Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

"''PAN DDAW'R NOS.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PAN DDAW'R NOS. I 1 Pan ddaw'r nos, a'i bysedd tawel I ddadwneyd cylymau'r dydd; Bydd yr hwyliau yn yr awel, A meddyliau'n myn'd yn rhydd. Ni gawn ado'r glanau llwydion, A phryderon dynion by w; A bydd gofal ein breuddwydion Ar yr angel wrth y llyw. Yn ddldwrf, mewn myrdd o fydoedd, ■' Noiia'r nefcedd heibio i ni; A darlunir i'n hysbrydoedd Nefoedd arall yn y Hi. O! mor esmwyth, O! mor dawel Fydd mordwyo gyda'r nos Myn'd o flaen rhyw ddwyfcl awel, Adref at y wawrddydd dies ELFED. mm Gadawodd Mr. Morris Owen, Bryniau, Mon; y swm o ddeugain ac un o filoedd o bunau ar ei ol. Parotoi hunangofiant y mae Hwfa Man, ac os bydd mor ddyddorol a'r awdwr fe ddylai'r llyfr fod dipyn allan o'r cylxredin. lVlac eglwys Cesarea, Arfon, wedi rhoddi galwad i Mr. J. Pritchard, B.A., B.D., i'w bugeilio, a deallaf y bwriada gydsynio a'r cais. ZMM Mae addewid wedi ci rhoddi y bydd i Mr. Evan Roberts, y diwygiwr, ymweled a Sir Aberteifi mor luan ag sydd yn bosibl. Mae gair wedi cyraedd yn dweyd fod y cwmni cenhadol sydd ar eu ffordd i Fryniau Khasia wedi glanio yn India yn iach a chysur- us, ac wedi cael mordaith ddymuncl. l>rwg genyf glywed fed y Parch. J. J. Ro berts (Iolo Carnarvon), Porthmadog, yn wael ac yn gorwcdd er's rhai diwrnodau. Hyderai y caiff adferiad buan iawn. Parotea Mr. W. Jones, A.S., gyl'rol ar y Moseley Commission,' sef ha nes y ddirprwy- aeth a anfonodd Mr. Moseley i edrych i mewn i sefyllfa addysg yn America. Disgwylir y gyfrol allan o'r wasg- yn luan, MM Mr. Reginald Paxton Harding, o Cacrneon. svdd wedi ei benodi gan yr aer ncwydd yn or- uchwyliwr yst^d y Yavnol, Sir Gaernarfon. Bu Mr. Harding am amser yn oruchwyliwr i Arglwydd Walsingham, yn Swydd Norfolk. Cyhoeddodd y Christian World Pulpit bregeth o waith Mr. Evan Roberts yn y rhifyn diweddaf, wedi ei chyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg. Ac yn awr cylieithir hi yn ol o'r Saesneg i'r Gvmraeg. L-n o effeithiau atiuniongyrchol y Diwygiad yw dwyn Eglwyswyr Cvmreig i ddadleu mai eiddo yr Eghvys Sefyclledig yw y syniad o sefydlu seiat! Gwawdiasant lawer ami. Yn awr hawliant mai hwy a'i pia! Dewiswyd Mr. Leif Jones, M.A., yn ymgeis- ydd Rhyddfrydol am North Westmoreland at yr etholiad sydd i gymeryd lie ar olynydd i Mr. R. Rigg, A.S. Mae Mr. Jones wedi bod ar fin cael ei ddewis lawer tro, a gobeithio y caiffwenffawdytrohwn. M+M Y Parch. T. Pritchard, ficer Rlios, a ysgri r, eii;t adeg wedi dod pryd y dylai yr Eghvvs Sefvdledig ddeffro i'r ffaith y dylem wneyd rhywbelh amgen na chadw yn lanwl at reolau ac arferion. Dylai y gwasanaethau ffurfiol, dienaid, ac undonol fyned, a bydd iddo fyned pan brofwn y gallu oddiuchod. Y fath barotoad ardderchog a fyddai i'r clerigwyr gyfarfod a'u gilydd mewn gweddi. Wrth .1 I, gwrs, ni elwir arnom i gyfiawnhau na chern- ogi unrhyw beth o sawyr penboethni, afreol- eidd-dra, nac oriau hwyrion." Ond nid yw y meflau yma ddim ond digwyddiadau y diwyg- iad, yn unig y llwch a gyfyd o chwyldroad olwynion y cerbyd. Dyma ddarluniad llywydd gwledd tafamwyr Aberystwyth o fedd\vyn: (. The drunkard they all deplored. There was no worse enemy to their Trade. He was as persistent as the rampant teetotaler was1 on the other side. He would make himself felt and heard, and he was a nuisance and a menance to every publican, and a curse to himself and his family." M*M Gresyn fod rhai papyrau yn y De yn ceisio cynhyrfu teimladau enwadol. Yr achos yw gwaith y Bedyddwyr yn Nghasllwchwr a Llan- yii i,,gii elli yn gwrthod ymuno a'r enwadau eraill. i)ob rhydd id i'r Bedyddwyr. Gwell iddynt fod ar wahan os na allant ymuno o lwyrfryd calon. ¡ Os ceir undeb, goreu oil; ond os rhaid gwneyd hebddo, cadwed y cwn cyfarth draw7. Bu eglwys Engedi, Colwyn Bay, yn lhvydd- ianus i gael tri o frodyr o'r newydd i wasan- aethu y swydd o ddiacon, sef Mri. Edward Williams, Gwynllys, mab y diweddar Barch. G. Williams, Talsarnau; John Williams, Moss Bank, a T. R. Williams, Verniew Bank. Dy- munwn longyfarch y cyfeillion hyn yn y parch a'r ymddiricdaeth sydd wedi ei rcddi iddynt gan yr eglwys. Bu Mr. Samuel Moss1, A.S., yn dadieu gyda ficer Comvy ynghyich effaith y Ddeddf Addysg ar gysylltiad y tretlidalwyr a'r ysgolion eg- Iwysig. Dywedai Mr. Moss fod y ddeddf yn lleihau rhcolaeth y cyhoedd, tra y dywed y ficer ei bod yn cynyddu liawliau y tretlidalwyr. Symia Mr. Moss ei olygiadau i fyny yn y diwedd, drwy ddweyd fod agwedd y clerigwyr at y cwestiwn hwn yn pwyso cwestiwn dad- gysylltiad ymiaen. Dyma air o eiddo y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon, ag y byddai yn dda ei ddarllen yn fyfyriol:— "Da genyf ddcall fod fflam y Diwygiad yn cyfiym gerdded i g-yfeiriad y CSogledd. Y mae cymaint o son am y peth yn y dyddiau hyn, fel y mae perygl i rywrai yn eu gor-awydd am ei gael geisio gwneyd Diwyg- iad. Dylid bod yn oialus i ochelyd pob math o ymdrcch anaturiol tuag at gael ymweliad. Credaf y dylid pwysleisio o leiaf ddau o bethau fel ellenau hanfodcl mewn cymhwysder i dder- byn yr Ysbryd Gian (i) Rhaid i ni roddi mwy o le i Air Duw yn ein teuluoedd. Bu llawer o son am y BeibI" yn ddiweddar ynglyn a dathI- iad can'mlwyddiant Cymdeithas y Beiblau, ac ymddengys i mi mai dyna un o'r pethau fu yn parotoi ein pobl i ddcrbyn yr ymweliad bendithlawn presenoi. (2) Dylem roddi mwy o bwys ar weddi ddirgel a phersonol. Pan ddaw pobl yr Arglwydd i ondio o galon mewn lleoedd dirgel, bydd yr Arglwydd yn sicr o o wrando yn rasol ar eu cri." m*m Dyma rai o'r llinellau ganwyd dydd Sul yn Rhydyclafcly wedi eu cyfansoddi gan Beren, cyfaddas at ystad pethau yn y dyddiau hyn :— Bu Seion ar ei gliniau Yn y nos-, &c.; Yn ymbil am flynyddau Yn y nos. 'Roedd cabledd ei gelynion, A chrechvven ei chaseion, A hyfdra annuwiolion, Yn y nos, &c.; Yn clwyfo'i thyner galon, Yn y nos. Tra'r gwylwyr ar y muriau, Torodd gwawr, &c.; Trvvy gaddug disgwyliadau, Torodd gwawr. Gelynion fu'n ei blino, Sy'n awr yn prysur gilio, A'r diarol yn arswydo, Torodd gwawr, &c.; Mae byddin lesu'n clnvyddo, Torodd gwawr. Cawn seinio buddugoliaeth, Diolch byth, &c. Ar geulan colledigaeth, Diolch byth. Rhoes Iesu'r taliad eitha' Yn lIe'r pechadur pena', Ar glogwyn coch Calfaria, Diolch byth, &c. Cydseiniwn, Haleluia, Diolch byth. Dywedodd Dr. Phillips, Bangor, eiriau pwysig ac amserol yn ei araelh wrth ranu gwobrwyon yn ysgol ganolraddol Dolgellau. Dadleuai yn gyntaf dros astudio pob cwestiwn mewn gwedd leol, yn ei gysylltiad a'r sir neu'r dref, megis hanes, llysieuaeth, &c., a dang- Z" hosodd pa mor ffol oedd yr hen ddull o geisio dysgu ffeifchiau nad ydynt o werth i neb. Ond pwnc pwysicaf ei araeth ydoedd ei apel at fechgyn ein hysgolion i beidio cyffwrdd a diod feddwol na myglus o gwbl, o leiaf yn ystod eu harosiad yn yr ysgol. Ai tybed nad yw yn amser i reohvyr ein hysgolion ahv dynion i roi cyng'norion pwysig fel yma i'r plant, yn hytrach na galw ar ddynion i siarad rhywbeth rywbelh am bynciau nad ydynt o bwys yn y byd i'r plant na'u rhieni [ M*M Collodd pulpud Cymru bregethwr ar ei ben ei hun yn marwolaeth y Parch: E. James, Nefyn. Bu farw nos Fawrth, Rhag. 2ofed, yn ei breswylfod, yn 67 mlwydd oed. I Yr oedd yn iiesg ac analluog i bregethu er's tua tair blynedd, a theimlid trwy y wlad golli ei weini- dogaeth bert a swynol. Bu yn gofalu am eg- Iwysi Nefyn a'r Morfa am tua phum' mlynedd ar hugain, ac yn Llanaeihaiarn cyn hyny. Ganed ef yn Llanfachreth, Mon, yn 1839. Bu ei fam farw pan oedd ef yn 10 mlwydd oed, ond gadawodd argraŒadau dwys ac annilead- wy ar ei feddwl. Yn 1S59, aeth i Gaergybi i iyw, ac yno daeth dan ddylanwad y diweddar Barch. Wm. (irifnths. Wedi bod ddwy fly li- edd yn Nghaergybi, perswadiwyd ef i dra- ddodi ei bregeth gyntaf. Y flwyddyn wed'yn, aeth i gadw ysgol yn ardal Cwmstradllyn, lle'r oeddis wedi cychwyn achos Annibynol mewn ty anedd. Bu yno yn weinidog ac athraw hyd nes cauwyd y chwarelau }-n vr ardal, prvd y gwasgarwyd y trigolion, a gorfuwyd rhoi pen ar yr achos yno. Erbyn hyn, yr oedd enw Mr. James yn hysbys dnv-y y wlad, a chafodd lawer o alwadau cddiwrth eglwysi cryfion. Derbyniodd alwad eglwysi Llanaeihaiarn a Sardis, a bu'n weinidog yno hyd 1872. Yna symudodd i Nefyn, ac yno y bu hyd y diwedd. Gwnaeth wasanaeth mawr drwy'r wrasg a'r pulpud, ac yr oedd enw James Nefyn yn hysbys drwy Gyrnru oil, ac ymhlith pob enwad. Yr oedd yn Rhyddfrydwr aiddgar, ac yn siar- adwr gwych ar bynciau gwleidyddol. Diodd- efodd lawer oddiwrth wendid iechyd, ac yn Mehefin, 1894, ar ol iddo fod yn glaf yn hir, cyflwynodd ei eimygwyr lliosog dvsteb O1 £ 300 iddo. Yr un flwyddyn, dewiswyd ef yn gad- eirydd Undeb Annibynwyr Cymru. Er's rhai blynyddau bellach, nid oedd Mr. James yn abl i gymeryd y rhan flaenllaw a arferai ei chymer- yd oherwydd ystad ei iechyd. Gadawodd weddw a phlant wedi tyfu i fyny i alaru eu colled ar ei ol. M*M

EMYN Y DIWYGIAD.