd Chwarter rhwng y gweinidogion a fyddant wedi dyfod yno i'r Gynnadledd i ymdrin ag achos yr lesu a'r eglwysi. Os bydd rhyw gentleman minuter yn dyfod yno dranoeth erbyn y cwrdd deg, ni bydd dim iddo ef. Y gwenyn gweithgar sydd yn cael eu talu. Sut mae y gweinidogion yn cael eu talu yn y Gymmanfa? Y ffordd rwyddaf yn y byd. Pob gweinidog perihynol t'rttr yn cael yr un faint, hyny yw, dim. Nid oes yr un gweinidog o fewn Cymmanfa Morganwg yn eael ei daiki yn y Gymmanfa o dan unrhyw amgylchiadau. Chwi welwch fod hyn yn syml iawn, ac yn rhwydd a didwrw yn ol llaw. Ni fu Cymmanfa yn Morganwg, nac un man arall, yn cael ei chynnal yn fwy anrhydeddus nag y cyn. naliwyd ein Cymmanfa olaf yn Abertawy-dim erioed yn wet!; etto, ni fentrwn ddywedyd, heb ofyn i neb, na,thalodd eglwys barchus Bethesda yr un geiniog i^r gweinidogion yu y Gymmanfa ddiweddaf, a hyny am y rheswm da nad ydynt byth yn cael eu talu am unrhyw wasanaeth yn y Gymmanfa. Ond trwy y cynllun a fabwysiedir yn Morganwg, mae eglwysi gweiniaid y sir yn gallu cael y Cwrdd Chwarter, am na fydd gan yr eglwysi ddim i'w wneyd ond gofaJu am letty ac ychydig luniaeth i'r gweinidogion am y dydd y mae y Gymmanfa yn talu treulion teithiol y gweinidogion i'r pedwar cwrdd chwarter. Mae blynyddau o brofiad yn ein dysgu ni fod y cynllun hwn yn gweithio yu rhagorol yn Morganwg. PARCH. W. HARRIS.—Diolch yn fawr i chwi am eich llythyr rhagorol ar Ganiadaeth Grefyddol." Yr ydym yn fwriadol wedi ei gadw i'r rhifyn nesaf, gan ein bod am ddywedyd ychydig eiriau hefvd ar y pwnc. HOFFWR CARlAD A LLEWELYN REES. — Mae teimlad eich llythyr yn dda dros beidio cvhoeddi pethau tebyg i lythyr Carwr y Gwir ond beth sydd i'w wneyd, pan y cawn ddynion yn proffesu crefydd yn para i bleidio y fath gymmeriadau a Llewelyn Rees. Dyna ei fater yn cael ei drin yn fanwi, pwyllog, a diduedd yn Nghymmaiifa y Cefnmawr, a chafodd ei gondemnio ar y tystiol. aethau mwyaf esjlur, fel adyn llwyr annheilwng o wisgo y cymmeriad o bregethwr yn nghyfenwad y Bedyddwyr. Ac etto, yn union ar ol y Gym- manfa, yn y Cefnbvchan, lie yn|ymyl y Cefnmawr, cawn rhyw dysteb o islS yn cael ei rhoddi i Lle- welyn Rees, er ei wyngalchu ar ot i'r Gymmanfa ei gondemnio. Beth oedd hyn ond anfri ar y Gymmanfa, y weinidog^eth Gristionogol, a chrefydd Crist. Wel, mae Llewelyn Rees yn myned oddiyno yn ddioedi i'r Wyddgrug, ac fel yr afradlon gyrit, yn treulio arian pobl Cefn- bychan gyda phureiniaid. Gair arall. darfu i ni gael ysgrif Carwr y Gwir yn y gogledd, yn ymyl lie y bu LI. Rees yn eowogi ei hun, yn mis Awst diweddaf: a chadwasom hi am wythnosau heb ei chyhoeddi, er i ni gael amser i ymboli, a dilyn ol troed y cymmeriad hwn, ac yr ydym wedi cael allan nad yw Carwr y Gwir wedi cyhoeddi mo'r hanner, ac y mae pob gair a ddywed yn ei ysgrif yn wir. Yn awr, er pob gofid am gyhoeddi i'r holl fyd y fath bethau a hyn, yr ydym yn dy- wedyd hyo,-Tra y byddo dynioncrefyddol- proffesedig felly, yn cefnogi y fath gymmeriadau yn ngwyneb periderfyniadau pwyllog ein "Cym" manfaoedd, bvdd i SEREN CVMRU ddynoethi a chyhoeddi y cyfryw o Dan i Beersheba, o Gaer- dydd i Gaergybi, ac o Dy Ddewi i DwIl y Bwci. Yn awr, os oes rhyw eglwys yn Nghymru yn dewis cefnogi Llewelyn Rees, caiff wneyd hyny a'i llygaid yn agorod, beth bynag. Yr ydym ni mor awyddus a neb o honoch i beidio cyhoeddi- yr ydym yn peidio eyhoeddi-ond mae adegau yn bod pan y byddai yn bechod anfaddeuol ynom i beidio eyhoeddi. D. POWELL, Cwmtwrch.—Nid yw Mr. Powell yn dewis ateb gofyniad Gwallter Mechain heb ei euw priodol wrtho. A. O. TIBBOTT.-Mae Mr. Tibhot yn darllen y SBREN, ni welwn. Mae ein diolchgarwch yn ddyledus iddo am y sylw parchus a wna o honom yu y Miner-mae mor wirioneddol a pharchus. Mae Mr. Tibbot, fel ereill o'i gyfeillion, am i'r wlad gredu ein bod ni yn ddiweddar wedi dyfod yn rhyw fath o^berchenog ar waith glo. I hyn yr atebwn, fod yr un dyddordeb genym ni yn y gwaith gio yn awr ag oedd genym mis Mawrth, 1847. Mae ein holl ddywedyd a'n siarad, ein darlithio a'n ysgrifenu, am y glowyr, wedi cym- meryd lie wedi mis Mawrth, 1847. Yna, taflu Uwch i lygaid y gweithwyr yw taenu yr hyn nid yw wir. Mae y Miner a ninnau heddyw yr un farn am ilaeiioriaid yr Undeb yn Lloegr y gwa- haniaeth yw, nad oeddem yr un farn flwyddyn yn ol. Mae y Miner, wedi blwyddyn o brofiad, yn canfod ein bod yn iawn yn mis Medi, 1863. Amser, Mr. Tibbott, a ddengys ein bod ni yn ein lie, a bod ein cynghorion i'r gweithwyr yn syl. faenedig ar seiliau da-eu gwir les hwy yw y pen draw. EIN GOHEBWYK.—Yr ydym wedi ein gorfodi i wneyd un o ddau beth-un ai cael yr holl ohebiaethau trwy ein dwylaw, neu i roddi fyny yr Olygiaeth. Ein penderfyniad yn awr yw, para yn ein swydd am dymhor etto, yna rhaid i ni gael gweled y goheb- iaethau oil, ond hanesion cyfarfodydd a dygwydd- iadau, cyn y bydd iddynt gael eu eyhoeddi felly, os bydd rhai yn rhy ucbel i'n eydnabod ni, a phara i anfon eu cynnyrchion tu cefn i ni i'r Swyddfa, mae y Cyhoeddwr yn addaw dychwelyd y cyfryw ysgrifau yn ol i ni. Bydd hyn yn rhoddi tipyn o diafferth i'r Cyhoeddwr, a phob amser yn eadw yr ysgrifau wythnos yn hwy cyn ymddangos. Ar y tir hwn yn unig y gallwn ddal ein cysaylltiad a SEREN CYMBU. Cyhyd ag y cedwir y telerau hyn, ni a fyddwn foddlon i weithio a phan fyddo y cyhoedd a'r Cyhoeddwr yn blino, byddwn yr un mor toddlon i roddi fyny. Mae gair fel yna yn ddigon; ond er rhoddi cyfle i bawb o'n eyfeillion, bydd i ni ail gy- hoeddi hyn am dro neu ddau. Ein hamcan yw gwneyd SKaRN CYMRU yn newyddiadur teuluaidd -yn gvfryw ag y gall ein mamau, gwragedd, a'n plant ei darllen bob gair heb deimlo dolur am fod annghariad ac enllib yn cael ei dailu gan y naill gref- ydd wr at y llall.
Advertising
AT BIN GOlIBBWYR AWBNYDDOL. J. Williams, D. ab Iago, Alawydd o Lywel, loan Sadwro, Caradog, loan ab Alltud, Toby yn Mhwll Gwepra-oll yn y Swyddfa. AMSEE TALU. Dymunwn hysbysu ein derbynwyr y bydd y Rhifyn nesaf yn terfynu y chwarter presenol. Gobeithiwn y bydd pawb yn barod i dalu i'r dos- partbwyr ar yr Amser pennodedig, gan fod hyn yn angenrheidiol er cario pethau yn mlaen yn hwylus. "SEREN CYMRU." Ø" Danfoner pob hanesion Crefyddol a Chymdeith- asol, archebion a thaliadau, at y Cyhoeddwr.- Mr. W. Morgan Evans, Seren Cymru Office, Carmarthen. Ø" Y Traethodau, Gohebiaethau, Gofyniadau, a Llyfrau i'w hadolygu, &c., at-Rev. T. Price, M.A., Ph.D., Aberdare. W Y Farddomaeth, — Rev. J. Rhys Morgan (Lleurwg), Llanelly, Carmarthenshire. PIUS SEREN CYMRU i dderbynwyr a dalant am dani wrth ei derbyn, neu a dalant cyn pen wythnos ar ol i'r chwarter ddyfod yn ddyledus, yw Is. Ie. y chwarter, neu Is. 3c. os na wneir hyny. TEIMLJR yn ddiolehgar i'n dosparthwyr am gael nifer y derbynwyr yn 4, 8, 12, &c., er arbed postage. Nis gellir caniatau y postage pan fydd. y nifer dan bedwar. r-'
YR EISTEDDFOD.
YR EISTEDDFOD. MAE hon drosodd am eleni, ac mae wedi profi yn fethiant hollol. Ymddengys nad yw wedi clirio ei hun, ond yn hytrach gadael y Pwyll- gor X200 aiewn dyled. Nid ydym ni yn myned i dywallt IIawer o ddagrau am hyn fel yr oedd Yr Eisteddfod yn cael ei chynnal, nid oedd dim lies i ddellIiaw i Gymru yn gyffredin. Diction fod rhai personau yn byw yn fras ar draul Yr Eisteddfod; ond gwyddom ei bod eisioes wedi gwneyd drwg ofnadwy i lawer o ieuenctyd y wlad. Fel y mae yn awr yn cael ei chynnal, y mae yn rhwym o fyned yn erbyn y mur; y mae yn rhwydd rhwydd yn myned i'r ffos Mewn llythyr maith yn y Faner am Medi 7fed, mae Gohebydd Llundain yn gwneyd sylwadau pwrpasol iawn a hollol deilwng o sylw pleidwyr y sefydliad. Mae Mr. Griffiths o'r dechreu wedi profi ei hun yn un o gyfeillion goreu y mudiad cenedlaethol, fel nas gall neb feddwl mai sylwadau un nad yw wir gyfaill yw y rhai hyn. Mae yn dangos maeflat oedd Yr Eisteddfod ddiweddaf, ac mae yn nodi rhai o'r pethau ag oedd yn tueddu i gyfrif am y flatness hwnw. Yr ydym am i bawb o'n darllenwyr i wybod barn Mr. Griffiths ar hyn; ac i'r dyben hwn, ni a osodwn yma ran o'i lythyr ymarferol a phwrpasol Cynnefindra.—Mae rhes o eisteddfodau un ar ol y llall wedi bod yn y rhan yma o'r Dywys- ogaeth—'Steddfod Genedlaethol yn Ninbyeh yn 1860-'Steddfod Orseddol yn Nghonwy yn 1861-'Steddfod Genedlaethol yn Nghaercar- fon yn 1862—'Steddfod Gadeiriol yn Rhyl yn 1863-a'r 'Steddfod Genedlaethol etto eleW yn yr un District, nes y mae y newydd-deb—j y novelty of the thing-yn y rhan yma, wedi ei golli yn llwyr. Ac mae'n heisteddfodau ni hefyd rywsut yn rhyw nodedig o unffurfiol; mor unffurfiol bron a phe buasai "Act of Uni- I formity" wedi ei phasio, yn rhwymo pob eis- teddfod a gynnelid o hyny i ddiwedd y byd i gael ei chario allan yn strict yn ol cynllu11 neillduol a pliennodol. Rhaid i ni yn gyntaf oil ar ol cyfarfod yn y pavillion gael canU t corn—yna anerchiad i lywydd y dydd, yn cynnwys rhyw wmbredd o soft soap, ac yna anerchiad gan y llywydd—ac y mae y rhai hyn etto yn gyffredin yn gynnwysedig yn benaf o "small talk" a sebon meddal." A'u cym- meryd gyda'u gilydd, rwy'n meddwl yr addefir fod pedair araeth lywyddol Llandudno lawn cys* tal-yo wir, ar rai golygiadau yn well na'r average. Ond a chymmeryd areithiau llytf" yddol eisteddfodau y saith mlynedd diweddaf dw'i ddim yn cofio y fynyd hon ond am un yn unig, a dim ond un, ag y bydd dim son aJD. dani mewn amseroedd i ddyfod, a hono oedd araeth Esgob Tyddewi yn Abertawe y llynedd. Araeth alluog oedd hono—araeth ag eedd deilwng o safle uchel yr Esgob Connop Thirlwall fel un o ysgolheigion blaenaf ei oes, ac araeth a saif mewn blynyddau i ddyfod yn mhlith all, erchion cadeiriol ein heisteddfodau, fel y saif Cadair Idris yn mhlith mynyddau Meirion, a'r Wyddfa uwchben gwastadeddau Arfon. Yr oedd yr araeth hono gan Esgob Tyddewi yn eithriad anrhydeddus; ond fel yr awgryni- wyd, unffurfiol i'w ryfeddu o ran t6n a matef ydyw ein holl anerchion llywyddol, a'u cyl11- meryd gyda'u gilydd. Wedi hyny, ar ol i'r cadeirydd eistedd, gel- wir y beirdd yn mlaen i adrodd eu eynnyrchiofl byrfyfyr i'r 'Steddfod t'r llywydd am y dydd; ac nid oes yn y rhan hon o'r #yl unrhylf newydd-deb foAgor y rhai a basiodd. Yna, ar ol i'r beirdd orphen tywallt eyn- nwysiad en sachau, cawn yn nesaf, don gan Owain Alaw neu'r Llew-un o'r hen chwiorydd etto fyth— "Mewn awen fwyn lawen, Byw byth y b'o hi," ac ar ol hyny, siawns nad y nesaf fydd ldris Fychan a'i gyfaill i ganu nifer o bennillioit Cymreig gyda'r delyn-yr hen-hen-hew wynebau etto fyth, ag yr ydym bob un yfli hollol gydnabyddus a nhw er pan yr ydym yo cofio dim, Er a welais dan y ser, 0 lawnder glewder gwledydd." # Mwyn yw telyn o fewn t$, Lie byddo teulu dedwydd Pawb a'i bennill yn ei gwrs, Heb son am bwrs y cybydd Mwyn yw can oddeutu'r tan, Morwynion glan Meirionydd." Ar ol hyu, bydd yn bryd dechreu ar waith yr Eisteddfod. Daw Gwalchmai yn miaen í draddodi beirniadaeth ar un o'r man destunau, ac yn nglyn a'r feirniadaeth, rhydd i ni araeth ddysgedig a doniol ar hynafiaeth, ardderchawg- rwydd, a chailwedigaeth yr hen iaith Gymraeg. Profir tu hwnt i un ddadl mai hi yw y dlysaf, gadarnaf, gyfoethocaf, a mwyaf barddonol o holl ieithoedd cred mai hi oedd yr iaith a leferid gan ein rhieni cyrtaf yn Eden; mai Adda "Jones" oedd ein tad; mai hi, bob yi, dipyn, fydd iaith y bydysawd; mai hi y(iyrvf iaith Jupiter a Venus, a thrigolion y Jloer; It mwy na'r cwbl, mai yr hen Omeraeg fydd iaith* preswylwyr "gwlad y gwawl." Yna, ar ol cyflwyno rhyw un neu ddwy o'r gwobrwyon nesaf, ac ar ol bloeddio a dysgwyl a dysgwyl am ryw chwarter awr am i "Ned Leban," neu "WII Sibols," neu rywun i ateb i'w enw, nes y bydd y gynuulleidfa yn dechreu diflasu ac anesmwytho; ond dim hanes am na Lleban" na "Slbols" yn d'od—vna p-elwir ac ein hen gyfaill Tal. i draddodi oration. Cawu ganddo yntau ddysglaid o stew ail dwym wedi ei goginio a la monsiellr"-slice o gywydd Tudur Aled i'r Malch-tafelI arall o gywydcl Dafydd ap Gwilym i'w Forfudd, ac o gywydd Meredydd ap Rhys i'r cwrw, yn nghyd it dernyn o'i gywydd ei hun i'r Haul, ac o'i gyf- ieithiad penigamp o Tom a Shanter, gydag ambell i binsied o spice a phupur wedi eu tafltt i mewn yma ac acw o weithiau yr urdd Dalcen Slip. Yna ar ol ton a beirniadaeth neu ddwy, gelwir Kilsby yn mlaen. i draddodi oration. Neidia yn sydyn ar ei draed, saif ar ei wadnaii mor sythed a'r polyn, fflachia tan o'i lygaid fel oddiar eingion gof; prawf yntau dri gosod- iad-yn gyntaf, Fod gan bob Cymro right 1 fyn'd o'i go' os dewisa unwaith bob blwyddyn ar adeg eisteddfod, ac na bydd hawl gan neb i'w anfon i Asylum Dinbyeh am hyny. Yn ail, Fod yr hen Omeraeg anwl ar chw'thu'r chw'thad olaf, ac mai goreu pa gyntaf iddi. druan, fyn d bellach o'r ffordd. Yo drydydd, "Dysgwc* Saesneg, chwi ladron diog; onide, cotiatt llwydion, uwd, a thatws a llaeth, fydd eich T*)L ATI P Ac felly yn y blaen hyd "Dunr gadtrof Frenines/' neu, "God bles* the Prince Q Wales," ar derfyn gwasanaeth y dydd cyutai#