Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ACHOS T WEDDW A'R TRI PHLENTYN 1 YN LLWYNPIA. Derbyniasom gyda diolchgarwch y symiau can- lynol at yr achos hwn:- ze s. c. Mr E. LI. Jones, Upper Bangor 0 2 0 David Roberts, Dolywem 0 2 0 Mae ereill hefyd wedi addaw. Bydded y cyf- «illion mor garedig a chyflawnu eu haddewid cyn lir. GOL. Y SEBEN. t TALIADAU. Derbyniwyd taliadau oddiwrth,—R P Cilfowyr, TE Bwlchygroes, D W Newport (Pem.), J G Glyn- derwen, J T Whitland, J W Porthfield, H W Tyn-y-Braich, T L Treorky, E P Blaenavon, R D Green Hill, I W Pontypridd, H J Pontarddulais, A W Llansantffraid, C J Brynhyfryd, L J Four Crosses, H W Nantmelyn Colliery, D S Saunders- foot, D R Good wick, H J Tynewydd, T J Gadlys, R T Began Farm, J P Bristol, W E Pontycymmer, T C T Landaff, J J Belan, J J Seacombe, D D Alltfelen, W R Pwllheli, R E Bryn, H J W London, T J Danypentre, G H Garn, J R W Fox- hole, G H Ruthin, T L Penybryn, W M Aberys- twyth, T B Moleston, J T Windy Hill, W B Blackwood, E D Bryn Farm, T M J Tredegar, J T Libanus, J T Canton, J E J Hirwaun, D H Dowlais, T G Penrhiwgeingen, T D Tongwynlas, JJ Wenvoe, J J Lantwit, E M St Mary Church, J A D Waunarlwydd, W B Ferryside, M R Llan- rwst, H P Cemmaes, W H R Gellywen, D D Ddol, M M Plasbach, J J Dinas Cross (Pem.), J H Uhyndaston Fawr, J D Plaspant, D W Duckpool Farm, W M Michaelstone-y-Vedw, J H Loughor, VM R W Cefncoedycymmer, T J Laleston, W W Merthyr, I T Ffosyrhyddod, J L Bristol, E H Frongoch, M P Penslate, W J Port Dinorwic, C S Blaenycwm, H & S H Liverpool, E W Ysgubor Newydd, H R E New Wells, R W Llaneilian. AT T GOHEBWYB.—Dylai y gohebiaethau fod yn Ilaw Mr Jones, Feliufoel, erbyn boreu dydd Llun a'r hanesion crefyddol fod yn y swyddfa erbyn boreu dydd Mawrth, cyn y gellir gicrhau lie iddynt yn y SBBEN am yr wythnos hono. Danfoner pob goheb- iaeth i'r Swyddfa fel hyn,—Editor of SEREN Onrnu, Carmarthen. a'
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. Dydd Llun diweddaf, torodd tan ar- sgwydus aliau ya Philadelphia, America, a dinystriwyd a'nryw dai. Bernir fod y golled yn 1,000,000 o ddoieri. Boreu dydd Llun diweddaf, bu farw inerch fechan, pedair blwydd oed, o'r enw Margaret Jane Edwards, merch David Edwards, Heol Fawr, Dowlais, o effeithiau llosgiadau a dderbyniodd pan oedd hi, a merched bycbain ereill, yn chwareu a'r tan mewn ystafell y Dublin Ale and Porter "Stores. Torodd tan allan tua pbump o'r gloch boreu dydd Mawrth diweddaf yn chwareudy yr Elephant and Castie, Llundain a chyn pen ugain myned ewympodd y cen i fewn. Xn fuan rhoddodd y ftiuriau ti'ordd, a "chydiodd y tan yn ngorsaf Eheilffordd Llundain, Chatham, a Dover. Lywydd- wyd i attal yr elfen ddinystriol erbyn saith o'r gloch ond yn yr amser byr hwn, bernir i werth £7,000 o eiddo gael ei ddinyatrio. Er effeithio gwelliaat yn masnach y tin- -plate yn Neheudir Cymru, awgryma goheb- ydd yn y South Wales Daily News y priodoldeb i'r gwneuthurwyr i wneyd cytundeb a'u gilydd i leihau anfoniad allan platiau yn ol 30 y cant. Lleihai hyn y gwneuthuriad 25,000 o flychau yr wythnoa; a barnai y byddai rhagor o alw, a gwell prisoedd. Yegrifena y Parch. T. Richard, cenadwr y Bedyddwyr yn China, i'r Baptist yn mghylch y newyn yn y wlad hono. Dywed fod dyoddefiadau y trigolion mewn rhai parthau tu hwnt i'w desgrifio, a cheisia gymhorth arianol er lleddfu ychydig ar adfyd y bob]. Ymddengys, yn ol ei lythyr, mad oedd y newyn diweddar yn India yn deilwng o'i gymharu a'r newyn presenol yn Obina. Deallwn nad yw yr hysbysiad a welir mewn colofn arall, gyda golwg ar attaliad tebygol Gweithiau Dur Landwr, yn ffaith wirioneddol. Y mae yn debyg fod y rheil- iau wedi eu codi o rai o'r pyllau, a chafodd y gweithwyr rybydd ond yr amcan oedd, .dwyn oddiamgylch drefniadau newyddion. Y mae gostyngiad yn yr huriau .wedi cym- ineryd lie hefyd, yn amrywio o 10,7t a 5 y 2 •cant. Dydd 'Mawrth diweddaf, cynnaliwyd engholiad ar gorff tri o'r personau a gollasaiit eu bywydau drwy suddiad yr Eurydice. Yn ol y dystiolaeth a roddwyd, ymddengys fod yr hin yn deg ychydig cyn i'r ystorm gyfodi, fel na chafodd dwylaw y llong anffodus un rhybydd o'i dyfodiad. Yr oedd amryw o'r dwylnw ar y dec ar y pryd, a phan ddechreuodd y storm, gorch- ymynwyd hwy i fyrhau yr hwyliau; ond mor beryglus oedd y gorchwyl, fel y gorch- ymjnodd y cadben hwynt i ymattal. Dymchwelodd y llong yn fuan wedi hyny. Y ddedfryd oedd fod y tremgedigion wedi -eolli eu bywydau, drwy foddi yn ddam- weiniol, ac nad oedd un bai ar y cadben a'r swyddogion ereil!.
LLOEGR A RWSIA. ,I
LLOEGR A RWSIA. MAE yr awyrgyleh wleidyddol y dyddiau diweddaf hyn yn llawn o nwyau tanllyd, ac y mae yn agored i ffrwydriad unrhyw fynyd. Er fod y cytundeb heddweh rhwng Twrci a Rwsia wedi ei gadarnhau, a'i anfon i boll lywodraethau rnawr Ewrop, ae er fod Ewsia wedi cael digon ar ymladd, etto y mae yn ffaith anwadadwy ei bod yn darparu ar radd eang ar gyfer rhyfel arall. Yr oedd Rwsia yn awyddus i gludo ei milwyr yn ol o Twrci gyda'r brys mwyaf, dros y mor, a gofynai yn y cytundeb am ganiatad y Suitau i wneyd hyny o borthladd yn Mor Marmora, ac yn ymyl Caergystenyn ond gwrthwynebai llys-genadwr Lloegr hyny ac am hyny, mae y gorchymyn am eu dyehweliad wedi ei dynu yn ol. Gofynai Iarll Derby i Lywodraeth Rwsia, A oedd anfoniad y cytundeb i lywodraethau Ewrop yn gyfystyr a'i roddi yn gyflawn o flaen y G-ynghorfa, ac atebbdd Rwsia, meddir, nad oedd. Dywedir fod yr atebiad diweddaf a dderbyniwyd o Hwsia yn llawer mwy y anngha-redig i Loegr n&'r rhai blaenorol; ac y mae rhai o'r newyidiaduron Rwsiaidd yn galw yn uchel am ymosodiad ar India. Dywedir fod y teimlad rhyfelgar yn erbyn Lloegr yn cryfhau bob dydd yn Rwsia, a gellir dweyd yr un peth am ddosparth yn Lloegr. Ofnir yn awr nad oes un gobaith am i'r Gynghorfa gyfarfod yn Berlin, er fod rhai etto yn dal i obeithio y daw pethau yn iawn yn y diwedd. Nid ydym ni yn dyfalu beth all fod v rhesvnn a a yr ansierwydd parhaus hwn syddyn tfynu yn nghylch heddwch. Os nad yw balchder rhai o'n hawdurdodau ni yn rheswm digonol. Yn ein barn ni, y mae Rwsia wedi bod yn hynod o gymmedrol yn ei hawliau ar Dwrci, ac y mae ymddygiad Toriaid LIoegr yn taflu pob rhwystr ar ffordd cadarnhad yr heddwch hwn yn weitbred annheilwng. Er dechreu y rhyfel, yr ydym wedi gwneyd pob peth a allem, heblaw cyhoeddi rhyfel, i ffyrnigo Ewsia, fel, os sicrheir heddwch etto, nid arnom ni y bydd y bai na chymmerai rhyfel Ie. Y mae ein newyddiaduron Toriaidd wedi bod &'u boll egni yn pregethu rhyfel drwy yr holl dir, ac yn awr y mae yr un gwaith yn myned yn mlaen. Mor bell ag y gallwn ni farnu oddiwrth lyfrau g!as y Llywodraeth, y mae Rwsia wedi dangos pob parodrwydd i gyfarfod Lloegr yn deg a chyfiawn ar y cwestiwn hwn; ond gresyn yw meddwl, nad oes dial a foddlona dosparth o'n cyd- wladwyr ond rhyfel a Bwsin. Mae hyn yn golygu dyoddefiadau mawrion; tywallt gwaed lawer; lluaws mawr o weddwon ac amddifaid; codiad yn y trethi; masnach wael; gwario arian lawer; a chynhyrfu Ewrop drwyddi; ac i beth? Wel, mewn gwirionedd, i geisio dial y Tyreiaid ar Rwsia, o herwydd i'r olaf eu gorchfygu! Caergystenyn fydd asgwrn y gangen. Os cyhoeddir rhyfel gan Rwsia yn erbyn Llcegr, y peth cyntaf a wna Rwsia a'i mil- wyr fydd meddiannu Caercystenyn; yna bydd ein llongau rhyfel niyn debyg o wneyd eu goreu i rwystro hyny. Achosa hyny alwad am ein milwyr i fyned allan, a dyna y cwn rhyfel wedi eu gollwng yn rhydd, fel na ellir gwybod pa le y terfyna. Credwn yn ddiysgog, er mor boblogaidd yw y syniad o ryfel yn awr yn mhlith llawer yn y wlad, y gwna y wlad, fel gwlad, benderfynu o blaid heddwch. Nid oes genym unrhyw ammheuaeth nad oes yma fwyafrif mawr drwy y deyrnas yn tfafr heddwch, ac mai gwae y prif-weinidog a lusgo y wlad i ryfel, er y gall y cyfryw dybied fod hyny yn bob!ogaidd ar y pryd. Nid oes dim amser i golli; os ydym am gadw y deyrnas o ryfel, dylid deisebu y Senedd, a gwneyd i bob aelod Seneddol deimlo ei fod yn peryglu ei sedd drwy bleidio rhyfel. Beth all fod yn fwy ffiaidd yn ngolwg pob dyn da na rhyfel; y peth sydd mor groes i egwyddorion Tywysog Tangnefedd, a holl ddysgeidiaeth y Beibi ? Yr ydym yn fa!ch o'r ffaith fod Ymneilldu- aeth Prydain, ar y cyfan, yn iach ar y pwcc hwn ae y par glywed ei lief etto ar y mater.
Iymater.. SUDDIAD LLONG.
y mater. SUDDIAD LLONG. PRYDFAWK Sul diweddaf, am oddeutu pedwar o'r gloch, cymmerodd le un o'r trychinebau alaethus hyny a welir yn awr ac yn y man yn tywyllu hanes ein gwlad. Yr oedd un o'r llongau rhyfel, Eurydice wrth ei henw, ac un o'r hen wooden walls of England," fel eu gelwid gynt, yn hwylio yn y sianel, heb fod yn mhell o'r Isle of Wight, pryd y goddiwedd- wyd hi gan storom enbydus o wynt ac eira, ac y dymchwelodd, gan gario gyda hi i'r gwaelod dros dri chant o fywydau. Yr oedd ar y bwrdd 330 o eneidiau; achub- wyd pump o honynt, ond bu tri farw ar ol hyny, ac nid oes yn awr oud dau i adrodd yr han(-,i rhjfbad ac ofaadwy hwn. Gresyn meddwl am v fath alanastra ar fywydau dynol mewn ychydig eiliadau. Ni wyddis otto, ac nid yw yn debyg y deuir byth i wybod, beth oedd yr achos gwirioneddol o'r trychineb; ai diofalwch y llywydd, neu rywbeth arall. Ymddengys fod y llestr dan lawn hwyliau, yr hyn oedd yn bur beryglus ar yr achlysur, pan oedd argoelion mor amI wg o storom enbydus. Ond os diofahvch fu yr achos, y mae y rhai oedd yn gyfrifol wedi gorfod talu eu bywydau am dano. Mae diofalwch wedi bod lawer gwaith cyn hyn ar y pwynt yma, a gall fod hyn wedi bod y tro hwn ond ni ddylid condemio yr un, rhag gwneyd cam achotfa- dwriaeth y trueiniaid sydd wedi boddi. Oymmer ymchwiliad le cyn hir i'r mater, a chawn wedi hyny yr oil o'r tystiolaethau a ellir gael ar y pwnc. 11 Y mae yr alwedigaeth o forwr yn un an. rhydeddus iawn yn ein gwlad ni, er ei bod yn un wir beryglus. Yr ydym wedi meddwl lawer gwaith nad yw ein morwyr yn derbyn yr addysg a'r ymarferiad a ddylent gael. Gwir fod arholiad manwl yn eymmeryd lie cyn y ceir hawl i fod yn swyddog ar fwrdd unrhyw lestr. Mae yr un peth, i raddau, mewn eyssylltiad a'n Ilynges ond mae lie i ofni fod dynion an- nghymmwys yn cael y llywyddiaeth. Gafyniad pawb yw, A oes dim modd attal y trychinebau alaethus hyn ? Ychydig flynyddau yn ol, dymchwelodd y Hestr Captain yn y Bay of Biscay, a phum cant o fywydau ar ei bwrdd. Ychydig wyth- nosau yn oj, rhedodd un o'n llongau rhyfel mawrion ar y tir yn mdr Marmora, a da i ni nad oeddym mewn rhyfel a Rwsia y pryd hwnw, onide tebyg yw y collasem hono. Ac yn awr, wele y trychineb ofnadwy hwn etto yn svnu y wlad. Beth sydd yn bod
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. DYDD IAU, Mawrth 21ain.—Cjmmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei eisteddle am bump o'r gloch. Y Oynnadledd ar y OlVcstiwn Drvyreiniol, Traddododd Arglwydd Stratheden ei araeth addawedig ar Gwestiwn y Dwyrain. Wedi i Iarll Granville wneyd rhai nodiadau ar yr araeth, yr hon, yn ol ei farn ef, oe-id yn hollol allan o le at yr adeg bresenol, siaradedd Arglwydd Ham- mond, Arglwydd Dunraven, a Due Argyll, ar yr un pwnc. Rhoddodd Iarll Derby wedi hyny adroddiad o'r modd y safai pethau. Dywedai ei fod newydd anfon cenadwri i St. Petersburg-h, yn gofyn pa un a oedd y negeswriaeth a anfon- wyd gan Rwsia at wahaaol Alluoedd Ewrop i gael ei deall fel yn gosod allan fod yr oil o deleran y cytundeb heddwch rhwng Rwsia a Thwrei i gael eu gosod ar fwrdd y Gynnadtedd? Os oeddyut, dyna yr oil a ellid ofyn. Os nad oeddynt, nid oedd efe yn gweled y priodoldeb o ddadlu y mater. Gallai fod materion napherth- ynent ond yn unig i Rwaia a Thwrci ond dylai yr oil o'r cytundeb gael ei osod o flaen y Gynnad- ledd, er mwyn penderfynu pa beth, a pha beth na pherthynent iddynt. Yna rhoddwyd y mater heibio, ac wedi myned drwy waith y Tf am y dydd, gohiriodd eu harglwyddiaethan. DYDD GWBNER.— Oymmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei sedd am bump o'r gloch. Oyf. lwynodd Duo Richmond a Gordon fesur er di- wygio Deddf Addysg yn Ysgotland. Dyben y mesur, yn benaf, yw dwyn, gydag ychydig gyf- newidiadau, ddarpariadau Deddf Addysg Lloegr i weithrediad yn Ysgotland. Ni fu un ddaddl ar y mater, 800 wedi ychydig siarad gyda golwg ary P wyIlgor Neillduol cynnygiedig ar Ddeddf Gwrthgodiad, gohiriodd y Ty. DYDD LLTTN. — Mewn atebiad i Arglwydd Sudeleyj darfu i Arglwydd Elphinstone gadarn hau y newydd gyda golwg ar suddiad y gadlong- Eurydice, tu allaa i Spithead. HyBbysodd hefyd fod yr oil o'i swyddogion wedi eu dewis gyda gofal priodol, ao ystyrid hwynt yn ddynion ag oeddynt yn deall eu gwaith yn dda. Yna bu ychydig ddadl gyda golwg ar ddiogel. wch porthladd Dover, pe torai rhyfel allan, a chymmeradwyai Iarll Granville fod y gweith- feydd a gymmeradwywyd gan y pwyllgor neillduol i gael eu cario allan. Dywedai Iarll Beaoonsfiela fod porthladdoedd ereill yn gofyn sylw, a chan y costiai y cynllun a gymmeradwy wyd i'w gario allan yn Dover £ 1,000,000, aid oedd efe yn oanfody gellid argymmeryd y gwaith yn sefyllfa arianol bresenol y wlad. Yna cytua wyd ar fod y papyrau yn dal eyesylltiad a phorthladd Dover i gael eu gosod gerbron. DYDD MAWRTH—Mewn atebiad i Iarll De la Warr. dywedai Arglwydd Elphinstone fod 299 o wyr ar fwrdd y Hong Eurydice, a 22 o uch- swyddogion. Yna bu dadl ar fesur yr Esgobion, ail ddarllen. iad yr hwn a gynnygiwyd gan Arglwydd Beanoha.mp. Cynnygiodd Arglwydd Houghton weiliant, sef fod y mesur i gael ei ddarllen yn mhen chwech mis, gan nad oedd efe o'r farn nad oedd angen ychwanogu rhif yr esgobion. Cafodd y mesur, fodd bynag, ei ddarllen yr ail waith, a gohiriodd y Ty.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. DYDD IAU, Mawrth 21.—Cymmerodd y Llef- arydd ei sedd am bump o'r gloch. Gohiriwyd y ddadl ar Fesur Cau y Tafarndai yn yr Iwerddon hyd ddydd Llun. Mewn atebiad i Syr George Campbell, dywedai Canghellydd y Trysorlys fod y gwrthryfel yn nhrefedigaethau Groeg wedi tynu sylw y Llyw- odraeth, a'u bod yn gwneyd yr oil a allent gyda Llywodraeth Twrci er attal unrhyw beth i gym- meryd lie ond yr hyn a ystyrid yn filwriaeth wareiddiedig a rhesymel." Rhoddodd Mr Watkin Williams gyfres o gwestiynau i'r amean o gael gwybodaetk o'r amcan o gadw y llynges Brydeinig yn M6r Mar- mora. Dywedai Canghellydd y Trysorlys nad oedd un anhawsder i ateb y ddau gwestiwn cyntaf o eiddo Mr Williams, sef at ba ddyton y cedwid llongau Prydeinig yn Mor Marmora, a pha un a oedd en mynediad drwy Gulfor y Dar- danelles wedi ei wneyd yn ngwyneb gwrthdystiad o eiddo y Sultan. Yr oedd y cwestiynau hyn. wedi en hateb amser maith yn ol-y diweddaf mor bell yn ol » Chwefrcr 13eg. Gyda golwg ar y trydydd cwestiwn. sef pa un a fwriedid cadw., cadlongau Prydeinig ya M6r Marmora, nis gallai ef lai na gwrthdystio yn erbyn gosod y fath. gwestiwn ar yr adeg bresenol. Yna rhoddedA Mr Watkin Williams rybydd, y byddai iddo ef etto, pan ymffurfiai y Ty yn bwyllgor cyflen- wadol, godi yr un cwestiwn. Yna ymffurfiodd yTy yn bwyllgor er ystyriedi mesnr Ffyrdd a Phontydd yn Ysgotland, II- phasiwyd rhai adranau. Wedi i rai pethau ereill fod dan sylw, gohir- iodd y Ty am ddeng mynyd i nn o'r gloch yn g boren. DYDD GWKNER.—Wedi i rai cwestiynau gael eu rhoddi a'a hateb, ar gynnygiad i ymffurfio ya bwyllgor c flenwadol, cynnygioid Syr J. Lubbock, fod sefyllfa y ddeddf rhwng gwa- hanol genedloedd, mewn perthrnas i hawliau morawl rhyfel-bleidiau, yn anfoddhaol, a" yrF. galw am ystyriaeth ofalus y Llywodraeth. Mews araeth hyawdl, awgrymai ddymuniad ar fod Mynegiad Paris i gael ei fabwysiadu, fel ag i am- ddiffyn eiddo perionol ar y mor yn amser rhyfel. Cefcogwyd ei olygiadau gan Mr Gourley, yr hwn. a awgrymai y priodo deb o gyflafareddiad rhwng; gwahanol lywodraethau tramor, i'r dyben a sefydlu, fel rheol cydrhwng cenedloedd, fod eiddo. personol yn rhydd o gael ei gymmeryd i fyny ac y m6r. Tybiai Syr William Harcoart fod y cynnyg YŒ llawn o berygL Nid oedd efe yn credu y gallai un wlad fwynhau heddwch masnachol a rhyfel cenedlaethol yr un pryd. Siaradodd amryw ar y mater end y diwedcf fu i'r cynnyg gael ei wrthod heb ranu y Tt. Dar lien wyd Mesur Gwrthgodiad ar dir a mor yr ail waith, a gohiriodd y Ty am chwarter wedi un o'r gloch. DYDD LLUN.—Cynnygiodd Mr Snllivan ohiriad, er ei aUuogi ef i ddwyn gerbron y Ty araeth y Barnwr Keogh, yn mha un y condemniai ei Ar- glwyddiaech gynnaliad Dydd Gwyl St. Patrick. Eglurodd Mr Lowther fod y Barnwr Keogh wedi yagrifenu, i'r perwyl mai nid cynnaliad yr wyl a ystyriai efe yn ddiraddiol, ond y banieri a gerid, yn dwyn y geiriau, Merthyron Manchester," Iwerddon i'r Gwyddelod," Telyn heb y goron," &c. Wedi dadl frwd a bywiog, tynwyd y cynnyg yn ol. Gwrtho Jodd CaDghellydd y Trysorlys ateb dao. ofyniad a roddwyd gan Mr Oourtney o berthynas i gytandeb San Stefano, ond dywedai y gosodid ei gynnwysiad gerbron y ty dranoeth. Mewn atebiad i Mr Goschen, dywedai Mr Smith, mewn llais crynedig, fod yr oil o'r hys- bysiaeth a feddai y Llyngeslys o berthynas i suddiad yr Eurydice wedi ei anfon i'r newydd- iaduron. Oyrhaeddodd y llong Isle of Wight ar eidychweliadofordaith lwyddiannus yn India Orllewinol; ac yn ol yr hyn a eliid farnu oddi- wrth yr hwylbreni. yr oedd y morwyr yn y weithred o ostwng yr hwyliau pan darawwyd hi gan y cwthwm o wynt. Yr oedd yn ddrwg- ganddo hysbysu aad oedd yn debyg fod rhagor o'r dwylaw wedi eu hachub. Yna ymffurfiodd y Tyyn bwyllgor ar fesur Gwrthgodiad (Mutiny). DYDD MAWBTH,—Mewn atebiad i Syr G-. Bowyer, dywedai Canghellydd y Trysorlys fod y Llywodraeth wedi prynu pedwar gwnfad, 10C)i tunell. Adeiladid llongau gan alluoedd tramor nad ellid eu tyllu gan ynau 35 a 38 tunell. Nid oedd un bwriad i wneyd gwn 200 tunell, ao nid oedd efe yn gwybod fod un llong yn y gwasanaeth oyhoeddus yn alluog i gario un o'r maintioli hwnw. Wedi i'r cyfnewidiadau a fwriedid wneyd ya, nhrefniadauBwrdd Addysg Ysgotland fod claa sylw, ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor er ystyried darpariadau y Mutiny Bill. Yn yr eisteidiad hwyrol, cafodd y Ty ei gyfrif allan.
CYDNABYDDIAETH 0 DDIOLCHGAB-WCH…
CYDNABYDDIAETH 0 DDIOLCHGAB- WCH O'R TABERNACL, MERTHYR. MEISTRI CYHOEDDWYR,— Byddwn yn dnft diolchgar am ychydig ofod er cyflwyno eia. diolchgarWch mwyaf diffuant i'r personau atr, eglwysi canlynol a gofiasant am danom ym awr eini eyfyngder t a. e. Mr Caleb Jones, Birmingham 1 0 Undeb y Bedyddwyr Seisnig 6 12 0 Salem, Briton Ferry, drwy law Mathetes 0 14 & Ebenezer, Aberafon, drwy law Waldo lOG • Oddiwrth y Parch. J. Vaugan, Ainon 0 6 0 Drwy law y Parch. John Lloyd, Ebenezer 1 10 0 Howell Lewis, Ysw., Merthyr 10 0 Cyfanswm £ 12 26 Pwy bynag sydd yn gwybod rhywbeth am Ferthyr, gwyr fod y gymmydogaeth yr ydym ni yn byw ynddi wedi dyoddef yn helaethach nag unrhyw ran arall o'r dref; Ond gan era bod yn amddifad o weinidog, yr ydym wedi derbyn llai o sylw a chymhorth na neb o'n hamgylch. Nid ydym yn achwyn oblegidL hyn, yn hytrach yn diolch yn wresog am a gawsom. Y mae genym wir dlodion yn ein mysg y byddai yn dda genym, fel swyddog- ion, weinyddu tosturi dros y rhai tosturiol iddynt. Y1- eiddoch yn ddiolchgar, Dros yr eglwys, R. LEWIS, Ysg. G:T Cyfeirier:—R. LEWIS, Williams' Town, Merthyr Tydvil.
[No title]
I TABOR, BRYMMAWI^—Cynnaliodd yr eglwy. hon ei chyfarfodydd easglu chwarterol Sal, Mawrth 24ain, pan ein gwasanaethwyd gan y Parch. T. T. Davies, Dowlais. Cafwyd cyfarfod- ydd rhagorol, a chasgliadau da, ag ystyried tlodi yr amseroedd. IhB FOD AR LAW.—Rhybyddir y cyhoedd rhag prynu Peiriant Gwnio rhad, o wneuthuriad gwael, a gynaygir yn ami gan werthwyr. Gwell prynu un o wneuthuriad da, a gallwn gymmeradwyo 11 Tayior's Patent" fel ua rhagorol o dda. Anfoner am Are* speetus at Taylor's Machine Company, 97, Cheap- side, London.