Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
XLENYDDIAETH YN EI PHERTHYNAS…
XLENYDDIAETH YN EI PHERTHYNAS A'N PLANT. 003 werthfawr llenyddiaeth ydyw y bresenol. Mae y wasg wedi ymfwyhau yn ei nerth a'i dylamvad, nes y inae heddyw bron yn holl- alluog. Treiddia ei dylanwad i'r palas gor- wych a'r bwthyn tollwyd yn y wlad, a cheir papyr dyddiolynUawy llafurwr tlawd, a'i gynnwysiad mor gyfarwydd iddo ef ag ydyw i'r boneddwr dysgedig yn Senedd Prydain JFawr. Braint fawr ein broydd, a mantais ein magwrfan, ein bod yn abl gwrando llais y llyfrau a sain y cyhoeddiadau o bob math. Y inae yn syndod y fath ddiluw a arllwysa y wasg allan bob dydd a blwyddyn. Heddyw y maecyfandir mawr dysgeidiaeth yn ddar- ganfyddol i bob dyn, a gall y cardotyn ym- godi i'w fynyddoedd uchelaf, Mae pob math newyddiaduron a llyfrau yn yr ymyl, a'r ffordd i fyny yn rhwydd a rhydd. Agwedd ddymunol a deniadol i sylwi ami, yn perthyn i lenyddiaeth, ydyw yr ochr fanteisiol. Ond fel y mae y tafod yn nesgrifiad lago yn fodd- ion i fendithio a melldithio, felly mae y wasg yn beiriant melldith neu fendith, fel y myn ei llywodraethwyr. > Yn llaw llawer heddyw y mae y wasg yn allu aruthrol i ddinystrio. Xi ddylai llygad Seion Duw fod yn nghauad ac yn esgeulus o gynnyrchion swyddfa yr ar- graffydd, a'r nwyddau a werthir gan y llyfr- "werthwr. Yn neillduol dylai Cristionogion wylio y llenyddiaeth a ddisgyn i ddwylaw y plant a'r ieuenctyd. Mae ffrydiau anmhur ac halogedig iawn yn llifo allan yn ami. Mae gadael i'r plant yingyfarwyddo a'r lenydd-: iaeth sydd yn paentio llofrciddiaeth mewn gwisg arwrol, ysgariaeth mewn modd ed- mygol, hunanladdiad fel diwedd canmol- iaethu", Iledrad yn mhlith y celfau breiniol, a thwyll a melldith yn waith difyrus a bodd- haus, yn sier o'u dinystrio. Llawer i leidr a gychwynodd ei yrfa Dick Turpinaidd ar gyn- Jiyrfiad rhyw lyfr neu gilydd a ddarllenodd, a chawd llawer iawn i'r ddalfa a'r llyfrau melldigedig yn eu llogellau. Mae campau animwiol ami fachgen yp. efelychiad 6 ryw Robin Hood neu gilydd, a'i uchelgais wedi cael cyfeiriad i'r grogbren yn lie pinacl daioni gan ddarlleniad bywgraffiad arwx (?), twyll- wr, lleidr, neu lofrudd mawr. Mae yn ofyn- el gwylio yn fanwl pa fath lyfrau a brynir i'r, a chan y plant, oblegid y mae gwenwyn marwol yn mynwes llawer un. Yn Saesneg y dywedir y cyhoeddir braidd yr oil; ie, ond mid ydynt felly yn llai peryglus, gah fod ein plant ni yn awr yn dysgu darllen bono yn gynt na'u mam iaith. Nid gwell ydyw llawer -Vn llenyddiaeth gyfnodol. Pan y mae achos fiiaidd rhyw Wainwright neu Cadwaladr Jones o flaen y llys, ceir gweled ugeiniau ar nos Sadwrn o flaen ffenestr y llyfrwerthydd yn tyru, gan lygadrythu, yn blant a hen bobl; & phrynir y Police News, neu rhyw bapyr arall o'r un nodwedd, gan gannoedd o dadau a mamau er mwyn gweled lluniau ac agwedd- au yn y gweithredoedd erchyll. Fel hyn daw plant i gydnabyddiaeth a ffurf iselaf a mwyaf dinystriol y drwg. Ehoddir cyfeiriad i'w chwaeth a'u blys, ac edrychir gydag awydd angherddol bob nos Sadwrn am y papyr, a gwae fe os na fydd rhyw weithred ddych- rynllyd yn cael ei phortreiadu. Morawyddus y darllenii* ac y mwynheir y golygfeydd ynia! Ax y cyntaf yr oedd gweled y darluniau hyn yn peru anesmwythder 1 r plentyn y nos; ond yn awr gall gysgu yn dawel, er fod prudd- chwareuon a dychrynfeydd iselaf natur lygr- edig yn gronfa yn ei ben. I borthi y chwaeth hon, ymgoda llawer i brynu ffugchwecllau o'r nn natur, ac yn ami y maent mor llygredig fel y cuddia y bachgen neu y ferch y novel o olwg y rhieni, gan ymwybodolrwydd o'i hal- ogrwydd. Dysgay plant fyw, nid yn unig yn myd gwag ond yn rnyd y llygredig- aeth ddyfnaf..Camrau cyntaf y plentyn yn y byd darllenyddol a ddylent gael eu gwylied. Mae gan y wasg fwy o allu i ddinystrio ein "blodau ni nag ydym yn feddwl. Ac, yn wir, I yr ydym yii ammheus iawn a ydyw ein newyddiaduroii dyddiol ac wythnosol, fel rheol, yn ddigymmysg dda. Gymmerwch afael yn y pipyr xmrhyw ddiwrnod—y fath gonglau dti sydd ,yno. Mafe carthion llys yr heddgeidwaid ya cael eu dangos yno; mae dyfnderoedd trueni, twyll, lledrad, tor:" I .priodas, ysgariaeth, hud-ddeniad, a phobmath i o ddrwav yn cael eu croniclo, fel y mae yn peru i ni feddwl ambell ddiwrnod nad oes dim 'N ond drwg yn y byd, gan gymmaint mwy o'r drwg a godir i sylw na'r da. Nid ydyw dy- lanwad y fath bethau a hyn yn hollol iachus, ac heb elfenau niweidiol ynddynt. Mae dwy ddyledswydd fawr yn perthyn i eglwysi yr oes gyda golwg ar lenyddiaeth, set gofalu cyhoeddi a chynnal llenyddiaeth iachus ac o dueddiad daionus, a chadw y plant a'r len- yddiaeth ddrwg hyd y gellir yn mhell oddi- wrth eu gilydd. Mae si yn ein clustiau fod yin gyn ghreiriad penderfytiol yn mhlith y Pabyddion er meddiaimu y wasg, a'i throi i'w gwasanaeth hwy yn hollol. Dylai Cristionog- ion wneyd eu goreu i fynu y wasg gymmaint ag y mae yn bosibl iw dwylaw hwy, a gwylio rhag y gall dwfr y bywyd gael ei weliwyno yn llygad y ffynnon ieuengaidd. Mae Lloegr yn gwneyd llawer, ac nis gellir gosod dim purach yn llaw y plant, nac yn fwy I Ilawn o olion celfyddyd a gras, na'r British Workman, Band of Hope Review. Children's Friend, a llu ereill. Rhaid i mi gyfaddef mai prin iawn, iawn ydyw y Gymraeg o bethau o'r nodwedd hyn. Symudiad rhagorol, a gwir haeddiannol o'r gefnogaeth fwyaf ymarferol, ydyw ein Cyin- deithas Gyhroeddiadol, gan ei bod yn darparu llenyddiaeth bur a chrefyddol i'r plant. Carem weled ysgolion Sabbothol, eglwysi, a rhieni, yn gwneyd sylw o honi, a gellir ym- ddibynu ar ei holl lyfrau fel rhai diberygl i chwaeth a bywyd y plant. Rhaid i'r plant gael darllen, ac i gwrdd a'r ysbryd hwn, gofaler am bethau teilwngiddynt, yn enwedig cadwer yr HEN LYFlt o ilaenllygaid, deall, calon, a bywyd y plant. Treorci. EHOSYNOG.
Y DDIACONIAETH.
Y DDIACONIAETH. PE na byddai genym awdurdod ysgrythyrol o gwbl dros y swydd ddiaconaidd yn yr eglwys Gristionogol, mae ein hadnabyddiaeth a natur pethau yn ein rhwymo i farnu fod angen am swyddogion yn yr eglwys hono, fel pob cymdeithas arall, galwer hwy wrth yr enw a fyner. Pa un ai trysorwyr, gwylwyr, hyfforddwyr, cynghorwyr, neu yr enw ys- t grythyrol, diaconiaid. Mae cymdeithasau dyngarol, sefydliadau gwladol, a phob tfurf o lywodraeth, yn ngwledydd gwareiddiedig ac anwareiddiedig y byd, yn cydnkbod fod yn rhaid wrth swyddogion er mwyn eydweith- rediad a threfn. A yw plant y goleuni ynte yn rhwym o fod yn ffolach yn eu cenedlaeth na phlant y byd hwn. Nac ydynt, meddai pob Cristion goleuedig. Mae musgrellni ac annhrefn yn ymddangos yn fwy hagr yn y man lle y bu yr Un Mawr yn dysgu trefn nag yn un man arall. Cydnabyddwn yn rhwydd nad yw trefn wedi cyrhaedd perffeithrwydd yn ein heglwysi; ond pe na bai ynddynt swyddogion, y mae'n bur debyg y byddai sefyllfa pethau yn fwy gwrthun nag ydynt yn bresenol. Dylai yr eglwys, yn ei threfn ac yn nghywirdeb ei chyfrifon, fod yn gyfryw ag y byddai y byd masnachol yn edrych i fyny ati. Ond nid ges eisieu profioddiwrth natur pethau fod eisieu swyddogion yn eglwys Dduw i drefnu materion tymhorol ac ysbrydol y saint, o herwydd y mae ysbrydoliaeth wedi rhagofalu am hyny, ac wedi nodi y cymhwys- derau angenrheidiol i hyny mor fanwl, fel pe byddem ynfydion nid oes modd i ni gyfeil- iorni. Cawn hanes sefydliad y swydd yn Act. vi. 1—6, a chadarnhad o honi etto yn 1 Tim. iii. 8-12. Nid oes gair o son yn hanes y sefydliad fod y diaconiaid i wneyd dim ond gwasanaethu byrddau, er ei bod yn angen- rheidiol iddynt fod yn llawn o'r Ysbryd Glan a doethineb, ac felly yr oeddynt. O'r saith a neillduwyd, nid ydym yn cael hanes am ragor na dau o honynt ar ol hyny, sef Stephan a Phylip, y rhai a amlygasant eu sel, ac a wnaethant lawer iawn o waith heblaw gwas- anaethu byrddau. Myn rhai ini gredu fod Nicholas wedi c6di split yn yr eglwys, a dy- wedant heb ofni cyfeiliorni, "Fe achosodd un o'r saith diacon cyntaf split yn yr eglwysi, gan gyfodi y blaid Nicola iaidd ar ol ei enw, sef Nicolas o Antioch (Dat. ii. G)," a gadawaf i'r darllenydd farnu pa mor bell y gallai y diacori fod o'r split ddiweddaf; pan mewn gwirionedd nad oes mwy d sail dros ddweyd mai Nicholas, y diacon, ddechreuodd y blaid hono na phe dywedid mai yr ysgrifenydd oedd y gwr a adeiladodd yr arch yn y cynfyd. Ond fodd bynag, bu neillduo diaconiaid yn fendith i'r eglwys; o herwydd yn lie y grwgnach oedd yn bod yn flaenorol, y peth cyntaf,a ddywedir wedi y seiydliad yw, A gair Duw a gynnyddodd; a rhifedi y dysgyblion yn Jerusalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a, ufyddasant i'r ifydd." Felly fe welir faint bynag o welliantau mae dynion am wneyd ar y trefniadau apostolaidc1, eu bod wedi eu cymmeradwyo a'u bendithio gan Dduw. Mae rhywbeth yn llythyr Paul at Timotheus (iii. 1—12) sydd yn lled- awgrymTi, faint bynag o sw-yddi a cloniau oeclcl yn yr eglwys yr amser hwnw, mai esgobion a diaconiaid oeddynt y swyddwyr ag oedd i barhau yn eglwys Crist hyd ddiwedd amser. Onite, paham mae yr apostol yn ymwneyd cymmaint a'r swyddogion hyn, gan anughofio y lleill? Edrychwn yn awr ar gymhwysderau dia- coniaid, gan sylfaenu ein riodiadau ar 1 Tim. oni 'i iii. 8—12. Gan mai yn nwylaw y diaconiaid yr oedd arian yr eglwys i fod, yr oedd o bwys eu bod yn ddynion uwchlaw ammheuaeth mewn gonestrwydd. Yr oedd tuedd Judas at fudr-elwa, pan oedd y god yn ei ofal, wedi peru i'r apostolion fod ar eu gwyliadwi iaeth rhag syrthio i'r un amryfusedd yn y dyfodol. Yr oedd hefyd o bwys eu cael yn onest i ddweyd y gwir yn ddidderbyn-wyneb wrth gyfoethog a thlawd, a hyny yn eu gwyneb, ac nid fel y bydd y ddau-eiriog yn gwneyd— dweyd un peth yn y wyneb, a'r llall yn y cefn ond am danynt hwy, yr oedd yn eisieu eu cael yn gyfryw ag a fuasent yn dweiydy gwir yn mhob man a than bob airigylchiad. Yr oedd yn angen cael y diaconiaid hefyd yn gadarn i "ddal dirgelwch y ffydd." Nid pawb o honom sydd yn gallu rhoddi rheswm am y gobaith sydd genyiu, ac y mae rhai o honom nad ydym wedi cyrhaedd yr uchel-nod 0 fod yn iach yn y ffydd. Er hyny, credwn y dylai y diaconiaid fod yn ymdrechol i geisio deall gair Duw, fel i'w weithio allan mewn cynghorion, cyfarwyddiadau, ac yn enwedig mewn bywyd diehlynaidd, teilwng o'r efengyl. Ond i ni geisio deall yr ewyllys ddwyfol gyda ehydwybod bur, mae'n bur debyg na wnawn gamsyniadau o bwys mawr. Mae o bwys hefyd fod y rhai sydd yn ar- wain ereill yn gofalu fod eu traed ar ganol llwybr barn eu hunain. Pa nerth fyddai mewn swyddog, neu aelod cyifredin, i ry- byddio y brodyr a fyddent yn dueddol i yfed i ormodedd, tra fyddent hwy eu hunain "yn ymroi i win lawer F" Dyna gymhwysder anwyl, etto mewn swyddog yw profiad; 0 ie, profiad. Tybiodd Moses, os byddai yn gym- hwys byth i arwain y genedl o'r gaethglyd, ei fod yn gymhwys wedi cyrhaedd deugain oed, ac amcanodd at hyny; ond rhoddes Duw ef am ddeugain mlynedd arall mewn ysgol i. ddysgu profiad cyn ei fod yn addas i'r gwaith. Golygfa fendigedig o Haen gweinidog da i lesu Giist yw rhes o flaenoriaid cadftrn yn y ffydd; ond rhywfodd y mae yn cael ei swyno oddiwrthynt oil gan ddagrau gloewon yr hen Gristion yna sydd yn eu plith, ag y mae gwres haf wedicrymu ei war, ac eira llawer gauaf wedi gwynuei ben. Nid rhyfedd i'r apostol ddweyd, "A phrofer y rhai hyny hefyd yn gyntaf; ynagwasanaethant swydd diac n- iaid, os byddant ddiargyhoedd." Yn y c.ff- redin, ar a i y dibroflad sydd fwyaf awchl in, ac y mae lie i ofni fod llawer wedi eu gyru yn inhellach oddiwrth yr Arglwydd wrth fod, dwylaw ahnghelfydd yn ceisio eu troi yn ol. Hefyd, mae mwy o berygl i ddyn ieuanc godi mewn balchder (os na fydd bailast digonol yno) na dyn wedi cyrhaedd addfedrwydd oedran o herwydd mae mor hawdd cael dyn lawr wrth ei godi i fyny ag unnorddyny byd. Y mae gwragedd y diaconiaid hefyd wedi cael sylw mawr gan yr apostol; ond tir cys- segredig yw hwn i'w gerdded. Gwell gadael rhwng yr apostol ag ef. Gwyr ef y ffordd i'w drill heb ddigio y rhyw deg. Y mae yn amiwg oddiwrth y s-ylwada-u blaenorol, y dylai yr eglwysi fod yn bur ofalus pa gymmeriadau a osodant i lanw swyddau, am fod perygl wi-th neillduo personau an- nghymhwys, o ddwyn yr eglwys i drallod, helbul, a gwarth. Y mae y diaconiaid yn gyfryw ag y bydd byd ae eglwys yn gwylied eu symudiadau, a hwynthwy, fel rheol, yw y specimen a gymmerir beth yw nodwedd yr eglwys y perthynant iddi. Nid yw o un gwa- haniaeth beth fydd eu sefyllfaoedd tymhorol, uchel neu isel, cyfoethog neu dlawd, gwych ai gwael; y prif bwnc yw, beth yw eu cym- meriadau a'u galluoedd. Yr ydym wedi gweled cyfoeth, talent, a bywyd pur, yn cael eumeddiannuganyr un personau; nid mor ami ag y dymunem, er hyny, ond y maent i'w cael, er mai few and far between ydynt, a diamheu fod y cyfryw yn fendith i'r eglwys, os byddant ..yn arfer eu doethineb. Nid yw cael cyfoethogion i'r sedd fawr hefyd wedi bod bob amser mor fanteisiol i'r weiniddgaeth ag y myn rhai i ni gredu o herwydd y mae rhai o honom wedi gweled rhai ag oeddynt wedi eu heintu a chyfoeth, ac a chymhwysder i'w swyddau, yn troi llifeiriant eu dylanwad yn erbyn y gweinidog; ac felly, o gwrs, yr oedd yn llawn bryd iddo edrych am faes newydd. Nid peth dymipiol i weinidog yw meddwl fod ei ddiolchgarwch yn cael ei gyf- yngn i le mor fychan a rhyw ychydig bersonau, ¡ neu berson, o herwydd dim ond digio y rhai hyny, dyna y cwbl ar ben. Ond ni ddylai fod a fynai y diaconiaid a'r weinidogaeth, end mor bell ag y bydd cyssylltiad arianol yr eglwya yn ymwneyd ag ef, mwy nag aelodau cyff- redin yr eglwys. Y gwaith a allant hwy wneyd, ag y dylent wneyd, yw edrych ar ol trysorfa yr eglwys, cynghori y frawdoliaeth, ceryddu y beius, cryfhau y dwylaw llesg, rhybyddio y difraw, goleuo yr aav^ybodus, a byw eu hunain mor deilwng o'r efengyl, fel na fyddo lie i ammheuaeth gyda golwg ar eu cymmeriadau. Pe celem ni ddiaconiaid o'r stump yna, byddai gwell graen ar ein heg- lwysi, mwy o'n dylanwad yn cael ei deimlo gan ein gwrandawwyr, llai o bechodau yn cael eu cyflawnu, a gwell mantais i gerbyd efengyl fyned yn y blaen. Na ddigaloned neb o herwydd en^anallu "tymhorol; nid fel yr edrych. dyn yr S%ych Duw." Nid yw y ddwy hatling a dlÎflwyd i'r drysorta wedi dianc yn ddisylw; mae y cwpanaid dwfr i dderbyn ei wobr, ac y mae y cymmwynasati bychain a wnawd i frodyr Iesu i gael eu cym- meradwyo yn nydd y farn. Y mae pob an- rhydedd a braint a berthyn i eglwys Dduw wedi eu bwriadu i gyfarfod a'r tlotaf o'i mewn. Tredegar. NOAH THOMAS.
----. LLYTHYRAU RHYS Y BUGAIL.…
LLYTHYRAU RHYS Y BUGAIL. BHIF XV. ANWYL OLYGYDD,—Y mae cael tesun yn ffurfio rhan b'wysig i bregethwr tuag at gael pregeth, ao y mae testun yn bwysig i minnau tuag at gael llythyr. Y mae digon o destunau j'w caeI; ond pa destun i'w ddewis, dyjoa'r cwestiwn. Beth a feddyliech o FALCHDER, Mr. Gol ? Os na wna'r tro, gyrwch air yn brivate i'm hysbysu o hyny, ac av/grymweh destun eich hunan, ac yna mi a ymboenydiai gyda hwnw. Os nad yw Rhys yn camgymmeryd yn fawr, y mae cymmaint o eisieu ysgrifenu ar hwn a dim yn ein gwlad, ac yn y gwledydd o ran hyny. Nid oes eisieu i neb fyned yn mliell iawn er cael prawfion o'i fodolaeth. Y mae lie i ofni y gellir dweyd am y rhan fwyaf o honom, meibion Adda, fel y dywedir yn yr Hen Lyfr am y gair, Y mae balchder yn agos atom, yn ein genau, ac yn ein calon;" a. hwnywygallu a ddymchwelodd anrhydedd dyn; ond y mae genym le i ddiolch nad yw yn allu llywodraethol yn mhob calon. Dyna lie y mae'n allu poenus, pan y mae yn llyw- odraethu dynsawd—pan y mae yn amlygu ei hun i raddau uchel yn ngeiiiau ystumiau, ac ymddygiadau ereill personau neillduol. Y balch a.'r hunanol ydynt y niwyaf poenus 6 fodau isloerawl. Y maent yn beryglus i ystumog personau ystyriol; y maent mor anhalw-dd eu goddef. Y mae cam-gymmer- iadau pwysig yn cymmeryd lie gyda golwg ar falchder. Weithiau ystyrir dyn yn falch pan nad yw felly; a rhoddir compliment i ddyn ei fod yn ostyngedig pan, hwyrach, mai'r balch- af ar y ddaear, ydyw. Daw pobl i ffurfio barn gywiracham bethau by and bye. Daw adeg pan y gwelir mewn gwirionedd y rhagor rhwng y balch a'r gostyngedig; rhwng yr hwn a lywodraethir gan hunanol- deb a'r hwn a lywodraethir gan ras. Prysured yr adeg hono yn fuan iawn. Byw yn hir yn yr un gymmydogaeth a llawer a lywodraethir gan yr egwyddor gas hon sydd gospedJLgaeth ynwir. Y mae Rhys, yn mro'r defaid, yn cael gwared da oddiwrth y teulu, er ei fod yn gwybod eu bod yn ffynu. Y mae balchder yn ymddangos mewn gwa- hanol ffurnau yn mysg dynion.Veithiauyn y geiriau; bryd arall yn yr ymddygiadau; bryd arall yn y gwisgoedd; bryd arall, a'r rhan amlaf, yn y cwbl ar unwaith. Anami y mae_ yn angenrheidiol cael mwy na hanner dwsin o i eiriau na ddengys y balch pwy yw. Adnabyddwch ef gryn bellder o ffordd weith- iau wrth osgaw ei gorff; a dengys ei wisgoedd gyda ffyddlondeb, weithiau, nodwedd ei ddyn oddimewn. Sieryd y gostyngedig yn ami yn wrol; ond sieryd y balch yn rhodresgar. Gwisga'r gostyngedig yn brydferth ac yn ddymunol; ond amgylchynir y balch a gau- addurniadau mympwyol. Caria y balch ei fodolaeth o le i le, fel dyn yn cario basgedaid o wyau, ac ofn eu tori; cerdda'r gostyngedig gyda naturioldeb ac urddas yn wastadol. Nid cyfoeth a safle uchel yn y byd bob amser sydd yn nythle i falchder; nage. Dichon mynwes y cardotyn, sydd yn cael ei chuddio yn an- mherffaith a charpiau, fod mor llawn o falch- der a'r fynwes hono sydd yn dysgleiriaw gan addumiadau amherodrol. Gall trigiannydd y bwthyn dystadlaf yn ngwlad y bryniau fod mor falch, a balchach fil waith, na thrigian— nydd y castell breninol. Y mae yr iselaf o cleulu dyn yn mhob ystyr, trwy ddvlanwad pechod, yn alluog i fad yn falch a hunanol, ond yn sicr y mae dyn