Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Symuda y Parch. S. W. Griffiths, Johns- town, i gymeryd gofal eglwys y Methodistiaid yh Cleveland, Ohio'. Bwriada y Parch. Hugh Hughes, y pregeth- wr cenhadol Wesleyaidd, ymweled ag Unol Dalaethau America yr haf dyfodol. Mae eglwys fechan perthynol i'r Methodist- iaid, gerllaw yr Wyddgrug, wedi rhagor na dyblu eleni. Ei rhif CWIf blaen oedd 33, a der- byniwyd 39 o aelodau newyddion yn ystodi y tri mis diweddaf. 0*0 Cyflwynodd yr Henadur a Mrs. S. N. Jones, Abertiieri, Feibl i bob un o'r rhai a dderbynid i'r eglwys yn y Triniti y Sabbath diweddaf. Rhifai y dychweledig-ion a dderbynid 115! Beth am y gwaith sydd wedi ei dori allan at Gymdeithasfaoedd De a Gogledd Cymru y flwyddyn hon ? Ai tybed fod y materion sydd wedi eu bwriadu y rhai cymhwysaf yn ystad bresenol pethau? Edrycher y rhestrau. Derbyniodd y Parch. John Thomas, Caer- dydd, 43 o aelodau newyddion i eglwys gen- hadol y Methodistiaid1, Abercarn, y Sabbath di- weddaf. Etc fe ddywed rhywrai nad yw y diwygiad wedi cyraedd Abercarn. Cafodd1 Mr. Herbert Roberts yr ail le ymysg" yr aelodau Cymreig i gyflwyno Mesur i wella Deddf Cau ar y Sul yn Nghymru. Cyflwyn- wydi y mesur i Dy y Cyffredin ar unwaith, a rhoddwyd yr ail ddarlleniad i lawr Mai Igeg, Penderfynodd eglwys Beulah, Cwmtwrch, I agor festri y capei o 10 hyd 2 y prydnawn, ac o 5 hyd 10 yr hwyr, er mwyn rhoi ystafell glyd, llyfrau a newyddiaduron, at wasanaeth pawb ddymuno droi i mewn. Dyma symudiad yn yr iawn gyfeiriad. Onid da y gwnelai eraill yn dilyn eu hesiampl? O*Q Barna y Parch. M. Baxter fod y diwygiad yn N ghymru yn profi fod yr ail-ddyfodiad yn- liesu. Darlithia y gwr da hwn yn Neheudir Cymru, gan geisio allwedd1 i hanes y dyfodol yn ffigyrau Daniel a'r Datguddiad. Mae cyn- ydd dirfawr ar worthiant ei lyfrau, yr hyn sydd yn proli nad yw ofergoeledd wedi darfod o'r tir. Cyhoeddwyd cyfrifon yrnweliad y diwygwyr Americanaidd, Mri. Torrey ac Alexander, a Chaerdydd yn mis Hydref dhyeddaf. Cost- iodd yr ymgyrch X,3,112 os. 5c. Casglwyd £877 yn y cyfarfodydd, ond! gwnaed y gwedd- ill i fyny drwy gyfraniadau. Can' punt rodd- wyd i Mr. Alexander a'i gynorthwywyr am waith y pedair wythnos. 8*8 Cyflwynodd eglwys a chynulleidfa Hermon, Penrhiwceibr, marble clock ac addurniadau pres i'r Parch. Rowland Morgan, a Mrs. Mor- gan, ac oriawr aur i Miss Louise Jenkins, eu merch fabwysiedig, ar eu symudiad i Ben- tyrch. Yn ystod eu harosiad yno, dywedid yn y cyfarfod fod eu llafur wedi cnill iddynt Ie dwfn yn serchiadau pawb. — 0 un o borthladdoedd Japan daw adrodd- iad am gy far fod o long-wyr lie y darllenwyd adroddiadau y Diwygiad o'r GOLEUAD. Methai y naiIl ar ol y llall a myned ymlaen, nes o'r dhvedd yr oedd pob un wedi to'ri i lawr. Caf- wyd cyfarfod gweddi agofir yn hir. Anfon- wyd hefyd i'r swyddfa Jythyr caredig sydd yn cael ei werthfawrogi yn ddirfawr. f{PF ft Mae'r rhan fwvaf o fyfyrwvr Trelecca wedi bod yn gweithio gyda'r Diwygiad1 mewn allan ac allan o amscr ar hyd a lied y wlad. Yr wythnos hon cynhaliwyd cenhadaelh arbenig yn eglwysi'r arclal. Maent eisoes wedi eu bywhau'n ddirfawr, a llawer o afradloniaid wedi dychwelyd. Dim ond rhyw un o offeir- iaid y cylch sydd wedi dang-os y cydymdeimlad lleiaf a'u gwaith. Ond mae nifer o Eglwys- wyr (ac yn enwedig chwiorydd) yn selog- iawn gyda'r diwygiad, ac yn mynychu cyfarfodydd mewn capelau Ymneillduol heb fod neb yn beiddio eu gwahardd. Yn hanes Cymanfa Bedyddwyr Sir Fynwy, a gyfarfu yn Blaina yr wythnos ddiweddaf, gwelaf fod- eglwysi yr enwad hwn yn unig wedi derbyn 6,700 Or aelodau newyddion er dschreu y Diwygiad presenol. Mae hyn yn ol cyfartaledd o gant ar gyfer pob eglwys. Derbyniodd, y Parch. Towyn Jones 300 yr un pryd yn ci eglwys yn Nghwmaman. U Bydd ang-en 45,000P. er gorphen casgliad y Ganrif Cymdeithas y Beiblau. Apelir am help i orphen y swm hwn. Mae Cymru wedi gwneyd yn dda; ond dylid colio1 am anghen- ion a galwadau y Gymdeithas yn y casgliad nesaf. Mae un o aelodau y pwyllgor gweithiol yn cynyg mil o ginis er mwyn gorphen casgliad b y y ganrif, am fod galwadau i ean-gu y gwaith, a bod y drysorfa'n brin. "Telyn Scion,"—hen enw parchus ac anwyl, —yw enw llyfr bychan yn cynwys casgliad o donau at wasanaeth cyfarfodydd diwyg-iadol sydd newydd ei gyhoeddi gan Mr. D. Caradog Evans, Pwllheli. Buasai cael ambell benill a than newydd yn gryfhad i gyfarfodydd y Di- wygiad mewn llawer lie, ac y mae yn y llyfryn bychan hwn ddeiholiad da o do,nau ac emynau fyddant yn asio yn ddidrafferth, ac a ganant yn ardderchog. Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Gweithiol Tysteb Mah0'n yn N ghaerdydd y diydd o'r blaen, dan lywyddiaeth Mr. Richard1 Lewis, U.H. Gwnaed yn hysbys fod yr arian mewn llaw, ar ol talu yr holl dreuliau, yn cyraedd y swm o £1,732 5s. 6c., ac fod £ 36 is. eto i ddod i law. Penderfynwyd fod yr holl lyfrau casglu sydd allan i'w dychwelyd yn ddioed; hefyd fod y dysteb i gymeryd y ffurf o ddarnau o plate gwerth tua £ 5°, ac fod y gweddill i fod mewn arian melyn. Gwahoddir Arglwydd Tredegar i wneyd y cyflawniad ar ran y tanysgrifwyr. —&— Dyma air a ysgrifenodd un fu yn gydweith- iwr a Mr. Evan Roberts yn y gwaith glo :—■ Pan oedd Evan Roberts yn gweithio yn y Deep Duffryn Colliery flynyddoedd yn ol, byddwn yn ami yn myn'd at fy ngwaith dan y ddaear yn yr un dram ag ef. Bachgen tawel, I gwylaidd ydoedd. Nid yr iaith oreu oeddym yn arfer; ond os byddem yn gweled 'Cas- lwchwr,'—-d'yna ei enw gcnym,-o gwmpas, byddai ynoi lai o dyngu a rhegi. Parchem ef fel dyn yn ofni Duw, ac yr oedd ei bresenoldeb bob amser yn ddylanwad dyrchafol arnom." 0 Aberdyli daw adroddiad am un a rail yn rhoddi trwydded i fyny. Dyma fel yr ysgrif- ena cylaill alaf:— "Yr oedd yn llawenydd1 i nifer fawr yn y lie hwn a'r wlad oddiamgylch glywed fod y brawd hynaws, Mr. W. Vaughan Thomas, Medical Hall, wedi penderfynu rhoddi i fynu y grocer's licence sydd ganddo i werthu y diodydd meddwol. Yr oedd gwneuthur hyn yn meddwl aberth arianol go fawr, ac yn gofyn ffydd gyferbyniol i gario y penderfyniad1 i weithrediad. Cafodd y brawd y nerth angenrheidiol, a goheithio na wel amser y bydd yn edifar ganddo- am gyflawni o hono yr act hon o hunanymwadiad." Da iawn. Gresyn na byddai y Diwygiad yn cyraedd i blith yr Aelodau Seneddoi! 0*0 Nos Fawrth cyny diweddaf, rhoddwyd gwa- hoddiad' i ddau o weinidogion Glyn Nedd i ddyfod i gynal neu gymeryd rhan yn y cwrdd gweddi o dan y ddaear, sef y Parchn. T. C. Harris (B.), a D. Hughes (M.C.) Cyrhaedd- asant yno erbyn 5 o'r gloch y prydnawn. Daeth yno bymtheg o'r chwiorydd i gymeryd rhan. Ar ol canu ton ac anerch yr orscdd wrth wddf y drift gan Mr. Harries, aethant i lawr yn y 'dr;iiiis, a chynhaliwyd v cyfarfod ar v parting d\\ bl. yn ngoleuni llusern y glowyr. Eisteddai rhai yn y trams,' eraill ar eu sodlau, ac eraill ar eu traed. Wedi canu "Dyma gariad fel y moroedd," adroddwyd Salm gan lowr ieuanc (Mr. John James Evans), ac aeth i weddi, a thynodd yr Ysbryd i lawr fel tan ar unwaith; a dyna lie y buwyd yn canu a gweddio; y glowyr yn cymeryd eu rhan. Heb- law y ddau weinidog a enwyd, cymerodd Mrs. Hughes, priod y Parch. D'. Hughes, ran, ac anghofir ddim o'i gweddi yn fuan. Parhawyd wrthi am yn agos i ddwy awr—pawb wrth eu bodd, wedi cael gwledd o dan y dywarchen. Nid yw rheithor Merthyr wedi dyfod allan o'r helynt rhyngddo a'r pwyllgor addysg" yn urddasol iawn. Yn ystod oriau yr ysgol, gor- ymdeithiodd y plant o'r ysgol i'r eglwys, gan, herio yr awdurdodau lleol. Arweiniodd hyO 1 I Ar- ni ohebiaeth gyda'r Swyddfa yn Llundain, ac yj1 y diwedd anfonwyd dirprwyaeth i geisio go1' euo Syr William Anson ac Arglwydd London* derry. Ond ni thyciodd dim. Dywedi X Swyddfa fod pwyllgor addysg Merthyr yn et Ie, a'r person wedi troseddu. Rhaid i'r Eg* Iwyswyr fod yn ofalus. lVIaent yn beio yr. YI11- neillduwyr, ac yn tori y g-yfraith eu hunain. Cynhaliwyd cyfarfod dyddorol yn y TooaU, ger Castellnedd, i anrhegu Mr. David Rees, nos Fercher, Chwefror 22. Rhoddwyd iddo Destament yr Ysgol SabbothoI-dwy gyfrol, a Geiriadur Charles, fel arwyddion o werth' fawrogiad Dosbarth eglwysi Dyffryn Nedd, am ei wasanaeth fel trysorydd am dd'eg mlyn- edd. Ac Anerchiad hardd gan yr eglwys* Bu yn aelod yn y Tonau am- 32 mlynedd; y11 drysorydd yr eglwys am 21 mlynedd; a diacoi) am 15 mlynedd. Teimlir bwlch ar ei ol yn el symudiad i Trefdraeth, Sir Benfro. Dymuna pawb ei gysur ef a'i deulu yn eu cylcb newydd. Ymhola lliaws o ohebwyr "beth am y got; euni a welir yn eich gwlad chwi yn Meirion Dyma sydd i'w ddweydl: i. Mae lliaws o ddy," ion credadwy wedi gweled y goleuni. 2. Nid oes un eglurhad boddhaol wedi ei roi gyd^ golwg arno. Dyna yr oil. Gallesid adrodd lliaws o chwedlau, ac ychydig o ffeithiau; ond arhosant i gael eu chwilio a'u profi. Am Y rhai sydd yn ysgrifenu i'r newyddiaduron dyddiol, gwneyd ystori gyffrous yw eu gwaith* Cael eu gorliwio y mae ffeithiau, ac yn eu ffurf newyddiadurol mae ynddynt fwy o bethau dy chymygol nag o wir. Gresyn na byddai rhyw: un yn chwilio »y' peth i'w waelod. Cyhoeddodd Mr. Alfred! Davies, Liverpool) y llythyrau ar weinyddiad y Ddeddf Drwy ddedol newydd a ysgrifenodd i'r South WateS Daily News,' yn bamphledyn bychan hwyln^ iawn i ynadon a gweithwyr dirwestol. DweV" y mae y pamphled beth ellir wneyd o f Ddeddf. Daw yr oil i hyn Dibyna ar yr yO" adon. Os byddant hwy yn ceisio- cwtogi y fasnach, gallant wneyd hyny. Ond os fel arall y maent (fel mwyafrif ynadon Dolgella11 y dydd o'r blaen), gallant godi digon o fwgat1- od ac esgusion. Ond gall gweithwyr dirwest' ol ymroddgar wneyd llawer, a chynghorwn bawb sydd yn awyddus am droi melldith Y. Balaam hwn o ddeddfwriaeth. yn fendith 1 ddarllen y llyfryn hwn. Yn arbenig anog^1? ynadon dirwestol i'w darllen. er mwyn Ilenvi eu cawell saethau. Parch. H. W. Griffith, Cincinnati, 0., America, a ysgrifena :—" Yr ydym yn darlle1] hanes y diwygiad bob nos Sabbath yn nghap6* College St. (M.C.), er pan yr ymddangosodo1 gyntaf yn y GOLEUAD, a mwynheir ef yn faW; ac y mae yn amlwg fod awydd cryf wedi Cn-df, yn llawer o honom am weled1 a phrofi pethaU cyffelyb. Bendith anmhrisiadwy i'r ddwy eg- lwys Gymreig yma fyddai cael hyn yn awr. Cynhaliodd y ddwy eglwys (M.C. a'r A,), Ý cyfarfodydd gweddi ddechreu y flwyddyj1 mewn undeb a'u gilydd, a chawsom gyfarfodj ydd da iawn am bythefmxs, a sylwai rhai f°. hyn yn un o'r airwyddion sydd yn rhagflaenof* y diwygiad yn Nghymru. Y Sabbath diwedd- af penderfynodd y ddwy eglwys i gydgyfarfo"1 yn fisol i weddio am y Diwygiad. Y mae y11 dda genym hysbysu fod rhai arwyddion eisoeS sydd yn argoeli y gall y diwygiad ddod dros y Werydd1. Y mae eglwysi Saesneg DenveJ; Col. (a'r eglwys Gymreig yn eu mysg) Ave<\ derbyn rhai miloedd o'r newydd y mis diwedo af. Yr oedd1 dydd Sad^yrn diweddaf, ChWe'' 4, wedi ei nodi gan eglwysi Protestanaidd Nev^ York yn ddydd o ympryd a gweddi, a gel^'i sylw at y diwygiad1 yn Nghymru a Lloeg1"* a gobeithid fod y cyfryw yn myned i ymdae°^ dros yr holl fyd. Y mae pwyllgor o we111' dogion rhai o'r prif eglwysi Protestanaidd y ddinas hon hefyd wedi ei nodi i roddi ystyriaet i'r un mater. Ac mae yn debyg y bydd1 y^ rhywbeth wedi dechreu cael ei wneyd cy*}_^ cyrhaedda y llinellau hyn atoch. Gyda cynes atoch chwi a phawb o'm hen gydnabod*