Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
\T. Yn gwisgo arfau y brwydrau…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
\T. Yn gwisgo arfau y brwydrau cyhoeddus. Tua misoedd olaf y flwyddyn ddiweddaf aeth awydd dweyd wrth fyd colledig yn rhy gryf i Evan Roberts Qdal yn hwy; ac wele ef yn rhoddi ei achos yn llaw ei weinidog a'i flaenoriaid i ddechreu pregethu. byma derfyn y brwydrau dirgel, mewn un ffurf arn- Ynt, o'r diwedd. Ond nid yw hyny yn eu terfynu yn y wedd o dori dros bob peth, i ddweyd am Grist, Parha ffurfiau eraill arnynt yn gryf yn ei hanes ef fel pob Cristion arall. Brwydr fawr fydd ymladd a Pberyglon llwytldiant cyhoeddus, temtasiynau y cylch newydd, a chyfarfod a siornedigaethau a Phethau eraill. Beth bynag am hyn, dyma Evan Roberts yn cael caniatad i bregethu nos Sul, Rhag. sofed, y flwyddyn ddiweddaf, yn Moriah (M.C.), Cas- llwchwr, yr eglwys yn yr hon y codvvyd ef ac i'r hon y derbyniwvd ef yn aelod pan yn i.3eg oed. Y Sabbath cyntaf o'r flwyddyn hon dechreuodd ar ei Qaith ar brawf drwy y dosbarth. Cafodd gymeradwy- aeth y dosbarth, a phasiodd yr arholiad o flaen yr eglwys yn llwyddianus. Pleidleisiodd yr eglwys yn ei fiafr; a chaniataodd y Cyfarfod Misol iddo gael Sefyii arholiad talaethol Cymanfa y De. Yn Av/st ^ivveddai" aeth i'r arholiad hwn, a phasiodd yn wyth- yr hyn brawf ei fod wedi parotoi yn dda ar ei Syfer. Wedi hyn dyma frwydr ofnadwy ag ef ei vUnan eto. Beth oedd hon ? Pa un ai rnyned i'r Ysgol i barotoi erbyn y Coleg neu fyned allan i ^eithio dros Grist. Ymdrechfa arswydus oedd hon. Carlo wnaeth y duedd i fyned i'r ysgol wedi brwydr galed iawn.
IV. Ei Droedigaeth.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
IV. Ei Droedigaeth. Cafodd ei ddal heb yn wybod iddo ryw noson yn sydyn pan yn dair ar ddeg oed gan Ysbryd Duw a diolcha byth am y noswaith hono. "Yn y trueni y buaswn," meddai, "onibai gras Duw y pryd hwn." 0 hyny ymlaen, daliodd at ei grefydd. Nid oes amheuaeth yn ei feddwl nad achubwyd ef yr adeg hono ond eto, tystia na chafodd olwg ar Grist yn ei holl ogoniant y pryd hyny. Pricdola hyn i'r ffaith nad oedd wedi cael ei fedyddio a'r Ysbryd Glan. Rhyw achubiaeth heb ymwybyddiaeth losgedig o gariad Duw yn ei galon oedd hi; ac heb sel angerdd- 01 dros achos y Gwaredwr. Teimlai rywbeth yn graddol gynyddu ynddo, ac yn gorchfygu pob llvgr- edd oedd yn ei galon; acyn dweyd fod rhaid icldo Vmeyd gwaith mwy dros Grist. Ai drwy bangfeydd yn awr ac eilwaith, wrth feddwl am drueni y byd annuwiol. Cai y rhai hyn yn y gwaith yn fynych a phenderfynai i ymgysegru i waith Crist. Ond nid oedd gweledigaeth ddigon eglur. Wrth siarad ag Evan Roberts, gwelwn yn glir, mai brwydrau mewn- °1 oedd ei hanes o dair-ar-ddeg hyd bump-ar-hugain. Awydd dwys i gysegru ei holl fywyd i Grist; ond yn rnethu gwneyd hyny. Bodolai c-ronfa o ryw ddy- heuadau yn ngwaelodion ei enaid, ond rhy gryf oedd Yr argauau. anianol iddynt enill yr oruchafiaeth. Nid oedd awr Duw ac awr y dyheuadau wedi dyfod etc ond fe ddaeth fel y ceir gweled. Wedi yr oil, di- ameu genym mai y blynyddoedd hyn sydd wedi pen- tferfynu pethau mawrion bywyd Evan Roberts. Gwnaeth yr ymladdfeydd mewnol yma gryfhau rhyw alluoedd tufewn iddo, a fyddant yn nerthol yn ei Waith drwy ei holl fywyd. Rhyw bethau tebyg osdd y blynyddoedd hyn, i ymneillduad Saul o Tarsus i'r anialwch er mwyn dysgu co nero ei hun. Pvvy all goncro pechaduriaid heb crchfygu ei hunan yn gyntaf? Cadwodd Duw Evan Roberts, nes yn 2sain ped, cyn ei ollwng i bregethu efengyl ei Fab er mwyn fddo ladd ei hunan yn gyntaf. Wedi deall y fiordd 1 ladd ei hunan, gwyddai Ysbryd Duw y medrai ladd Pechaduriaid wedi hyny. Dysgodd ef i drin yr arfau yn dda wrth ymladd a'i hunan; ac wedi gweled ei fod yn feistr ar yr arfau, gollyngodd ef i faes age-red y frwydr. Gan hyny, y mae y geiriau Evan Roberts Vn y brwydrau>" yn rhoddi ei holl hanes o i3eg i 2Sain oed. Bu raid i mi blygu," meddai, "ie, a gwaith ofnadwy oedd hyny. Colli fy hunan, a chy- Jtieryd fy arwain gyda'r Ysbryd Glan; ond wedi Plvgu, gallaf gymeryd fy arwain yn llwyr gan yr Xsbryd. Anmhosibl i mi ddweyd beth gostiodd hyn 1 fy enaid." Pethau annesgrifiadwy oedd y brwydr- au dirgel hyn, ac ni all neb feddu syniad am clanynt; Qcd a brofodd yr un peth.
^1. Yn Ysgol Ramadegol Castellnewydd…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
^1. Yn Ysgol Ramadegol Castellnewydd Emlyn. Medi i3eg, wele ef yn Ysgol Mr. Phillips, yn Nghastellnewydd Emlyn. Yn awr dyma ymdrechfa QYchrynllyd etc. Pan wrth lyfrau yr Ysgol, rhedai fhywbeth drwyddo, a gwnai ef yn faich a dychryn ^do ei hun ar adegau; ond yn y fan y cydiai yn y Peibl ymdawelai. Dirdyniadau corff ac enaid oedd j1' ond pan fyddai Lhjfr y llyf rau yn ei law. Ym- addai yn galea i geisio cael pwysau ei dueddiadau at bethau angenrheidiol ar gyfer yr Athrofa; ond yn bOllol aneffeithiol. Gweddiai am allu at hyny; eithr tyv.-yll fel y fagddu oedd yr oil. Y Beibl yn tin, a roddai lonyddwch iddo. Un diwrnod gwnaeth l'an o'i wers mewn grarnadeg Cymreig; ac ar ol cadi tua 12 llinell o hono, daeth dirdyniadau an- Otchfygol drwy ei gorff a'i feddwl. Gorfu iddo dafln. y llyfr o'i law a chydio yn ei Feibl a bu tawelwch tnawr ar unwaith. Cynghorid ef gan rai o'r clynion |a-lluocaf a goreu, i lynu wrth ei wersi; a thystia ei fad yn ymdrechu gwneyd hyny yn gydwybodol. Eithr Pan ar ei orau, tynai dylanwad anorchfygc-1 ef at ^efn achub pechadur. Elai ar ei liniau i ofyn am i wrtliwynebu y dylanwad hwn ond nid oedd yn tvcio. Wedi codi oddiar ei liniau, arswydai §ydi0 mewn un llvfr ond y Beibl. Rhy ofnadwy ^edd yr arswyd yma iddo geisio milwrio yn ei erbyn. Rhoddwn hbll bwysau fy ymdrech a'm hewyllys i BYfeiriad dysgu a pharotoi at fy ngwersi," meddai, °nd tynai rhywbeth anwrthwynebol fi at gyflwr y colledig."
VII. Gweledigaethau rliyfedd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
VII. Gweledigaethau rliyfedd. Da.dblj'gu wna pethau o hyd yn hanes ein gv/rth- ddrych. Gan nad oedd yn ufuddhau i'r dylanwad a'i tynai yn barhaus at y Beibl a threfn cadw pech- adur, dechreuodd gweledigaetliau ymddangos iddo. (1) Gweledigaeth y Llocr. Un dra rhyfedd oedd y weledigaeth hon. Ar noswaith neillduol yn Nghas- tellnewydd, ysgrifenai Evan Roberts lythyr at eneth ieuanc yn cynwys cyfarwyddiadau ynglyn a'i bywyd ysbryd ol. Dyv/edai goreu y medrai am y ffordd iddi ymddw}m, a rhoddai galondid iddi trv/y ddangos bod Iesu Grist yn drech na'i holl elynion. Wedi gorphen y llythyr, aeth allan i'r ardd, a chyfeiriodd Ysbryd Duw ei olygon at y lloer. Gwelai rhyw ddisgleirdeb tanbeidiach ynddi nag erioccl. Tynodd y clisglaer- deb mawr ei sylw, a sefydlodd ei olwg ami. Yn y fan wele hi yn agor. Yn fuan cyrhaeddodd yr agor- iad faintioli anferth. Wedi hyn gwelai y goleuni yn ymdoni yn y modd mwyaf gogoneddus. Yn y fan dacw yr agoriad mawr yn cael ei lanw gan y presen-ol- deb dwyfol. Beth oedd ystyr y weledigaeth ? Nis gwn, os nad fod lluoedd o galonau i agor o flaen dylanwad Ysbryd Duw; ac i gael eu llenwi gan Grist. Bu Evan Roberts am tuag awr allan yn yr ardd, yn edrych a myfyrio ar y weledigaeth fawr hon. Cadarnhaodd Mr. Sidney Evans y pethau hyn oil i mi yn nghlywedigaeth Evan Roberts. Wedi y weled- igaeth lion, treiddiodd rhywbeth byw trwy Evan Roberts nes ei wneyd yn ddychryn iddo ei hun. Ni all ddesgrifio y peth hwn ragor na'i fod yn gwneyd ei brofiad yn ofnadwy. (2) (Jhwech gweledigaeth arall o'r Llocr. Gwahaniaethai y gweledigaethau hyn oddi- wrth y lleiil mewn un peth neillduol. Agorai y lloer y chwech tro yma, ond yn ychwanegol at hyn, ymranai ei goleuni i bedair cainc fawr i bedwar cyf- eiriad, a disgvnent fel pedair cadwyn, neu belydrau Inawriol1 i'r ddaear. Ystyr hyn, mi dybiaf, yw fod goleuni Efengyl Crist i gyraedd pedwar ban y byd. Gwnai y gweledigaethau hyn ein gwrthddrych i deimlo yn rhyfedd. ofnus, ac i anghofio pa le y safai. (3) Gweledigaeth y tywyllicch. Pan mewn anwyl poenus a'i gorfodai i gadw ei wely am bedwar diwrndd, caf- odd weledigaeth clra gwahanol i'r uchod, sef yr ystafell wely yn cael ei graddol lanw gan dywyllwch. Y pryd hyn, teimlai rywbeth byw ac arswydus yn myned drwyddo oil. Yr adeg y llanwai yr ystafell gan y tywyllwch, cadawai cloc swn rhyfedd. Ni chlywid ef yn tician, ond yn gwneyd swn a ddes- griflai Evan Roberts fel yr, yr. yr. neu un yr" yn barhaus. Cadarnhawyd hyn oil i mi gan Sidney Evans. (4) Gwdedigaeth uffern. Un noson gwelodd uffern yn cael ei hagor, a llais yn gwaeddi, "Yno y byddet ti, oni bai gras." Yna gwelodd ei hun a'i gefn ar y drws yn syllu ar y bobl yn myned yn llu i uffern. Y pryd hyn aeth i weddi am gael cau dorau uffern am flwyddyn i'r bobl gael cynyg ar iachawd- wriaeth. Byw y desgriflai Evan Roberts y weledig- aeth hon, a dywedai mewn llawenydd, "Y mae Duw wedi cau y porth hefyd, ac achubir miloedd y dydd- iau hyn rhag myned yno." Gweledigaeth oedd hon mewn canlyniad i fyfyrdod ar aflwyddiant yr efengyl. (5) Gweledigaeth y glorian. Llawer gwaith y gwel- odd glorian yn y ffurfafen, a Christ yn ei dal i bwyso dynion; ac ar fwy nac unwaith gwelodd ei hunan ynddi. Gwelai ei hun yn fiechadur mawr ynddi, a phen y glorian y safai arni yn rhy brin ond yn y fan, dyna gariad Crist i'r glorian ato nes ei phwyso hyd y llawr. (6) Gweledigaeth y diafnl. Nos Sab- bath, tuag amser te, pan yn Nghastellnewydd, ym- ddangosodd y diafol iddo ar lun person yn y berth ar y chwith. Gwawdlyd, cenfigenllyd, dirmygedig, a herfeiddiol oedd yr olwg arno; a chwarddai gyda gwawd am ddigalondid Evan Roberts; oherwydd sefyllfa isel crefydd. Gadawodd y weledigaeth hon argraff ddofn ar feddwl ein gwrthddrych. (7) Gweled- igaeth 11 diafol a Christ gyda'n gilydd■ Nos Lun, ar ol y weledigaeth ddiweddaf, aeth Evan Roberts i'r cyfarfod gweddi i Gastellnewydd ac wele y diafol yn ymddangos fel y noson flaenorol, ac ar y chwith eto. Yn union, wele Berson disglaer ogon- eddus yn ymddangos uwch ei ben. Crist oedd hwn. Yn ei law yr oedd cleddyf mawr, gloew. Ymddang- osai buddugoliaeth ar ei wedd; ac ymdonai cariadyn ei wyneb. Mil harddach na thoriad y wawr oedd yr olwg arno. Yn v fan dacw ef yn tynu ei gleddyf dros frest y diafol; a'r ail waith tynodd ef dros ei wyneb a'r diafol ni welwyd mwvach. Diilanodd gyda chyflymder na ellir ei ddesgrifio. Llawn o ystyr oedd y weledigaeth hon i Evan Roberts. Gwelodd fod Crist i gymeryd y byd yn eiddo iddo ei hun, ac i ddinystrio teyrnas y diafol. 8. Y weledig- aeth gvddiedig. Cafodd Roberts un weledigaeth pan yn N gh ast ell newydd a thystia ei bod yn wyrth; eithr ni ddywed ei chynwys wrth neb. Dywedai wrthyf na feiddiai ddatguddio hon. Peth rhwng Duw ac yntau yw hi; ac i'w chadw yn ddirgelwch. Er ail a thrydydd ofyn iddo am ei natur a'i chynwys, teimlai nad oedd ganddo hawl i'w datguddio heb oleuni pellach oddiwrth Dduw, a sicrwydd o'i fodd- lonrwydd iddo i'w datguddio. Wedi myned trwy y gweledigaethau rhyfedd hyn teimlwn fy mod yn nghanoi llyfr y Datguddiad. Diau y teimlir y gwel- edigaethau hyn yn rhai rhyfedd iawn gan lawer; ac y bycJd tuedd ynddynt i amheu eu natur. Beth bynag am hyny, fel hyn y cefais hwy yn llythyrenol gan Evan Roberts. Carwn i bawb gofio hyn nad {(matic" yw y diwygiwr ieuanc; ond bachgen o alluoedd meddyliol cryfion ac yn meddu cydbwys- edd meddyliol o'r xadd flaenaf. Nid oedd rith o amheuaeth yn fy meddwl pan yn ei holl, yn fanwl, a difrifol am y pethau hyn, nad oedd yn dweyd y gwir bob gair. I sicrbau hyn croesholais ef ar lawer pwynt; a mynais wybod gan Mr. Sidney Evans a oedd y pethau yn wir, yr hwn oedd yn yr un ystafell. Peth arall, vr wyf am gocli dau beth i sylw cyn gadael. y gweledigaethau hyn. set yw y rhai. hyny. (a) Pa anhawsder mwy sydd i gredu yn ngweledigaethau Evan Roberts, na chredu yn rhai Petr a Phaul? A 3^dym i gredu fod gallu v bod l roddodd weledigaethau iddynt hwy wedi peidio? Ai nid mor hawdd iddo roddi gweledigaethau yn awr a'r pryd hwnw? Ai nid oes llawn cymaint o alN am y gweledigaethau mewn cysylltiad ag achubiaeth y byd yn awr ag cedd y pryd hwnw ? Pe y dywedid rnai efieithiau meddyliol yw y pethau hyn, ai md yw Duw yn bresenol yn meddyliau dynion? Rhaid i mi ddweyd, ac nid wyf yn dywedyd dan fy nwylavv, nac heb wybcd digon am athroniaeth 3' meddwl i fariiu clrosof fy hun, fod rhyw bethau yn adroddiad Evan Roberts o'i wcledigaethau, sydd tuhwnt i wycldor athroniaeth y meddwl mor bell ag y deallir hi yn bresenol. Ie, a phe y gellid eu hesbonio ar dir athroniaeth y meddwl. ni wnai hyny gau Duw allan o honynt. Pa gysondeb sydd mewn pregethil gweledigaethau yr apostoiion ac anghredu a gwadu y rhai hyn? (b) Fel y dywedais mewn ysgrif arall, cvnwys. eu gwadu, wadu bodolaetli Duw yn y pen- draw. Os caniateir bodolaeth Duv/ Anfreidrol, all wneyd a fyno a llu y nef a thrigolicn y ddaear, VI anhawsder sydd i gredu y gweledigaethau hyn ? C" Gallwn ychwanegu, fod y gwaith rhyfedd a \y:i Evan Roberts, yn brawf o fod rhyw bethau mawnon wedi digwydd rhyngddo a Duw.
VII. Gadael yr YLgOl.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
VII. Gadael yr YLgOl. Rhyw saith wythnos Y11 ol, aeth Evan Roberts a Sidney Evans ei gyfaill, i Gyfarfod Misol Bwlchy- groes, a theimlent ill dau eu bod wedi eu bedyddio a'r Ysbryd Glan. Iddynt hwy yr oedd y cyfarfod hwn yn fendigedig. Wedi dychwelyd i Gastell- newydd, yr oedd gwneyd gwaith yr ysgol an an- mhosibilrwydd i Evan Roberts. Gwelai bob llyfr ;r dan ond y Beibl. Unwaith y cydiai yn Aleibl anwyl Iesu, dyna dawelwch perffaith yn ei enaid. Meddyl- iai am fyned drwy Gymru oil i bregethu Crist; ond dywedai yr Ysbryd wrtho nad oedd yr amser welrlii dyfod eto. Aeth at Dduw i ofyn am chwech yn Nghastellnewydd, yn barod i gysegru eu hunain It gwaith gydag ef; a chyfarwyddwyd ef gan yr Ysbryd Glan i beidio symud nes y byddai y chwech yn barod. Daeth v rhai hyny; a dydd Llun, Tachwedd gfed, dacw livan Roberts yn gadael Castellnewydd am Gasllwchwr. Pan ar de yn nhv y Parch. Evan Phillips, y Sul blaenorol, gwnaeth yn hysbys fod arno chwant myned gartref i weithio jmihlith y dynicn ieuainc; ac ni cHid ei berswadio i beidio gosod ei awydcl mown gweithrediad. Ymdrechodd yn galed i beidio, ond cario wnaeth cymhellion Ysbryd Duw, a ffwrdd ag ef am gartref. Nid oes eisieu rhoddi hanes y canlyniadau rhyfedd o hyny; oblegid hysbys yaynt drwy yr ysgrifau biaenorol. Oddiwrth yr hyn ydyni wedi ddweyd, gall y darllcnydd weled, mai nid rhyw- beth sydyr oedd galwad Evan Roberts, ond peth dyfodd ynddo yn raddol nes myned yn anorchfygo;. Hyn oedd ei atebiad pendant i mi pan ofynais 7 cwestiwn iddo am ei alwad. Llawer gwell genyra hyny. Ymddengys y peth yn fwy gwirioneddol a syi- weddol o lawer, na phe buasai hi fel arall. Onibai fod rhyw bethau eithriadol ynglyn ag achub eneidiau yn ymddangos ynddo drwy y blynyddau, pur an- hawdd fuasai iddo fod o'r fath ddylanwad gyda'i gyf. oedion gartref. Yr wythnos nesaf traethwn ar Evan Roberts n ran vmddangosiad, arno fel dyn, ar ei syniadau, ar ei ffordd o gario cyfarfodydd ymlaen, a rhoddi pregeth o'i eiddo yn agos air am air. Dylifa galwadau am dano o bob cyfeiriad. Dydd Sadv/rn diweddaf derbyniodd ddeiseb (petition) wedi ei harwyddo gan 500 oddiv/rtli Central Mission, Aber- deen Scotland, yn dymuno arno ddyfod yno i adeilad lie y cawsai o leiaf 4,000 i'w wrandaw; oblegid fo; ganddynt hwy y nifer hyny ar y Sabbothau 3^' gwrandaw yr efengyl. Yr oedd galwad wedi gyraedd oddiwrth Brunswick Congregational Chur el Bryste, hefyd, ac o Abertawe, Bontddu, DolgelCcb, a Chemaes, Swydd Drefaldwyn. 'aU)
EBENEZER, DINAS. >
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EBENEZER, DINAS. > Er's p3rthefnos mae yr eglwys uchod wedi ei < hyrfu drwyddi, yn arbenig y bobl ieuainc—yn fs-byn- a merched. Cynhelir cyfarfodydd genym bob ij^bion yr awyr agored, ac yn, y capel, ac y maent yn ,1S o ddylanwadol. Bu y cenhadwr a'r diwygiwr„ Mr. Sydney Evans, ynghyda Miss Davies, 5euA!l(/ genym dros y Sul diweddaf, a chafwyd Maeste; iiynod. Arhosorfd v.th ar ol, gan ddymuncl'eu('a restru yn ein plith ni. Cafodd yr Annibynwyr f -in" enwau eraill. Mae effeithiau ymweliad y diwy^efy ieuainc yn aros, a'n cyfarfodydd yn parhau yn 11gwyr wlithog beb nos; Meibicn a rr.erched i euaiii(.,? cymeryd rhan o'r newydd. Pawb yn teimlo i p megis am y cyntaf, heb angen gofyn i neb i wnZOdl dim. Mor belled, teimlv/n fod y Diwygiad wedi tJeYll yrchu y pethau canlynol -p'" I. Gwneyd i ffwrdd a'r hen ddull ffurfiol i gyi cyfarfodydd. Yn awr mae pawb yn newydd yn (wI siarad a'u Ll 2. Cynyrchu awydd angerddol am wneyd gwaith sylweddol dros eneidiau yn y cylch. 3. Teimlo fod goleu newydd yn dyfod ar hen em3;nau ac adnodau y Beibl. R. G. ADAMS.
TREE ORRIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREE ORRIS. Mae rhyw allu grymus iawn yn gweitbio yma; ac yr ydym yn credu ac yn hyderu mai yr Ysbrwl Glan sydd yma. Dechreuodd y cyfarfodydd diwygiadol yn Bethania y Sul, Tach. 27, gan Sidney Evans, ac. am ryw eraill; ond crbyn hyn mae yn rhaid cael addolclai. fwy o faint. Parchn. R. J. Jones o Hendy, ac Evans, New Quay, sydd yma yn eu cynal er dy.J. l lau, ac yn eu cynorthwyo mae amryw o chv/ioiydd. ieuainc y lie. Mae cyfarfod am 2 a 7 o'r gloch bob dydd. Nis gallaf roddi enw arnynt, chwaith nid oes yr un drefn ar eu cynal, ond trefn yr Ysbryd meddent. M'te y cyfarfod 7 yn parhau ymlaen hyd 2 a 3 o'r gIn;) v boreu yn ei rvrn, a'r capel bron yn llawn hyd hyny. Cyfarfod i'r bobl ieuainc yn neillduol ydyw ar ol IC. ac yn Tabernacl nos Sadwrn fe roddodd 140 eu hunain i Grist; a'r nos cyn hyny yn Philadelphia rhyw 100; a thua 120 y nosweithiau blaenorol.