Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

,... Y DIWYGIAD, c:'.'.;-'-',.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWYGIAD, c: QAN DR. PHILLIPS, TYLORSTOWN. Terfynais fy ysgrif yr wythnos ddiweddaf yn bur drwm fy nheimlad, wrth feddwl fod Mr. Evan Ro- berts yn ei wely; ac 111 wyddwn lai na fuasai raid iddo fod yno am gtyn drttsfer. Ond dyttia ef eto ar y ftiaes; ac ytt ymddatigos fgl wedi gwella yn holl- iafch. Medr chwerthiil y dyddiau hyii ttior llawen ag erioed; ac edrych at ochr bleu pob cwfuwl. Ar- dderchog o beth yw hyny mewr: tin sydd yn gorfod Cyfarfod anhawsderau. Er mwyn ei waith mawr, gboeithio y caifif ei gadw yn ei lawn iechyd ac yn I yr ysbryd llawn A gorfolteddus yiiia am flynyddoedd meithibhi ibylwri ddweyd gair y tro hwn arh waith Dan Ro- berts, brawd Evan Roberts, a Sidney Evans. Ychydig mewn cymhatiaeih o syiw rydd y papyrau i'r ddau hyh, y ihdi. gyflawhant wasanaeth annesgrifiadwy. Y mae y ddau wrthi bob dydd yn anerch cynulleid- faoedd mawrion, a thrwy eu hofferynoliaeth troir canoedd. Bu ynaweliadau jDan Roberts a rhai o brif leoedd Gorllewin a Dwyrain Morganwg yn ystod y misoedd diweddaf o dan fendith amlwg. Trodd llaweroedd o gyfeiliorni eu ffyrdd dan ei ddylanwad. Bachgen pedair-ar-hugain oed yw Dan Roberts, ac yn llawn dwy .lath o daldra. Rhyfedd o swil yw ef yn y pulpud; ond argraffa ei onestrwydd ar gynull- eidfa yn y fan. Ychydig a siarada; eithr gesyd bawb i gredu ei fod o ddifrif; a gwna ei eiriau fyned fel saethau i galonau ei wrandawyr. Oblegid ei Swildod, isel y sieryd ar y dechreu a chrynedig iawn. Bum yn un o'i gyfarfodydd, a thynodd ddagrau o fy llygaid wrth weled ei bryder mawr, ei ddifrifol- deb dwfn, a'r awydd am guddio ei hun a gwneyd daioni. Siaradodd tua deg mynud, yna aeth ar ei ddeulin yn y pulpud, cododd yn grynedig i eistedd, wylodd ac ocheneidiodd yn brudd aeth ar ei ddeu- lin drachefn mewn ing i weddio am achubiaeth pech- aduriaid nes yr oeddwn bron mewn dychryn i fod yn ei ymyl. Yn y ty, cadwai ei Feibl yn ei ymyl, ac edrychai arno bob cyfle a gai. Ni chymerai ddydd- ordeb mewn dim ond y diwygiad, a hawdd oedd gweled ei fod wedi ei lyncu ganddo. Achub, achub, achub, yw ei nwyd lywodraethol. Nodweddir ef a'r un swildod yn y ty ac yn y pulpud, a pheri hyn i bawb i'w garu a chydymdeimlo ag ef. Yn wahanol i Dan Roberts, un bychan yw Sidney Evans, tua 5 troedfedd a haner o daldra. Tywyll ydyw o ran pryd, ac nid goleu fel y ddau Roberts. Medd ben clasurol o ran ffurf, a llygaid llawn treidd- garwch. Nodweddir ei siarad gan frwdfrydedd dwfn, a medd lais a llawer o swyn ynddo. Gwna ei gyn- ulleidfa i gredu yn ei ddifrifoldeb yn y fan. Er mai un tro y gwrandawais ef, canfyddais un llawn o Ysbryd Duw yn amlwg ynddo. Dengys ei daith drwy ranau o Forganwg; ac yn enwedig trwy Fynwy, ei fod yn cael ei ddefnyddio gan Ysbryd Duw i wneyd gwaith godidog. Rhifa y dychweledig- ion drwy ei gyfarfodydd ganoedd lawer. Tyra y bobl ar ei ol fel ar ol y ddau Roberts, a nodweddir ei gyfarfodydd a brwdfrydedd mawr. Hollol natur- iol ydyw ef yn ei holl waith, fel Dan Roberts, efe ei hun ac nid neb arall yw Sidney Evans. Bydd genyf erthygl yn manylu arno ef a Dan Roberts ar fyr; gan hyny nid ysgrifenaf ragor arnynt yn awr. Y oeddwn yn dweyd fod y ddau efengylydd hyn yn naturiol; ac nad oeddynt yn debyg i neb ond hwy eu hunain: nid hyn yw y gwir am bawb sydd yn cymeryd rhan yn y diwygiad. Ceisia ambell un efelychu Evan Roberts. Ond peidier a beio Evan Roberts am hyny. Pa fachgen neu ddyn eithriadol sydd wedi codi na fydd rhai llai nag ef yn ceisio ei efelychu? Ni chlywyd son am dano hyd yn hyn. Y mae deddf efelychiad yn nyfnder natur dyn, ac ni all beidio bod dan ei dylanwad. Onibai am y ddeddf hon ni allai neb ddysgu siarad, meddwl, na gweith- redu. Hi sydd yn cyfrif am iaith, celfyddyd, a gwaith y byd. Wrth efelychu ei feistr y dysg y bremt-was gelfyddyd. Medd y ddeddf hon ei rhag- oriaethau dirfawr a'i pheryglon. Pan yn efelychu y mawr a r dp" tra gwerthfawr ydyw hi; ond pan yn efelychu y bach a'r gwael, try yn ddinystr i ddyn. Eto, y mae efelychiad anymwybodol ac efelychiad ymwybodol. Bydd rhai yn myned i siarad a gwneyd pethau yn debyg i Evan Roberts heb yn wybod iddynt eu hunain, ac heb un amcan i wneyd hyny. Dynion ieuainc agored iawn i argraffiadau dwysiofl yw y rhai hyn; a gwnant bob peth yti natuttoi, ef fod dylanwad y diwygiwr wedi newid llawet, aj;. (iij. dull. Byddaf yn mwytjhau y rhai hyn yn gwneyd pob pfithy am y gwn nad amcanant fod yn debyg i Evan Roberts. Bydd eraill yn eu mwynhau, hefyc^, a chlywaf lawer yn eu canmol. Ceir ychydig yrt efelychu Roberts yn fwriadol. Cyd-deithiais ag un oedd wedi newid ei lais, ac ymdrechai siarad. yn nh6n Roberts. Defnyddiai ei dermau wrth siarad nflHSj MR. SYDNEY EVANS. am yr Ysbryd Glan a'r diwygiad. Ceisiai eidrych yr un peth, a throi ei ben yn yr un dull ag ef. Cal^d oedd dal i deithio tair awr gyda'r fath counterfeit' o ddyn ieuanc, heb ddweyd pethau heilltion wrthb. Ychydig iawn yw y rhai hyn, a chyfrif y fath for b deimlad sydd wedi ei arllwys allan yn y diwygiad. Pan fyddo teimlad uchaf, y gweithreda y ddeddf hon nertholaf o lawer yn y ddwy ffordd a nodwyd. Fynychaf mesurir ei llwyddiant gan fesur brwdan- iaeth y teimlad. Ymhob cyfnod o deimlad dwys, cynyrchir dosbarth o efelychwyr eithafol. Gan hyny, nid oes eisieu i neb ryfeddu oblegid fod nifer yn efelychu Evan Roberts! a dim ond y rhai sydd yn ei gwneyd yn amcan i'w efelychu ddylid gon- demnio. Cofied y cyfeillion hyn,, mai un Evan Ro- berts sydd yn bosibl. Nid yw Duw yn gwneyd dau ddyn yr un fath ac os gwelir dau yr un fath, y mae sicrwydd nad Duw yw awdwr y ddau. Hunan- awdwr trwy efelychiad yw un o honynt; ac heb ronyn o sylwedd ynddo. Y mae cymaint o wahan- MR. SAM JENKINS. I iaeth rhwng y gwreiddiol a'r un sydd yn ffrwyth efelychiad a rhwng blodeuyn byw ac un o waith dwylaw dyn. Fy rheswm dros draethu ar hyn yw, fod rhai yn edrych ar y diwygiad drwy y personau yma; ac oblegid canfod eu hansylweddolrwydd conr demnir y mudiad, a gelwir ef yn sham,' &c. Bydded hysbys na all Evan Roberts, oddiwrth fod rhai yn ei efelychu yn y ffordd a nodwyd; ac nid yw eu gwaith yn ceisio gwneyd hyny yn gwrthbrofi dim o ysbrydolrwydd y diwygiad. Y peth poenus ynglyn ag efelychwyr yw, mai pethau lleiaf dynion fyddant yn gymeryd i fyny bob amser. Ni allant gymeryd

Diwygwyr a DiwygiadaU |j Cymru.