Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yn y rhifyn nesaf o'r GOLEUAD cyhoeddir penod ar hanes dechreuad y Diwygiad yn Cei- newydd, gyda darluniau o gapel y Tabernacl, Ceinewydd, a'r gweinidog; Miss May Phillips, Miss Florie Evans, a Miss Maud Davies. Hefyd ceir adroddiad o ymgom gyda Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr, yr hwn a rydd hanes am y dylanwad rhyfedd cyntaf a deimlodd, a'r hyn a arweiniodd i doriad allan y Diwygiad. 0*0 Bwriada y Parch. W. Wynn Davies symud i Fangor, fel ag i ddechreu ar ei waith fel bugail Twrgwyn y Sabbath cyntaf yn Ebrill. U U Cyflwynodd Dr. Paton, Nottingham, ei lyfr- gell fawr o lyfrau athronyddol a duwinyddol yn rhodd i Goleg Westminster, Caergrawnt, a gellir cael llyfrau yn fenthyg oddiyno, ond anfon at The Librarian, Westminster College, Cambridge. Dywedir mai Mr. Gibbon, mab y Parch. J. M. Gibbon, ydoedd awdwr yr ysgrif fu yn y Daily Mail" yn ysgornio Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr. Bu yr ysgrif hon yn ddolur calon i filoedd, a dylai beri i lawer ddarfod am byth a'r papyr gwawdus hwn. 0*0 Cefais gopi o'r drydedd ran o Lawlyfr yr Efengylau, dan olygiaeth y Parch. W. James, Aberdar. Ysgrifenwyd y rhan hon oil gan y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, ac y mae hyny yn ddigon o warant am drylwyredd y gwaith. Cefais sypyn o'r cyhoeddiadau misol a ddygir allan yn swyddfa Mri. Hughes a'i Fab. Rhifynau gwir dda,—Cymru'r Plant,' 'Y Cerddor,' a'r Ymwelydd Misol.' Gyda'r di- Weddaf o'r tri rhoddir darlun rhagorol o Mr. Lloyd Gfeorge, ac ysgrif ddyddorol arno gan M1". Eleazar Roberts. < Golygfa i'w chofio byth ydoedd yr un wel- wyd yn Falmouth Rd., Llundain, nos Sul di- weddaf, pryd y cafodd yr eglwys y fraint o toeled pymtheg o bobl mewn oed yn ymuno a hi o'r newydd, ac yn cydgyfrapogi o Swper yr Arglwydd. Yn ddiau, ni gawsom rai defn- ynau i lawr, hiraethwn am yr awr cawn fyn'd i'r mor. Pamphled rhagorol ar y Diwygiad yw yr un sydd newydd ei gyhoeddi gan Mr. W. T. Stead. Dyma un o'r pethau goreu o eiddo Mr. Stead a ddarllenais, ac yr wyf wedi ei ddilyn yn lied fanwl er's chwarter canrif. Newydd i mi oedd clywed1 mai un o blant Diwygiad '59 ydyw Stead, a naturiol yw iddo fod mewn cyd- ymdeimlad IIwyr a'r Diwygiad diweddaf. Ceiniog yw pris y pamphled. Ymwelodd dirprwyaeth oddiwrth Gymdeith- as Ddirwestol Meirion a pwyllgor Cymdeithas Amaethyddol y Sir yn Nolgellau dydd Mawrth, i ofyn am beidio caniatau trwydded i werthu diodydd meddwol yn maes yr arddangosfa. Da genyf ddeall fod y pwyllgor,—drwy fwy- afrif lied fychan mae'n wir,-wedi penderfynu cydsynio a'r cais, ac na bydd diodydd meddwol mwy yn cael eu gwerthu dan nawdd Cymdeith- as Amaethyddol Sir Feirionydd. 0*0 Mr. Edward Williams, Colwyn Bay, mab y diweddar Barch. Griffith Williams, Talsarnau, bia y syniad o gael casgliad ymhob capel i orphen Casgliad y Ganrif. Yr oedd wedi ys- grifenu llythyr o blaid hyn yn mis Medi y flwyddyn ddiweddaf. Cefais lythyr selog o blaid y symudiad oddiwrth Mr. Williams, ond yn rhy hwyr i'w gyhoeddi. Bydd yn llawen- ydd iddo ef a miloedd eraill weled i'r cais gael ei goroni a llwyddiant. kl-l 0 Dyma englyn a adroddwyd i ni boreu LIun diweddaf, yr hwn a gyfansoddwyd, medd fy hysbysydd, yn hollol ddifyfyr pan glywodd y bardd am farwolaeth brawd geneth fechan a ddaeth at y drws: Duw bia cadw bywyd-anadl Ac einioes, ac iechyd; Hawl a fedd i alw o fyd, Man y myno, mewn munyd," Chwith gan liaws o'ch darllenwyr fydd clywed am farwolaeth yr henadur parchus John Davies, Salford, yr hyn a gymerodd le ddydd Calan. Ceir colnodiad yn y rhifyn nesaf gyda darlun o hono. Deallaf y trefnir i gael ambell ddarlun yn y GOLEUAD rhagllaw, a diau mai teilwng yw Mr. John Davies o'r lie cyntaf yn yr oriel. Mr. J. A. Thomas, Salem, Cwmafon, a aw- gryma fod Sasiwn neillduol yn cael ei chynal yn y De o lawenydd yn yr Arglwydd am yr hyn gymer le y dyddiau diweddaf hyn, ac'o ddiolchgarwch i Dduw am y cynhauaf ysbryd- ol toreithiog a ddygir i mewn i'r eglwysi." Dadleua y dylai y Gymdeithasfa gael ei thaflu i ganol y coeleerth ysbrydol." Beth fyddai cael Cymanfa wirfoddol ? Dyna gwestiwn Mr. Thomas, a chyflwynaf gnewyllyn ei lythyr yn y ffurf hon i sylw eich darllenwyr. 0*0 Golygfa darawiadol dydd N adolig oedd gweled gweinidog hynaf y Cyfundeb, yr hwn oedd yn 93 mlwydd oed Hydref diweddaf, yn cerdded trwy yr hin oer filldir o ffordd i'r capel He yr arfera addoli, ac yn rhoddi sovereign yn y casgliad ceiniog er mwyn gorphen yr offrwm diolch y mae y Cyfundeb wedi pender- fynu ei gyflwyno i'r Arglwydd ar ddechreu canrif newydd. Yr oedd yr hynafgwr parchus wedi cyfranu X5 is. o'r blaen, a phe buasai pawb wedi bod mor ffyddlawn ag ef buasai y Casgliad wedi ei orphen er's talm. 0 k-lll Newydd cyntaf y flwyddyn 1905 yw fod y Casgliad Mawr wedi ei orphen yn Ngogledd Cymru. Ar y dydd olaf talodd y Parchn. Evan Jones a Griffith Ellis, M.A., i mewn i'r ariandy y ddwy fil o bunau oedd yn eisieu i orphen y casgliad. Ac y mae canoedd eto i ddod J Ardderchog! Clywais Annibynwr enwog yn eydmaru y Methodistiaid i Elephant, -araf deg a chryf. Tipyn yn araf f)). ,,n.. v .Y Gogledd, 1; Vaa r diwedd1. Rhydd hyn symbyliad yn y De, a bydd y can' mil i fyny erbyn y Gymanfa Gyffredinol. Mr. J. T. Williams, Abercynon, a anfona air i egluro yr amgylchiadau a barodd i Gyn- hadledd Undeb Anghydffurfiol Pobl Ieuainc Cymru beidio gael ei galw eleni. Bwriedir ei galw yn gynar y flwyddyn nesaf. Geilw Mr. Williams sylw at y pwysigrwydd o roddi lie i ddarllen y Beibl yn y cyfwng presenol, ac i'r pwrpas hwnw cymhella y llyfrau Ein Bara Beunyddiol (yn Saesneg Our Daily Bread ") —sef cynllun, sydd erbyn hyn wedi enill myn- ediad helaeth i lawer rhanbarth, fel cyfrwng buddiol i ddarllen y Beibl yn rheolaidd. Mae y JIyfryn wedi ei drefnu fel ag i ddechreu dar- ileii y Beibl yn rheolaidd a chyson dechreu blwyddyn. Da anghyffredin genym fydd ei y I ddanfon ar unwaith, fel ag i ailuogi pwy bynag a ewyllysiant, i gychwyn ar y gwaith hyfryd hwn dechreu y flwyddyn 1905. Pris 6s. 6c. y cant, yn cynwys y cludiad. 0*0 Yr wythnosau diweddaf mae ein cenhad- aeth yn Khasia wedi cael cryn helbul, oblegid cenhadon Americanaidd yn perthyn i sect o'r enw. "Gospel Trumpeters," un o ba rai sydd yn aros yma yn awr, a bu dau eraill yn flaen- orol am beth amser. Pregethant fedydd trwy drochiad fel amod bywyd-rhoi person dros ei ben dair gwaith yn y dwfr, a gwrthodant fedydd babanod. Ynglyn a'r cymundeb ar- ferant olchi traed eu gilydd, ac yna cusanu eu gilydd. Ni chredant ddim mewn unrhyw hylif werthir dan yr enw gwin anfeddwol, ond gwasgant sudd unrhyw ffrwyth rhudd ei liw a ZI. melus ei flas. Daliant gwymp oddiwrth ras, a honant fywyd hollol ddibechod yn y fuchedd hon, a llawer o bethau cyffelyb. Maenfc yn egniol yn ceisio denu ein Cristionogion, a rhai wedi myned atynt. Ychwanega un o'r cen- hadesau wrth adrodd yr hanes "Yr ydym yn hyderu mai effaith hyn oil fydd agor deall y bobl fel y gallont roddi rheswm da dros y ffydd sydd ynddynt. Teimlwn mor angen- rheidiol yw i ni feddu amynedd a thynerwch i wynebu y rhwystr newydd hwn ar ffordd ein cenhadaeth. A diolchwn wrth feddwl fod cynifer o saint Duw yn gweddio drosom, ar i Dduw pob gras gyflawni pob diffyg ynom a'n cymhwyso fwy-fwy i waith ei winllan." Dyma air a gefais oddiwrth y Parch. W. Jenkyn Jones, y cenhadwr, o Lydaw:- 11 Anwyl Mr. Evans,- Diolch yn fawr iawn i chwi am y lie a roddwch yn y GOLEUAD i'r Diwygiad yn Nghymru, y mae fy nghalon yn liawn ar ol darllen yr hanes, a cheisiaf gydnabod Duw am ei ras. Dymunaf arnoch anfon dau gopi i mi o'r GOLEUAD, o hyn allan, gan y dymunaf gadw un, ac anfonaf fy nghopi bob wythnos i fy mrawd yn Awstralia. Cefais lythyr yr wythnos hon oddiwrth qfrydydd clerigol yn hysbysu ei fod yn tori ei gysylltiad ag eglwys y Pab. Y mae yn wr ieuanc dysgedig, wedi graddio, yn Llydawiad, er nad yn Llydaw y mae yn y coleg. Cefais y fraint o ddwyn goleuni iddo pan fu yma am flwyddyn yn dysgu y grefft o filwr, a gobeithiaf y daw yn filwr pybyr i Iesu Grist, yn Llydaw. Agorodd un arall o Gon- carneau ei galon i mi yr wythnos hon, a'i lygaid yn llawn dagrau, a chredaf fod Ysbryd Duw yn gwneyd gwaith gwaredigol ynddo. Haner anffyddiwr ydoedd hyd yn ddiweddar. 0, na welem y pwerau yn Llydaw; y mae y ddaear yma yn galed, ond y mae yr Ysbryd yn ddigonol at y gwaith. Bendigedig fyddo ei enw am gofio Cymru anwyl, ac am iddo greu y fath ddisgwyl am y dyfodol. Ni sioma Efe ei bobl sydd yn disgwyl wrtho. Cofion cynes atoch, yn gywir, W. Jenkyn Jones." 0*0 Y Parch. W. Samlet Williams a ysgrifena air am ei ymweliad a'r Parch. D. Thorn Evans —" Ymhlith brodyr eraill gyda ni yn Gorllewin Morganwg ydynt wedi methu myned oddiamgylch i gyhoeddi Gair y bywyd, fel cynt, rhaid cyfrif ein hanwyl frawd Mr. Evans. Bum awr yn ei gymdeithas nos Sad- wrn. Awr ddyddan oedd hon, er nid yn hollot mor ddyddanol a'r amser gynt. Ychydig o olion llesgedd meddyliol sydd yma; ond llesgedd corfforol. Y mae y cof yn bur dda. Nid yw y parabl mor gryf ac Ys^7Y^h ag y bu, Ymb^'ra am y 'orodyr yn y sir a'r siroedd. Yr oedd cylch ei adnabyddiaeth yn eang. Dilyn- odd Gymdeithasfa Awst yn y Deheudir yn ddi- fwlch am 32 mlynedd; fel goruchwyliwr y Gen- hadaeth Gartrefol. Y mae ganddo adgofion lu, a thrueni na buasid -wedi gosod yr hen bethau dyddorol a buddiol hyn wrth eu gilydd. Tebygol na cheir hwy bellach. Y mae wedi bod yn waredwr amlwg i'r Genhadaeth ar ddau dro, yn neillduol pan oeddid wedi myned rhai canoedd o bunoedd mewn dyled. Gwar- edodd ni megis drwy y Mor Coch a'r lor- ddonen, a gosodd ni yn rhydd yn y wlad ddy- munol tuhwnt i wlad ein caethiwed a'r anial- wch. Gallwn ei sicrhau y byddai yn dda gan y frawdoliaeth yn y siroedd gael eto ei bre- gethau coeth, ei anerchiadau 'humorous,' a'i ysgrifau byw. Dymuna heddwch Jerusalem -yr holl Gyfundeb, a chofion cynes at bawb." 0*0

ANTHEM Y DIWYGIAD.