Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MN^tM&Et.

SABBATH YN Y BONTDDU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SABBATH YN Y BONTDDU. Y mae rhoddi desgrifiad cyflawn o'r hyn a gymer- ddd. ie ytl y Bontddu—ger Dolgellau-wythnos i'r Sabbath diwëtldäJj h gwbl anmhosibl. Yn wir, nid ein hymgais fjéiiJ tÎibt desgfifiad felly o hono—yn unig rhoi tystiolaeth o'n prona4 pW^'Kiol fel un oedd yn digwydd treulio y Sabbath yn èii plitfe; Fe gofir yn union pa Sabbath ydoedd, pan ddywedwi1 fflai y Sabbath ar ol ail ymweliad Mrs. Jones, Egryn, a'r lie, sef Sabbath, Chwef. 12. Amlwg oedd fod ymweliad y genhades ymroddedig hon a hwy y noswaith cynt wedi gadael argraff ddofn ar y gynulleidfa. Rhoddodd ei hanogaethau a'i gweddiau ail symbyliad iddynt i ymdrechu o newydd am wedd gwyrieb yr Arglwydd. Cyn hyny yr oedd- ynt ymron digaloni, yn ofni y caent fel ardal eu gadael heb unrhyw amlygiad arbenig. Mae'n wir eu bod ar By-a t fflisoedd wedi cadw eu cyfarfodydd gweddiau yn ddifwicli, d btlcl ffrwyth y cyfryw gyfar- fodydd yn dechreu dod i'r golwg etts taij wythnos mewn amrywiol gyfeiriadau—y bobl ieuaiile llaws o honynt wedi eu deffroi i waith, a'r canol oed yn nesau ymlaen-un o honynt yn arbenig nad gwiw ei enwi -eto, er fod y drafodaeth fel hyn rhyngddynt a Phen mawr yr eglwys yn parhau, yr oedd eu harswyd rhag iddo fyned heibio yn cynyddu. A chymeryd arno fyned yn mhellach' yr oedd y Person y naill dro ar ol y llall. Pa fbdd bynag, yn y cyfarfod gweddi y bore Sul crybwylledig-cåf ol yt ysgol—-aethant yn fwy taer i gymell arno i ddyfod i mewn (fêl y ddau ddisgybl), ac wele Efe a aeth i mewn i aros gyda hwy," A chawsant amser hyfryd! Pan gyrhaeddwyd at yr odfa ddau o'r gloch, nid oeddynt ond newydd ym- wasgaru, a deallasom eu bod wedi cael y wledd yn ei danteithion goreu-" gwledd o basgedigion breision a gloew-win puredig." Tafiwyd y cyfarfod ddau o'r gloch yn hollol rydd-dechremvyd gan un o frodyr y lie, er fod y pregethwr at y Sul wedi dyfod; a chododd y teimlad yn raddol a naturiol, gan dori allan yn awr ac yn y man,-y tan a gyneuasant yn y boreu yn dal i losgi. Cafwyd gair gan y pregethwr a ddaethai yno i'w gwasanaethu i'r perwyl am iddynt fyned ymlaen dan arweiniad yr Ysbryd, ac y ceisiai yfttau gripio y mynydd gyda hwy i gael yr un gawod. Ctyd hwy daeth dyn tal o seti uchaf y capel, sef y gwt eanol oed y cyfciriwyd ato eisoes, i'r set fawr, a dywedbdd ei ggtiadwti. Mai ei argyhoeddiad ef yd- oedd fod yn rhaid dfefffo yt eglwys, ac mai trwy y bobl ieuainc yr oedd hyn i gael ei wneyd—mai ei benderfyniad ef oedd defnyddio pob moddioil, a phob cyfleusdra mewn amser ac allan o amser, i gyraedd yr amcan hwn. Dyma ysbryd cenhadol yn ngwir ystyr y gair. Yna torodd allan i anog y bobl ieuainc wrth eu henwau i gymeryd rhan-daeth dau ymlaen i ddarllen rhanau o Air Duw, ac yr oedd y darlleniad yn effeithiol. Yna aeth ein brawd i weddi, ac un arall ar ei ol. Ond er i'r teimlad godi yn uchel, ni chafwyd y tywalltiad yn amlwg, nes i'r gynulleidfa ail ym- gynull i gyfarfod y nos. A dyma gyfarfod rhyfedd! Os oedd y dyfroedd at y fferau a'r gliniau yn nghy- farfod y prydnawn, yr oeddynt yn ddyfroedd nofiad- wy ar hyd cyfarfod y nos-yn tori allan yn llifeiriant grymus ar bob Haw. Ac nid oedd amheuaeth nad y dyfroedd sanctaidd oeddynt yn tarddu allan o dan riniog y ty.' Dechreuwyd am bump o'r gloch, ac erbyn 6 o'r gloch yr oeddynt mewn llawn hwyliau— tynai y bobl ieuainc y nefoedd i lawr deuent ymlaen yn awr yn ddiatalfa, rhai o honynt (fel y cawsom ddeall) am y waith gyntaf eriped. Am y deisyfiad- au a anfonid i fyny, yr oeddynt wedi eu trwytho gan ddagrau edifeirwch, a'u heneinio ag olew gorfoledd ac nid cynt yr esgynai y gweddiau i fyny na ddis- gynai y bendithion i lawr mewn diolchiadau cyffre- dinol trwy y gynulleidfa. Yr oedd yno le hyfryd iawn! Ni leihaodd y dylanwad o gwbl. Cyflawn- wyd y broffwydoliaeth yn llythyrenol: Yr Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tan fflamllyd y nos, ar yr holl ogoniant y bydd ymddiffyn." Meddyliem fod pob adran yn yr Eglwys wedi ei chyffwrdd, oblegid deuai y gwyr a'r gwragedd ym- laen yr hynafgwyr a'r llanciau; merched ieuainc a phlant; ac fe allesid clywed y swn' y llefarai yr Iesu am dano wrth Nicodemus, er na ellid rhoddi cyfrif am dano. Yr oedd eu hateb wedi dyfod; dychwelwyd caethiwed Seion yn y lie, a gollyngwyd y carcharorion yn rhyddion-swn bolltau heiyrn yn dryllio a gefynnau pres yn toddi. Nid rhyfedd fod yno orfoledd a llawenydd na chlywsid o'r blaen ei gyffelyb o fewn y genhedlaeth bresenol. Cawsom air ar ol i'r Sabbath fyned heibio fod o 20 i 25 wedi cymeryd rhan yn y cyfarfod rhyfedd hwn -a fod 14 wedi eu derbyn i gymundeb yr eglwys y nos Wener dilynol. Dyma arwydd er daioni o'r diwedd i ardal fechan brydferth y Bontddu. Dydd o lawen chwedl iddynt mewn gwirionedd—gwyl Jiwbili y Bontddu, ys dywedai un brawd; a diau y bydd cof am dano am flynyddoedd meithion. Hyderwn y cant gynhauaf da ar ol hyn-yn canlyn y gawod gynyrchiol: toraeth o gymeriadau cryfion, tadau a mamau ymroddedig, plant yn adnabod yr Arglwydd, ac yr adeiledir Seion ar y sancteiddiaf ffydd. Oblegid dyma ganlyniad ymweliad yr Ysbryd ymhob man—dwyn pethau goreu y ddynoliaeth, a'i chyfaddasu i fod yn deml i'r Dwyfol breswylio ynddi. Ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llqwenydd, tangnef- edd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, add- fwynder, dirwest." (Gal. v. 22, 23). H.E.

------Y DIWYGIAD YN NHRfHARRiS,…

Y DIWYGIAD YN FFESTINIOG.