Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
A GREAT COUGH CURE.—Our readers will observe an advt. elsewhere of the Coltsfoot Lung Elixir,—a Cough Elixer prpared from the Coltsfoot Plant, and other Great Lung Healing balsamic plants. It is prepared by Mr. Morgan W. James, Chemist, Llanelly, who has made a great study of this Cough Healing remedy. It is manufactured at his own Laboratory, where many young women are- employed in bottling and putting it up. Doctors, precibe it. It is spoken of in most eulogistic terms; by Clergymen, Ministers, Public Speakers, Singeas- School-masters; and School Attendance Officers, re- port that mothers find it is the pleasantest and quickest cure for Coughs and Colds in children, Local Chemists stock it.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Gcninen, onide, anfarwolodd y Siluriad," a'r- Siluriad" anfarwolodd y Y Genincn gyda'i ysgrifau1 bythgofiadwy ar Philistiaeth Enwadol Cymru Mae si ar led y bydd rhyw "Junius Cymreig wrthii yn dynoethi yn ddiarbed "Philistiaeth," mewn; gwedd neillduol arno, yn ein gwlad (eithr nid Phil- istiaeth enwadol na chrefyddol chwaith, y tro hwnV yn Ngheninen' gynta'r Jflwyddyn. newydd. rHvs' bysiad], u J
- LLANILLTYD FARDREF.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANILLTYD FARDREF. Prydnawn y Sabbath aeth ysgolion Bethesda a feryntirion at eu gilydd i fyned dros y pwnc ar gyfer y Nadoiig, ond yn lie y pwnc cynhalivvyd cyfarfod gweddi. Yn yr hwyr aeth yr eglwysi ar eu gliniau drachefn, a rhwng y prydnawn a'r hwyr y mae nifer y dychweledigion yn J3.
RHYMNI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHYMNI. Dal i fyned ar gynydd mae y diwygiad gyda ni, fel ymhob man ar fryniau Gwent a Morganwg yma. Mae yn y lie hwn unarddeg o addoldai yn perthyn i'r Eglwysi Rhyddion, ac mae pob un o honynt wedi cael achos i lawenhau yn fawr, nid yn unig yn ad- fywiad yr aelodau, eithr hefyd wrth weled pechadur- iaid yn cael eu troi, ac yn ymofyn ain le yn yr eg- lwys. Mae y diwygiad wedi cyraedd yr Eglwys Sefydledig, a cheir yno gyrddau hwyliog bob nos, ac amryw wedi troi am noddfa dan gysgod y Groes. Mae yr holl Gwm wedi ei danio mor bell a Chaer- phill, pellder o ddeuddeg milldir o ffordd, lie cafwyd dyddiau rhyfedd gyda Mr. Evan Roberts, dan ddy- lanwad yr Ysbryd Glan, yr wythnos hon, fel y cawn yr hanes genych yn gyflawn yn y Gqleuad nesaf, debygwn. Dygir dychweledigion—yn lluoeclcl Llav/en fewn i Seion; A swn traed torf saint yr Ion Yw eang hwyl angylion. Diwygiad 1859.—Mae llawer o ddadleu yn newydd- iaduron y De yma ar y gwahaniaeth rhwng y diwyg- iad hwnw, gallaf ddweyd mai ychydig yw y gwahan- iaeth, yn ol fy marn i. Gwelaf fod rhai yn dal fod hwnw yn cael ei ddwyn yrnlaen gyda chynlluniau a threfn, tra nad oes cynllun na threfn yn perthyn i hwn. Cofus genyf iddo dori allan yn rhan uchaf Sir Gaerfyrddin heb ddim o'r fath beth. Yr amser hwnw cynhaiiai Ysgolion Sabbothol Dosbarth Llanymddyfri Gymanfa Bwnc, pryd y byddai naw neu ddeg o ys- golion yn cyfarfod y Llungwyn yn Llanymddyfri. Byddai yr ysgolion yno yn cynwys cylch o bymtheg milldir-o Landdeusant, yn y Gorllewin, i Randir- mwyn yn y Gogledd. Ychydig cyn hyny (Cymanfa 1859), yr oedd y Parch. D. Morgan, Ysbytty, wedi bod yn pregethu yn Rhandirmwyn, ac wedi rhoi y lie yn oddaeth. Pan alwyd ar Ysgol Rhandirmwyn i adrodd y pwnc, deallwyd fod rhywbeth anarferol yn eu plith. I ddechreu canasent yr hen benill o'r Cyfamod Disigl"—" Y Gwr a fu gyr.t o dan hoel- ion." Aed drwy y penill y tro cyntaf yn drefnus, eithr yn angerddol frwdanol; ond wrth ail ganu cy- merodd pob un ei ffordd ei hun. Dechreuwyd tynu yr hetiau a'r shawls i ffwrdd gan y rhyw deg, ac ymaflyd yn mreichiau eu gilydd i neidio. Ceisiwyd eu hatal er mwyn myned ymlaen a gwaith y Gyman- fa • ond cystal fuasai i'r Parch. Jonah Phillips i geisio troi Towi yn ol i Ystradffin. Cyn hir yr oedd y gynulleidfa fawr i gyd ar dan yn moli Duw, a dim ond canu a molianu wnaed hyd oriau man y boreu. Cariwyd y tan adref i'r plwyfydcl cylchynol, fel y mae yn cael ei gario o gwmpas yn bresenol, a phawb yn brysio i'r eglwysi, a minau yn eu plith. Twynoo.
Y DIWYGIAD YN TRINITY, TONYPANDY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIWYGIAD YN TRINITY, TONYPANDY. Fel yr awgrymwyd yn y Golkvau ychydig yn ol, y mae yr eglwys uchod wedi profi pethau nerthol iawn yn ystod y blynyddau diweddaf. Nid oes wythnos er's dros bedair blynedd nad oes rhywun neu ychwaneg yn cael eu dychwelyd at y Gwaredwr; fel erbyn hyn y mae dros 600 wedi cael eu hachub ac yn eu plith bob math o'r cymeriadau gwaethaf. Yr oedd dyn ar nos Wener yn trimio y ceiliog ar gyfer ymladdfa yr wythnos ganlynol, ond cafodd droedigaeth y Sul canlynol,, ac y mae yr ymladdfa ceiliogod heb gymeryd lie byth, ac ni chymer chwaith. Nos Sadwrn yn ddiweddar daeth brawd i mewn i'r cyfarfod gweddi—yn feddw, ond ni fu fawr amser cyn iddo ddyfod o dan argyhoeddiadau dyfnion iawn, nes ocheneidio a gwaoddi am drugaredd. Nid wyf yn gwybod i mi weled v fath 'struggle' am fywyd erioed ond ar ol ymdrech galed mewn room' arall gyda brawd i'w helpio, dychwelodd yn hollol dawel, a goleuni y nefoedd yn disgleirio yn ei wyneb, a mwynhaodd ei hun hyd ddiwedd y cyfarfod. Yr oedd ganddo ddau frawd yn fiaenoriaid parchus., a brawd yn bregethwr, ac yntau yn grwydryn meddw. Ond ;zl dychwelodd yr afradlon yn ei ol. Mewn cyfarfod gweddi a gynhelid pwy nos Lnn yn y room' genhadol perthynol i Trinity, dim ond wyth oedd yn bresenol nad oeddynt grefyddol, end cawsant eu troi bob un ac meddai brawd ieuanc ar weddi nos tranoeth, Diolch i ti, Arglwydd, am achub yr wyth neithiwr yn y Dinas; 'doedd dim rhagor yno heb eu hachub, neu buaset yn eu hachub hwvthau hefyd. Pe buasai yr holl bechaduriaid sydd yn byw yno yn y cyfarfod neithiwr, buasent yn cael eu hachub bob un," &c. Y mae cyfarfodydd rhyfedd iawn yma, merched a gwragedd, bechgyn a dynion, yn canu a gweddio,' a dweyd eu profiad nes gwefr- eiddio'r lie. Cenir Cymraeg a Saesneg trwyddi draw gyda hwyl nefolaidd,- Come to Jesus, come to Jesus, Just now, just now; He will save you, He will save you, Just now, just now." A daw rhywun at yr lesu, a chenir Diolch Iddo," Songs of praises," &c., Happy day," &c. Cyn- haliwyd cyfres o gyfarfodydd i ail agor y capel ar ol ei heIaethu i ddal 5°0 yn ychwaneg o Rhagfyr 4 hyd neg, pryd y pregethwyd gydag arddeliad neillduol iawn gan y brodyr canlynol Parchn. J. Cynddylan Tones, D.D., D. M. Phillips, M.A. Ph.D., Tylors- town; E. P. Jones, B.A., R. R. Roberts, B.A., a D. Williams', B.A., Caerdydd J. Lewis Jenkins, Aber- dar; John Morgan, Llwynpia, a Principal Prys, M.A., Trefecca. Cafwyd cyfres o gyfarfodydd gweddio yr wythnos flaenorol: cyfres nad anghofir byth mo honynt. Ac o ddechreu y cyfarfodydd gweddi hyd ddiwedd yr wythnos bregethu, yr oedd pechaduriaid yn cael eu hachub bob nos, a gwelsom olygfeydd ac ymdrechion am fywyd—gwrthod ildio. Rhad ras yn cario'r dydd. :Mawl a seinia trwy'r holl ndcedd fawr am hyn." Clywais am frawd ar ei ffordd i'r Theatre un noson, ond clywodd ganu bendigedig mewn capel ar y ffordd. Safodd. Penderfynodd droi yn ol. Ac ar ol iddo gerdded yn ol tua 300 llath, clywai ganu gyda hwyl nefolaidd yn festri Triniti, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd i mewn,, a chyn diwedd y cwrdd yr oedd yn ddyn newydd yn Nghrist lesu, yn myned adref dan ogoneddu a chanu mawl i Dduw fel y bugeiliaid gynt. Clywais mai y peth cyntaf a wnaeth tranoeth ydoedd tori y 'beer jug' yn chwilfriw man. Cafwyd oelfa ryfedd iawn nos Sul yr iieg, pryd yr arhosodd 26 yn ol, ac yr oedd rhai wedi eu clwyfo mor ddwfn fel y wylent ddagrau'n hidl, ac y dolefent dros y lie. Caled ydoedd gwingo yn erbyn y sym- bylau." Aeth dau allan gyda'r dorf, ond ar ol myn'd oddeutu chwarter milldir, gorfu idclynt ddy- chwelyd ar eu hunion i'r after meeting,' ac ildio. Gallesid llanw y GOLEUAD o 'cases striking o'r holl ganoedd sydd wedi eu hachub yn yr eglwys hon, ac o'r llwyddiant digymharol sydd wedi dilyn gwasan- aeth ein hanwyl weinidog yn ein plith. Y mae dros 200 ar brawf yma yn bresenol. Y mae yma gapel hardd i eistedd dros fil. Yr oedd dros 1500 wedi stwffio iddo y ddau Sul uchod. Vestry i ddal 350 Class-room a Library i ddal 150 yr un, a pedair room arall i ddal o 50 i 100 yr un. Ac ond i'r Nefoedd barhau i wenu arnom eto (yr hyn sydd sicr os cyflawnwn yr amdoau), bydd y lie yn rhy fach yn fuan. Ond dyna y mae genym le wedi eu barotoi i gychwyn. Gallwn ddweyd o eigion ein calonau- Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist am ein bendithio mor helaeth a thuhwnt i'n haeddiant. Ar ei ben bo'r Goron. Amen ac Amen. P. D.R.
ABERGELE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERGELE. Cyfarfod Ymadawol, a Chyflwyniad Anrheg i'r y b Parch. Thomas J. Jones, M.A., Ph.D., y cenhadwr, a'i briod.—Nos Fercher, Rhagfyr i4eg, yn ysgoldy y Methodistiaid yn y dref hon, cynhaliwyd cyfarfod tra dyddorol i ganu yn iach ac i ddymuno Duw yn rhwydd i'r Parch. Dr. T. J. Jones a'i briod ar eu cychwyniad yr ail waith i faes eu llafur yn India. A chan mai yn Abergele y treuliasant y rhan fwyaf o yspaid eu harosiad yn y wlad hon, a'u bod wedi enill y fath le yn mynwes y ddwy eglwys-y Gym- reig yn y dref, a'r Seisnig yn Mhensarn-nis gallent eu gollwng ymaith heb roddi amlygrwydd cyhoeddus a sylweddol o hyny. Cymerwyd arweiniad y cyfar- fod gan y Parch. Francis Jones, yr hwn a grybwyll- odd yn fyr brif fanau hanes y cenhadwr a'i briod. Cyfeiriodd at ei gyfarfyddiad cyntaf ag ef yn America, a'i lwyddiant yn llwybrau addysg yno; yna ei fyn- ediad allan fel cenhadwr yn ein maes cenhadol ni, ond ar draul yr eglwysi Methodistaidd yn America; y cyflymdra gyda pha un y dysgodd y Bengalaeg, y gwaith a wnaeth tra yn aros gycla"r Parch. J. Pen- gwern Jones yn Sylhet; ei symudiad ymhen nifer o fisoedd i Silchar; yno yn sefydlu eglwys gyda dim ond c-hwech o aelodau, yn adeiladu capel, a thrwy gynorthwy caredigion yn cydymdeimlo yn India ac yn America, yn talu am dano. Teithiodd lawer hefyd i bregethu, rhanu traethodau, &c.; a phan ymadaw- odd a Silchar yn 1902, yr oedd y chwech aelod eg- lwysig, rhwng brodorion dychweledig ac eraill, wedi cynyddu hyd yn ddeugain. Oddiwrth yr hyn a ddywedwyd am Mrs. Jones, deallwn iddi hi fyned allan y waith gyntaf yn 1892, fel athrawes i Shillong, i gymeryd gofal Ysgol y Genethod; a llwyddodd i'w gwneyd yn- sefydliad o ddylanwad grymus ac eang. Adnabyddid hi y pryd hwnw fel Miss Bessie Williams, o Bwllheli. Yn ystod y ddwy nynedd a haner y bu yn Shillong, mag- odd nifer o enethod Khasiaidd, a fuont ar ol hyny yn athrawesau defnyddiol ar Fryniau Khasia a Jaintia. Yn niwedd 1894, ymbriododd gyda Dr. Jones ac hyd nes y torodd ei hiechyd i lawr bu yn dra ymdrechgar yn Silchar gyda'r plant yn yr ysgol- ion cymysg, a'r plant amddifaid oedd ganddi yn ei thy, ac hefyd gycla'r gwragedd Cristionogol a'r ef- rydwyr yn yr ysgplion. Cyfiwynwyd yr anrheg, sef silver coffee pot,' a silver tea pot,' ar ran y chwiorydd perthynol i'r ddwy eglwys, gan Mrs. G. T. Evans, N. & S. Wales Bank, gydag ychydig eiriau tra phriodol, a chydna- y bvddwyd y caredigrwydd mewn teimlad dwys gan Dr. a Mrs. Jones. Cafwyd ychydig eiriau pellach gan G .T. Evans, Ysw., a'r Parch. N. C. Jones, D.D. y naill a'r llall yn rhoddi pwyslais ar y graddau amlwg o'r cymhwygderau sydd yn y cen- hadwr a'i briod i'r gwaith a garant mor fawr. Hwyl- iasant o Liverpool ddydd Llun, y igeg, gan gymeryd yr ieuangaf o'u plant gyda hwy, a gadael yr hynaf yn Ysgol Ramadegol Rhuthyn. Nid ar ran o'n maes cenhadol ni yr amcanant lafurio rhagllaw, ond ar faes yr ymgymerir ag ef gan Fethodistiaid America ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Yr Adfvwiad.—Fel lliaws o fanau eraill, galhvn ninau yn v lie hwn ganu Ni gawsom rai defnynau i lawr." Ond yr ydym yn disgwyl llawer yn rhagor. Y mae gan y gwahanol enwadau gyfarfodydd gweddio neu bregethu bob nos er's wythnosau—yn undebol ieuainc, wedi derbyn adfywin.d diamheuol. Y mae gan y chwiorydd hefyd gyfarfod gweddio undebol dri o'r gloch bob prydnawn. 0 blith y rhai fuont yn aelodau o'r blaen y mae y dychweledigion at y naill eglwys a'r llall, yn benaf hyd yn hyn. Yr ydym yn ocheneidio am i'r eglwys a'r byd brcfi pethau mwy cyn pen nemawr o ddyddiau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Fe gafodd y Tabernacl, Penclawdd, ei gyfarfod bivnyddol Rhagfyr 4, 5, pryd y pregethwyd gan y Parchn. W. W. Lewis, Caerfyrddin, a T. F. Jones. w Carwyd cyfarfod a hir gofir.
NODION 0 LERPWL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 LERPWL. Ni allaf ddweyd fod y Diwygiad wedi dyfod i Lerpwl, ac eto ce:r yma dawelwch dwys a disgwyliad mawr am dano. Clywaf o amryw o eglwysi fod y cyfarfod eglwj^sig a'r cyfarfod gweddi yn cael eu mynychu vn llawer iawn gweil nag y gwelwyd hwynt er's amryw o llynyddoecid, a'r awyrgylch yn fwy ysgafn a chynes. Cynhaliwyd cyfarfod gweddi bob nos o'r wythnos yn Edge Lane, a'r ysgoldy yn Ilawn bob noson, pobl yn brcsenol na welwyd mo honynt yn y cyfarfodydd v.-ythnosol erioed a'r bobl ieuainc yn gweddio gydag angerddoldeb rhyfedd. Newydd- ion cyflelyb glywir o Crosshall St., Liscard Road, a Parkfield. Nos Fercher cynhaliwyd cyfarfod i'r bobl ieuainc yn nghapel Webster Road. Mewn ofn a hvder y mentrv/yd agor y capel, ac er eu syndod a'u llawenydd yr oedd y capel yn llawn. Dechreuwyd trwy i'r Parch. \Y. Owen roddi emyn allan i'w ganu, a'r Parch. J. D. Evans yn darllen a gweddio. Wedi hyny yr oedd hollol ryddid i bawb i gymeryd rhan fel yr oedd yn teimlo ar ei galon, a rhoddai un ieuanc emyn allan. Wedi canu, elai un i weddi, ac felly yn y blaen am oriau. Fe roddwn y byd," meddai un brawd wrth fyn'd allan, pe gallwn weddio fel y ferch ieuanc yna!" Dywedodd y Parch. John Wil- liams ychydig eiriau, o dan deimladau dwysion iawn. Cyfarfod i'w gofio byth oedd hwn," meddai brawd arall wrthyf. Ar y terfyn, trefnwyd i gynal cyfar- fod cyffelyb yn Princes Road nos Fercher, a chredaf y bydd hwnw yn gyfarfod mawr iawn, a gobeithio yn gyfarfod rhyfedd iawn. Y bobl ieuainc sydd wedi eu tanio! Prydnawn dydd Gwener galwyd gweinidogion y cylch perthynol i bob enwad i ymgyfarfod am 4 o'r gloch yn ysgoldy Anfield Road, a daeth 42 ynghyd, sef yr holl weinidogion o fewn y cylch yma, oddi- eithr dau neu dri. Nid wyf yn meddwl i gynifer ym- gyfarfod a'u gilydd erioed o'r blaen; ac yn sicr arwydd er daioni oedd hyn. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. O. Owens. Cymerodd lliaws ran ynddo, rhai yn gweddio, eraill yn adrodd yr hyn oeddynt wedi ei weled yn Nghymru, a'r lleill yn adrodd y pethau a ddarllenasent am y mudiad dwyfol yn Nghymru. Wrth glustfeinio ynghyd, braidd na chlywem y tonau tragwyddol yn taro ar y lan, ac yn sibrwd yn v/ylaidd wrthym, Mae'r Diwygiad mawr yn dyfod i Lerpwl! Byddwch yn barod i'w dderbyn!" Penderfynwyd anfon anogaeth daer ar i'r holl eglwysi Cymreig gynal cyfarfodydd gweddio ar hyd yr wythnos, i ymbil am dano, ac i ddisgwyl yn ddyfal wrth Dduw am ei ymweliad graslawn a ni. Ymneillduwyd am 6 o'r gloch i ystafell arall, lie yr oedd Mr. a Mrs. William Evans, Silvermere, wedi darparu arlwy ddanteithiol i'r holl weinidogion, yr hon a fwynhawyd yn fawr ganddynt, a diolchwyd yn gynes iawn i Mr. a Mrs. Evans am eu gofal a'u caredigrwydd. Wedi hyny cafwyd cyfarfod o gyngor yr Eglwysi Rhyddion, o dan lywyddiaeth Mr. W. Evans. Yr oedd y cyngor wedi trefnu nifer o weini- dogion i anerch cyfarfod yn y capel ar wahanoi weddau y Ddeddf Addysg, ond yr oedd y teimlad yn gryf iawn mai gwell ar hyn o bryd oedd rhoddi hyny heibio, er mwyn ymdrin a'r Diwygiad. Yn y diwedd trefnwyd i basio penderfyniad cryf yn condemnio y Ddeddf Addysg fel deddf orthrymus, yn cymeradwyo yn gryf y safle a gymcr Cyrnru ar y mater, o dan arweiniad Mr. Lloyd George, ac hefyd waith y gwrth- dystwyr goddefol yn Lloegr. Cynygiodd y Parch. J. L. Williams, B.A., yr uchod, ac eiliwyd gan y Parch. J. Davies, a phasiwyd yn unfrydol. Wedi hyny treuliwyd yr holl gyfarfod i son am y Diwygiad grymus yn Nghymru. Llefarwyd gan y Parchn. W. O. Evans, John Hughes, M.A., R. Lewis, O. L. RcC- berts, D. Powell, ac O. Evans, D.D. Yr oedd Dr. Owen Evans yn cofio Diwygiad 1SS9\ Daeth y pryd hyny, pan yn fachgen tua 10 ced, i ymuno a chrefydd. Edrychai yn gryf a heini eto! Dywedai un mai Diwygiadau oedd wedi codi ein cenedl. Proffwydi Duw ac athrawiaethau yr efengyl a'n cododd. A byddai y Diwygiad hwn yn rhoddi prydles o gan* mlynedd i ni. Llawenychai hefyd iddi gychwyn gyda glowyr Morganwg. Creadur ardderchog oedd y glowr wedi iddo gael gras! "Yr oedd un glowr," meddai D. Edwards, Casnewydd, "yn werth dwsin o Squires! A dywedai yr henafgwr Dr. Evans am i ni beidio a sylwi llawer ar y mwg, ond dyfod i wres y tân! Golwg hardd fydd gweled Cymry Lerpwl ar eu gliniau ar hyd yr wythnos cyn y Nadolig! Gobeithio y cawn olwg eglur cyn ei diwedd ar y Bachgen a anwyd yn Bethlehem!