Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

YMDDISWYDDIAD IARLL DERBY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMDDISWYDDIAD IARLL DERBY. XGHYDIG a feddyliem pan yn ysgrifenu ein herthygl arweiniol yr wythnos ddiweddaf fod ymddiswyddiad Derby mor agos. Yr oedd arwyddion amlwg fod y Weinyddiaeth am suddo y wlad i ryfel, a hyny a barodd i ni annog ein darllenwyr i ddeisebu ar un- waith yn erbyn y peth. Taenid y gair iiefyd fod annghydwelediad rhwng aelodau y Weinyddiaeth ond cadwyd y dirgelwch mor dda, fel nad oedd yr un tu allan iddynt liwy yn gwybod am dano cyn i Derby ei hun gyfodi yn Nhy yr Arglwyddi i'w hys- byåu. Ychydig iawn oedd yn y Ty ar y pryd, ac o'r ychydig oedd yn bresenol bnwyd am amser heb sylwi nad oedd y larll yn eistedd yn ei sedd arferol. Ni chollodd efe amser heb hysbysu y Ty o'r iiyn oedd wedi eymmeryd lie, yr hyn a wnaeth argraff ddwfn ar bawb oedd yn bresenol, a dranoeth ar yr holi wlad. Synodd y newydd rhai o'r prif drefydd, megys Lerpwl, Manchester, &c., a galwyd cyfarfodydd yn union i ystyried y mesurau angenrheidiol eu mabwysiadu yn yr am- gylchiad. Yr achos uniongyrehol o ymddiswyddiad jr Ysgrifenydd Tramor yw penderfyniad y Weinyddiaeth i alw allan y reserve forces. Barnai nad oedd hyn yn angenrheidiol yn sefyllfa bresenol yr ohebiaeth rhyngom k Rwsia, a'i fod o duedd i gynhyrfu teimladau ar adeg pan oedd gwir angen am eu Ileddfu. .Nid yw y weithred yn ddim ond bygythiad i Rwsia, os na ildia hi i ni bob peth a ofynwn y bydd yn rhaid iddi hi ymladd a ni. BeIIach, prin y gallwn ddysgwyl dim ond ihyfel. Bvdded ein darllenwyr yn barod i godi rhyw foreu i gael fod eyhoeddiad jrhyfel wedi ei gyhoeddi rhyngom a Rwsia. Os gofynir i ba beta yr ydym yn myned i ryfela, rhaid i ni gyfaddef eiu hanwy- |)odaeth ar y pwnc. Mae y cytundeb heddwch wedi ei arwyddo a'i gadarnhau. Mae yr Aifft yn ddiogejl a Chamias Suez. Mae y flordd i India yn rhydd. Mae ,cwestiwn Cuifor y Dardanelles wedi ei ohirio i farn Ewrop, ae yn enw pob peth, am Beth yr ydym yn myned i ryfela. Ai i borthi balchder un dyn hunanol, ac i fodd- loni plaid o wancwyr ? Os felly, ein dy- muniad ni yw i'r holl rai byn gael eu han- fon allan yn gyntaf, ac nid i aberthu mil- oedd o fywydau ein milwyr dewrion. Os mai llinell terfyn Bulgaria Newydd yw asgwrn y gynhen, yn enw pob peth beth sydd a fynom ni a hyny. Bid sicr, nid llyn Seisnig yw M6r y Canoldir. Oni ;pherthyn yn fwy i Awstria ae Itali nag i mi, ac a raid i ni ymladd eu brwydrau hwy? Y mae ymddiswyddiad Derby wedi peru i'r blaid ryfelgar yn y wlad grechwenu o lawenydd, gan ei fod yn rhoddi cyflawn fuddugoliaeth iddynt hwy yn y Weinydd- iaeth. Ond y mae yn amddifadu y Wein. yddiaeth o wasanaeth un o'r rhai galluocaf ■»o'i mewn, ac yn gadael ar ol rai llai galluog mag efe. Y mae yn llawo pryd i'r wlad ,ddeffro yn y Jnater hwn. Ychydig, os dim, gobaith sydd y cyfarfydda y Gynghorfa, a 4iflanu yr arwydd olaf am baJhad heddwch yn Ewrop oblegid ymddygiad annheilwug Xloegr yu y mater. Arswydus yw meddwl am hyn. Yr oedd yn dda, geuym weled araeth amserol Gladstone ar y pwnc. Ni ddaeth yr un tynyd yn rhy fdan. Ni <ldylai y Rliyddfrydwyr oedi yr un fynyd yn hwy heb gyfodi eu llais yn ddiwrtliwyn- Dysgwyliwn weled banes ^cyfarfodydd drwy yr holl wlad yn gwrth- 4ystio yn erbyn rhytel.

CYLLID Y FLWYDDYN.

SON AM RYFEL.

OENADIAETH Y BEDYDDWYR YN…

LLOFRUDDIAETH ARGLWYDD LEIT…

Y GENADAETH DRAMOR.

PENYDARREN, MERTHYR.

RHYMNI.

CYHUDDIAD 0 DREISIO.

SIR FON.

TY YR ARGLWYDDI.

. , ,TY. Y CrFFREDIN. '

TREDEGAR.

SIR GAERNARFON.

! SIR FRYCHEINIOG.