Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH. MR. DANIEL MORGAN, ST. FAGANS, GER GAERDYDD. Bu farw yr uchod Mawrth 2il, wedi cyraedcl yr -oedran teg o 84. Rhyw bythefnos o gystudd gafodd cyn y diwedd, wedi mwynhau iechyd rhag- orol trwy ei oes. Brodor ydoedd o St. Fagans, ac yr oedd ganddo lu o adgofion am y lie. Yr oedd wedi oyraedd canol oed cyti ymuno a ehrefydd, a chafodd ei fedyddio yn yr oedran yna gan mai Bed- yddwyr oedd ei rieni, a,c felly herb ei fedyddio pan yn faban. Gofidiai iddo adaei ymuno a ehrefydd mor hir—" Mor 'stupid' y bum," oedd ei eiriau. Ymunodd a'r Methodistiaidyn St. Fagans, a phar- haodd yn a,olad hyd y diwedd. Un o heddychol ffyddIoniaid Israel ydoedd. Gair da ganddo am bawb, rue yn wneuthu'rwr heddwch bob amser. Un ystwyth iawn ydoedd. Pan ddaeth cyfnewidiad iaith o'r Gymraeg i'r Saesneg, byddai yn barod i siarad yn yr iaith hono. Difyr oedd ei glywed yn y seiat a'r dosbarth Beiblaidd yn gwneyd ei syl- wadau ffraeth, a byddai pawb yn eu mwynhau. Pariiaodd yn ieuanc hyd y diwedd o ran ei ysbryd. Mynychai yr Ysgol Sul a'r Cyfarfod Darllen, ac hyd yn nod y Band of Hope, a chymerai ei ran yn- ddynt. Er yn hen mewn dyddiau, eto yn ieuanc ei ysbryd hyd y diwedd. Yr oedd natur 'fine' ynddoi, fel nad oedd gan ras gymaint o waith arno ag sydd ar lawer. Cristion disglaer (' bright') oedd, yn gwybod am bethau goreu crefydd. Yr oedd gwen ar ei wyneb bob amser. Byddai yn hoff iawn o'r Beibl, a dysgai benodau cyfain hyd y diwedd. Darllenai lyfrau eraill hefyd. Yr oedd hefyd yn ddiarhebol am ei ffyddlondeb i foddion gras, Sul ac wythnos. Teintflir bwlch mawr yn eglwys St. Fagans ar ei ol. Deuparth o'i ysbryd a ddisgyno ar bobl ieuainc y lie. Mae cadaii; wag hefyd yn Twynpwmro, ei breswylfod. Cafodd gladdedigaeth liosog, a, pharchus. Gwasan- aethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y gweinidog, y Parch. D. M. Thomas, ac yn yr Eglwys Blwyfol gan yr offeiriad, y Parch. T. Bird. Huned mewn heddwch hyd ganiad yr udgorn, a ddeffry boll farwolion y ddaear. Tangnefedd Duw arhoso gyda'r plant a'r teulu oil. D.M.T.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…

MR. MORRIS HUGHES, PONTROBERT,…

CYNGOR EGLWYSI RHYDDION FFYNON…

NE W YD D SON.