Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y Diwygiad. ! I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Diwygiad. 6DBIWRTH DR. PHILLIPS, TYLORSTOWN. Ar fy nghefn yn y gwely gan yr anwydwst, yr wyf yn cychwyn ar yr ertnygl hon; ond penderfynaf ei gorphen pe y costiai hyny i mi ymadael a'r ccrff. Ni wn am un gwaith gwell i ymadael oddiwrtho i'r nefoedd, nac o ysgrifenu am y diwygiad bendigsdig yma. Eithr credaf, na ad fy Nhad nefol fi i ymadael am dro; am fod ganddo rywbeth i mi wneyd gyda'r mudiad hwn. Wel, dyma hi o'r diwedd! Ni ellir rhifo y dychweledigion wrth y canoedd bellach; ond wrth y miloedd. Ychydig yn iyr o 20,000 ydynt ar ddiwedd yr wythnos hon a dweyd y lleiaf. Lliosogi gyda chyflymder mwy fydd eu hanes bob dydd o hyn allan am fod y tan goleu, fflamllyd, yn yrnledu yn gyson. Ie, a dyfnha bob dydd yn ei angerddoldeb. Gwisga y cyfarfodydd amrywiol weddau y dyddiau diweddaf hyn; ac weithiau, arswydaf yn yr olwg arnynt. Ar ddechreu ambell odfa mae ar y gynull- eidfa wedd debyg i'r wybren ar ddivvrnod o fellt a tharanau. Nid oes londer i'w weled ar un wyneb, ond sobrwydd dwyfol yn ymylu ar yr arswydus. Eithr yn sydyn saetha mellten o oleuni yn groes i ffurfafen yr odfa a dyna daran yn dilyn; yn ddi- syrnwth pistylla y gwlaw mawr; ac ar ol hyny cawn mn hunain yn nghanol hafddydd hyfryd. Bryd arall, cyfihwyna odfa mewn tes hafaidd; ac yna daw y cwmwl, y mellt, a'r storm. Ceir pob gwahaniaeth dichonadwy yn y cyfarfodydd. Hyn sydd yn brawf fod y dwyfol yn llawn ynddynt. Pwy welodd ddatt ddiwrnod yn hollol yr un fath? Neb; ond cofier nad oes dim yn fwy dwyfol na diwrnod fath un bynag fyddo. Felly am y cyfarfodydd diwygiadol: peidied neb sydd am weled y dwyfol ynddynt a disgwyl dau yr un fath. Bellach, y mae sylw y gwledydd wedi ei dynu at ddiwygiad Cymru. Dylifa pobl o amrywiol wledydd i'r dalaeth bob dydd i'w weled; ac nid wyf wedi clywed neb call yn achwyn ei fod yn siomedig. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, siaredais a rhai o oheb- wyr prif bapyrau y deyrnas, a chefais hir ymgom a mwy nag un o honynt; a dywedent, This is simply marvellous; it is lovely; the most divine scene we ever witnessed we shall never forget it; the spiritual breeze filled the chapel this morning," &c. Dyna rai o'u mynegiadau cryfion. Erys y dieithriaid yn y cyfarfodydd hyd 3 a 4 o'r gloch boddlonant gysgu yn rhywle, neu beidio cysgu o gwbl; diolchant am fara a chaws sych os na fydd gwell at law. Ond, chwareu teg i lowyr Morganwg, rhoddant eu goreuon o flaen yr ymwelwyr, a llon'd eu calon o roesaw. Dywedaf ragoro, dynion digrefydd yw ugeiniau a rhoddant eu tai yn rhyddion, ac a orweddant ar y llawr er mwyn croesawu pawb a ddel o bell i'r cyfarfodydd. Yn wir, blaenbrawf o'r nef yw y teim- ladau welir ymhob congl y dyddiau hyn, a chawn ystyr i'nu canu- "O! hyn fydd yn hyfryd," &c., wrth eu mwynhaUi A glywsoch chwi y fath beth erioed! Beth wna y diwygiad yn ymarferol ? Heddycha rai oedd yn elyn- iaethus i'w gilydd er's blynyddau, ac na allai gwein- idog, ynad, na thwrne, wneyd dim o honynt; llanwa dai teuluoedd a bwyd, fu yn hanes newynu oblegid afr'dlonedd tadau a mamau mewn llawer achos; dwg ddillad clyd a thrwsiadus iddynt fyned i'r cyfarfod- ydd a hen achosion cyfreithiol i'r pedwar gwynt; ac mewn amryw fanau nid oes gan gyfreithwyr ddim i'w wneyd; a gogonedda y rhai duwiolaf o honynt Dduw am hyny. A yr arian at fwyd, dillad a chrefydd yn hytrach na thalu dirwy yn llys yr ynadon. Nos Sadwrn diweddaf wele ddyn dan argyhoeddiad- au ei gydwybod yn rhedeg ar ffrwst i dalu bob ceiniog i berchen y faelfa (shop) er clirio rhan o'r ddyled y tyngodd ddeufis yn ol rhyngddo a'r diafol na fuasai byth yn talu ceiniog o honi; ac er's amser, gwan obeithiai y maelfawr i gael hatling byth o'r cyfryw. Canoedd o bunoedd dalwyd o'r ol ddy- ledion hyn, yr wythnosau diweddaf. 0 ddydd i ddydd, rhed cwstwm y tafarndai i lawr, er gwaethaf pob dyfais un dosbarth yn erbyn hyn; ac heb i bethau newid ar fyr, cauir rhai o honynt yn effeith- iol, heb i un pwyllgor dirwestol ymladd dros hyny. Dyma wyliau i'r heddgeidwaid. Cerddant lie y mae y diwygiad fel retired gentlemen,' heb dybio am achos i beri gofid iddynt. Duw wnelo eu gwyliau yn foddion bywyd tragwyddol iddynt oil. Gwelsant wedd ar ddynoliaeth y blynyddoedd aeth heibio, oedd yn ddigon i'w gwneyd oil yn anffyddwyr. Rhaid oedd iddynt ymwneyd a'r wedd hon yn nyfn- der y nos, yn fynych, a bod yn agored i beryglon bywyd. Ond i Dduw y byddo y diolch, cant oiwg ar fis Ebrill y ddynoliaeth yn y De yn awr yn llawn llygaid y dydd a briallu. Penderfyna y diwygiad hwn nerth ffydd a gweddi am byth. Her i wyddoniaeth i'w gwrthbrofi mwy. Gwelwch ferch ieuanc o'r- enw Miss Jones, yn yr Heolfach, Rhondda, ar ei deulin dros ei llysdad, oedd yn byw yn Nghwmnedcl, lawn deg miildir, os nad pymt'heg odcliwrthi. Am 11 o r gloch y nos, dacw hi yn danfon ei hochenaid tua'r nef ar ei ran wrth fyned i'w gwely. Yr un mynydau, tarawyd llys- dad yn ages wallgof gan gyflwr ei enaid, yn^ Ngjrwm- nedd; a thorodd y ddadl i roddi ei hun i Fab Duw. Yn y bore derbyniodd Miss Jones bellebyr yn ci hysbysu o'r peth. Yn Mhontygwaith, gweddiwyd dros un oedd ar y pryd yn y pwll glo. Yn y bore daeth ar ei union gartref, a dywedodd wrth y wraig y peth cyntaf, ei fod yn rhodcli ei hun i'r lesu a rwnaeth hyny, er na wyddai ddim am y gweddiau. Gallwn lanw haner y GOLEIIAD ag engreifftiau fel hyn, sydd yn ddiamheuol wir. Oblegid mavvredd y dwyfol sydd wedi dyfod i'r golwg yn holl weithrediadau y diwygiad, a yr eglwys yn rhy gref i'w hamgylchoedd pecliadu-rui ar bob 11 aw. Hyd yn awr, gwasgai yr amgylchoedd hyn ar ei hanadi o bob tu a rhaid cyfaddef ei bod mewn mynych ddiffyg anadl, ac yn ceisio cyfaddasu ei hun i'r amgylchoedd, gan dybio y medrni ajiadlu yn well; eithr wrth hyny a'i allan o gylch awyr ysbrydol oedd I yn gyfaddas i'w chyfansoddiad. Dechreu mis Tach- wedd gollyngodd Duw ei anfeidrol Ysbryd iddi, a chwilfriwiodd Hwnw yr amgylchoedd llygredig a s I bwysai fel hunllef ami; ac erbyn hyn rhaiCl i'r am- gylchoedd ymgyfaddasu i'r eglwys ac nid yr eglwys i'r amgylchoedd. Yr eglwys sydd i wneyd ei ham- gylchoedd, ac nid ei ham gylcb oedd sydd i'w gwneyd hi. Bydd raid i'w phobl ieuainc fod gryn dipyn i fedru llywodraethu y bywyd herthol, newydd hwn sydd yn llifo iddi, ond daw amser a hyn oddi- amgylch. Beth pe cai ambell hen grefyddwr fywyd angel p Sicr yw y byddai yn feddw am dro, hyd nes y deuai yn gyfarwydd a llywodraethu y bywyd eang a chyflym hwnw. Ond pan delai dan ei lywodraeth bywyd gogoneddus fyddai yn ei feddiant. Heddyw disgynwn ar y Sabbath, Rhag. lleg. Hwn yw Sabbath mawr y Maerdy yn y Rhondda Fach—Sabbath y Jiwbili-Sabbath y llanwodd y nefoedd y lie, nes arswydo hen dduwiolion cyfarwydd a'r nefoedd—Sabbath greodd ddychryn yn nheyrnas y diafol i raddau nad anghofir hyny. Mawrion a rhyfedd oedd gweithredoedd Duw yma fis cyn dyfod- iad Evan Roberts i'r lie. Aeth un o flaenoriaid y Methodistiaid ac eraill i Drecynon, a chydiodd y tan ynddynt, yr hwn a g'ariasant yn ol gyda hwynt. Cychwynwyd cyfarfodydd gweddiau; ac ymhen ychydig ddyddiau ysgubwyd yr holl bentref gan eu ncrth a'u dylanwad, a thfodd canoedd i braffesu Crist. Ysgrifenir penod fawr o hanes y rhai hyn eto; gan hyny ni allwn aros ond gydag hanes Evan Roberts yno. Dyma ni fore Sul yn y Maerdy—pen- tref glofaol yn rhifo ei filoedd yn nghyrion uchaf y Rhondda Fach. Ynddo Ceir capelau heirdd ac eang gan bob enwad; ond capel y Methodistiaid yw y mwyaf o lawer. Deil yn rhwydd 800. Gyda'r tren cyntaf bore Sul, gwelir pobloecld o bob cyfeiriad, ac o lawer gwlad, yn cyrchu tua'r Maerdy. Cenir ganddynt nes adseinia y cwln cul o gwr i gwr. Daeth 10.30, a dyma le bendigedig i ddechreu cyfarfod diwygiadol. 500 o ddychweledigion yn y lie yti barod a chanoedd yn llawn tan wedi dyfod yno o'r tuallan. Yn nghapel y Bedyddwyr y cawn Evan Roberts yn y bore. Tua 12 o'r gloch y daeth i fewn, pan oedd y cyfarfod yn ei lawn hwyl. Byr y siaradodd yn hwn ond bu yn gyfarfod grymus drwyddo. Pob peth yn myned ymlaen gyda bias a gafael; a'r oil yn rhydd a naturiol, heb ofyn i neb gymeryd rhan. Am 2 yn capel Shiloh (A.), gwelir pobl o bob rhan o'r deyrnas gyfunol. Fan yma wele un o brif efengylwyr y byd -Gipsy Smith, wedi dyfod bob cam i'r Maerdy i weled drosto ei hunan. Ymgolla yn y cyfarfod nes methu llywodraethu ei hun ar adegau. Cyfyd i ganu, gyda swyn toddedig "I need Thee, O! I need Thee." Siarada yn y termau mwyaf canmoladwy posibl am y diwygiad. Ha, pwy welir fan acw? Neb ond W. T. Stead, Golygydd y Review of Re- views.' Beth ddywed ef tybed am y fath bentwr o anhrefn ymddangosiadol a chyfarfod fel hwn? Wel, os bu ef dan ddwyfol eneiniad erioed yn defnyddio ei ysgrifbin, pan yn ysgrifenu ei erthygl i'r Daily Chronicle ar y Diwygiad hwn y bu. Nid oes air o anghymeradwyaeth ynddi; ond cymeradwya yn y termau cryfaf; a gall pawb wybod beth olyga hyny oddiwrth wr o dalent ac athrylith Stead. Rhaid i mi gydnabod, er cymaint o edmygydd o'i ddull o ys- grifenu wyf, na welais ddim dan ei law i'w gyffelybu i'r ysgrif hon. A y cyfarfod ymlaen yn nerthol drwyddo, yn y modd cymysg arferol. Canodd Madam Kate Morgan Llewellyn 'Y ddafad golledig, nes toddi yr oil, ffrwyth yr hyn fu un gymysgfa o ganu, gweddio, moli, ochain, a gwaeddi. Cyn hir dyma ni yn ol eto trwy i nifer o bobl ieuainc ganu Tell mother I'll be there." Gyda hyn daw Evan Roberts i fewn. Lleinw difrifol- deb ei wyneb ac ar fyr cyfyd i siarad gan nodi geir- iau ddywedwyd wrtho pan yn dyfod i'r capel, Cy- merwch ofal na lithrweh oedd y rhai hyny. Cym- hwysa y rhai hyn yn ysbrydol at y bobl gyda difrifol- deb mawr, gan ddangos y pwys o wylio. Gofyn i'r gynulleidfa anferth os oedd addoli gwirioneddol i fod yno ac, meddai, "y chwi sydd i benderfynu y peth." Yn y fan hon torir ar ei draws gan ganu Pen Calfaria," gweddio, a moli. Wele ef eto ar ei draed, ac yn rhybuddio y bobl rhag son am enwad; ac yn dweyd mai dim ond Crist sydd eisieu arnom. Wedi hyn un gymysgfa o weddio, canu, &c., sydd yn nod- weddu y cyfarfod. Dwysion anarferol yw y pethau gymer le yma. Clywch un dyn ieuanc mewn ing fan draw yn gweddio ar ran ei gyfeillion ac un arall fan hon mewn dirdyniadau yn gwanddi—"O! Dduw, yr wyf yn credu y maddeui i mi. 0 Dduw! cyncrth- wya fi "i svlweddoli hyny nid wyf wedi bod mewn ysbryd iawn, ac yr wyf yn wan." Yr eiiiad nesaf tor i lawr gan wylo'n brudd. Rhuthroad Evan Roberts ato gan weddio drosto. Beth am yr olygfa nesaf? Y mae^ hi yn dlws, dyn ieuanc yn tagu wrth weddio pan yn coffhau geiriau ei dad iddo wrth farw. Cododd hyn y dagrau i lygaid pawb, a thorwyd allan i ganu. Canodd a siaradodd Gipsy Smith, gan anog am gael ein gwaghau o bob peth gwahanol a gwrth- wynebol i Ysbryd Crist. Tystiai fod y diwygiad hwn yn Bentecost mewn ystyr; a'i fod yn Actau yr Apos- tolion yn cyfateb i'r dydd. presenol. Wedi i Annie Davies ganu Dyma gariad fel y mcroedd, clywyd llais yn dweyd, "Yr wyf fi wedi dyfod o'r tudraw i Lundain i gymeryd rhan yn y cyfarfod, gweddiwch am i'r diwygiad ddyfod i !-?egr. Yr ydym ni yn rhewi acw. Y mae arnom eisieu yr Ys- bryd." "V mae yr Ysbryd yno yn barod." ebe Evan Roberts. Pan ddeuwyd at y diwedd, cododd y bobl wrfh y canoedd i gvffesu Crist yn gyhoeddus. Dyma ni wedi cvraedd nos Sabbath ac ar hyn o bryd nid wyf yn myned i geisio darlunio yr olygfa yn ei holl fanviion. Gofynai dri rhifyn o'r GOLEUAD i wneyd hynv. Capel y Methodistiaid yw maes yr olygfa wedi ei lenwi o gwr i gwr; ac os nad oes 1,400 tu- fewn i'r drysau, nid oes yma 100. Tuallan i'r drysau ceir canoedd yn methu cael mynediad i fewn; ac nid oes ganddynt obaith am hyny. Ond daw ambell don allan o'r capel, a chydiant ynddi; ac yna canant nes clywir adsain o'r mynyddoedd draw. A y cyfar- fod yn ei flawi ymhob dull a modd heb ond un Ysbryd mawr yn ei lywodraethu—sef Ysbryd y peth byw; ac nid oes eisieu gofalu am ddiogeiwch odfa. yn ei law ef. Gweddia un yn daer dros y gwawdwyr. a thros un oedd wedi rhwystro cyfarfod gweddi yn y pwll glo; ac o'r naill beth i'r liall codi wnai teimlad. y cyfarfod yn barhaus ;ac o'r diwedd dyma yr eithaf- bwynt wedi ei gyraedd. Canodd Kate Morgan Tell mother I'll be there," a gyda'i bod yn gorphen dacw Gipsy Smith ar ei draed, wedi ei orchfygu gan delmiad, oherwydd yr adgof am ei fam yn y babell grwydrol; ac yn marw 0t frech wen. Ie," meddai y Gipsy, "nid oedd genym ni ddim Beibl y pryd hwnw." Clywch ei lais crynedig pan yn dweyd hyn gwelwch ei lygaid fel dwy seren mewn dagrau! "Nid oedd genym ni yr un Crist y pryd hwnw; ond cafodd fy mam afael arno," meddai, ac wedi hyny cafodd ei phlant, ei phriod, a miloedd eraill drwyddynt afael ar Grist." Ie," meddai rhywun dan y gallery, dyma un wedi cael Crist trwy Gipsy Smith." Ar hyn torodd canu gogoneddus allan. Y peth nesaf yw Evan Roberts ar ei draed; ac yn cymeryd yr hyn ddywedodd Gipsy Smith i fyny, a dyma olygfa orchfygol. Yr oeddwn yn meddwl wrth glywed Gipsy Smith, yn son am ei fam yn y tent, meddai, am Iesu Grist, y Ceidwad, yn y preseb heb le i roddi ei ben i lawr." Yn y fan yma ragodd ei deimladau ef, a syrthiodd yn ol i'r gadair gan wylo yn uchel. 0, am allu uwchfeidrol t ddarlunio yr olygfa. Yr oedd yn fwy dwyfol dlws na'r ddol wlithog ar fore braf o Fai hir-felyn; yr oedd yn fwy ysbrydol iach nag awel y wawr dros fill y don nertholach oedd ei dylanwad na swn miloedd o delynorion; mwy sugndynol oedd hi na holl bleser- au cnawd a byd; mwy calonrwygol ydyw na glan bedd mam; harddach ydyw na'r wawr wen oleu; arddunedd golygfa o angylion ni fyddai fyny a hi; ac anwyled yw fel nad all ond cariad dwyfol fod yn awdwr o honi. Edrychwn arni unwaith eto. Wele Gipy Smith yn sypyn mewn un man yn ei ddagrau dan ddylanwad adgofion am ei anwyl fam yn marw yn dlawd heb Feibl: ond yn cael gafael ar Grist trwy benill bychan a'i hachubiaeth hi yn foddion achubiaeth ei phlant, a'i phriod, a miloedd drwyddynt. Fan yna, wele Evan Roberts, yn uchel ddolefain wrth ganfod ei Geidwad—Creawdwr Cyrau y ddaear yn y preseb mewn cadachau ac heb le i roddi ei ben i lawr. Sylwch ar y gynulleidfa fawr wedi cydio y teimlad nes y gwlycr, pob wyneb ynddi. O! dywallt dagrau rhyfedd! O! ocheneidio sl dwysbrudd! O! deimladau llethol! O! feddyliau cysegredig! Ac 0, ingoedd mewn eneidiau! Pwy ddywed nad oedd Duw yma? Safwch draw bawb a garai ddweyd hyny; oblegid y lle hwn sydd le sanctaidd. [Oherwydd afiechyd Dr. Phillips, ni chyrhaeddodd diwedd yr Adroddiad mewn pryd i'r rhifyn hwn. Ymddengys, gyda lliaws o adroddiadau eraill sydd mewn llaw, yn y rhifyn nesaf.—GOL.].

YR ADFYWIAD YN SIR FEIRIONYDD.

ADRODDIADAU ERAILL AM Y DIWYGIAD.

RHOSLLANERCHRUGOG.