Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

DYFFRYN ARDUDWY AC EGRYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYFFRYN ARDUDWY AC EGRYN. Nid oes ardal yn Nghymru wedi teimlo dylanwad- au'r Diwygiad yn rymusach na chymydogaeth Egryn, gerllaw Dyffryn Ardudwy. Cangen o eglwys y Dyffryn ydyw Egryn, a saif y capel ar ochr y brif- ffordd i'r Abermaw. Gellwch chwilio'r Blwyddiadur am 1905 a methu dod o hyd i enw capel; ond pan ysgrifenir hanes y Diwygiad, bydd yno ddefnyddiau penod ryfedd o gwmpas Egryn. Ni pherthyn i mi eu hesbonio, na gosod pobpeth a adroddwyd dan groesholiad manwl; ond am y prif ffeithiau, gall y neb a ddewiso eu chwilio drosto ei hunan, a chroesaw iddo gael genyf eilwau dynion mwyaf geirwir a chyfrifol yr ardal i ategu, yr hanes rhyfedd sydd genyf i'w adrodd. Pan ymwelais a'r ardal yr wyth- nos ddiweddaf, holais bawb yn ddiwahaniaeth— gweinidogion, blaenoriaid, Eglwyswyr, dynion di- grefydd, a thafarnwr, ac ar dystiolaethau a gefais ganddynt, y mae yr adroddiad dilynol yn seiliedig. Try hanes y Diwygiad yn Egryn o amgylch un wraig, Mrs. Jones, Islaw'rffordd, ffermdy sydd yn y gymydogaeth. Gwraig ddistaw, encilgar, cldiym- hongar, o alluoedd cyffredin, ydyw Mrs. Jones, ond sydd wedi ei meddianu gan ryw awydd angerddol am enill ei chymydogion at Grist. Dywedais ei bod o alluoedd cyffredin, ac wrth hyny nid wyf yn golygu dim ond nad oedd ei geiriau yn rhoddi argraff arnaf ei bod yn feddianol ar alluoedd naturiol sydd yn cyfrif am yr hyn a wnaeth ac a wneir ganddi yn yr ardal. Dywed gwr enwog y rhaid cymeryd henafiaid pawb i'r cyfrif wrth farnu en posibilrwydd meddyliol yn gystal a chorfforol. Os felly, gall llawer o allu- oedd fod yn guddiedig yma. Hana Mrs. Jones o gyff da ar y ddwy ochr,—hen flaenor ffyddlon o'r Dyffryn oedd ei thad, ac yr oedd gwyr llengar o gymydogaeth Beddgelert yn nheulu ei mam, a phwy ddymunai gyff gwell? PriodoBd yn bur ieuanc. Bedyddiwr oedd y g,wr, ond nid oedd yn aelod hyd yr wythnos ddiweddaf, pryd y trochwyd ef gyda deg eraill yn mhresenoldeb ei briod, drwy offerynoliaeth yr hon y dygwyd ef a'r rhai a fedyddiwyd gydag ef i roddi eu hunain i Grist. Yn Egryn yr addolai Mrs. Tones, a phan yr holais hi am yr hyn a arweiniodd i'r Diwygiad, cyfeiriodd at y cyfarfodvdd gweddi difwlch a gynhelid yn y capel bach drwy yr haf. Gyda thrafferthion yr haf, bu raid rhoi v cyfarfodydd yn y Dyffryn o'r neilldu," meddai, "ond cadwasom ni vmlaen, er na fyddai ond dau neu dri weithiau. Yr oeddwn yn gweddio yn barhaus am gael bod yn foddion yn llaw yr Arglwydd i enill y gymydogaeth yma yn eiddo i lesu Grist." Cymerai ran yn y cyfarfodydd, a thua dechreu y gauaf, dechreuodd yr hinsawdd gynhesu a'r awyrgylch deneuo. Daeth y cyfarfodydd yn fwy lliosog, a'r gweddiwyr yn amlhau. Daeth y wraig wylaidd, ,lednais, y gallu cryfaf a welodd v gymydog- aeth erioed-a hyny mewn dull distaw nas gwyr neb yn iawn pa fodd, nac yn union pa bryd. Cymerodd y cyfarfodydd yn ei llaw ei hun, a chariai ei geiriau argyhoeddiad dwfn, dieithriol, yn nghalonau v bobl ag yr oedd wedi arfer byw yn eu plith. Gweddiai yn angerddol dros ei chymydogion, ac o un i un fe ddechreuodd y rhai digrefydd droi tua'r capel, nes o'r diwedd nad oedd-byd v gallwn gael allan—ond un neu ddau yn yr holl wlad heb fod yn myned i'r capel. Un noson daeth dylanwad newydd i mewn, a hwn yw y dirgelwch ag y caraswn gael rhagor o wybod- aeth yn ei gylch. At ddiwedd y cyfarfodydd caed ar ddeall fod Mrs. Jones yn teimlo sicrwydd, nid yn unig fod rhai wedi aros ar ol yn y seiat, ond gwyddai pa nifer. Ar y ffordd i'r capel gwelai oleuni yn yr awyr, a dywedai fod y goleuni hwn yn arweiniad iddi dros bwy i weddio, ac yn sicrwydd iddi fod rhywrai penodol yn dyfod i gyflwyno eu hunain i Grist. Nid oedd neb yn ameu nad oedd Mrs. Jones yn gweled rhywbeth, ond yr oedd cryn anghrediniaeth yn bod ynghylch y goleuni hwn. Ond buan y symudwyd yr amheuaeth. Gwelwyd y goleuni gan gymydogion,—■ gI amryw o honynt oeddynt cynt mor anghrediniol ac anmharod i gredu a neb yn y wlad. Cefais enwau tua deunaw o ddynion parchus, gwybodus, a ddywed- ant yn bendant eu bod wedi gweled y goleuni,- weithiau eu hunan. weithiau yn nghwmni eu gilydd. Pa ffurf sydd iddo? Tair colofn tua llathen o led." Dyna un desgrifiad a gefais. Colofn o dan, y peth disgleiriaf a welais erioed." Dyna air arall. Pwy a'i gwelodd ? Tri o leiaf o weinidogion, dau o am- aethwyr mwyaf adnabyddus y wlad, amryw o ym- welwyr, a phobl o'r Dyffryn ac Egryn. Nid wyf ar dir i geisio ei esbonio; ond yr wyf yn rhwym o ddweyd fod tystiolaeth y rhai a'i gwelodd yn gryf, ac yn gyfryw na charaswn am foment ei hameu. Aethom i lawr i Islaw'rffordd, ar frig yr hwyr, ychydig yn gynarach nag y gwelir y goleuni. Gelwais yn nhafarndy y pentref, a chefais ymgom a'r tafarn- wr. Cefais ar ddeall ar unwaith nad oedd efe yn ameu gwir-ionedd y diwygiad, oblegid yr oedd ei ddy- lanwad wedi ei gyraedd ef mewn ffordd uniongyrchol iawn. Arweiniodd Mrs. Jones yr ardalwyr i lawr at y tafarndy, canwyd emynan, a gweddiwyd yno ar y ffordd. Nid oedd y tafarnwr yn barod iawn i addef y ffeithiau a glywais gan eraill, ond yn awgrymiadol iawn dywedodd fod masnach yn druenus o ddifywyd, ac nad oedd yn disgwyl gweled fawr o welliant hyd ddechreu y gwanwyn. Cawsom fod Mrs. Jones yn nghwmni ychvdig o ymwelwyr, a phan ddechreuais ei holi, dywedodd y caem siarad ar y ffordd, ei bod wedi cael cenadwri i alw mewn dau le ar y ffordd i'r capel." Wedi iddi adael yr ystafell i wisgo, dy- wedodd un o'i chymydogion fod Mrs. Jon:s wedi gweled goleu neithiwr, a rhaid iddi fyned i ddau le." Cawsom ymgom ar y ffordd am y gorphenol a'r dyfodol, ac yn fuan wedi cyraedd i brif-ffordd trodd Mrs. Jcnes i fyny i ochr y mynydd. Ar weddi y noson hono yn nghapel y Wesleyaid, diolchodd am gael ei harwain i fwthyn yr hen wraig sydd ar derfyn ei dyddiau yn rhoi ei hunan i Grist," ac i "fwthyn y wraig sal sydd wedi bod yn gorwedd yn hir, ac o'r diwedd yn rhoi ei hun i Ti i'w chadw." Methais gael gan Mrs. Jones son gair am y goleuni. Pan soniais wrth un o'i chyfeillesau am dano, dy- wedodd II Yr ydych yn siwr o'i weled os ydych yn ddigon ysbrydol." Atebais inau drwy ofyn a oedd dymon dlgrefydd wedi ei weled? Atebodd hithau fod hyny yn wir, ond y mae braidd yn gynar heno." Nid oedd dim hynod yn y cyfarfod gweddi, heblaw fod gweled capel yn orlawn noson cyfarfod gweddi yn hynod. Arweiniwyd gan Mrs. Jones, ac er fod lliaws o flaenoriaid a gweinidogion yn bresenol, rhoddai pawb iddi hi v lie blaenaf. Clywem swn y Diwygiad yn y gweddiau ac yn y canu, ond dim nerthol. Felly y digwydda weithiau ymhob man. Ond y ffaith ryfedd ydyw fod y wraig hon wedi bod yn foddion i ychwanegu 51 at rif yr aelodau yn eglwys fechan Egryn, a bod y Bedyddwyr yn y Dyffryn wedi derbyn 11, y Methodistiaid 12, a'r Wes- leyaid 4, yr wythnos ddiweddaf. Ac i bob golwg nid yw y gwaith ond cychwyn. O'r holl gymydog- aethau cylchynol, daw galwad am wasanaeth Mrs. Jones a'r wythnos hon, bu yn arwain mewn cyfar- fodvdd gweddi mewn amryw o gapelau yr arfordir o Abermaw i Harlech.

MARWOLAETH Y PARCH. JAMES…

MARWOLAETH DR. REES, BRONANT.

Advertising

ATAL PESWCH MEWN UN NOSON,

AT ARHOLWYR YR YMGEISWYR AM…