Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

YMWELIAD MR. EVAN ROBERTS…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMWELIAD MR. EVAN ROBERTS A TYLORSTOWN. ODDIWRTH DR. PHILLIPS. 0 wythnos i wythnos teimlwn yn fwy yn barhaus, mai anmhosibl yw desgrino y diwygiad dwyfol hwn. Yr un man fyddai desgrifio cyfiymder y fellten a'i heffeithiau a cheisio ei lwyr ddesgrifio. Daw yr an- hawsder yn fwy o ddydd i ddydd; oblegid ei fod yn mawr yinledu, dyfnhau, ac yn gadael ei effeithiau rhyfedd ar ol ymhob man yr ymwel. Nid ydym ymhell o'n lie pan yn dweyd na fydd cwr o Cymru erbyn yr ymddengys yr ysgrif hon na fydd y diwyg- iad wedi ei effeithio i ryw r.addau; oblegid bydd gwyliau y Nadolig wedi gwneyd llawer tuag at hyny. Yn y llinell a gerddir gan Evan Roberta y ceir y tilam fawr eiriasboeth; ond lliavvs o leoedd sydd yn fflathio He nad yw ef wedi bod yn agos iddynt, ac mewn rhai o honynt y inao o 1,000 i 1,500 o dcly- chweledigion. Ymhlith y rhai hyn, cawn Abertillery a Threforris. Bydd y dychweledigion oil cyn diwedd y flwyddyn o 20,000 i 30,000. Dyma yr hyn a dybiai thai oedd freuddwyd gwag o eiddo Evan Roberts, yn cael ei gyftyri1 syl,yvedcloli. Dywedodd ar y dech- reu ei fod wedi canfod mewn gweledigaeth y Tad yn afwyddo cheque i'w Eab am gan'mil o eneidiau yn Nghymru; ac os a peihau ymlaen fel hyn am ychydig fiaoedd, bydd y 100,000 wedi dyfod ai yr lesu. Bydd cyfiymder gwaith y misoedd nesaf yn llawer mwy na'r rhai aeth heibio, am fod y dychweledigion eu hunain yn troi yn genhadwyr wrth v canoedd. Ar waelod pwll glo ceir cyfarfocl gweddi o ganoedd o bobl cyn cychwYl1 ar eu gwaith codant eu lainpau i ddangos eu cyffes gyhoeddus o Grist, a siaradant wrth y cymeriadau gwaethaf gyda hyfdef dwyfol, nes y tawdd y rhai hyny o'u blaen a llawer sydd yn cael eu hargyhoeddi yn y ffordd hon. Mewn masnachdy mawr yn Nghaerdydd ymgynull rhwng 200 a 300 o fechgyn y masnachdai at eu gilydd i ystafell fwyta eang i gynal cyfarfod gweddi; a dychwelir nifer at y Ceidwad cyn y diwedd. Hyn yw hanes bron bob dosbarth mewn rhyw ffurf neu gilydd ac o ganlyn- iad, ni all y tan lai na lledu gyda chyflymder mwy o lawer nag ar gychwyn cenhadaeth y diwygiwr. Braidd na fyddwn yn dychrynu wrth feddwl am y cyfrifoldeb y gesyd y diwygiad yr eglwysi ynddo. Y mae amryw weddau i'r cyfrifoldeb hwn. Daw y fath nifer mawr i'r eglwys o'r byd; a gofynol defn- vddio doethineb o'r radd flaenaf i'w harwain. Heb y cyfryw ddoethineb, gellid gwneyd drwg mawr. Rhaid cofio fod llawer o honynt heb argraffiadau cre- fyddol blaenorol; ac heb ddygiad i fyny sydd o fantais icldynt ddal eu tir. Y mae amryw o honynt wedi ffurfio arferion pechadurus cryfion, y rhai a barant ofid, trafferth, ac ymladdfa galed iddynt i'w gorchfygu. Hanes eu gweddiau am flynyddoedd fydd,—■ Difa lygredd ein calonau, Tyn ein chwantau dan ein traed." Ond gyda doethineb, a phwyll mewn arwain y rhai hyn, daw llawer o honynt y dynion goreu yn y wlad. Meddant bosibiliaethau eithriadol; a phan orchfyg- ant euLharferion drwg, byddant yn ddynion fydd yn anrhydedd i achos Mab Duw. Dyledswydd fawr sydd ar yr eglwys i ofyn am ddoethineb i drin yn iawn y posibiliaethau anferth sydd wedi eu dwyn i fewn iddi yn y misoedd hyn. A cbofier, fod angen y ddoethineb hon ar bob aelod, ac nid y gweinidog yn unig. Dylai pob aelod oedd yn yr eglwys yn flaenorol, wylio ar ei siarad a'r bobl hyn, ac a'i ym- ddygid tuag atynt rhag eu tramgwyddo. Ni waeth faint gerdda y gweinidogion o gwmpas i edrych am y dynion hyn, na pha faint gynghorant arnynt yn y capelau, os na fydd yr aelodau fel un gwr yn gwneyd lIe cynes iddynt; ac yn dangos cariad tuag atynt. I ffwrdd a'r hen syniad mai gweinidogion sydd i wneyd yr oil. Bydded i bob aelod ofalu am y dy- chweledigion nesaf ato a gwneyd yr oil a fedr er eu cylymu wrth y capel yr ymaelodant ynddo. Dyma gyfrifoldeb o eiddo aelodau yr eglwysi y carwn ei argrarfu ar bob un a ddarlleno y nodiadau hyn. Pa fodd y gall neb fod yn teimlo sel dros achos ei Waredwr ac esgeuluso y ddyledswydd fawr hon ? Peidied crefyddwyr a rhagrithio iddynt eu hunain ar amssr mor ofnadwy a hwn eithr bydded iddynt gofio fod pob un i fod yn genhadwr dros Grist ar y raddfa y medd allu at hyny. Cyfrifoldeb mawr arall sydd ar yr eglwys y dyddiau hyn, yw gofalu am ei chymer- iad mewn pethau bychain yn gystal a mawrion. Ni ddylai aelodau ymddwyn mewn dim fel ag i fod yn brcfedigaeth i'r rhai newyddion yn y ffydd. Dylent yn gyntaf, fod yn dra gofalus yn eu hymddiddanion. Pethau crefyddol a chysegredig ddylai fod holl fater- y ion eu hymcididcbnion, yn enwedig yn nghlywedigaeth" y rhai hyn a dylent fod yn or-ofalus rhag defnyddio iaith isel a fyddo yn awgrymu dim am y bvwyd blaenorol o eiddo v dychweledigion. Yn ail, ni ddylai crefyddwyr fynychu unrhyw leoedd amheus. Peth tra phoenus i ni yw clywed am hen grefyddwyr yn Lreulio awr yn y dafarn nos Sadwrn, ac yn myned i fewn yn ngolwg dynion ieuainc sydd newydd droi at Grist, wedi bod flynyddoedd dan draed y diodydd meddwol. Peth na ddylid ei ddioddef yw y fath ym- ddygiad; oblegid profedigaeth ofnadwy yw hyn i rai" fu yn ferthyron i'r ddiod. A eraill, liw dydd goieu, a llestri ganddynt i gyrchu diod o'r dafarn. Ni wn pa le y mae cydwybod rhai dynion a arddel- ant Grist. Gwarthus o beth yw gweled crefyddwyr yn diota dan unrhyw amgylchiad; ond y mae eu gweled yn gwneyd hyny yn awr yn annioddefol, pan fyddo gwaed cynifer yn gorwedd ar eu dwylaw. Digon anniddig yw gorfod dweyd y pethau hyn; ond rhaid yw eu dweyd, onide ni fyddwn yn onest i'n Duw. Gofalwch ati un dosbarth o grefyddwyr. Peidiwch gosod etch Haw ar bethau sanctaidd heb ystyried fod eich hymddygiadau yn myned i bender- fynu llwybr a thynged miloedd o'r dychweledigion i,vn. Cofiwch. y gwna Duw gyfrif a chwi am eich hvmddygiadau. Os na all dynion adael blys o'u heiddo o'r neilldu, ar y fath adeg ddifrifol er mwyn achos y Duw mawr, nid ydynt yn deilwng i wisgo enw ein Iesu ni, yr Hwn osododd ei ffurf ddwyfol o'r neilldu er mwyn cadw dyn. Yn drydydd, gofynol yw i'r eglwys ofalu am waith i'r dychweledigion oil; ac yma daw dan gyfrifoldeb mawr eto. Bydd raid gofalu fod y gwaith yn taro nodwedd yr aelod, ac yn un y bydd yn debyg o ymhjdrydu ynddo. Ni wna rhoddi gwaith na fydd yn yr aelod un cymhwysder ato, ond dinystrio pethau. Yn bedwerydd, ym- drecher i wneyd crefydd yn bleser a llawenydd i'r aelodau newyddion, ac nid yn faich. Ofnaf fed swn gormod o ddymu dyledswyddau iddynt gan anibell un eisoes. Cyrnerer pethau yn araf; a gadawor idd- ynt ymagartrefu yn yr eglwysi am ychydig cyn ceisio gwthio llwyth o ddyledswyddau i'w geneuau. Ni fydd meistr call yn gosod rhaglen o ddy 1 edswyddau di-ben draw o flaen y gwas yr wythnos gyntaf. Erys iddo ddyfod i gain y teulu a'r lie yn gyntaf; ac yna clwg y dyledswyddau yn esinwyth o'i flaen bob yn un. Ei ynidrech mawr yw gwneyd y gwas mor dded- wydd nes peri iddo awyddu cyflawni ei ddyledswydd- au heb ofyn iddo. Crefydd a'i dedwyddweh yn gym- helliad i'w dyledswyddau, yw y grefydd iawn. Ein hvnidrech oil ddylai fod, yw gwneyd ein heglwysi yn gartref dedwvdd i'r dychweledigion, fel y bycldCint yn awyddu am rywbeth i'w wneyd. Yn burned, bydd rhai yn sicr o lithro. Ni allwll ddisgwyl dim arall. Rhaid fydd bod yn ddoeth a thyner yn ein disgybl- aeth o'r rhai hyn a hyny heb golli urddas a phurdeb yr eglwys. Ar un Haw, rhaid dysgu iddynt na ellir byw yn yr hen bechodau a bod yn yr eglwys; ac ar y llaw arall gofynol dangos iddynt ein bod yn barod i faddeu ar sail eu hedifeirwch a'u hymdrech i adael eu pechod. Cofier wrth ymdrin a hwy am yr hwn y dywedir am dano—"Corsen ysig nis tyr, a 11 in yn i-nygu nis àiffudd." Yn chweched, nid ydym heb golio y daw rhai diras i fewn i'r eglwys gyda'r llanw mawr hwn—gwreiddiau "chwerwedd—rTiai a lygrai lawer. Bydd raid cadw gwyiiadwriaeth ar y rhai hyn, a'u chwynu, fe ddichon. Eithr ni bydd eisieu ofni dim. Bydd yr un Ysbryd at ein gwasanaeth bob dydd ag sydd wedi galvv y miloedd i fewn. Dywedaf eto mai mawr yw cyfrifoldeb yr eglwys, a Duw a baro iddi deimlo hyny. Dydd Llun, Rhag. 12, cyrhaeddir Tylorstown. Rhaid i rni adael manylion hanes y diwygiad yn y lie yn llonydd yn awr am yr un rheswm a'r Maerdy. Bydd penod fawr i'w hysgrifenu ryw dro ar hyny. Dyddiad ei doriad allan ydcedd nos Lun, Tach. 17, er fod pethau oedd yn arwain at hyny wedi yniddangos yn gynt. Daeth fy nith o'r ysgol nos Lun cyn hyny, a mynodd gael cyfarfod gweddi neillduol yn y ty; a gweddiocld dros hvyddiant yr efengyl nes creu dychryn arnaf, a holi a oeddwn yn gwneyd yr hyn ddylaswn y ffordd hono. Am ddyddiau ni alhvn gael hyn oddiar fy meddwl. Yr un adeg methai Arthur Jones, un o'r blaenoriaid, a chysgu, am fod y mater yn pwyso mor drwm arno ac erbyn hyn, deallaf fod llawer o'r aelodau eraill yn yr un fath deimlad. Daeth y nos Iau crybwylledig; ac 0, ryfedd noswaith. Synwn beth wrth weled cynifer ynghyd—cryn dipyn mwy nag arfer; a thorodd y cwmwl cyn pen ugain mynud nes gwneyd y lie yn nefoedd drwyddo draw. Ca y darllenydd fraslun o'r cyfarfod yn y GOLEUAD am Dach. 25am. Cyhoedd- wyd y buasai cyfarfodydd bob nos yr wythnos ddi- lynol; ac un i'r bobl ieuainc am 9.30 bore Sabbath. Bu lie difrifol 3'n nghyfarfod y bobl ieuainc. Y peth mwyaf gogoneddus ynddo oedd gweled bach- genyn wyth oed yn myned ar ei liniau o hono ei hun, ac yn gweddio gyda gafael. Braidd na fu gorfod i'r bobl mewn oed occld yno ddianc allan gan wasgfa ofnadwy y teimladau a thanbeidrwydd y dwyfol bresenoldeb. Pan ddacth nos I.un yr oedd y festri eang1 bron yn llawn. a chariai y dylatiwad bob peth o'i flaen. Nos Fawrth daeth nifer lliosog o'r Annibynwyr atom heb un rhag-drefniant, a nos Fercher lawer mwy o honynt, nes gorfu i ugeiniau droi yn ol. Aeth y cyfarfod yma braidd yn anni- oddefol, a bum ar ddwywaith bron a dianc allan. Gosodwyd er.wau 57 gerbron i weddio drostynt, 3' rhai sydd bron oil wcdi derbyn Crist erbyn hyn. Arhosodd 5 y noson hono. Nos hu rhaid fu cael capel Ebenezer (A.), y mwyaf yn y lie; a daeth Mrs. Morgan, gwraig y Parch." John Morgan, Aberdar, atom, ynghyda Tom Hughes, yr hwn gafodd droedig- aeth mor rhyfedd yn Nhrecynon, Miss Rowlands. David Rogers, a thri eraill nad wyf yn cofio en henwau yn awr. Gorlanwyd y capel cyn 7 o'r gloch, a chyn y diwedd diau fod coo i 1000 ynddo. Der byniodd 25 yr Iesu, nos Wener gwnaeth 3I ei dder- byn, a nos Sadwrn rywbeth cyffelyb. Dylifai y bob] i fewn o bob cyfeiriad ar ol 9 o'r gloch y nos. Dydd Sul a Llun yr oeddym yn agor ein capel wedi ei ad- gyweirio, a'r Prifathraw Prys a minau yn gwasan- aethu. Cafwyd y capel yn gysurus lawn y bore ond am 2 a 6 gorlanwyd ef-, a derbyniodd amryw y Ceidwad. Y Llun daeth y Parch. Dd. Jones, Mardy, atom, gan fod y Prifathraw Prys yn gorfod ymadael; ac yn ystod y dydd trodd tua 12. Parhawvd y cyfar- fodydd gweddiau, ac erbyn y Llun diwedclaf pan ddaeth E. Roberts yina yr oedd dros 200 wedi dy- chwelyd. Bellach at gyfarfodydd y Llun a Mawrth. Saith golygfa fawr yw y rhai hyn. Saith o gyfarfodydd fu yma^ a chymerwn bob un o honynt ar ei ben ei hun. J. Golygfa hare Llun-—Yn Libanus (M.C.), ceir cyfarfod gweddi cyffredinol. Af i fev/n ychydig cyn 11 a.m.; ac er fy" syndod bron yn llawn -bob congl yw y capel. Nid oes yma lywydd i'r cyfarfod, nac arweinydd v gan. Cydystad yw pawb. I beth y cyffelybaf y cyfarfod p. I fore braf o haf. Giywch chwi swn yr adar man ar fore o haf? Dyn a y fron- fraitli yn "codi ei chan; aderyn y to yn pyncio ei gerdd fan draw ar gangen yr onen, neu'r dderwe-n V'/ele y Robin brongoc.h yn inynu ei glywed fan arall yn y llwyn fan acw cly.vaf gan -y gog O le, myn v fran ddu a'r pia brith gael rhoddi a'.lan eu llais, er mor fusigaidd yw can rhanau eraill o gor y v.'ig. Tebyg i hyn oedd cyfarfod Tylorstown bore I.Jun. Pan ofynais i un am dano, "O!" oedd ei ateb, dwyfol, dwyfol, dwyfol." Faint oedd nifer y rhai gymerodd ran ynddo? Nis gwn; a chredaf nad wyr neb ond Duw. Dynion o ba enwadau oedd yma p Neb nis gwyr, ond a'u hadnabyddai o'r blaen, oblegici ni fu y gair en wad gerbron; ac oblegid y tori dros ben yr hen ffurfiau a'r gadael o'r neilldu a'r her: weddiau, ni c-llir deall pwy enwad fydd un wrth ei iaith yn awr. Gwneir y gynulleidfa i fyny o bobl o bob cyfeiriad. I n o Uwsia fan hon, amrj'w o Lun- dam a rhanau eraill o Loegr fan draw dacw un o Landnndo;! fan yna; gwelaf weinidog o Nottingham yn nghongl y set fawr; a gohebwyr y prif bapyrau amryw o honvnt. Nid oes yma floeddio, ni dna aunaturioL ond a y cyfarfod ymlaen fel siglo cryd mawr; ac am gryd digon i ddal chwech chant yn cael ei .••■do gan law Hollalluog y meddyliais nn.. waith wrth edrych arno. Cyda bod un 3T1 tewi yr oedd y Hall yn barr.d. nu un hen aelod ffyddlon i ni, ac y mae yn deihvng i'w henwi, Catherine Owen. yn hir cyn cael gc.s.-d ei phen i fewn; ond o'r diwedd hi gafodd; a rhyfedd oedd ei gweddi. Diolch i ti, Iesu mawr," ebe hi, '• yr wyt wedi clirio v biliau ac nid oes eisieu talu am stamp ceiniog byth mwy i anfon liythyr atat." C\n hir cawn y Parch. D. 11. Williams, Casnewydd, ar ei draed, ac yn tynu y nefoedd i lawr wrth ofyn am i Dduw ymwelecl a'i dref. Ni chlywsom ef erioed mor fendigedig. Pan ddaeth 12 o'r gloch, mawr yr anhawsder gafwyd i don y cyfarfod y fyny. Yr oedd amnaid at hyny yn tynu nifer allan i siarad neu weddio ar unwaith. Beth by nag tua haner awr wedi 12 cafwyd ef i ben ond ni chyffroi amryw o'r capel h3'd y cyfarfod dau, Torodd i fyny fel dydd o haf, fel yr agorodd fel be re 0 liai'. Codai 3' gwres o haner awr i haner awr, ac onibai i ni dori i fyny buasai wedi myned yn fllam ac ni ellid dyfod allan cyn y cyfarfod arall. Ym-. daflai y Saeson fel y Cymry i wres y cyfarfod; ac enwent rai yn eu gweddiau y carent eu hachub; a chafodd llawer y llawenydd o weled y rhai hyny wedi eu hachub cyn diwedd y cyfarfodydd. Cyfar- fod o foddion gras yn ystyr briodol y gair oedd yr un 'dc 1, yma; ac ardderchcg oedd- ci barotoad ar gyfer y rhai dyfodol. 1-T. Yr ail olygfa.—Cyn 2 gorlanwyd. Libanus (M.C.), a rhaid iu dweyd yn bendant fod y drysau i'w cau. Yr oedd 800 o leiaf yn y capel. Yr Ysbryd Glan yw yr unig lywydd yn hwn eto. Beth sydd i wneyd a'r canoedd na allent ddyfod i fewnp Rhaid agor dau gapel eraill. Llanwvd hwy cyn pen ychydig amser. Cymeraf y tri chyfarfod hyn ynghyd fel un olygfa; oblegid wrth ddarlunio ysbryd un, byddir yn gwneyd hyny a'r tair olygfa. Yn yr odfa hon gwelir dynion o bob rhan o'r wlad. Dan y pulpud nid oes neb yn mwynhau yn well 'na'r Prif- athraw Prys, Trefecca. Llenwir y set fawr a'r sedd- au cylchynol gan v/einidogion pob enwad, a'r oil yn mwynhau fel un galon fawr. Cyn hir, cyfyd gweini- dog o Nottingham, i ddeisyf am weddio dros y dref fawr annuwiol yn yr hon yr oedd ef yn byw, gan gyfeirio at ei chwareuon, &c. Dangosai fod y dref a'i chwarter miliwn pobl yn gorwedd mewn llygredig- aeth a phechod. Mewn canlyniad i'w weddi, offrym- wyd gweddiau taerion ar ran y dref. Yn nesaf cawn y parch. D. II. Williams, Casnewydd, ar ei draed yn gofyn am weddio dros (Casnewydd, ac yn siarad yn fendigedig. Wedi y pethau hyn, dyma amryw weddiau yn cael eu hoffrymu ar ran y wasg. Syhvyd ar y gwaith godidog a wna y wasg mewn gwasgaru hanes y diwygiad i bob cwr o'r wlad; a bod yr ysgrifenwyr fel pe dan ddwyfol eneiniad. Myneg- wyd fod arnom fawr ddyled i ddiolch i Dduw am hyny; gan obeithio y byddai iddo eu bedyddio oil a'r Ysbryd Glan. Yn ei gweddi ar ran pobl y wasg, dywedodd un ferch, fod un eneth wedi dweyd wrthi na wyddai ddim am y Beibl na Christ, nes gweled hanes y diwygiad; a'i bod wedi cael troedigaeth drwy y papyr. Dangoswyd brwdfrydedd tuhwnt yn y gweddio dros v lleoedd uchod a thros y wasg. Wedi hyn, cawn un yn adrodd hanes syn am gyfarfed nos Sadwrn yn Ferndale. Daeth tri o bobl v chwareudy i gapel Trerhondda, i geisio tynu rhai allan ond nid cynt yr oeddynt wrth eu gwaith nag yr oedd haner clwsin o fechgyn crefyddol o'u cwmpas yn ceisio ganddynt dderbyn Crist. Ar fyr aeth yn rhy boeth ar y chwareuwyr a da oedd ganddynt gael y ffordd allan, gan addaw meddwl am yr Iesu y noson hono. Y peth nesaf yw canu For you I am praying," a gwraig yn gweddio dros y was,, ac yn diolch am fod Duw yn gwneyd y papyrau newyddion yn fodd- ion achubiaeth i ddynion. Tua 4 o'r gloch dyma Evan Roberts i fewn ac yn dechreu siarad ar un- waith. Y mae Duw wedi ein toddi ni bobl," meddai, a da yV¡ hyny yr ydym wedi byw gormod i ni ein hunain. Wyddcch chwi sut yr ydym wedi cael cymaint gan Dduw ? Y mae Crist wedi esgyn uwchlaw yr holl nefoedd—yn ddigon uchel i lanw pob peth. Wyddocli chwi beth bobl? Y mae of 11 dydd y farn yn fy nghalon. Nid ofn myned yno fy hunan; oblegid y mae y mater wedi ei setlo c ;id ofn cyfarfod cynifer yno gafodd gynyg ar fywyd ac wedi ei wrthod. Y mae genyf fi gyfaill ar yr orsedd, ac nid ofnaf y farn yn ei gysgod ef. Mynwch grefydd bobl, na fydd dim eisieu i chwi ofni dim. Y mae yn llawn bryd i grefydd yr ofni fyned o'r neilldu. Yr oedd crefydd gyda ni fel teulu gartref drwy y blyn- yddau; ond crefydd yr ofn.i oedd hi; eithr erbyn hyn nid oes neb o honom yn ofni. Idav.-enydd i gyd yw hi. Crefydd a sicrwydd cadwedigaeth ynddi. Pan y traethai Evan Roberts ar y wedd hon i grefydd, dyma hen Gristionoges yn gwaeddi ar ganol y llawr, 0, blentyn y nefoedd, paham mae dy fron. Mor ofnus wrth weled gwlyb ymchwydd y don ? Mae'r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw Ond diogel yw'th fywyd, mae'th Dad wrth _v llyw." Aeth y geiriau fel trydan drwy y gynulleidfa. Canv.yd 0, yr Oen, yr addfwyn Oen," yn nerthol wedi hyn. Cododd Evan Roberts etc a dechreuodd ddangos y gellid cael crefydd yn cynwys