Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Eisteddfod Meirion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Meirion. Cynhaliwyd hon dranoeth y Calan yn Nolgellau, a thynodd gynulliad lied fawr ynghyd. Beirniadwyd y gerddoriaeth eleni gan Mr. S. Coleridge Taylor; y farddoniaeth gan Elfed a'r rhyddiaeth gan Prof. Anwyl, Eifionydd, Mri. J. M. Edwards, ac R. Jones, B.A. Llywyddwyd y boreu gan Mr. J. P. Edwards, Liverpool; y prydnawn gan Mr. W. R. M. Wynne, a'r nos gan Mr. C. E. J. Owen. Arweiniwyd gan Llew Meirion. Rhoddir yma enwau y buddugwyr ar y gwahanol destynau — "Fire Screen," Miss Claudia Hughes, Mervinian House, Dolgellau. Cystadleuaeth Unawd i Blant, Out ond the cold deserted street," Master D. J. Jones, Gwril View, Abermaw. Unawd ar y Berdon- eg, Miss Elizabeth Myfanwy Morris, Llanuwchllyn. Tie Sidan i fab, Miss Finnis, Rock Cottage, Dolgell- au. Unawd Tenor-" Thou shalt break them," allan o'r Messiah (Handel), Mr. Idrisyn Humphreys, Abergynolwyn. Unawd ar y Crwth i blant, Hubert Andrews, Dolgellau. Ystori fer Ddesgrifiadol, Mr. Ellis Jones Evans, Cysodydd, Caernarfon. Cystad- leuaeth y Seindyrf. jEn; ac Arweinffon i'r Arwein- ydd, am y chwareuad goreu o Anna Bolena (Boni- zeti): I. Seindorf Nantlle; 2. Seindorf Coedpoeth. Cerfio y Ddraig Goch ar bren, 'Meirion.' Awdl, Bedd y Merthyr,' Mr. James Evans, Beulah, Cas- tellnewydd Emlyn. Adrodd dernyn 0 Julius Cesar (Shakespeare), W. Foulkes Evans, Cynwyd, a Miss Verna Davies, Dolgellau, yn gyfartal. Cyfieithiad 0 Emyn Islwyn 'Hapus Dyrfa,' Mr. Samuel Williams, Llanboydy, Sir Gaerfyrddin. Cystadleuaeth Cor Plant-y dadganiad goreu o unrhyw gydgan Deu- draeth Juvenile Choir, dan arweiniad Mr. Owen Row- land Williams, gyda Meirionwen Deudraeth yn cyfeilio.. "Baby's Frock," Miss Humphreys, Ysgol- feistres, Llanuwchllyn. "Lady's Lace Collar," Miss Hump hreys, Llanuwchllyn, a Miss Jones. Old Bank Ho: Dolgellau, yn gyfartal. Ffon Ddrae ddu. Llewelyn." Cystadleuaeth i Gorau M ->ion— Mab Duw" (D. Jenkins). Gwobr £ 20, a Scarf Pin aur i'r arweinydd: Cor Blaenau Ffestiniog, dan arweiniad Mr. Cadwaladr Roberts. Dywedodd y beirniad ei fod yn un o'r Corau Meibion goreu y bu yn gwrando arnynt erioed. Cyfieithiad i'r Ffrancaeg, haner y obr i Miss Dilys Williams, Criccieth. Un- awd Soprano, Cartref fy Nghalon," haner y wobr 1 Miss Maggie Griffiths, Talsarnau. Unawd Bass, Now Heaven in fullest glory shone," Mr. Humph- rey Davies, Liverpool (gynt o'r Friog). Carved Panel, Mr. W. Hughes, Rock Cottage, Dolgellau. Unawd ar unrhyw Offeryn Chwyth, Mr. J. Daniel Griffiths, Nantlle. Deuawd, Y Delyn a'r Crwth," ^r. Humphrey Davies, Liverpool, a'i gyfaill. Prif praethawd, Nodweddion Llenyddol y Celt," gwobr ^5> Mr. D. R. Jones, Blaenau Ffestiniog. Yn y Brif Gystadleuaeth Gorawl, er fod tri o Gorau wedi anfon eu henwau i mewn, ni wnaeth ond Cor Blaenau fe.stiniog ei ymddangosiad i ddatganu Et Resur- rexit (Mozart) a'r Arglwydd yw fy Mugail (Dr. Parry), gwobr £ 50, Dyfarnwyd y cor yn wir deilwng or wobr, ac arwlogwyd yr arweinydd, Mr. Cadwaladr Roberts, yn nghanol cymeradwyaeth. Am saith o'r gloch yn yr hwyr, cynhaliwyd Cyng- erdd mawreddog, dan lywyddiaeth C. E. J. Owen, YsW., Hengwrtucha. Yr oedd y rhaglen wedi ei rhanu yn dair rhan—I. Meg Blane a Rhapsody of the Sea," o waith y beirniad cerddorol, Mr. S. Coleridge Taylor. Cymerid rhan gan Miss Laming C. Chetham, Llundain, Cymdeithas Gorawl Idris, a Cherddorfa lawn. II. Amrywiaethol oedd yr ail a gwasanaethwyd gan Mr. Evan Williams, y Tenorydd Americanaidd enwog, Miss Edith Randies, Ynys Manaw, a Mr. W. L. Barrett, Llundain. III. The Woman of Samaria" (Syr S. Bennett), ber- normid yn y rhan olaf, a chymerid rhan gan yr holl S^ntorion uchod, a Mr. Meirion Davies, ynghyda ~h6r Idris, dan arweiniad Mr O. O. Roberts. Cyf- ei\iwyd gan Miss Hilda Bevan, Miss A. M. Roberts, a Mr. J. Roberts. Deallwn mai y buddugol ar destyn y Gadair ydoedd y Parch. Hermas Evans (B.), Cwmbwrla. Penillion jj;°f am Mr. D. H. Jones, Dolgellau: Bryfdir. rn&lyn, Ap Anian." Ni ddaeth y beirniadaethau yn i law hyd yn hwyr ddydd Llun.

Advertising