Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

PENTWYN, CROSS HANDS. ^

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENTWYN, CROSS HANDS. ODDIWRTH Y PARCH. W. JONES, THEFORRIS. Odid na ddaw y GOLETJAD i law rhai bechgyn a genethod, ac feallai ambell un a'i wallt yn wyn, a fagwyd yn y gymydogaeth gysegredig hon, ac i'r cyfryw dyddorol fydd gair neu ddau o hanes yr eg- lwys a'r cylch yn y cyfwng hwn pan mae miloedd o'u hoff genedl yn cael eu gwlychu mor drwm gan ras- lawn gawodydd y nef. Nis gallwn gredu y gwnai y Brenin Mawr ganiatart i eraill i gyfranog,i o seigiau breision ac arlwy y Diwygiad heb hefyd gofio Pentwyn-cartrefle rhai o enwogion y ffydd yn y dyddiau gynt, a lIe y mae llawer o'r teulu yn aros. Myfyr a ddywedodd- onide?—am Green y Bala,— "Maes a neillduodd Duw o groth diddymdra, I godi o farw'n fyw aneirif dyrfa A phan yn ulw man rhoir daear Cymru lan, Yr olaf ro'er i'r tan fydd Green y Bala." Yn gyffelyb am Pentwyn, maes a neillduodd Duw yw hwn hefyd i godi'n fyw lawer o feirw! Angylion a fu yn esgyn ac yn disgyn ar y llanerch hon; cymylau dyfradwy a welwyd o Dde a Gogledd yn defnynu'n fras ar y maes hwn, ac yn eu plith yr enwog Barchedig John Evans New Inn; yma y di- weddodd ei yrfa ar y ddaear, ac yma y claddwyd ef cyn ein geni ni. Cofus genyf am ambell i gawod drwm o wlith a ddisgynodd ar y fangre hon yn nydd- iau fy maboed pan oedd yr anwyl ddiweddar Barch- edig Edward Jones-un ag y mae genyf barch dwfn i'w goffadwriaeth-yn myn'd i fewn ac allan yn ein plith, a phan yr oedd rhai o "gedrwydd Libanus, y rhai a blanoedd Efe," yn arwain yn y pethau cysegr- edig. Disgwyl yn hyderus yr oeddem y byddai i Dduw gofio ei gyfamod, a pheri i rai o ddefnynau breision y gawod sydd yn disgyn ar Gymru heddyw i ddisgyn arnom ninau, ac yn hyn ni chawsom ein siomi. Galwyd cyfarfod gweddi, a daeth lliaws ynghyd. Cafwyd arwyddion amlwg. fod Ysbryd Duw yn gweithio yn rymus ar galonau y bobl ieuainc yn enwedig. Ni chafwyd y fath gyfarfod a hwnw yn y lie erioed—aeth yr holl gynulleidfa i weddi gydag un eithriad. O, mae calonau y saint yn llawenhau wrth feddwl a gweled y plant a'r .bobl ieuainc wedi eu dwyseiddio a'u cynhesu i'r fath raddau yn ngwres pethau ysbrydol. Gwel'd y lie yn ymyi bod yn llawn ar ambell noson oer a gwlyb-rhai wedi teithio mill- diroedd o ffordd trwy dywyllwch y nos ar ol llafur caled y dydd yno yn llawn hoenusrwydd a bywyd yn cydganu a chydweddio am oriau heb arwydd o fli.der-genethod ieuainc o'r 14 i'r 20 oed, pa rai oeddent yn rhy wylaidd ac yswil i ddweyd adnod o'r blaen, ond yn awr yn dod ymlaen i ddarllen a gweddio o honynt eu hunain heb neb i'w cymell! Un ferch fach ar ei gliniau, ac yn cyfarch y Brenin Mawr gan ddweyd,- "Mae pechod yn beth mawr iawn, fedri di Arglwydd, ddim edrych dros ben pechod, rhaid i Ti ei gospi neu ei faddeu." Bachgen tua 12 oed ar ei liniau yn dweyd- "Yr ydym Z, ni wedi concro'r diafol 'nawr; yr o'en nhw yn gwaeddi Hurrah ar gae 'r football' yn Abertawe, rhyfedd na waeddai nhw 'hurrah' gyda hwn." Un arall bychan yn dweyd—"Duw cariad wyt Ti; mae llawer o dy blant Ti mewn storom heno, ond Duw cariad wyt Ti mewn storom." Nis gwn faint ydyw rhif angylion glan y nef; ond faint bynag ydynt, mi feddyliwn mai 'chydig o honynt sydd gartref "'nawr; mae hyfryd swn y Diwygiad wedi swyno miloedd o honynt i Gymru'r dyddiau hyn; clywed Infidel- iaid, meddwon a lladron-yn llefain am faddeuant sydq fiwsip i ongyl Duwl Gwylied neb chwerthiu, gwawdio a gwatwar rhag y ca un o'r rhai hyn gom- ission i roddi pen arno. Mae Duw mewn modd amlwg yn gweithio yn y 1 wlad! Yr hyn sydd yn rhyfedd i mi yw fod rhai o'r plant heb adnabod y Cerbyd! Fy ngweddi yw ar i'r Hwn a agorodd lygaid y llanc yn Dothan agor eu llygaid hwythau. Christmas Evans a ddywedodd fod hyfryd swn a murmur ffrydiau trugaredd i'w clywed yn rhaiadrau nerthol yn rholian dros le'r Benglog ac i'r lleidr ar y groes yn swn y dwr waeddi, Cofia fi! Heddyw mae miloedd yn clywed swn y dwr ac yn llefain Cofia fi! T Erbyn hyn mae tua dwsin wedi eu hychwanegu at y gorlan fechan hon ac ameuthyn i ysbryd ydyw gweld ein hanwyl frawd y Parch. John Griffiths- gweinidog yr Eglwys un ac sydd iddo enw da yn y cylch a chan y gwirionedd ei hun-yn wylo ac yn chwerthin bob yn ail gan fawrygu Duw am estyniad oes i weled y Mudiad gogoneddus hwn.

LLUNDAIN.

PONTRHYDYFEN.

Y DIWYGIAD NEU YR ADFYWIAD.