Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

----CASGLIAD YR UGEINFED GANRIF.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CASGLIAD YR UGEINFED GANRIF. APEL AT Y METHODISTIAID. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,-Fel holl enwadau Ynmeillduol Cymru a Lloegr, gwyddis ddarfod i'r Methodistiaid hefyd benderfynu gwneuthur Un Casgliad Mawr i hynodi dechreu y Ganrif newydd. Mewn un gair, Casgliad' ydyw er cynorthwyo, mewn gwahanol ffyrdd, Eglwysi Gweiniaid ein Cyf- undeb—yr Eglwysi ag y mae ein Cyfundeb yn deill- iaw o honynt. Y swm y penodwyd arno i'w gasglu at yr amcan hwn ydyw Can' Mil o Bunau ( £ 100,000)—-swm mawr iawn i unrhyw Enwad Cymreig i ymgymeryd ag ef. Heb unrhyw benderfyniad ffurfiol, tyfodd i fyny yn gycl-ddealldwriaelh clir, o'r swm hwn, fod Gog- ledd Cymru i gasglu Tri Ugain Mil ( £ 60,000), a'r Deheudir Ddeugain Mil ( £ 40,000). Y mae v Deheudir eisoes wedi trefnu i wneyd eu swm hwy i fyny yn eu dull eu hunain, ac yn berffaith sicr, mi gredaf, o'i gyraedd hefyd, fel na raid i neb betruso dim am danynt hwy. Erbyn Cymdeithasfa ddiweddaf Bangor, yn mis Awst, yr oedd y swm o Ddeunaw Mil a Deugain ( £ 58,000) o'r Triugain Mil ( £ 60,000) wedi cael ei gasglu gan y Gogledd, gan adael Dv/y Fil o Bunau heb eu casglu. Penododd y Gymdeithasfa fy nghyfaill, y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, a minau i geisio gorphen y Casgliad. Anhawdd ryfeddol oedd genym ein dau ymgymeryd a hyn. Yr oeddym eisoes wedi gwneyd ein goreu, a gwyddem yn dda mor ddi- galon ydoedd ceisio ail gychwyn yr hyn ydoedd wedi sefyll. Er hyny, mewn teyrngarwch i'r Cyfundeb—ac, i mi o leiaf, o gatiad at yr eglwys fechan, fechan o 15 o aelodau y cefaig fy inagti ynddi—aberthasom ein teimladau ein hunain, ac ytiigymetasoiii a'r gwaith. Erbyn hyn, yn benaf trwy garedigrwydd cyfeiilion ffyddlon oeddynt wedi cyfranu eilwaith a thrachefn, yr ydym wedi casglu dros Ddeuddeg Cant 0O Bunau ( £ 1,200) o'r Ddwy Fil ( £ 2,000), gan adael yn agos i Wyth Cant o Bunau ( £ 800) i'w casglu. Yr ydym wedi penderfynu gwneyd ein goreu i gael y swm hwn i mewn ac i gau y Casgliad i fyny erbyn y dydd olaf o'r fiwyddyn hon. I gyraedd hyny yr ydym yn ymddibvnu ar dri pheth:- 1. Y bydd i bawb sydd wedi addaw dalu i fyny eu cyfraniadau mor fu&ri y byddo modd. 2. Parhad ffvcldlondeb cj^feillion i odanfon i ni gyfraniadau personol. 3. Casgliad cyhoeddus o Un Geiniog ar gyfer pob gwrandawr perthynol i'r Methodistiaid-or plentyn sugno i'r can'frilwydd oed—ar y Sab- bath olaf yn y flwyddyn hon. Rhag. 25, yr hwn sydd yn disgyn eleni ar y Nadolig. Ond i hwn gael ei wneyd yn ffyddlawn drwy ein cynulleidfaoedd, daw a Saith Gant o Bunau i mewn, yr hyn fydd bron yn ddigon i orphen. y Casgliad. Ein hapel ddifnlol, gan hyny, ydyw am i bawb ymroddi yn enwedig i wneutliur y Casgliad hwn yn ffyddlawn ar y dydd a nodwyd, a'i ddanfon i mewn ar y 27am, fel y gcllir cwblhau y cyfan erbyn y dydd olaf o'r flwyddyn hon. Yn yr haf, byddaf yn fynych yn gweled y Cerbyd Pedwar Ceffyl yn cychwyn o arngylch yr Wyddfa, taith 0 35 o filldÍroèdd. Cychwyna'r meirch yn awchus, ond cyn. cyraedd adref bvddant v/edi blino yn fawr. Er hyny, ryw haner milldir cyr: cyraedd y dref, pan glywo'r meirch y corn mingorn mawr yn dechreu canu, y maent yn adfywio drwyddynt; bydd eu trot yn fwy lioew, eu pranciad yn gyflymach, a dibenant y daith gyda charlam wvllt. Gadawer i ninau orphen ein taith fiinderus eleni gyda'r Casgl- iad Mawr gyda ihipyn 0 garlam\ Yr eiddoch yn ffyddlawn, Caernarfon, EVAN JONES, Rhag. 14, 1904.

Advertising

Borphesa y GssgSiad Agavvr.

YR ADFYWIAD. --