Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLWYR-YMW RTHODIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLWYR-YMW RTHODIAD. Atebiad i "Mdnydd," Trefonris. -AIRWYT FBAWD,—-Yri y SEREN am Mawrth 35fed, yr ydych yn cyfeirio chwech o ofyniadau ataf, yn dal cyssylltiad a phwyntiau y izyffyl dr a hwynt genyf yn fy mhregeth ar y :_mater uchod. Buaswu wedi gwneyd sylw -Veh gofyniadau yn mhell cyn hyn oni bai fod amgylehiadau wedi fy ngalw ifod oddicartref Jbron bob diwrnod er pan yr ymddangosodd yr .eiddoch. "Ond gwell hwyr na hwyrach." Oallaf ddywedyd, fel chwithau, nad oes genyf tdinedd i fyned i un ddadl o barthed y bregeth »'i ijhynnwysiad; yr wyf yn hollol foddlon iddi lefaru drosti ei hun, ac i bob darllenydd IJurfio ei farn bersonol o barthed ei theilyng- jdod a grym ei hyinregyiniad. Ond yr wyf yn .cael fy Hghymhell i wneyd sytw o'ch ysgrif ar gyfrif dau beth. Yn gyntaf, yr ysbryd dy- amunol a ddangosir genych ynddi; ac yn ail, cicK tystiad mai cyrhaeddyd iawn-ddealltwr- aaeth o'r cwestiwn yn nghyleh y moddion goreu i gyfarfod a'r drwg anaele o feddwdod sydcl, fel y cyfaddefwch, yn annhreithio ein gwlacl. Yn eieh cwestiwn cyntaf, gofynwch fy xheswrn dros ddefnyddio yr adnodau a ddi- fymvyf fel testun i attegn sobrwydd neu Iwyr-ymwrthodiad. Yr adnodau ydynt:— Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy yr hyn y tramgwydder, neu y xhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd." O Jherwydd pdlmta, os yw bwyd yn rhwystro fy anrawd, ni fwytaf fi gig fyth, rhag i mi irwystro fy mrawd." (Ehuf. xiv. 21; 1 Cor. yiii. 13.) Gwnewch amryw nodiadau ar y iCyntaf or adnodau hyn 1. Fed y geiriau rhwystrer a gwari- ikaer" yn cael eu gadael allan mewn rhai eyfieithiadau. Gofynwch felly fy rheswm dros eu cathv. Dyma fe-tystiolaeth Lange jen bod yn cael eu cadw gan olygwyr beiru- iadel yn gyifredin (critical editors generally), fod baich y prawf odoen dilyarwydd. 2. Sylwch fod etch dimadaeth eiddil, a'ch cyrhaeddiadau byrion chwi, yn eich arwain i dybio mai at fwyta ac yfed pethau wedi eu ùberthu i eilunod y cyfeiria yr adnodau -uchod. WeI, frawd, nid wyf yn canfod un angenrhnid i chwi ddibrisio cymmaint ar jeich cyrhaeddiadau yn y frawddeg uchod. Sicr yw nad oes dim yn y dybiaeth uchod yn galw am hyny. Y mae eich tybiaeth, yn hollol reaymol a naturiol, ac yn un a goleddir gan ddynion o'r cyrhaeddiadau eangaf. Nid oe& dim yn amlyeach, mi dybiwyf, na bod y feiriau hyn yn cyfeirio at fwyta ac yfed yr yv a aberihwyd i eilunod. Wei, ynte, gof- ynwch pabam y cytnhwyser hwynt at fater y diodydd meddwol ? Mae yn ddiau fod cyf- ceixiad uniongyrchol yr adnodau a fabwyt- iadwyd fel testun, yn yr enghraifiPt gyntaf, at ammheuon brodyr gweiniaid o Iuddewon yn Shaf% M yn yr ail at frodyr gwetftiaid o Korgiaid yn CJorinth, fd y crybwyllir yn y isrogeth end byddai yn gyfeiliornad mawr i liaoru, o herwydd hyny, nad ydynit yn cynriwys «gwyddor a dylodsvrydd o hunan ymwadiad o dan auig}4chladau cyffelyb i Gristionogion oesoedd ereill. Byddai honi hyn yn cynuwyg <od defiiyddioldeb y Testament Newydd wedi Atrfod gyda'r oes apoatolaidd. Eieh geiriau ydynt:—" A ydyw yn d4g i gyinmeryd cyf- «iriadau at bethau crefyddol i geisio eglnro peth nad oea neb yn honi f.*d dim a fyno 4 tchrefydd fel y eyfryw o gwbl?" Y mae y gofyniad hwn yn dangos nad oes gan Mein- ydd. ddimadaeth mor glir am "egwyddorion ag y buaswn yn ei ddymuno, oblegid y rhai kyn sydd yn penderfynu cymmeriad gweith- xedoedd a'u perthynasau i'w gilydd. Y mae gweithredoedd nad oea a fynont fel y cyfryw a chrefydd, Br hyny yn goblygu egwyddorion a'uhunaniaethant a gweithredoedd crefyddol. Jffir enghrailft, y mae yn ddiddadl, gyda'r ddir- nadaeth sydd gan Meinydd, y dywedai efe xiad oes a fyno bwyta ac yfed fel y cyfryw 1 chrefydd o gwbL Etto dywed Paul (1 Cor. x. 31), y dylem fwyta ac yfed er gogoniant I iDduw. Dyma felly egwyddor wrth wraidd y weithred o fwyta ac yfed ag sydd yn eu linnaniaethu (identify) & phethau crefyddol, aaegys addoli, gweddio, a. chanu mawl. Os ydwyf ya iawn, ac y mae yn ddilys genyf na fydd i Meinydd ammheu hyn, y mae yn eitliaf priodol a thegi gyjLnmeryd pethau erefyddol i geisio egluro peth nad oes neb yn honi fod dim a fyno a chrefydd fel y cyfryw o gwbl." Y mae yn deg- cymmeryd rheol a roddir yn aaglyn a'r weithi-ed grefyddol o fwyta y cig aberthedig i'r eilun iegluro pa fodd i weith- wredu yn nglyn a'r weithred ddigrefyddol o -yfed diodydd meddwol, yn gymmaint a bod sogoniant Duw a lleshad arall yn gynnwys- edig' yn yr olaf yn ogymmaint ag yn y cyntaf. ICn jiiiie?1 tueddir ni i feddwl pe buasai Meinydd wedi ystyried ar y pryd y drefn o j ymresymu yn ol cyffelybiaeth, na fuasai yn gofyn y cwestiwn canlynol" Nid oes neb yn edrych ar ddiodydd, gwin, &c., fel pethau wedi eu cyssegru neu euneillduo er anrhydedd ac addoliad i'r duwiau; gan hyny, a ydyw cyfarwyddyd Paul i beidio bwyta y peth a aberthwyd i eilunod, am y gall hyny, neu yn hytrach, os byddhyny, yn tramgwyddo brawd gwan, yn dysgu rhywbeth gyda golwg ar yfed neu beidio yfed gwin yn rnhob cyssyllt- tiad ?" I hyn yr wyf yn ateb yn ddibetrus ei fod. Ceisiwn ddangos pa fodd y saif y ffeith- iau yn nglyn Wr eig, a'r gwin cyssegredig. Ffaith y gyntaf, a esyd o'n blaen weithred neillduol, sef bwyta ae yfed y pethau cyssegr- edig i'r eilun. Ffaith yr ail, a ddengys y gallai rhywrai wneyd hyny yn ddiberygl iddynt eu hunain. Sylwer: nid gweithred grefyddol oedd hi i'r rhai hyn, a hyn oedd sail eu dadl dros eu rhyddid yn y mater. Yr oeddynt wedi cyr- haodd y fath uchder mewn gwybodaeth efengylaidd, fel ag i'w galluogi i ddeall pethau yn eu goleu priodol. Gyda'r goleu agoeddgahddynthwyaryr eilun, nid oedd bwyta y cig ac yfed y gwin a gyssegrwyd iddo yn weithred grefyddol o gwhl; felly nid oedd yn bechod. Ffaith y drydedd, a ddengys i ni fod yno rai personau yn aelodau, mae'n debyg, o'r un eglwys a'r rhai blaenorol, heb gyrhaeddyd yr un wybodaeth am natur ddiddim yr eilun a hwy; felly parhaent i goleddu, er eu holl fan- teision i wybod yn amgen, syniadau ac ar- graffiadau am yr eilum ei fod yn rhywbeth. Ffaith y bedwaredd oedd, fod bwyta y cig ae yfed y gwin a aberthwyd i'r eilun, i'r rhai hyn, gydar syniadau a goleddent am dano, yn weithred grefyddol; felly wrth ei chyflawnu yr oeddynt yn euog o weithred eilun- addolgar. Ffaith y bummed oedd, fod gwaith y brodyr cryfion yn bwyta y pethau crybwylledig yn tueddu i argraffu ar feddwl eu brodyr gwan- ach fod cyfranogi o'r cyfryw yn beth priodol i'w wneyd. Felly cyruiiellid hwy i ddilyn e«iampl eu brodyr cryfion. Iddynt hwy yr oedd y weithred yn addoliad, am eu bod yn credu fod yr eilun yn rhywbeth. Ffaith y chweched.—Gaiwai yr apostol ar y brodyr cryfion, drwy yr ystyviaethau difrifolaf a gyflwynwyd i sylw dynion erioed, i ym- wrthod a'u rhyddid cyfreithlon er mwyn osgoi rhoddi e8iampl i'w brodyr gwan. Buasai eu gwaith hwy yn yinwrthod a'r bwydydd cyssegredig hyn, serch eu bod yn ddiniwed iddynt hwy, yn symud ymaith un achlysur pwysig i gyfranogiad y rhai y buasai y cyfryw weithred ya bechod iddynt. Tn awr, dyma y can yn nglyn a'r Corinth- iaid. Eieh cwestiwn ydyw, A oes yma reol pa fodd i ymddwyn tuag at ddiodydd meddw- ol yn yr oea breaenol ? Y. mae yn sicr fod. Beth ydyw y fieithiau yn nglyn a'r pethau olaf hyn:— 1. Y mae yn ffaith fod dynion ya yfed r diodydd neddwol fel y bwytaid y cig ac yr yfid. y gwin cyssegredig gan ddynion yr oea apostolaidd. 2. Y mae yn ffaith fad rhai dynion yn gallu yfed y diodydd hyn yn ddiberygl iddynt en hunain, fel yr oedd dynion yn eglwys Corinth yn gallu cyfranogi o'r bwydydd cyssegredig yn ddiberygl iddynt eu hunain. Yr hyn a alluogai y Corinthiaid i fwyta y$ig aberth- edig yn ddiberygl oedd, eugwybodaeth uwch o uatur yr eiluu. Galluoger rhai dyuion yn yr 0011 hon i yfed diodydd meddwol yn ddi- berygl iddynt eu hunain, o herwydd amryw bethau, megys tymheredd naturiol llai agored i'w dylanwad cynhyrfus, yn nghyd a phen- derfyniad meddwl cryf i wrthsefyll eu hudol- iaeth. Gwahaniaetha y ddau weithredydd yn yr hyn a gyfansodda eu cryfder; ond saif y ddau yn union ar yr un tir yn hyn, sef eu bod yn gallu cyflawnu gweithred neillduol yn ddi- berygl iddynt eu hunain. Dalied Meinydd sylw arbenig ar y gosodiad hwn, a pheidied a cholli golwg amo. 3. Y mae yn ffaith yr un mor wir fod rhai dynion i'w cael na allant gyfranogi o'r diod- ydd meddwol heb beryglu eu diogelwch a'u hapusrwydd tymhorol ac ysbrydol, fel ag yr oedd i'w cael yn Corinth rai na allent gyfran- ogi o'r bwydydd cyssegredig heb halogi eu cydwybodau. Y rheswm am y gwendid hwn yn y brodyr yn Corinth, fel y crybwyllwyd, oeAd anwybodaeth-diffyg amgyffrediad pri- odol o natur yr eilun. Y rheswm am wendid y rhai a deimlant niwed wrth gyfranogi o'r diodydd meddwol ydyw, tymher gorfforol naturiol agored i fyned yn ysglyfaeth i'w dy- lanwad, a diffyg penderfyniad meddwl i wrth- sefyll eu hudoliaeth; hyny yw, i ymwrthod a gormodedd o honynt, pan y maent yn gweled fod eu dylanwad yn niweidiol. Y mae gwen- did un yn ddeallol, y mae gwendid y Hall yn anianyddol ac yn foesol. Ond gan nad pa fodd y gwahaniaethant yn achosion eu gwen- did, mae y ddau yn tebygu yn hyn, sef nis gallant gyftnwnu gweithred neillduol heb ni- weidio eu hunain. Yn hyn o beth y maent ill dau yn sefyll yn gyfochrog. 4. Y mae gwaith y personau a allant yfed y diodydd meddwol heb niweidio eu hunain, hyny yw, eu hyfed yn gymmedrol-y mae gwaith y rhai hyn, meddaf, yn gwneyd hyny, yn tueddu mewn ffordd effeithiol i gefnogi y rhai na allant wneyd hyn heb niweidio eu hunain, i ddilyn euhesiampl, a thrwy hyny, o herwydd eu gwendid, i lithro i ormodedd, yn yr un wedd yn hollol ag yr oedd cyfranogiad y dyn cryf gyda golwg ar y bwydydd cys- segredig yn tueddu i gefnogi y dyn gwan i wneyd hyny. Dywed yr apostol fel y canlyn mewn perthynas i'r olaf Canys os gwel neb dydi sydd a. gwybodaeth genyt yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau yn wan, i fwyta y I pethau a aberthwyd i eilunod ?" Y mae yn ddiddadl genyf na wna Meinydd wadu fod gwaith cymmedrolwyr—dynion da a rhin- weddol, yn myned i'r lleoedd y gfwerthir ac yr yfir y diodydd meddwol, yn cael cyffelyb effaith ar gannoedd o bersonau ieuainc yn neillduol, ag a gaffai mynychu y temlau ar feddyliau y rhai gwan yn Corinth, ac felly arwain i arferiad ag iddo derfyniad o'r fath mwyaf trychinebus yn achos lluaws mawr o honynt. FeHy, gan nad pa fodd y gwahan- iaetha y cymmeriadau hyn mewn pethau ereill, yn hyn y maent yn tebygu, sef fod esiampl y cryf yn effeithio ar ygwan er niwed iddo. Esiampl y cryf yn nglyn a'r diodydd meddwol yn niweidiol i'r gwan mewn perth- ynas iddynt, yn yr un modd yn hollol ag yr oedd esiampl y cryf yn nglyn a'r bwydydd yn effeithio yn niweidiol ar y gwan yn nglyn a hwythau. Craffed Meinydd yn ofalus ar y pwynt hwn o debygolrwydd rhyngddynt, oblegid os gwna hyn, nis gall eiddilwch ei ddirnadaeth a byrdra ei gyrhaeddiadau lai na chanfod form y casgiiad yn nglyn a'r bwydydd yn Corinth yn meddu yn hollol yr un cymhwysder i, a rhwymedigaeth ar, y rhai cryfion yn nglyn a'r diodydd meddwol. Gan fod Meinydd yn cwyne at eiddilwch ei ddimadaeth a byrdra ei gyrhaeddiadau" ar y mater hwn, erefaf ar y darllenydd i gyd- ymddwyn a mi, os byddaf yn fy awydd i wneyd y mater yn eglur i'r brawd yn euog o ail-adrodd y pwyntiau ag y mae mewn dyrys- wch yn eu cylch. Yr hyn a ddymuna y llwyr-ymwrthodwr o Dreforris ydyw, y priod- oldeb o gymhwyso cyfarwyddyd Paul i fwyta- wyr y bwydydd abertKedig at yfwyr y diod- ydd meddwol. Hyderwyf fy mod wedi llwyddo i wneyd y priodoldeb hwn yn eglur, drwy ddangos eu bod, yn y pethau o bwys i'r ddadl, yn exactly parallel cases. Y mae yma, yn y ddau amgylchiad, wan a chryf yn nglyn a'r un weithred. Y mae ymddygiad y cryf yn y n&ill a'r llall o'r amgylehiadau hyn yn effeithio yn niweidiol ar y gwan yn mhob un o honynt. Y mae yr egwyddor o lwyr-ym- wrthodiad, er mwyn y gwan, a gymhellir ar y cryf, yn un amgylchiad, yr un mor rhwymodig ar y eryf er mwyn y gwan yn yr amgylchiad anvil. Y priodoldeb o gymmeryd y naill fel cjrfarwydayd i'r llall a orphwys, nid yn nhebygolrwydd y ddwy weithred, ond yn y ffaith fod yna yn nglyn a'r ddwy weithred wan a chryf, a bod rhwymedigaeth ar y cryf bob alnser i ystyried y gwan. Bydded y weithred y peth y byddo, a bydded yr hyn a gymhella i'r weithred beth y byddo, nid yw y naill n i'r Ilall or pethau hyn o un pwya. Yr hyn sydd yn otynol i'w-ddeall ydyw, fod cyf- litwniad y cryf o honi yn gymheliol i'r gwan i'w chyttawnu ar draul niweidio ei hun pan y byddo hyny yn bod. Y mae yr egwyddor fawr o hunan-ymwadiad yn rhwymo y cryf i ymwrthod er mwyn ei frawd gwan. Gymmaint a hyn yr wythnos hon. Cewch y gweddill yr wythnos nesaf, os caniata Mr. Gol. J. J. WILMAMS. Pwllheli, Mawrth 26, 1878. —♦—;—

[No title]

MR. ARCHIBALD FORBES,