Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

--Y DIWYGIAD YN NYFFRYN NANTLLE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWYGIAD YN NYFFRYN NANTLLE. ODDIWRTH Y PARCH. D. DAVIES. Cyrhaeddodd y Diwygiad hyd yma. ac erbyn heddyw y cyfarfodydd poblogaidd ydyw y cyfarfod- ydd crefyddol. Teimlir Duw yn y lie, ac awydd addoli sydd ar bawb. Awr weddi yw yr awr giniaw yn y chwarelau erbyn hyn. Bu Seion er's tro ar ei gliniau yn gofyn am y tywalltiadau glan, ond yr wythnos ddiweddaf y teimlwyd fod ein gweddiau yn cael eu hateb. Daeth yma fel y rhan fwyaf o leoedd eraill yn dra rhyfedd. Un noson yn y Deml derbyn- lwyd nifer mawr o aelodau newyddion, a rhoddwyd gair o groesaw iddynt gan weinidog ieuanc sydd yn aelod o'r Deml. A chyfeiriodd at y Diwygiad yn y De, a'r pwysigrwydd i ni oil weddio. Cododd blaenor i fyny i gynyg fod y Deml yr wythnos gan- lynol i'w throi yn gyfarfod gweddi y bobl ieuainc. Ond teimlid y fath eneiniad ar y cyfarfod hwn fel y trowyd y '13ml y ncson hono yn gyfarfod gweddi. A chynhaliwyd cyfarfod gweddi y bobl ieuainc yr wythnos ddilynol yn Moriah (W.); ac yr oedd y lie yn orlawn. Torodd rhai i weddio am y tro cyntaf,. a chafwyd cyfarfod rhyfedd. Unodd dau a'r eglwys y noson hono. Nos dranoeth cyfarfyddodd swyddogion y gwahan- ol eglwysi, a phenderfynasant gefnogi y bobl ieuainc yn eu symudiad, gan lawenhau yn y cam gymeras- ant. Penderfynodd y bobl ieuainc wneyd cais am rai o Ddiwygwyr y De; a sicrhawyd gwasanaeth y Parch, Joseph Jenkins a Misses Maud. Davies a Florie Evans, Ceinewydd,. at yr wythnos ddiwedd- af. Treuliwyd yr wythnos cyn eu dyfodiad yn wyth- nos o weddiau a chredem fod boddlonrwydd Pres- wylydd y berth' i'w deimlo yn y •'•'d hyny. Dechreuodd y Parch. J. joni y Sabbath yn Baladeulyn yn y boreu. Cafwyo .yfarfod rhagoroli yno. Nos Sabbath pregethai yn Hyfrydle a'r capel y. irlawn. Yr oedd hwn yn uchel, ond nid i'w gyuiuaru a'r cyfarfod dilynol, sef un y bobl ieuainc., Gwelwyd yn hwn mai doeth oedd sicrhau y cbwior- yeld hefyd. Toddai anerchiadau cynes Miss Evans, a chaneuon swynol Miss Davies, galon y gynulleidfa yn llwyr. Sabbath ardderchog ydoedd hwn, a phawb bellr yn edrych ymlaen at wythnos ryfedd. Ac yn hyn ni siomwyd mohonom. Trefnwyd i gynal y cyfarfod nos Lun yn Seion (A). Am 5.30 cynhaliwyd cyfarfod gweddi, a'r odfa i ddechreu am 6.30; ond buan y gwelwyd fod mwy allan nag oedd i fewn. Rhaid gan hyny oedd myned i Gapel Mawr T'dysarn (M.C.), a llanwyd y ddau. Pregethodd Mr. =nkins yn Talysarn, a chyn- haliwyd cyfarfod yn Se;on, pryd y cafwyd gwasan- aeth Misses Davies ac 'vans. :1' preinidpgion lleol. Cyfarfod bendigedig ydoe r n. Seiat brofiad a. chyfarfod gweddi yn un, ai .su yn cael ei ganmol yn rhyfedd. Yn hwn gwelsom un o blant '59 yn gor- foleddu wrth ganu 11 0 anfeidrol rym y Cariad, AnorcJifygol ydyw gras." Am 9 o'r gloch terfynwyd hwn, ac aethpwyd i'r Capel Mawr, lie y cynhelid cyfarfod i'r bobl ieuainc. Yr oedd pobpeth yn hwn yn wirfoddol—canu, gweddio, dweyd profiad. Nis anghofiwn yn fuan gweddi un hen frawd. 'Adroddai ar ei -weddi yr hen benill- Nid yw hi eto ond dechreu gwawrio,, Fe gwyd yr haul yn uwch i'r lan! Teyrnas Satan aiff yn chwilfriw— Iesu'n Frenin ymhob man; Cynhauaf dclaw, maes o law, Cesglir 'sgubau yma a thraw." A chasglu y maent," meddai. Y mae nhw yn eu stocJcio yn wessil deuddeg yn y De! Hen dwmpath- au Duw! Hen rifedi'r nefoedd! Deuddeg llwyth Israel! Deuddeg apostol yr Oen! Pedwar henur- iad ar hugain-pedwar ar hugain-twice twelve It" Terfynwyd y cyfarfod ychydig wedi unarddeg. Erbyn dranoeth y mae rhyw ddifrifoldeb yn daen- edig ar y Dyffryn. Peidiodd y rhegfeydd yn y chwarel. Siarad am y diwygiad y mae pawb, a theimlir Duw yn agos. P'nawn Mawrth, cynhelir cyfarfod 1 r chwiorydd yn Hyfrydle (M.C.). Y mae llawr y capel yn llawn. Anerchir y cyfarfod ar bwysigrwydd codi yr Allor Deuluaidd gan Mr. J., a theflir y cyfarfod yn rhydd. Haws gweddio na siarad, er dylifai yr adnodau, a chafwyd gair o'i phrofiad oddiwrth ami un. Yn yr hwyr y mae y Capel Mawr yn llawn am 5.30, ac am 6.30 aeth y gweinidogion lleol i gapel Salem (B.). Cafwyd cyfarfod da yno, ond nid i fyny a'r cyfarfod yn Seion y noson cynt. Dychwelwyd i gyfarfod y bobl ieuainc yn Capel Mawr. Hwn oedd yr uchaf o'r oil i'r gyfres. Am hwn y mae son hyd heddyw. Ynddo siaradodd un o ddynion mwyaf cyfrifol yr ardal-yr hwn sydd yn flaenor gyda'r Hen Gorff-mewn teimladau dwysion, nes peri rhyw ddylanwad rhyfedd. Hefyd yn hwn siaradodd Maggie Parry—geneth ieuanc fagwyd ar fron eglwys Talysarn, ag sydd erbyn hyn wedi enwogi ei hun gyda'r cyfarfodydd hyn. Teimlodd bethau rhyfedd nos Sadwrn yn y cyfarfod gweddi undebol yn Seion (A.), tra yr oeddis yn canu— Ni fuasai genyf obaith Am ddim ond fflamau syth." Nos Sul yn Hyfrydle, rhoddodd yr emyn hwnw allan gydag arddeliad rhyfedd. Nos Sul rhoddodd emyn i'w ganu, a gweddiodd nes synu pawb. Ond nos Fawrth gweddiodd yn afaelgar a dringodd i'r pulpud, a llefarodd megis y rhoddodd yr Ysbryd iddi ym- adrodd." Canmolai lesu Grist yn fawr, ac erfyniai

Y Diwygiad yn Neheudir Cymru"