Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
FLORILINE !—FOB THE TEETH AND BREATH;—A few drops of the liquid "Floriline' sprinkled on a wet tooth-brush produces a pleasant lather, whicb thoroughly cleanses the teeth from all parasites or impurites, hardens the gums, prevents tartar, stope decay, gives to the teeth a peculiar pearly-whiteness, and a. delightful fragrance to the breath. It removes (J lunpleasant odour arising from decayed teeth or tobacco smoke. "The Fragrant Floriline," being composed in part of Honey and sweet herbs, is deli. cious to the taste, and the greatest toilet discovery of the age. Price 2s 6d, of all Chemists and Perfumers Prepared by Henry 0. GALLUP 493 Oxford street, Lenden. FOR THB COMPLEXTON'-HAGAN'S MAGNOI A 1 ALM gives a pure blooming complexion, and restores youthfnl beauty. Its effects are gradual, natural and pe feet. It removes redness, blotcLes, pimples, tan. sunburn, and freckles, and makes a lady of thirty appear but twenty. The Magnolia Balm makes the skin smooth, and imparts a fresb appearance to the countenance. In use in America toir the last twenty-five years. S,)Id by all Cheirists and Perfumers, in 1 ottles at three shillings. EnrOl ean Depot, 266, High Holborn, London. I
MARWGOFFA.
MARWGOFFA. MR. JAMES WILLIAMS, CWMAFON. UN o frodyr sir Benfro oedd ein brawd, ac un o blant Penuel, Dyfed. Bedyddiwyd ef Ebrill 28ain, 1838, gan y Parch. Jas. Thomas. Oddiyno symudodd i Dowlais, ac ymaelododd yn eglwys Caersalem. Nis gwyddom yn iawn faint fu ei arosfa yn Dowlais, ond bu am rai blynyddau. Bu yn ddigon hir yno i ffurfio anwyldeb annhoredig rhyngddo ag eglwys barchus Caersalem. Nis gallai J. W. ganmol unrhyw eglwys heb ddweyd ei "bod bron cystal eglwys ag hen eglwys Caersalem, Dowlais." Dull syml ac eglur profiad, fedd- yliem, o ganu clod a rhoi parch. 0 Dowlais arweiniwyd ein brawd i Gwmafon. Symud- odd yma yn agos i adeg cychwyniad y Rail Mill, rhyw ddeg ar hugain o flynyddau yn ol. Ymaelododd yn Penuel-gwnaeth ei artref ynddi. Gwasanaethodd y swydd ddiaconaidd am dros ugain mlynedd. Ymdrechodd ym- drech deg, gorphenodd ei yrfa, cadwodd y ffydd, ac aeth, fel y credwn, yn ddiogel a thangnefeddus i dir y bywyd draw. Bu farw Ion. 19eg, 1878, yn 56 mlwydd oed. Mae hanes mordaith ei fywyd yn fyr, a gallwn ei osod allan mewn ychydig eiriau fel y canlyn: -0 Penuel, Dyfed, i Gaersalem, Dowlais; o Gaersalem, Dowlais, i Penuel, Cwmafon; ac o Penuel, Cwmafon, I Gaersalem, y gogoniant, Cartref yr anglion glan, Tref yn llawn o ddwyfol urddiant- Ardal y drag'wyddol gan; Ie, breinlys y Jehofa— Palas aur ein Ceidwad ni, Gwlad a'i hawyr yn hosana, Nefoedd, cyngherdd Calfari. Fel i bob gwir Gristion arall, yr oedd yn perthyn i James Williams rai nodweddion ag sydd yn deilwng o gael eu coffa a'u hefelychu genym. Llawer o dafodau sydd wedi eu cloi, ond y mae tafod esiampl yn aros heddyw mor rydd ag erioed. "Er wedi marw, y mae efe yn llefaru etto." Yr oedd J. W. yn ffyddlaiun a gweithgar.- Yr oedd wrth ei fodd gyda chrefydd. Nid mewn rhyw bethau dewit,iedig o'i eiddo ei hun yr oedd i'w weled, ond yn y cyfan o grefydd. Nid oedd yn cydnabod bach a mawr mewn pethau crefyddol. Os byddai crefydd yn galw, yr oedd J. W. ar unwaith at ei waith. Yr oedd eyfarfodydd y Sabboth, cyfarfod yr wythnos, ymweled a'r claf a'r tlawd, a chy- suro'r galarus, y naill fel y llall, unrhyw bryd a phob pryd, yn cael yr oil o J. W. at eu gwasanaeth. Bu drwy ei fywyd yn weithiwr caled mewn ystyr dymhorol; gwyddai yn dda beth oedd bwyta ei fara drwy chwys ei wyneb, a gwyddai hefyd mai "treiswyr oedd yn ei chipio hi gyda chrefydd. Yr oedd ei enaid oil yn ei grefydd, a'i grefydd yn llanw ei holl enaid. Yr oedd yn grefyddwr round. Yr oedd yn bleidiwr selog i'r ysgol Sabbothol. -Gallem feddwl fod yr ysgol Sabbothol y tu allan i gylch cyfammod eglwysig llawer o'n haelodau, ond nid oedd felly gyda J. W. Un a athrawon yr ysgol Sabbothol ydym ni yn ei gofio, a mwy na thebyg ar hyn o bryd, mai efe oedd yr helaethaf ei wybodaeth ysgryth- yrol o holl athrawon ysgol Sabbothol Penuel. Darllenai fwy o'i Feibl nag un llyfr arall. Yr oedd y Beibl yn cael ei le ei hun ganddo— Brenin y Llyfrau. Cam mawr a'r Beibi yw ei gauyn y cwppwrdd, a gosod newyddiadur ar y bwrdd yn ei Ie. Ofnwn mai hyn yw y prif reswm o'r gwendid a'r diffyg gwybodaeth ysgrythyrol sydd mewn llawer iawn o aelodau ein heglwysi. Y mae hwn yn ddrwg mawr, ac y mae eisieu dyrphafu ein dwylaw ar nn- waith yn ei erbyn. Nid oedd J. W, yn euog o hyn. Yroedd yn ddarllenwr mawr, ac yn ddarllenwr manwl o'i Feibl. Nis gallai J. W. wn ffQrddjo colli ysgol. Bu y-n. ffyddlawn ynddi, gwnaeth ei oreu drosti, a gwnaeth fwlch mawr yn ei byddin pan retiroddi orphwys oddiwrth ei lafur. Yr oedd yn ddiniwed a chyfeillgar.Gwen oedd ganddo ddrygu ei hunan na drygu arall. Ystyriai braidd bawb yn, .well nag ef ei hupi. Ychydig yn Nghwinafon a feddai gynnifer o gyfeillion ag efe.. ,,Pan fu farwyr oedd dagrau Saeson, Gwydd^to^ a Chyrury, yn cydgym- mysgu mewn hiraeth ar ei ol. Yr oedd beu- nydd yn roesawgar. Er gwaethaf y peswch a'r diffygamadl,mynai serchawgrwydd aros ar ei wynebprydv oedd modd ei gyfarfod heb fod ganddfo rhywbeth i'w ddweyd wrth- ym, ac yr oedd ei eiriau bob amser yn talu am eu gwrando.. Hawdd oedd i gymmeriad fel efe fod yn gynghorwrderbyniol.-Er eÍlfod, fel Pedr, ag ychydig o lediaith ei fro enedigol ar ei lefer- ydd, yr oedd ei eiriau bob amser yn meddu dylanwad. Sail ei gynghorion oedd rheswm ac ysgrythyr. Nid oedd byth yn damsang ar ei ymadroddion ei hun. Nid lleidr yn dweyd Na ladratta," na meddwyn yn dweyd "Nafeddwa," ydoedd Nid oedd y cydgan, Y meddyg iacha dy nun," byth yn cael ei sisial pan fyddai efe yn llefaru. Yr oedd cyssondeb beunyddiol rhwng efengyl ei draed ac efengyl ei dafod. Diolch fod ereill tebyg ar ol etto. Yr oedd yn ddiacon da.-Gallwn ddweyd ei fod wedi ennill iddo ei hun radd dda." Yr oedd yn onest-nid oedd yn dderbyniwr wyneb. Yr oedd yn sobr—drwy weled a chlywed yn unig y gwyddai beth oedd budr- elwa." Yr oedd yn un o gyfeillion goreu y gweinidog, yn nerth yn mhlith ei gyd-ddia- coniaid, ac yn allu crefyddol yn yr eglwys. Ond llosgodd y fegin," ac esgynodd y wreichionen siriol o'n golwg fry. Heddwch i'w lwch. Llanwed Duw y bwlch a rhywun cyffelyb yn ei le. Wrth derfynu, dywedwn yr hyn byth nis gallwn ei annghofio. Pan yr oedd poor J. W. ar ymadael, pan oedd ei lygaid yn gorfod ymorchestru er ceisio adna- bod ei ffryndiau anwylaf, pan oedd y chwys oer yn tori ar draws ei dalcen a'i wyneb, a phan oedd ei anadliadau yn mron a churo ticiadau yr oriawr, trodd ei law at ei fynwes, a sisialodd, MAE TANGNEFEDD i MEWN." Yn iach, fy mrawd, gorphwys mwy Heb unrhyw beswch, loes, na chlwy'; Ni ddaw'r bronchitis byth a'i dro I'th fiino i'r nefolaidd fro; Wyt 'nawr am byth rhy bell i boen, Yn mhalas dwyfol Duw a'r Oen. 0 carwn wybod sut y bu Pan droediaist ar y trothwy fry; Pwy gyfarfyddaist ar y ddor- Trag'wyddol borth Caersalem lor ? Pwy ddaeth o'n diaconiaid gynt I'th roesaw o dy farwol hynt P A phwy on hen aelodau ai Ar lan yr afon welaist di ? Ond ar y pryd, efallai 'u bod Yn cynnal cyngherdd fawr o glod Am ry wbeth newydd—nefol bryd, Rhyw newydd wyrth o'i angeu drud." Ond os na ddaeth o honynt un, Ni fethodd Ceidwad euog ddyn Ei bresenoldeb oddifry Oedd y tangnefedd deimlet ti. Ffarwel, yn dy ddedwyddwch pur, Gobeithiwn etto th wel'd cyn hir. D. M.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. CYTABFODYDD BLYNYDDOL YR ATHROFA. Dyddiau Mawrth a Mercher, y 19eg a'r 20fed o Fawrth, cynnaliwyd cyfarfodydd blynyddol y sefydliad uchod. Drwy fod amser y cyfarfodydd hyn wedi ei newid, ac mai eleni oedd y tro cyntaf iddynt gael eu cynnal yn Mawrth, ofnid y buasai y tywydd yn anffafriol, ac na ddeuai ond ychydig yn nghyd; ond cafwyd hin hafaidd, a daeth nifer lluosog o gyfeillion yr athrofa yn nghyd t,Y o Dde a Gogledd. Nos Fawrth, yn nghapel Penybryn, rhoddwyd anerchiad Seisnig gwir dda i'r myfyrwyr gan y Parch. B. Evans, Llanelli, oddiar Esaiah vi. 8. Dydd Mercher, am naw, yn nghapel Castle-street, cynnaliwyd cyfarfod y pwyllgor, dan lywyddiaeth y Parch. J. Pickering. Am hanner awr wedi deg, o dan lywyddiaeth P. Morris, Ysw., Birkenhead, cynnaliwyd cyfarfod blynyddol « cyfiredinol o'r gweinidogion a'r tanysgrifwyr, pryd y pasiwyd amryw benderfyniadau, ac y darllenwyd reports y pwyllgor, yr athrawon, a'r arholwyr, y rhai oeddent ffafriol iawn. Ond nid oedd mynegiad y trysorydd mor ddymunol; hysbysai fod y coleg mewn dyled o £ 73. Achoswyd hyn gan iselder masnach yn y wlad y flwyddyn ddiweddaf, yn enwedig y rhanau gweithfaol; ond hy- derir y gwna yr eglwysi ymdrech y flwyddyn ddyfodol er mwyn symud y ddyled hon. Yn y cyfarfod hwn, darllenodd Dr. Jones lythyr oddiwrth y Parch. S. Pierce, Penrhyn- deudraeth, yn gofyn, dros Gymmanfa Bed- yddwyr Ysgotaidd Gogledd Cymru, a wnai y pwyllgor ganiatau i wyr ieuainc o blith eu heglwysi hwy gael derbyniad i'r athrofa, ar yr un telerau a gwyr ieuainc eglwysi Bedydd- iedig ereill, ar yr ammod fod yr holl eglwysi i gasglu at yr athrofa ? Caniatawyd y cais hwn gyda y pleser a'r unfrydolrwydd mwyaf, a llawenychai pawb yn ngwyneb yr arwyddion amlwgy daw Bedyddwyr y Gogledd yn un etto, ac y gwellir y rhwyg fu am gynnifer o flynyddau yn rhwystr i lwyddiant ein heg- wyddorion gwahaniaethol. Dywedodd Dr. Jones fod beirniad y gys- tadleuaeth mewn eyfausoddi y bregeth oreu, sef y Parch. E. Thomas, Casnewydd, wedi bamu dwy bregeth o deilyngdod cyfartal; un wedi ei hysgrifenu yn Gymraeg, gan Mr B. Humphreys, a'r llall yn Saesneg, gan Mr R. Richards (Gwynfab). Am nad oedd amser i'w darllen, penderfynwyd fod y naill i gael ei hargraffu yn y Greed, a'r llall yn y Baptist. Am hanner awr wedi dau, o dan lywydd- iaeth y Parch. W. P. Williams, Glandwr, cynnaliwyd cynnadledd o hen fyfyrwyr Aihrofa y Gogledd, pryd y darllenwyd papyr dyddorol a galluog gan y Parch. Waldo 9 James, ar Brofedigaethau y bywyd Gwein- idogaethol;" ac wedi i amryw siarad, pasiwyd penderfyniad yn dymuno ar i'r papyr gael ei argraffu. Penderfynwyd hefyd fod y Parch. C. Davies, Liverpool, i ddarlien papyr yn y cyfarfod blynyddol nesafa-ryrochr arall i'r pwnc, sef Annogaethau, neu gysuron, y bywyd, gweinidogaethol." Am saith, yn Castle-street, anerchwyd y myfyrwyr yn Gymraeg, gan y Parch. J. Jones, Felinfoel, oddiar Eph. iv. 11-13, gyda'i lithrigrwydd arferol. Siaradai yn ddifrifol am bwysigrwydd a chyfrifoldeb y weinidogaeth a rhoddodd lawer o gynghor- ion ac annogaethau buddiol; ac fel yr aw- grymai Dr. Jones ar ddiwedd yr oedfa, byddai yn gaffaeliadi gael y bregeth yn argraffedig. Taer hyderwn y cawn ei gweled o'r wasg cyn hir. Ar ol y bregeth, bu y Parch. J. Jones, Felinfoel, yn rhoddi y prizes i Dr. Prichard's Scholars." Gwobrwywyd y myfyrwyr can- lynol:— Y DRYDEDD FLWYDDYN. B. Humphreys £ 8 YE AIL FLWYDDYN. 1st prize, J. Griffiths £ 4 10s 2nd do. T. M. Evans, £ 2 10s Ar ol i'r gynnulleidfa ymadael, hysbysai y Parch. J. A. Morris, Aberystwyth, fod nifer o gyfeillion yr athrofa wedi cyfarfod yn y prydnawn, ac wedi penderfynu cynnyg prizes i'r swm o JElO am y traethawd goreu gan fy- fyrwyr y flwyddyn ddyfodol, ar ryw destun athronyddol a roddir gan y pwyllgor a ddewiswyd yn nglyn a hyn. Cafwyd cyfar- fodydd dymunol o'r dechreu i'r diwedd. Gwelsom yn bresenol, heblaw y rhai enwyd, y Parchn. C. Williams, Ystalyfera J. Robinson, Llansilin; T. Evans, Towcester; H. Hughes, Countersthorpe; H. C. Williams, Corwen; G. Evans, Penrhyncoch; J. Wil- liams, Birkenhead; C. Davies a L. W. Lewis, Liverpool; W. Rees, Barmouth H. Morgans, Dolgellau; H. Hughes, Llaurwst; W. Roder- ick, Rhyl; R. M. Humphreys, Caerdydd; J. Edwards, Llanfachreth; W. Edwards, Cefn- mawr; G. R. Jones, etto; J. Pickering, Coedpoeth; J. Davies, Brymbo; E. Evans, Treffynnon; E. Phillips, Fflint; E. Jones, Dylifau; T. D. Jones, Rhayadr; J. J. Wil- liams, Pwllheli; J. Y. Jones, Gilfach Goch; D. Davies Llandudno E. D. Wilks, Croesos- wallt; Mri. J. Owen, Liverpool; R. R. Wil- liams, Dolgellau W. Williams, Croesoswallt, &c. CLAUDIUS.
CENHADAETH ITALI.
CENHADAETH ITALI. At Olygydd SEREN OYMRU. MR. GOLYGYDD,—Darfu i dmaertmon yr- wythnosau diweddaf fy lluddias i wneyd sylw yn gynt ar gynnyg haelfrydig Mathetes, aa eiddo myfyrwyr Athrofa Pontypwl. Cawsont. lythyr oddiwrth y Parch. Lewis Davies, Bwlchnewydd, dyddiedig Chwef. lleg, yn gwneyd yr un awgrym, ac yn dwyn yn mlaen. yr un cynnygiad i fod yn un o 69 i wneyd y S60 at gynnal efengylwr i fyny. Anfonais yn ol at Mr Davies i ddioleh yn wresog idda am ei awgrym a'i gynnyg caredig a haelionus,, ond ar yr un pryd fy mod yn meddwl mai gwell oedd peidio ei wneyd yn hysbys am ychydig, rhag y dichony buasai hyny yn pem. i'r cymmanfaoedd dybied, gan fod brodyr unigol wedi ymgymmeryd a'r pwnc, na fyddai eisieu acnaddysgwylid iddynt hwy ymsymud gydag ef. Ofnwn hefyd fethu llwvddo i gael. 60 o danysgrifwyr o bunt yr un, er y gallem, fe ddichon, gael dwy ran o dair o hyny. Ofnwn yn mhellach pe llwyddid ary cychwya. i gael y rhif 60 i fyny, y byddai yn anhawdd llenwi y bylchau a ddygwyddai yn fynych YR. y rhif yn y byd marwol hwn, tra, os ceid yr eglwysi i ymgymmeryd ato, y byddent hwy yn arosol, ac felly y rhoddid mwy o scfyd- logrwydd ar yr anturiaeth. Os yw yr aelodau. yn marw, y mae yr eglwysi, trwy drugaredd, i fyw, ac achos Mab Duw i fyned rhagddo y naill oes ar ol y llall. Ac felly crefais ar- Mr Davies fod mor dda ag aros hyd ar ol y cymmanfaoedd heb wneyd ei gynnyg yn. hysbys. ° Dichon fod fy ffydd yn rhy wan, a'm.. pryder i gael y peth o amgylch yn effeithioi (yn fy nhyb I), yn taflu rhwystr ar ffordd, yr amcan oedd genyf mewn golwg. Os felly,, maddeued Duw a dynion i mi. Yr wyf yn awr, modd bynag,yn ngwyneb- yr hyn a ymddangosodd yn y SEREN, a'r itaith I mi dderbyn 10s fel tanysgrifiad tuag: at y mudiad oddiwrth y brawd parchus a, ffyddlon Mr Jenkin Humphreys, diweddar o'r Cefnmawr,-yn argyhoeddedig y dylent agor rhestr o danysgrifiadau personol tuag at gynnal efengylwr yn Itali. Diau y derbynia ac y cofnoda Golygydd SEREN CYMRU en wan. tanysgrifwyr tuag at hyn, fel y bydd yn dda genyf finnau wneyd. Er deall ein gilydd, dywederfodyr arian yn ddyledus ddiwedd Awst nesaf; bydd i mi eu derbyn y tro hwn; caiff yr holl danysgrifwyr ag fydd yn bresenol yn nghyfarfod yr Undeb yn Aberystwith, yn Medi nesaf, ymgynghori a'u gilydd pa fodd i weithredu. Dyma y rhestr gyntaf o enwau TANYSSBIF- WYR AT GlSafAJDAETH ITALI :— Parch Jiewis Davies, Bwlchnewydd I 0 0* John Jones (Mathetes) l o 0 Hugh Jones, D.D., Llan- < t golien i o Q Mr Jenkin Humphreys, Ormskirk.. 0 10 0 Cofnodir yr holl enwau ychwanegol a dder- bynir yn SEREN CYMRir. Da iawn genyf weled yr ysbryd cenadol yn dangos ei fod yn parhau yn fyw yn Athrofa Pontypwl, meibion pa uri sydd wedi profi eu hunain yn genadon mor enwog i Iesu Grist mewn eynnifer o wledydd. Parhaed y tan santaidd hwn i losgi ar ei hallor hyd byth Cyn terfynu, dymunwn, fodd bynag, wrreyd y nodiadau canlynol:— 1. Er y cynnyg hwn, a'r ymdrech hon, taer erfyniwyf ar y eymmanfaoedd i dalu ystyr- iaeth bwyllog a difrifol i'r cais a anfonwyd atynt. Goreu pa fwyaf o efengylwyr a anfonir i'r maes. 2. Cofier mai cais Mr Wall, y cenadwr yn Rhufain, trwof fi at eglwysi Cymru yw hwn, ac nid awgrym neu gynnyg gwreiddiol o'r eiddof fy hun. Yr wyf, modd bynag, yn. llwyr argyhoeddedig o'i bwysigrwydd. 3. Cofier fod i bob peth ei adeg. Adeg cynnorthwyo Itali yw yn awr-yn a,wr-YN AWR. Yn awr, ynte, i'r ymdrech, frodyr; a ni yn gwybod nad yw ein llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Yr eiddoch oil, HUGH JONES. Athrofa Llangollen, Mawrth 30, 1878. 0 "LLT&RIAD GiN.—Yn Luton, dydd Iau, danfon- odd Dr. Redwood, profiedydd y fwrdeisdref, fynegiad i fewn ar siamplau o gin a. llaeth, y rhai a anfonwycl iddo gan y prif heddgeidwad. Nid oedd un o'r siamplau o laeth wedi eu llygru, ond yr oedd rhai o'r siamplau o gin wedi eu cymmysgu i'r graddau o 38 a, 43 gradd. Mynegwyd fod y siampl o gin a. gafwyd gan oruchwyliwr y Mrd. Gilbey yn ddigymmysg, as yn lied gryf. Gorchymynwyd dau erlyniad gan y cynghor trefol yn erbyn dau westywr yn y dref."— Bell's Weekly Messenger, 21st Jan., 1878. Goruch- wyliwr dros Gaerfyrddia, MR. C. FINCH, Fott- square.
t-... ----------SEFYDLIAD…
dod. Mae ei sefydliad yn ffaith. Bu dadl fawr a fuasai efe yn dod o gwbl. Yr oedd y mater yn gymmaint o ddirgelwch a'r gof- yniad, A fydd i Loegr fyned i ryfel a Rwsia ? Ni fu dadl yn fy meddwl I o gwbl, wedi i mi ddeall fod Mr Lewis wedi penderfynu ar ei gynllun. Yr wyf yn berffaith argyhoedd- edig y bydd ei weinidogaeth yn Belle Vue yn llwyddiannus. Mae elfenau yn Mr Lewis, ac yn yr eglwys hon, sydd yn gosod hyny tu hwnt i ammheuaeth. Yr wyf yn adnabod Mr Lewis er ys 15 mlynedd; ac yr ydym wedi bod yn gyfeillion calon drwy ystod yr amser hwn. Y mae Mr Lewis fel gweiniclog y Belle Vue mewn lie sydd yn ei daro. Y mie y capel mewn lie canolog iawn. Mewn gair, nis gallai fod mewn lie gwell. Ni fydd yr amser yn hir cyn y bydd yr adeilad hwn wedi ei lenwi. Yr wyf yn deall y gwna ef eistedd 650. Mae fod y capel mor central, gweithgarwch yr eglwys, yn nghyd a gallu a dawn y gweinidog, yn sicr o wneyd y ty hwn yn rhy fach i ddal yr addolwyr a ddeuant yma. Mae digon o le yn Abertawe i lawer yn rhagor o gapeli. Mae yma lawer o filoedd o bobl nad ydynt yn tywyllu trothwy y deml o un flwyddyn i'r llall. Bydded i chwi, fel eglwys yma, wneyd eich goreu i ennill bobl at y Gwaredwr. Peidiwch a bod yn rhy bryderus am lwyddiant. Fe ddaw ond i chwi ofalu am eich dyledswyddau. Duw a'ch ben- dithio fel eglwys a gweinidog. Derbyniwyd telegram oddiwrth y Parch. R. Hughes, Maesteg, yn hysbysu fod yn ddrwg ganddo nas gallai fod yn bresenol yn herwydd afiechyd. Dymunai pob cysur i Mr Lewis. Mr Harris, Heolyfelin, a ddywedodd,—'Does sefydlogrwydd mewn dim yma. Byd naturiol, cymdeithasol, a gweinidogaethol, yn newid. Gweinidogion pob plaid yn newid. Mae gwahanol resymau gan frodyr dros symud. Weithiau di- flasdod eglwysig; weithiau cael gwell lie; weithiau yn herwydd ewyllys Duw. Mae system y riewid yn well na system dragywyddol spfydlog. Mae yn fantaig i'r eglwys a'r gweinidog. Mae yma gaffaeliad dawn newydd. Mae sefydlogrwydd yn peru cynnefindra. Pethau ddim yn cael y derbyn- iad a haeddant. Byddaf fi yn meddwl weithiau fod gras mawr yn yr eglwysi yn cydoddef a ni cyhyd. Mae symud yn fantais i'r gweinidog. Byddai ganddo lafur blynyddau. Gallai ym- berffeithio hwnw. Gallai gael blynyddau i ddar- llen llyfrau newyddion. Wedi hyny, byddai yn well pregethwr. Addfedai yn fwy yn nhrefn yr iechvdwriaeth. Mae yn dda genyf fy mod yma heno. Mae genyf y meddwl uchaf am Mr Lewis, fel dyn, pregethwr, a gweinidog. 0 waelod calon, yr wyf yn dymuno pob llwyddiant iddo. Mr Jenkins, Paran, a ddywedodd,—Yr wyf wedi dod o Felin Ifan Ddu yn unig i ddatgan y parch yr wyf yn ei deinilo at eich gweinidog newydd. Y mae efe a minau wedi bod yn gym- mydogion. Yr wyf yn hen gyfarwydd a Maesteg, cyn bod yr un achos yno o gwbl. Derbyniwch fy ngair gyda phob ymddiried, pan y dywedwyf, fod Mr Lewis yn un o'n dynion goreu. Mae efe yn dod yma a'i gymmeriad ganddo. Duw a'i am- ddifiyno, ac a'i gwnelo o les mawr yma. Mathetes, a ddywedodd,—Dylai pregethwr fod fel gwraig Oeasar; uwchlaw ammheuaeth. Y mae Mr Lewis wedi ymddwyn felly; ac y mae efe yn sicr o wneyd hyny etto yn Abertawe. Y mae efe yn dod yma a chymmeriad gloyw ganddo, yr hyn nis gall neb ei ammheu. Nid .oes eisieu rhagor na phresenoldeb y ddau feddyg o Maesteg i brofi fod private character Mr Lewis yn bur acyn adnabyddus. Yr ydym yn cofthau y pethau hyn, am ein bod yn fwy cyfarwydd a Mr Lewis na neb sydd yma. Duw a'i cadwo uwchlaw drwgbybiaeth hyd ddiwedd ei oes. Mr Evans, Castellnedd, a ddywedodd,—Dy- laswn gael dweyd yn gynt. Da genyf weled y ddau Ddr. o Maesteg yn bresenol. Maent yn perthyn i enwad arall, ac yn ddynion o fri a safle; mae eu tystiolaeth am Mr Lewis yn warogaeth i'w gymmeriad. Wele diaconiaid Salem wedi dod i'r cwrdd y mae hyn etto yn profi safle anrhyd- eddus Mr Lewis yn ei hen gylch. Yr wyf fi yn hoff iawn o syniad Mor ganwg am weinidogion- parchu yr oil o honynt. Mae pawb yma fel eu gilydd. Mae rhai pobl yn dueddol iawn i gym- ham brodyr a'u gilydd. Mae eu cynllun yn un rhyfedd iawn. 'Dyw un yn werth dim, ac y mae y llall lawer yn. well nag ef. Rhaid mai un mawr iawn yw yr hwn sydd kwer yn well na'r un sydd yn werth dim! Parchweh bawb. Cofiwch y motto sydd ar y mur, Welcome to our Minister." Byddwch yma ar foreu Sul i wrando arno. Ar foreuau gwaith clywir y colliers yn myned at eu gorchwyl dan chwibanu; ond gyda chrefydd y mae codiad haul yn anmhoblogaidd. Anaml yw y nifer yn ein capeli ar foreu Sul. Byddwch chwi yn esiampl yn hyn. Cynnaliwch ei freichiau i'r lan. drwy eich ffyddlondeb. Mae ei egni ef yn ddiarebol. Mae ganddo galon i weithio llafur- iwch gydag ef, a bydd eich llwyddiant yn sicr a mawr. Duw fyddo gydag ef a chwithau. Traddodwyd areithiau hefyd gan y Parchn. Rob- erta, Treforris; Haddock, Cwmbwrla; Jones, Phil- adelphia B. Thomas, Narberth; Saunders (M.), Edmunds (M.), Phillips (M), Abertawe; Dr. Rees, Abertawe; Jones, Capel Seion; Jones, Maesteg; Williams, Ystalyfera; a J. Thomas, Belle Vue. Cafwyd cwrdd anwyl, lluosog a theimladwy. Duw yn rhwydd i Mr Lewis yn ei faes newydd.