Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YMWKLlAD MR. EVAN ROBERTS…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMWKLlAD MR. EVAN ROBERTS A PHONT- YPRIDD. ODDIVvB'IH Y PARCH. WILLIAM LEWIS. Yn ystod yniweliad Mr. Evan Roberts a Phont- ypridd, cawsom gryn lawer o'i gwmpeini, am yr hyn yr oeddem wedi dyheu er's wythnosau, yn arbenig felly am ein bod oblegid sefyllfa ein hiechyd yn cael ein gorfodi i gadw allan o'r cyfarfodydd, eto ceisiem cin goren fel Epaphras gynt ymdrechu yn wastadol drostynt mewn gweddiau, ae felly yr ydym yn parhau. Mawr yw braint y rhai sydd yn medru ei ddilyn, a chydweithio ag ef. Gan mai nyni oedd wedi sacrhau i ei ynrweliad a'r dref, ac wedi trefnu ei gyfarfodydd yma, cadwasom i ni ein hunain y fraint o'i letya tra yn ein plith. Yr oedd amryw o'r chwiorydd caredig a lletygar perthynol i'r eglwys yn awyddus iawn, 5 iawn, ei gael, ond buom yn ddigon hunangar i gadw y fraint hono i ni ein hunain, gan ein bod am gatchio y dylanwad ein hunain fel teulu, ac ni chawsom ein siomi. Ar y dydd Sabbath y trefnwyd iddo ymweled a'n tref, Rhagfyr iSfed, a phenderfyn- wyd iddo gynal tri chyfarfod, y boreu yn Sardis (A.), prydnawn yn Penuel (M.), a'r hwyr yn y Tabernacl (B.). Yn ychwanegol at hyny rhoddodd odfa am ddeg yn yr hwyr yn Eglwysbach (W.). Felly cafodd capelau y pedvvar enwad eu bedyddio gan yr Ysbryd Glan y Sabbath hwn, a diwrnod i'w gofio yn hir yd- oedd. Tyrcdd tyrfaoedd anferth i'r dref o'r cymydog- aethau cylchynol, rhai gyda'r trens, rhai mewn cer- bydan, ac eraill ar draed. Rhaid oedd agoryd y capelau awr cyn pryd, ac mewn pump i ddeng mynuel yr o'eddynt wedi cu gorlenwi, a thyrfaoedd mawrion y tuallan. Arhosai y rhai hyny y tuallan am oriau yn unig i gael gwelcd gwyncb y Diwygivvr wrth fyned i a dychwelyd o'r capel. Bernir fod wyth mil yn sefyll y tu allan i'r capel nos Sabbath. Wrth ystyr- ied yr amgylchiadau, ymddygodd y tyrfaoedd yn deilwng o'r Sabbath ac o'r efengyl. Cofier mai pobl siomedig oeddynt, eto nid oedd lie i achwyn. Tra yr oedd Mr. Roberts yn y capel, cyfarchid y dorf gan amryw y tu allan, ac weithiau cydgenid gan y gyn- ulleidfa y tufewn a'r dorf tufaes. Cyfarchodd Mr. Roberts y dorf tuallan yn y prydnawn a'r hwyr. Bu ef ei hun yn nghyfarfod y boreu am dros ddwy awr a haner, a'r un faint o amser yn nghyfarfod y pryd- nawn, ac yn yr hwyr bu wrth y gwaith am bedair awr a haner. Nid rhyfedd ei fod yn flinedig erbyn yr hwyr,—ond y mae yn dal yn rhagorol er hyny. Caf- y wyd cyfarfodydd da iawn—" bendigedig," a defnydd- io gair Mr. Roberts ei hun, trwy y dydd, ac yr ydym yn parhau i fedi hyd yma, a disgwyliwn barhau am ddyddiau, os nid wythnosau eto. Ebai Mr. Roberts wrthym y noson hono cyn myned i orphwys, "By-del Pontypridd ar dan yn y fan." Gobeithio hyny," ebe ninau. "Rhy wan," meddai. "Yr wyf yn hyderu yn gryf," mediem. Rhy wan eto," ebai. Rhaid credu." Rhaid cyfaddef y mae ef yn gredwr heb ei fath, a dyna, gredaf fi, ddirgelwch ei nerth. Creda ef y caiff tyrfa eu hachub yma cyn hir. Amen," meddai holl saint y dref. Gofynai gweini- dog o Loegr iddo, yr hwn a ddaeth i lawr i'r unig amcan o ddal y tan, What is the secret of your success?" "Secret," ebai, "there is no secret. 'Ask, and ye shall receive." Dyna ddirgelwch ei nerth yn ddiameu, ei grediniaeth syml, diysgog, yn Nuw. Yr ydym yn parhau nos ar ol nos i weddio a dis- gwyl am ffrwyth, ac y mae yn parhau i ddyfod. Yn ystod ein harhosiad yn y dref hon, ni welsom y fath olygfeydd ag a welwyd yma y Sabbath hwn. Y mae holl enwadau y dref yn cydgyfarfod yn un a chytun. Cyfarfodydd undebol Cymreig gyhoeddir, ond daw y Saeson wrth yr ugeiniau i mewn, a chymerant ran yn ddigymell yn y cyfarfodydd, ac ar adegau cymer- ant y cyfarfod yn hollol i'w llaw, ond nid oes neb yn eu beio. Teimlant fod y peth byw yn y cyfarfod- ydd, a deuant iddynt i'w feddianu. Canu a gweddio oedd yma ar hyd y Sabbath ar yr heolydd, ar blat- form y station, yn y trens, yn y tai, yn gystal ag yn y capelau. Parha y cyfarfodydd undebol yr wythnos hon eto, ac nid oes anhawsder i ddwyn y gwaith yn mlaen. Yr anhawsder yw gorphen yn brydlawn. Y mae y parodrwydd mwyaf mewn llawer i gymeryd rhan mewn canu, gweddio, dweycl profiad, &c. Teimlad rhai mewn llawer o fanau yw fod gormod o ganu a rhy fach o weddio a phrofiadau ond 'daw pethau i'w lie cyn hir. Y mae yr hen ffurfiau wedi myned, ond gall fod perygl i efelychu ffurfiau Mr. Evan Roberts, heb y peth byw sydd ganddo ef o dan y ffurfiau hyny ac yn rhoddi bod iddynt. Dylid cofio mai dim ond un Evan Roberts sydd. Llawen- ydd mawr yw gweled y fath barodrwydd. Hir y parhao. Dywedodd un brawd i'r cliweddar Barch. W. Rees—Gwilym Hiraethog, ar ei ymweliad ag Exhibition yn I.lundain, weled peiriant i wneuthur rhew. Nid oes dim newydd yn hwn i mi," meddai, y mae y peiriaint hyn genym ni gartref ar waith ddwywaith yn yr wythnos." "John Jones, ewch i wedcli." Dim heno, gofynwch i hwn a hwn." Gwneuthur rhew. "William Hughes, a oes gair ar eich meddwl chwi heno?" "Dim un heno," ebai vntau. Gwnevd rhew," ebai Mr. Rees. Erbyn heddyw, diolch i Dduw, y mae gormod o wres i ddim rhew ddyfod i fodolaeth. Ond desgrifir gyda deheurwydd mawr gan amryw o frodyr galluog y gwahanol gyfarfodydd ymhob parth o Eorganwg, a rhywbeth tebyg ydynt i gyd, ond fod mwy o dan yn rhai ne'u gilydd. Mewn rhai mae tan eirias. Ond ein hamcan ni wrth gymeryd yr ysgrifell yn ein. Haw ydoedd rhoddi ychyd.ig o hanes Evan Roberts yn ty rhwng y cyfarfodydd. Llawer ac am- rywiol yw y cwestiynau holir yn ei gylch. Gellid tybied wrth holiadau rhai eu bod yn credu ei fod yn anhebyg iawn i ddynion da yn gyffredin. Mewn rha.i pethau y mae yn wir ei fod yn anhebyg. Yr olwg gyrtaf gawscm ni arno ydoedd yn rhedeg i fyny o'r heol at ein drws o odfa y boreu. Rhedai i fyny fel bachgcnyn deuddeg oed yn dyfod gartref o'r ysgol. Gyda ei fod i fesvn chwareuai yn galonog a'r ci bychsr. ieuanc sydd newydd wneuthur ei gartref yn y tev.lu. Tarawodd ei naturioldcb ni yn y fan. y mae mor ddiniwed a phlpntyn, mor hapus ag aderyn, mor naturiol a natur ei hun, ac y mae ei ffydd yn ei Dduw mor syml a ffydd plentyn 'yn ei dad. Yr 3rdych yn teimlo ei fod yn rhodio gyda Duw fel Enoch gynt, ac yn gyiaill iddo fel tad y ffyddloniaid. Gosoda yr Arglwydd bob amser ger ei fron, ac am ei fod ar ei dcleheulaw nid ysgogir ef. Teimla mewn moment bresen.oldeb Duw mswn odfa, ac mewn un- rhyw gymdeithas,. ac njewn moment teimla pan nad yw yn bresenol. Y mac yn anhebyg i bawb a wel- som. Nid yw i'w fesur wrth unriiyw safon adna- bj'ddus. Ni phcrthyu i un dosbnrth am ei fod yn ddosbarth ar ben ei hun. Gofynai un foneddiges i ni a cedd yn 'bwj-ta fel clynion eraill. Dywedais ei fod yn hollol, ac yn cymeryd digon o bwyll pan yn bwyta, mwy nag a wna llawer o honom, ac fe fedr gysgu yn dda ar hyd y nos, ac ymhell i'r dydd os ca' lonydd. Y mae gobaith iddo felly barhau yn y gwaith tra y cedwir ef yn ysbryd y gwaith. Rhodd- asom yn ei law fwndel o lythyrau. Daw sypyn i'w law bob boreu o wahanol fanau o Gymry a Lloegr, ac Ysgotland, ac Iwerddon, ac amrywiol iawn yw natur eu negeseuau. Rhai o honynt yn ddigrifol iawn, ac eraill yn llawn o'r tristwch mwyaf. Ebai un wrtho, I am on the point of signing a cheque, but before I do no I should like to know your opinion as to what effect the Revival will have on the price of coal." Chwardclodd yn iachus. Ond baich y ceis- iadau yw gofyn am ei ymweliad neu ei weddiau; a derbynia lawer yn ei galonogi, ac erai11 yn ei gyng- hori, &c. Un wraig i weinidog yn gofyn am ei weddiau dros ei phriod sydd heb ei achub. Mam yn dymuno am iddo weddio drosti hi a'i thri mab. Dar- llen a yr holl lythyrau yn ofalus, tal sylw manwl i'w ceisiadau, ond nid oes ganddo amser i'w hateb. Ychydig yw yr amser sydd ganddo rhwng ei odfeuon, ac y mae yn gadael ei holl drefniadau yn llaw y Parch. D. Mardy Davies, Pontycymer, Bridgend. Efe yn unig sydd i drefnu ei ymweliadau. Ychydig lonydd ga yn ei lety gan ymwelwyr, rhai am air ag ef, eraill am ysgwyd llaw, ac era ill am ei weled yn unig. Bu rhaid i ni ei gysgodi rhag amryw o'i gyfeill- ion. Y Diwygiad. a'r gwaith yw testyn ei holl siarad yn y ty. Pan ar de yn syndyn dywedai Y mae rhywrai yn gweddio droswyf yn awr, yr wyf yn sicr o hyny, yr wyf yn teimlo eu gweddiau o'm cwmpas y fynyd hon." Y mae yn byw yn y byd ysbrydol, y mae yn gweled gweledigaethau yn awr, ac yn clywed lleisiau, ac yn deall y cenadwriaethau ddaw iddo o'r byd ysbrydol. Ni symuda yr un cam, ond fel yr ar- weinir ef gan yr Ysbryd (Han. Dyna ei iaith-" Ni cherddai'n gywir haner cam oni fyddi o fy mlaen." Y'Cristion dedwj-ddaf a welais erioed yw. Geilw un ef, The Laughing Preacher." Medr chwerthin yn iachus, ac ni anghonr ei wen byth gan neb a'i gwel. Rhoddwn un engraifft o'i ddibyniad ar Dduw a'i ffydd yn effeithiolrwydd gweddi. Wedi cyfranogi o de yr oeddem yn eistedd o gwmpas i'r taan, Mr. Roberts, y Parch. G. Parry Williams, M.A., gwein- idog yr eglwys Saesneg yn y dref, y Parch. J. J. Morgan, Wyddgrug, mab y diweddar Barch. David Morgan, Ysbyty, diwygiwr enwog 1859, yr hwn oedd wedi dyfod i lawr i'r unig amcan o weled a chael gafael yn y tan, a ninau fel teulu. Galwodd Mr. Morgan ein sylw at lythyr tarawiadol a byw, y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D., yn y 'Daily Chronicle' y diwrnod o'r blaen. Ar ein cais darllenodd Mr. Morgan y llythyr. Cafodd anhawsdra mawr i'w ddarllen gan ei deimladau, ond aeth drwyddo gyda llygaid a llais llawn o ddagrau, a ninau wrth ei wrando yn wylo yn hidl i gyd. Wedi darlleniad y llythyr, cododd Evan Roberts yn sydyn ar ei draed, a dywedodd yn llawn o deimlad byw, "We must pray," a syrthiasoni i gyd ar ein gliniau. Arweiniodd Mr. Roberts mewn gweddi, ond wedi ychydig frawdd- egau torodd i lawr, a wylodd yn hidl. Yna gweddi- odd Mr. Morgan, a dadleuodd gerbron yr Arglwydd dros Ogledd Cymru, gan enwi amryw 0 drefydd y Crogledd, ac yn arbenig y manau hyny y darfu ei dad fethu eu cyffwrdd ar ei ymweliadau yn 1859 a 60, ac yn sicr i chwi yr oedd yma weddio gwirioneddol. Darfu i ninau ei ddilyn, a chawsom gyfarfod nad a yn anghof genym ni fel teulu am amser maith. Dyna air yn fvr am ymweliad Mr. Evan Roberts a Phontypridd. Arhosed y dylanwad bendigedig hwn yn hir yn ein tref. Dylasem ddywedyd fod nifer fawr wedi vmuno a gwahanol eglwysi y dref yn ystod yr wythnosau diweddaf, ac yn eu plith y mae 34 wedi ymuno a'n heglwys ni yn Penuel, a llawer o honynt yn ddynion mewn oed, ac y mae gryn gyn- hyrfiad yn aros ymhlith ein pobl ieuainc yn arbenig, ac y mae yr eglwys wedi ei gwobrwyo a gweddiwyr newydu, a'r hen weddiwyr eyhoeddus a gweddiau newydd, ac a phrofiadau newydd. Y mae ein heg- lwysi yn cael eu gweddnewid trwy yr ymweliad hwn. Diolch i Dduw am dano.

[No title]

Y DIWYGIAD YN NGIIORSEINION.