Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Y DIWYGIAD YN METHESDA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIWYGIAD YN METHESDA. ODDIWRTH Y PARCH. JOHN T. JOB. Da i ymlaen yn ei rym ac yn ei flas y mae y Diwyg- iad yma o wythnos i wythnos. A dydym ni ddim yn meddwl rhoi i fyny wecldio am dano yma mwyach: nerthed Duw nyni a phawb eraill i ddal yn dyn wrth y penderfyniad hwn—canys y mae Diwygiadau lawer yn nghadw etc gan Dduw i'w bobl. Look out, Seion Duw!-bydded dy ffenestri o hyd yn agored tua'r nefoedd. r i Blin genyf ddarfod i mi golli llawer o gyfarfodydd yr wythnos Rhag. 4—11, yn y He hwn, y gwir yw-yr eeddwn wedi canu gyda'r saint yma nes oeddwn YI\ gryg, ag anwyd trwm wedi fy nal: Diolch am y gobaith o gael llais heb grygni arno, ryw ddydd, i ganu am Galfari. Llawen, er hyny, genyf ddeall i'r saint gael "amser i orphwys o olwg yr Arglwydd:" yr wyf yn teimlo y golled yn fawr. Cafwyd gwasan- aeth y Parchn. J. D. Owen, Glan Conwy. Caenog Jones, Tregarth, Rhys J. Huws, Bethel, R. Williams, Llanllechid, a W. Jones, Felinheli, yr wythnos uchod; a mwynhawyd y pregethau yn fawr—yr Hen, Hen Hanes yn syml: dyna y nwydd gwerthfawrusaf yma yn awr. Ymhlith yr ymwelwyr a'r cyfarfodydd hyn gwelsom yr Anrhvdeddus W. Gibson—y Celt- iad llengarol o'r Ucheldiroedd—nos Iau, Rhag. Sfed. A'i dystiolaeth wrthyf oedd—ei bod yn un o r golvg- feydd mwyaf trydanol y bu efe yn dyst o honi erioed -11 most solemn and impressiee." Mawr edmygai, ftieddai ef, wedd naturiol, a rhesymoldeb y gwasan- aeth drwyddo nid oedd dim byd yn strained ynddo, er fod y teimladau wedi codi yn uchel iawn. Dyna hef\«l yr argrafE edy yr holl gyfarfodydd o'r dechreu arnaf finau. Codiad Haul—gwedi gauaf caled ar grefydd-yn peri i'r adar ganu: dynar Diwygiad yn Methesda hyd yn hyn. Gwir fod yma tuylo; ond "wylo cariad pur yn ddagrau melus iawn" ydyw— da°rau edifeirweh a'r Haul yn tywynu yn brydferth. Ceidw Gyfarfodydd y Chwiorydd eu tymheredd yn uchel o hyd. Clywais ddarfod iddynt hwy gael dau neu dri cyfarfod yn festri Jerusalem-utvch nag a gafwyd eto. Dywedai un wraig Y bore yr hwyl- iodd fy mhriod am yr Amerig (wedi methu cael gwaith yn Chwarel y Penrhyn)—teimlwn yn ddigllawn iawn Wrth amryw o'i gydweithwyr a 1 gwerthasant; ond heddyw—wedi y Diwygiad yma—y mae fy nghaion yn llawn o faddeuant yr efengyl,—a theimlaf y gallaf ■e j 7 • 7 ■ < Diolch Iddo am roi y teimlad faddeu 1 ba,wb.. uioion it n'r bendieedig hwn 1 mi. Fedrwn 1 byth iaddeu blaenf ond Wr mi aUaf." Dyna chwi Ddiwyg. ^Dacw wraig arall ar ei *^4 ei ph rofiad Maddeuwch i mi am ddweyd gair. Ond fedra 1 ddim peidio Menyw dlawd w 1; ond mae Duw WedT 'ngwneyd i yn gyfoethog a'i ras y dyddiau di- Vpdda' 'ma MetJiais ddod ir cyfarfoJ ddo Weld hi yn ddiwrnod golchi' ond O! Toeddvvn yn tefmlo yn euog nwchben y twba g<J^-«wybod eich bod chwi yma yn disgwyl wrth vx Ysbryd Glan, a fine fan frmo (ond rhaid 1 mi enill fy nhamaid, serch hyny). Ond O! yr oeddwn yn ofmus na f aswn yn dod Yn wir i ch'i—fan yma 'rwyf fi yn cael fj L-yd a'm diod. Diolch byth am Gyfarfodyddjr Chwiorydd yma! dyma Hen OoBege • fedS Vmori tT dysgn (ac yr oeddwn yn de-hiro iipfvcVi Ond O! ddryswch bendigedig, &c. fc"w « diwedd yma ar ganmol yr Iesu drwy tv,c. i,ia oes. u. J # phawb yn canmol adnodau a phemlhon, tystiolaeth i L rirvw' Pas Duw. Mae Cyfarfod gweddi y SJS hefyd jm W 7- 'I noson a rhai newydd yn "tori drwodd i weddio 0 hyd. Y mae rhywrai newyddion yn dod i fewn i'r Eglwys hefyd yn barhaus. Tarawiadol iawn oedd gwaith. un brawd yn rhoi ci hunan o'r newydd yn Eglwys y Carneddi nos Sul, yr neg cyfisol. Yr oedd y brawd hwn yn aelod" o'r blaen, ond heb godi ei docyn aelodaetli o un o eglwysi y Deheudir. Pan alwyd y Seiat y nos Sul uchod, i weled a oedd rhyw un o'r newydd wedi aros," eisteddodd y brawd hwn i lawr, a dyma fe'n dweyd ar g'oedcl y Seiat,- 'Rw'i wedi bod yn hogyn drwg yn y South; a 'does gen'i ddim calon i ofyn am docyn o'r eglwys yno: 'dw'i ddim yn ffit i gad tocyn oddiyno (fyddai hyny ddim yn onest ynw'i): yr w'i am ro'i fy hun o'r neicydd i ch'i yma--os derbyniwch fi." Gwnawn," meddai pawb yn y cyfarfod; a dyma hi'n orfoledd-" Diolch Iddo, &c. Dyna i ti onest- rwydd crefyddol, anwyl ddarllenydd! Beth yw hyn, meddaf, ond Diwygiad ? Tybed nad oes angen am hyn ar luoedd eraill sydd a'u henwau "ar y llyfr" drwy'r bIynyddocdd-" rhoi ein hunain o'r newydd." Yr wythnos hon (Rhag. n—aS), ymwasgarwyd i'r gwahanol eglwysi (er fod Cyfarfod y Chwiorydd bob prydnawn yn parhau yn undebol). Cyfarfodydd gweddio yw hi ymhob eglwys yr wythnos hon; ac y mae'r eneiniad yn amlwg arnynt. Dal fi hyd y diwedd, Arglwydd," ebai hen wr, ar ei liniau—" hyd y diwedd—hyd y diwedd—ie, hyd y diwedd, Arglwydd!—'rwyt ti wedi 'nal i gryn blwc, bellach; fydd y diwedd i. fi ddim ymhell; ond hyd y diwedcl 'nawr, Arglwj'dd. Paid a ngadael i i fyn'd yn ol, bellach, tae beth. Gwared fi rhag y 'tynu yn ol i golledigaeth,' beth bynag. Be' wnawn ni yn ol,' 0 Arglwydd?—fe fydd yn ofnadw arnom ni y ffordd hono. Ymlaen, Arglwydd, yn awr; ymlaenl yrn- laenW Mae'n fendigedig ymlaen yna-' hyd y di- wedd' bellach! Namyn o ffydd i gadwedigaeth yr enaid Mae adnod felly yn yr Hebreaid 'na, onid oes, Arglwydd," &c., &c. Teimlem fod yr hen frawd syml hwn-un o blant y tonau yn tynu y ndoedd i lawr yn deg am ein penau. Hen express train i'r Bywyd yw yr hen frawcl hwn yn sicr (ac nid yw efe yn debyg i neb ond iddo'i hun-nid yw i gyd yna," yn ol iaith y byd; ond gwyr y nefoedd yn dda am dano). Y mae ar y Ffordd Dragywyddol er's blyn- yddoedd wedi gadael uffern dan ymhell ar ol: good-bye, gythreuliaid! chewch chwi afael byth ar yr Hen Hugh Jones." Mae ei fywyd yn rhy saff— gyda Christ yn Nuw er's llawer dydd! Gweddi fy nghalon inau, wrth ei wrando, yd oedd—" Bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau." Ie," hyd y diwedd (chwedl yntau).
..-----'---ABERMEURIG. --
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERMEURIG. ODDIWKTH Y PARCH. J. EVANS. Da genyf gael y fath destyn i ysgrifenu gair arno. Bum yn ysgrifenu rhyw ychydig mewn cysylltiad a'r diwygiad o'r blaen, yr hwn a ddechreuodd yn Hydref, 1858, ond ei fiwyddyn fawr oedd 1859; ond ni feddyliodd fy nghalon y byddai yr adeg mor faith cyn cael ysgrifenu rhyw gymaint drachefn am ddi- wygiacl arall. Aeth 45 o flynyddoedd hebio, fel yr oeddwn wedi dechreu ofni y byddai yn rhaid i mi fyned at y mwyafrif, cyn cael gweled yr un cyffro mawr drachefn. Yr oeddwn i, fel llawer wedi gofyn ganwaith yn ystod yr amser, Pa hyd Arglwydd y'm hanghofi ai yn dragywydd ? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?" Gwyddwn fod Duw wedi dweyd, Os erys y weledigaeth, disgwyl am dani, canys gan ddyfod y daw, ac nid oeda." Ond yr oedd fy amyn- edd i fel llawer mor fychan fel na allwn beidio parhau i ofyn, "Pa hyd Arglwydd?" Aeth Ilawer mor bell nes gofyn yn eu ffrvvst," yn eu cyffro a'u digalondid, A angbofiodd Duw drugarhau; a gauodd efe ei dru- gareddau mewn soriant? Yr Arglwydd a'm gwrth- ododd, a'm Harglwydd a'm hanghofiodd." Ofnent fod Seion wedi myned yn rhy bell mewn gwrthgiliad, ac annuwioldeb cyhoeddus wedi myned mor warthus, fel yr oedd Duw wedi penderfynu ein rhoddi fyny, gan ddywedyd fel cynt, Ephraim a ymgysylltodd ag eilunod, gad iddo." Ond nid meddyliau Seion pan yn ei ffrwst yw medd- yliau ei Duw; ac y mae canoedd heddyw yn cyf- addef hyny, gan ddweyd, Mi a ddywedais yn fy ffrwst. Fe'm bwriwyd allan o'th olwg, er hyny ti a wrandewaist lais fy ngweddiau pan lefais arnat." Ac nis gallaf lai na mawrygu ei enw am mai dyna yw Uais degau yn Abermeurig yn awr, fel miloedd mewn lleoedd eraill. Ein hiaith yma yn awr yw, Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Ond yr ydym yn credu fed llawer mwy yn ystor ar ein cyfer. Gellir dweyd ein bod wedi cael blwyddvn dda yn grefyddol, fel y gellir dweyd am y flwyddyn hon yn naturiol. Mae y cyfar- fodydd gwecldiau a'r cyfarfodydd eglwysig wedi cynyddu yn raddol trwy y fiwyddyn, fel, erbyn dau fis olaf y fiwyddyn, y maent yn debyg i gyfarfodydd cyhoeddus y Sabbath mewn lliosowgrwydd. Nid oeddym yn wybyddus o unrhyw atdyniad i ddyfod a hwynt yma yn fwy nag yn y blynyddoedd o'r blaen, ond hon yw eu blwyddyn ddewisol hwy i fynychu moddion gra.s. Bu y brodyr yma a minau yn eu cymell yn daer i beidio esgeusluso ordinhadau ty DduW, ond nid oeddynt yn clywed, nid oedd dim yn ein lleisiau ni i beri iddynt glywed. Mae rhyw lais yn llefaru y flwyddyn hon sydd yn hoilol wahanol i'n lieisiau ni. Mae y cwbl yma yn ddistaw a thawel, ond y mae y bobl yn clywed rhyw swn yn awr sydd yn dweyd rhywbeth tebyg wrthynt i'r peth ceddym "ninau yn ddweyd o'r blaen, ond y mae nerth gyda hwn, ac y mae y bobl yn dyfod dan ei ddylanwad i'r cyfarfodydd. Nid oedd eisieu cymell y rhan olaf o'r fiwyddyn ho.n, yr oedd llais y tnallan, y llef ddistaw fain, yn llefaru wrthynt gydag awdurdod a nerth, fel y mae yn well gariddynt ddyfod na pheidio, a rhaid dyfod, "fel y creaauriaid yn myned i'r arch gynt at Noah' a'i deulu, yr oedd rhyw awdurdod oedd vn Noah' a'i deulu, yr oedd rhyw awdurdod oedd vn gryfach na mil o daranau yn eu gyru i 'rnofyn yn cysgod rhag y diluw. Felly y mae yn hollol yn yr achos hwn. Yr ydym yn gweled erbyn hyn fod rhywbeth gan y dynion mewn golwg pan yn tyru i'r moddion, neu yr oedd rhywbeth gan Dduw ar eu cyfer yn anym- wybodol iddynt hwy, ond yn peri iddynt wybod yn ddistaw, eto" yn anwrthwynebol. Maent bellach yn dechreu gwledda ar ddanteithion yr efengyl. Mae y diwygiad oddiar yr 2ofed o fis Tachwedd wedi cym- eryd y ffurf arferol i'r diwygiad hwn-y merched a'r gwragedd wedi ymgymeryd a gweddio yn gystal a'r meibion, a'u rhifedi yn cynycldu ytnhob cyfarfod newydd. Maent bellach yma fel gyda phobl Samaria yn dweyd, Y dynion oedd yn myned drosom ni yn gyhoeddus at yr orsedd o'r blaen, ond ni raid bellach wrth eu deisyfiadau hwy, oblegid clywsom ef yn ein galw ni ein hunain at y gwaith." Nid oes yma neb wedi galw yr un o honynt at y gwaith, ond rhyw lais o'r ol sydd yn eu cymell, a hwythau yn ufudd- hau. Fel hyn y mae proifwydeliaeth Joel yn cael ei chyflawni yn llythyrenol,-—" Eich meibion chwi a'ch merched a broffwydant." Nis gallwn ni bellach eu cadw rhag cymeryd rhan gyhoeddus gyda ni o hyn allan, gan fod y dwyfol lais wedi rhoddi ei sanction' iddynt. Ac, yn wir, maent yn medru ar y gwaith mae eu lleisiau, a ffurf eu deisyfiadau, yn gorchfygu pawb,-ac yn dryllio pob teimlad. Mae gan newydd- deb y peth gryn lawer i wneyd yn hyn, ar hyn o bryd, ond yr ydym yn hyderu mai peth newydd i barhau ydyw; ac yn sicr, os parha, y bydd yn gyf- nerth mawr i'r cyfarfodydd gweddiau yn yr amser a ddaw. Mae yn debyg na chant lonydd mwy, a bydd yn ormod o golled i grefydd i fod heb eu gwasanaeth. Clywsom rai o honynt yn diolch am gynal y gwryw- iaid i fyned a'r gwaith ymlaen hebddynt hwy trwy yr holl flynyddoedd, ac yn diolch hefyd am gael nerth i ddechreu yn awr. Un yn dadleu gerbron Duw fod Iesu wedi marw a rhoddi iawn dros bechodau, ei I'jod yn drueni fod dynion yn cael eu gadael eto i fyv. yn eu pechodau, ac yn diolch fod y rhai a brynwyd ar Galfaria yn myned yn dorfeydd y dyddiau hyn ar ol yr Iesu. Un arall yn achwyn ar yr hen grefydd, ac yn dweyd nad oedd yn werth dim, ei bod yn rhy wan at bob peth, ac yn gofyn am gael crefydd iawn^-grytti duwioldeb. Mae pawb erbyn eu bod ar lawr yn diolch am nerth i ddechreu ar y gwaith3 ac yii gofytt am ras i gadw ymlaen byth mwy. Mae ysbryd cenhadol yn dechreu tori aliatij tricie son am fyned i dai lie mae cleifion i weddib. Mae yma lawer o siarad am gael rhai at grefydd; a chael rhai i gymundeb. Gallwn feddwl nad oes gadael llonydd i neb mwy nes rhoddi rhyw gam ymlaen at wella mewn crefydd a moesau. Mae y siarad am y diwygiad yn llenwi y wlad, a hwnw yn cadw pethau gwael a diles heb ddyfod i'r bwrdd cyfnewid, yn enwedig ar ddydd Duw, a llawer hefyd ar dclyddiau eraill. Pan ddelo Duw i wneyd rhyfeddodau, mae yn sicr o dynu sylw, a rhoddi testynau ymddiddan, ac y mae hyny yn amlwg yn y dyddiau hyn. Yr ydym yn deall fod rhai yn dal yn ddigon cryfion eto i geisio gwneyd gwawd o'r gweddiwyr, nid oes fawr o sylw yn cael ei dalu iddynt ond i weddio drcstynt, a disgwyl cael clywed am bob un o honynt, Wele y mae yn gweddio." Nid oes gweled yn chwith ar byrth uffern gynhyrfu, dyna eu harfer ond ni allant orchfygu, byddin yr Oen bia'r oruchafiaeth. Er pob cywiiydd, gwawd, a gwendid, cynyddu y mae canlyn- wyr yr Iesu yn yr ardal hon, mewn rhif, mewn nerth ynddynt eu liunain, ac mewn dylanwad iachusol ar y wlad. Mae bod y tan dwyfol yn dechreu enyn mewn lleoedd eraill yn agos yma yn rhoddi llawer o galondicl i bawb yn y lie hwn i ddal eu ffordd a chwanegu cryfder. Mae Bwlchyllan yn symud, Llan- dewibrefi mewn cyffro mawr, Tregaron ar dan, a Blaenpenal yn dilyn. 0 Bontsaeson a'r Pennant i lawr i ben isaf y sir y mae llawer o'r diwygiad wedi myned ymlaen er's tro. Wel, wrth derfynu, nis gallaf lai na diolch fy mod yn cael ysgrifenu am ddiwygiad eto cyn diwedd fy oes, a'r diwygiad hwnw wedi cyraedd fy nghartref. Da genyf weled cymaint o ysgrifenu hanes y diwyg- iad. Dymunaf ar bawb, a allo, ysgrifenu llawer o'r hanes. Teimlwyd diffyg mawr o hyn yn y diwygiad o'r blaen; na adawer i'r achwyniad hwn fod am y diwygiad presenol. Ati frodyr a chwiorydd, adrodd- wch yr hanes am y llaw ddwyfol yn gweithio yrnhob lie, er gogoniant i'r llaw ei hun, ac er mwyn eangu dylanwad y gwaith a wneir trwyddi.
SALEM, CRYNANT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SALEM, CRYNANT. Da genym ddweyd fod yma Ddiwygiad nad oes neb yn cofio dim tebyg iddo o'r blaen. Mae brwd- frydedd yr eglwys yn fawr, a phawb yn gwneyd eu rhan i ledaenu yr Ysbryd hwnw. Tair wythnos sydd er pan ddechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddi neillduol i barotoi v ffordd i'r Diwygiad, ac yr ydym eisoes wedi cael cyfarfodydd lliosocach nag a welwyd ar unrhyw achlysur.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ar y 9fed cyfisol, cymerodd le cyfarfod i groesawu y Parch. J. Ernest Jones fel gweinidog yr eglwys Fethodistaidd yn St. George's Parade, Wolverhamp- ton. Cyn y cyfarfod, cynhaliwyd yno gwrdd te, a daeth nifer dda at eu gilydd. Am 7.30 cymerwyd y gadair gan y Parch. J. Roberts-Evans, Suffolk St. Dechreuwyd gan y Parch. G. O. Evans, Amwythig, a darllenodd y blaenor, Mr. Joseph Evans, nifer o lythyrau oddiwrth frodyr yn gofidio eu hanallu i fod yno. Rhoddodd y diacon Philip Jones, hanes yr alwad, a chafwyd araethiau gan Mr. Thomas Jones, Suffolk St., y Parchn. Bencup a Morris (W.), a Bone (A.), Cadeirydd y Cyngor Efengylaidd yn y dref, a'r Parch. John Prichard. Atebodd y gweini- dog mewn byr eiriau. Hysbysodd y cadeirydd anallu gofidus y blaenor hynaf a bod yn bresenol, sef Mr^ John Jones, y Gas,
YR ADFYWIAD. --
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
t ei gael. Ar ol yr oclfa bum gydag ef, a rhai o'r brodyr, am tua dwy awr. Yr oedd yn syml a di- fodres iawn, ac yn ymddangos yn gartrefol a dedwydcl Etc yr oedd yn amlwg ei fod mewn trafferth, os nid cyfyngder meddwl. Dywedai wrth rai o'r cyfeill- 1, u lori wedi i mi fyned adref, ei fod yn -methu yn deg a chael ei feddwl at ei lyfrau, a'i fod yn teimlo na byddai o un fantais iddo aros yn yr ysgol. Pan glywsom am dano yn cychwyn ei waith yn Cas- lwchwr, yr oedd yn naturiol cofio am yr hyn a welsom ac a glywsom ganddo y prydnawn Sabbath yn y Gwastad bythefnos yn ol; ac y mac yn debyg iawn ein bod yn dilyn ei hanes yn fwy manwl oher- Wydd ein bod wedi ei weled a'i glywed. Cyfyd hefyd y cwestiwn yn ein meddyliau, Ai nid oes i ni Wers, os nid cenadwri, yn y ffaith ei fod wedi bod yma mor ddiweddar, ac wedi dyfod i'r fath sylw mor ddisymwth ? Gwaith anarferol i mi ydyw ysgrifenu, ond y mae yr hanesion rhyfedd a ddeuant drwy y wasg bob dydd yn codi blys ynof i ddywedyd gair neu ddau am agwedd bresenol y mudiad rhyfedd hwn o eiddo Ys- bryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.' Onid ydyw yn rhyfedd iawn? 'Yr Arglwydd yw,' nid drychiolaeth. Y mae yr lesu ar y ddeheulaw, ac "Wedi derbyn gan y Tad yr addewid o'r Ysbryd Glan.' Nid oes dim yn ormod bellach i ni obeithio am dano. Onid ydyw yr oil o'r hanes yn cyfateb i'r hyn a allesid ddisgwyl am dano? Oni ddaeth Duw i'r golwg—onid ydyw yn arfer dod i'r golwg—pan y mae wedi myned i'r pen arnomp Pa bryd o'r blaen y bu y fath nifer o bethau cynhyrfus a blin yn y Wladwriaeth Brydeinig? Pa bryd y gwelwyd gwerin gyffredin ein gwlad—gwreng a bonheddig—wedi ym- ollwng i'r fath eithafion gwyllt o ynfydrvvydd ar ol pleserau ? Da oedd genyf weled fod fy nghyfaill, Dr. Cynddylan Jones,. yn galw sylw at y ffaith mai gortichmyliaeth yr Ysbryd' ydyw hon mewn modd arbenig—ein bod wedi talu rhy fach o sylw i hyn, a bod yr Adfywiad presenol yn gwasanaethu yn effeithiol i ddwyn hyn i'r golwg. Byddai yn dda genyf helaethu ar rai o'r nodwedd- ion sydd yn cyfateb yn gywir i'r hyn a ddywedir yn yr Ysgrythyrau-Hen a Newydd. Ond rhaid tewi am heddyw.