Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
MR. W. JONES, Dental Surgeon, THE ARCADE, 85, LORD-STREET, blVERPGOU New, Dainty, rP 17^ lf'11 LJ I Fit for a Artilicial lljIlilijLi DUCHESS 38. to 21s. Each., 30s. to 10 guineas per set, Upper or Lower. CROWN, BAR. AND BRIDGE-WORK, Gold, Porcelain, and other Fillings. CONSULTATION FREE. SIAREDIR CYMRAEG NEU SAESNEG. DAY IIUPS EVERY WEDNESDAY
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Genedigaethau, PHodasau, &o. GENEDIGAETHAU. Davies.—Chwef. 14, priod Mr. J. D. Davies, New Shop, Glynceiriog, ar fab. Davies.—Chwefror 4, priod y Parch. J. Coedfryn Davies, Orchard House, Llanstephan, ar fab. PRIOD AS A U. Jones—Williams.—Chwefror iaf, yn nghapel Porth- aethwy, gan y Parchn. W. O. Jones, Caeathraw (brawd y priodfab), a T. C. Williams. M.A., Mr. J. Pughe Jones, cyfrifydd, N. & S.W. Bank, Aber- ystwyth, a Miss Sidney Williams, merch ieuangaf y diweddar Mr. Hugh Williams, Menai Bridge. MARWOLAETHAU. Edwards.—Ton. 25, yn 66 ml. oed, Miss Edwards, 186, Abbey Foregate, Amwythig. Brodor o'r Borth, ger Aberystwyth, ydoedd, a threuliodd yr 20 ml. diweddaf yn yr Amwythig, lie y bu yn hynod am ei ffyddlondeb, ei haelioni, a'i chariad, at y Cyfundeb. Gadawodd £100 yn ei hewyllys at y Cenhadaethau. Griffitns.-Chwef. 6, yn 58, Cawdor Street, yn 58 oed, John, anwyl briod Catherine Griffiths. Hughes.—Chwef. i, yn 21 mlwydd oed, Mr. William R. Hughes, unig fab Mr. Owen Hughes, 12, Conyers Street, Lerpwl. James.-Ion. 31, yn 61 ml. oed, Mrs. Mary James, Llanerch, Bontgoch. Jones.—Ion. 12, yn 61 mlwydd oed, Mr. Edward Jones, Craigfaden Isaf, Bwlch, Towyn. wedi ychydig ddyddiau o gystudd caled. Bu yn flaenor yn y Bwlch am dros 20 mlynedd, a'i bleser ydoedd gweithio gyda theyrnas Crist. Yr oedd yn athraw llwyddianus yn yr Ysgol Sul, ac yn hynod am ei gydymdeimlad a'r bobl ieuainc. Colled fawr i'r eglwys yw ei symudiad, ac y mae yr ardal oil mewn galar dwfn ar ei ol. Claddwyd ef y dydd Mawrth dilynol yn mynwent Llwyngwril, pryd y gwasanaethodd y Parch. D. James, a'r hwn dra- ddododd bregeth angladdol iddo nos Sabbath di- weddaf. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru ar ei ol—oil fel Mr. Edward Jones, ag achos y Gwaredwr yn agos iawn at eu calon. Barnwr y gweddwon a Thad yr amddifaid fyddo yn am- ddiffyn' iddynt. Morgan.—Ion. 26, yn 91 ml. oed, yn Gwynfa, Taly- bont, Mrs. Margaret Morgan. Morgan.—Ion. 7, Mrs. Morgan, Alberta St., Merthyr Vale, wedi cystudd byr—dim ond ychydig o ddydd- iau yr oedd yn un o ffyddloniaid 6glwys Aberfan, lie bu yn' aelod- am dros ugain mlynedd, ac yn un a gerid gan bawb. Yr oedd yn wraig rinweddol. Crefydd oedd sylfaen ei holl rinweddau; yr yd- oedd wedi ei phrydferthi ynddi,—yr oedd yn wraig ofalus, yn fam dyner, ddarbodus; ond ei nhod- wedd amlycaf ydoedd—" —benyw yn ofni yr Arglwydd." Cafodd ei symud i'r nefoedd yn nghanol gwres y Diwygiad, o ba un yr ydoedd wedi cyfranogi yn helaeth. Claddwyd yr hyn oedd farwol o honi yn y Cemetery. Gweinyddwyd gan y gweinidog, yn y tv ac ar lan y bedd, a chym- erwyd rhan gan y brodyr canlynol: Parchn. W. Andreas, J. Morris, a W. Nicolas. Tystiolaeth pawb ydoedd ein bod yn claddu chwaer dduwiol. ■"Gwyn ei byd." Amddiffyn Duw pob daioni a fyddo dros ei hanwyl briod yn ei alar, ynghyda'i ddara fab. Ein dymuniad ydyw ar iddynt ddilyn yr esiampl dda gawsant o dduwioldeb a bywyd hardd. J Owen.—Chwef. iaf, yn 72 mlwydd oed, Mr. John Owen, Maesyllan, Cerrigydruidion. Owen.—Chwef. 6, yn 9 mlwydd oed, yn Great Dark- gate Street, Aberystwyth, Ivor, mab Mr. David Owen. Owens.—Chwef. 5ed, yn 72 mlwydd oed, Mr. Edw. Owens, 87, Broom Street, Hanley. Williams.—Chwef. 2, yn 25 mlwydd oed Mr. John Williams,, Ty Du, Eglwysbach. Yr oedd yn ddyn ieuanc dichlynaidd, ac yn aelod ffyddlon o eglwys Bethania (M.C.), Eglwysbach. Gweithiai yn ffyddlon gyda'r Ysgol Sul. Bu yn ysgrifenydd yr ysgol, ac yn gynrychiolydd i'r Cyfarfod Ysgol, ac yn athraw gweithgar. Dydd Llun cafodd angladd tywysogaidd ugeiniau wedi dod yr holl ffordd o'r Ty Du i hebrwng ei weddillion marwol i fynwent capel Talybont. Gwasanaethwyd yn hynod o eff- eithiol wrth y ty cyn cychwyn gan y Parchn. Evan Hughes, Llandudno, a De Charles Evans, Taly- cafn; ac yn y capel a'r fynwent gan y Parchn O. Gaianydd Williams a De Charles Evans. Nawdd y nef fyddo dros v fam sydd yn weddw, a thros y brawd, a'r chwiorydd sydd yn eu galar a'u chwith- dod ar ei ol. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendi- gedig.' Price.-Chwef. 5ed, yn 75 ml. oed. Mrs. Margaret Price, Llwyn-neuadd, Llanwrtyd, 'gynt 0 Caergof. ^bergwessin,
MARWOLAETH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH MR. ROBERT JAMES JONES, B.A., PENSARN, MON (Myfyriwr yn Ngholeg Duwinyddol y Bala). Gofidus genym gofnodi marwolaeth y cyfaill anwyl uchod, yr hyn a gymerodd le yn sydyn iawn dydd Llun, Chwefror 6, 1905, yn y Bala. Pan ddaeth yr alwad ato, eistedd.ar xvrth y bwrdd yn efrydu ei wers ar athroniaeth ar gyfer dranoeth. Syrthiodd i lawr oddiar y gadair, ac ehedodd ei ysbryd ymaith ar un- waith i fyd lie nad oes angen am athroniaeth i es- bonio ei sylweddau. Ganwyd R. James Jones yn Mhensarn Berw, Mon, Awst 28, 1876. Derbyniodd ei addysg elfenol yn ysgol Pensarn. Bu am gyfnod byr wedi hyny yn Ysgol Ramadegol Porthaethwy. Yn y flwyddyn 1896 clechreuodd bregethu, a daeth i Ysgol Barotoawl y Bala, lie y llajuriodd yn galed am dair blynedd, ac oddiyno aeth yn llwyddianus drwy Matriculation Prif- ysgol Cymru. Aeth i Goleg: y Brifysgol, Bangor, yn y flwyddyn 1899, ac yno drachefn gweithiodd yn ddi- wyd am bedair btynedd, a chymerodd y radd o B.A. gydag anrhydedd mewn Hebraeg yn Mehefin, 1903. Ei hoff efrydiaeth ydoedd Hebraeg, a meddai wybod- aeth eang a manwl o'r iaith hono. Bu am dymor wedi hyny yn Mangor yn efrydu Hebraeg ac Arabaeg. Daeth i Goleg Duwinyddol y Bala yn Medi, 1904, i astudio duwinyddiaeth, ac i barotoi ar gyfer arhol- iadau B.D. Prifysgol Cymru. Yn ystod ei arhosiad byr yno, bu yn ffyddlon iawn 1 w efrydiau, ac o ganol gwaith y galwodd Duw ef ato ei hun. Cladd- wyd ei weddillion yn ei hen gartref yn Mon-y wlad a garai mor fawr-dydd Iau, Chwef. gfed. Cynhal- iwyd gwasanaeth coffadwriaethol yn Ngholeg y Bala am 8 o'r gloch y boreu, a chafwyd gwasanaeth byr wedi hyny yn Minafon am 8.30. Cychwynwyd o'r Bala am Pensarn gyda'r tren g, ac aeth llawer o gyd- efrydwyr yr ymadawedig,. ynghyda Dr. Hugh Wil- liams yno, i dalu teyrnged i goffadwriaeth un a gerid mor fawr ganddynt. Diwrnod i'w gofio ydoedd y diwrnod hwnw yn y Bala. 'Roedd calon pawb yma yn drom iawn, a chollwyd llawer o ddagrau genym, wrth feddwl ein bod wedi colli o'n plith un o'r cymer- iadau mwyaf didwyll a gyfarfyddwyd genym erioed. Didwylledd ydoedd un o brif nodweddion ei gymer- iad. 'Roedd bob amser yn onest ac yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau, a phrawf o hyny ydoedd ei waith ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth, mewn cyfarfod diwygiadol yn y Bala, yn cyflwyno ei hun o'r newydd i'r Gwaredwr. Clywsom iddo hefyd pan yn Mangor beidio pregethu am dri mis oherwydd nad oedd yn teimlo ei hun yn gymwys i'r gwaith. Ymddangosai ar adegau yn rhyfedd yn ei ddywediadau, ond gwyddai y rhai a'i hadwaenai fod yr oil yn tarddu o'i gywirdeb ac o'i awydd i fod yn ffyddlon i'w gredo. Ni chyfarfuasom a neb erioed. mwy generous a charedig na Robert James Jones. 'Roedd caredig- rwydd yn naturiol iddo, ac ymhyfrydai bob amser mewn gwneyd ..cymwynas, a hyny gyda'r sirioldeb mwyaf. Enillodd iddo'i hun air da fel pregethwr. Myfyriai lawer, a chymerai lawer o drafferth gyda'i bregethau, y rhai a draddodai mewn dull naturiol a swynol. Meddai feddwl annibynol, ac ymdrechai bob amser i dreiddio i ddyfnderau y gwirioneddau y ceisiai eu deall. Cymerai lawer o ddyddordeb mewn athron- iaeth, a chlywsom ef ami i droi yn mynegi ei syniad- au am y licdlity Mawr sydd yn rhoddi ystyr i bob bywyd. Hoffai son am rai o gwestiynau mawr bod- olaeth, a chafodd lawer o adloniant i'w ysbryd wrth geisio clirio ei syniadau am danynt. Cof genym i ni fyned am dro gydag' ef un pryd- nawn yn Rhagfyr diweddaf, ymhen ychydig ddydd- iau wedi i'r Diwygiad gael ei deimlo ymhlith Myfyr- wyr y Bala. Pwnc ein hymddiddan y tro hwnw yd- oedd yr lawn, ac yn nghwrs yr ymddiddan dywed- odd yr hoffai gael goleuni clir ar yr lawn yn y Diwygiad presenol. Aiff y Diwygiad ymlaen eto yn Nghymru, ond mae R. James Jones wedi esgyn i fyd lie mae'r lawn yn esbonio'i hun. Dyddiau i'w cofio ydoedd ei ddyddiau diweddaf ar y ddaear, pan 'roedd y dyfodol yn ei hanes megis yn taflu ei gysgodion o'i flaen. Wythnos cyn ei farwol- aeth bu am dro gydag un o'r Athrawon, a'r pethau y soniai am danynt y tro hwnw oeddynt Anfarwoldeb a'r Bywyd Dyfodol. Ni anghofir byth, gan y rhai oedd yn bresenol, ei weddi ryfedd, ryfedd, yn nghapel Plase, nos Wener cyn ei ymadawiad. Syrth- iodd ar ei liniau, a chyflwynodd ei hun gerbron yr orsedd fel pechadur mwyaf Sir Fon a'r Bala." Adroddai y penill "A oes gobaith am achubiaeth? a phan ddaeth at y llinell Oes, medd Duw." &c., cafodd oleuni newydd ar ei Waredwr a gorp'hwysfa i'w enaid, a thorodd yn orfoledd drwy'r lie. Cyfarfyddodd un o'i gyfeillion ar lanau Llyn Tegid y boreu Sadwrn dilynol. Dywedai nad oedd yn teimlo'n dda y diwrnod hwnw, ac fod yn rhaid iddo yr wythnos ddilynol fyn'd gartre' neu i'r nefoedd. Boreu Llun cymerwyd ef tu hwnt i'r lien," lie y caiff oleuni ar y sylweddau mawr y bu yn dyfalu cymaint yn eu cylch pan ar y ddaear. "I ba beth y bu y golled honF" medd y ddaear. "Da y gwnaeth Efe bob peth," medd y nefoedd. "Peidiwch holi heddyw, Gwell clustfeinio'n nghyd, Am furmurau gwylaidd Yr anfarwol fyd. Mae y lien mor agos- Gall rhyw delyn fawr, Swnio'n wanaidd drwyddo- Gwell yw gwrando'n awr." Telyn a dorwyd yn gynar ydoedd ond ni ddryll- iwyd y delyn cyn dangos i'r byd y gallai seinio rai o nodau mwyaf prydferth can yr Oen. Cydymdeimlwn oil a'r teulu trallodus yn eu pro- fedigaeth chwerw ac annisgwyliadwy. Rhaid oedd ffarwelio a R. James Jones hyd oni wawrio y dydd a chilio o'r cysgodau." Pwllheli. S G. EVANS,
MARWOLAETH Y PARCH. T. E.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH Y PARCH. T. E. EDWARDS, CWMAFON. Dydd Sadwrn diweddaf, wedi bod yn gystuddio am rai blynyddoedd, bu farw y Parch. T. E. Ed- wards, Cwmafon, yn 76 ml. oed. Bu Mr. Edwardjj yn llanw lleoedd uchel yn yr enwad yn y De yrnho'5 cylch, ac yr oedd yn bregethwr poblogaidd a us pan yn ein dyddiau goreu o ran iechyd a nerth. Fel amlygiad o gydymdeimlad, cyflwynwyd iddo ar y 25ain o Fai diweddaf, dysteb yn cynwys anerch- iad a chan' gini. Cymerodd yr angladd le yn Cwnl- afon ddydd Iau, a cheir adroddiad yn y rhifyn nesaf.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bu Mrs. Jones, Dyffryn, yn cynal cyfarfodydd yn Abermaw a Bontddu yr wythnos ddiweddaf, ac yr oedd y cynulliaaau yn y ddau le yn lliosog iawn. Mae ychwanegiad o 35 at eglwys y Methodistiaio Llanwrtyd er dechreu y Diwygiad. Cynhelir cyfar* fodydd gweddi bob nos. Bu y Parch. H. G. Howells, Caerdydd, yn cynal wythnos o genhadaeth yn nghapel Watton, Aber- honddu. Ymunodd 21 y noswaith gyntaf, ac arnryw ar hyd yr wythnos. Ysgrifena y Parch. I. W. Charlton, Fakenham, Norfolk, hanes ei ymweliad a chyfarfodydd Mr. Evan Roberts, a dengys ei fod mewn llawn cydymdeimla" a'r Diwygiad. Bu Mr. Sydney Evans yn Blackwood yr wythnos ddiweddaf ar wahoddiad yr Eglwysi Rhyddion, ac ymunodd lliaws a'r gwahanol eglwysi yn ystod yr wythnos.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD MISOL MYNWY. Oherwydd amgylchiadati neillduol, cynhelir Cyf- arfod Misol nesaf Mynwy yn Penuel, Tredegar dydd f Iau, Mawrth 2, 1965, ac nid fel y mae ar Crafden s Cylchdaith y C.M. yn Mozerah, Chwef. 23. D. MEURIG JONES, Ysg. WANTED Ciooo in sums of not less than £ 501 upon the English Calvinistic Methodist new church, Breeze Hill, Walton, Liverpool. For particulars, apply to the Ripv. J. P. MILLWARD, 103, Breeze Hill. j Walton, Liverpool. x. ———————————————————————————————————— ( GREAT WESTERN RAILWAY, EXCURSIONS TO LONDON. MONDAYS, FEBRUARY 20, 27, MARCH 6. For ONE DAY. TUESDAYS, FEBRUARY 211 28, MARCH 7. For 2, 4, 5 or g days. WEDNESDAY, FEBRUARY 22. For ONE DAV THURSDAY, FEBRUARY 23. For 2, 4, 5 or 8 days. from Corwen & Llangollen, & on FEBRUARY 21, 23, 28 & MARCH 7 ONLY from Dolgelley, Blaenau Festiniog, Festiniog & Bala. For details, see bills or send postcard to For details, see bills or send postcard to Company's Stations o'r Offices. JAMES C. INGLIS, General Manager. "LIST OF LODGINS." A new and revised edition of the List of Hotels j and Inns, Farmhouse and Country Lodgings in the District served by the Cambrian Railways, will be issued ready for the coming season. A Fee of one shilling will be charged for the insertion of any name and address. Names and addresses of Farm- ers, Hotel Proprietors, and Lodging House Keepers,- having accommodation to offer should be sent to any of the Company's Stations Masters, or to Mr. W. H. Gough, Traffic Superintendent, Oswestry, accompan- ied by remittance not later than March 6th next. ied by remittance not later than March 6th next. The Company reserve the receipt of accepting or rejecting any application." A Great Cough Cure. ONE of the most successful remedies of the present day for curing Coughs, Colds, Bronchitis, and all affec- tions of the Throat and Cures Lungs is the "Colts- Coughs, Colds, Bronchitis, etc. pared from renowned lung healing balsamic plants. It has a wide and increasing de- mand. It is a preparation for children and adults, very pleasant to take directions on the bottle. Testimonials, from Doctors, Clergymen, Ministers, Schoolmasters, etc., from all parts of the county. The Coltsfoot Lung Elixir Is sold TL N 11 1 in bottles at 1/1-J & 2/9 m IR8 uOilSICOt each, by all Chemists, Lung Elixir. or sent post free direct, by inventor. See that you get it, a picture of a judge with a bottle j- in his hand appears on every wrapper. — Prepared only by the inventor. Morgan W. James, M.P.S., Dispensing Chemist, Llanellj, S.W< to