Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y DIWYGIAD YN BRYNSIENCYN.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWYGIAD YN BRYNSIENCYN. ODDIWRTH Y PAUCH. T. HUGHES, B.A. Pan yn ysgrifenu hanes y Diwygiad i'r GOLEUAD rhyw fis yn ol, 35 oedd wedi ymuno a'n lleglwys ni yma, erbyn hyn mae dros 50 wedi troi atom. Dy- wedir fod oddeutu 100, a chymeryd holl eglwysi y I pentTef, ynghyda'r eglwys Wladol. Mae hwn yn t ftifiSt iich £ l iawii, a. Shymeryd i ^Styfiaeth faint ein jjeiitfel. Ar bl ysgfifehu y tfb b'r Blaeh, codadd y teimlad yffla yn tuvch hag 6 gwbl,—i law!" ac i fyhy dyiia ei haneS. Pe buasai pethau yh dal yr un fai;h o hyd ji'r dylanwadau mor angerddol, buasai'n jilfjijlbn i. lethii,y dyii cirjdaf., Yn yr ail ymweliad if.) j^ cypt^L y c^i.w^pT'ydd Sdctb'yniodd flaen y gawod. Yri y cyfarfod Kwriw a:i pob^peih-yipi[&eii, "vxi dft,wel am amser hir. dim byd neillduol, oud yn sytjyn, cododd y dylanwadau pan oedd un ferch ieuanc yn ymbil ac yn ymdrechu a Duw. Yr oedd fel Jacob yn benderfynol o beidio gollwng heb gael y fendith. Teimlid fod ei gafael yn Nuw yn tynhau gyda phob brawddeg, a cherid ni yn nes at yr ysbrydol bob eiliad; o'r diwedd aeth yn anorchfygol, a thorodd pawb allan i wylo yn uchel. Pwy all beidio canu ffttt danp." meddai un chwaer, "neb neb atebai plu arall. r. tlagth pii .fetch ietianc ymlaen i ddiolch i- Dduw am Blygii ei iha4,alc arti adfer yr allot deulu- aidd yn ei chartref. Gan ei bod yn hwyrhau, ym- ddengys fod grisiau yr ystafell yn llawn o frodyr wedi dod yno i wrando, a chlywais un yn dweyd oedd dan angenrheidrwydd i adael yr ystafell cyn terfynu'r cyfarfod, fod y bobl ar y grisiau yn foddfa o ddagrau wrth glwyed y dylanwadau oddifewn. Aeth son am y cyfarfod hwn allan i'r cymydogaethau cylchynol, a thynwyd dieithriaid i rai o'r cyfarfodydd dilynol. On noswaith bu genym dri o gyfarfodydd y naill ar ol y llall. Cyfarfod i fechgyn ieuainc yn unig oedd yr olaf, a hyfrydwch yw gallu dweyd i bymtheg weddio y noswaith hono, a'r rhan fwyaf o honynt yn tci tnYDdd am y tro cyntaf, a bu raid arcs i mewn hyd chwarter wedi un y boreu. Gellir beio oriau hwyr, ac nid wyf yn credu fy hunan mewn cynal cyfarfodydd gyda'r unig amcan o fod yn hwyr, ond buasai gollwng yn gynt o'r cyfarfod hwn yn bechod anfaddeuol. Mae'r oriau hyny i'r gwyr ieuainc oedd i mewn yn fwy o werth na r aur coeth, a'r mynydau yn werthfawrocach na pherlau. Beth olygant P Gol- ygant i rai oes o weddio cyhoeddus, i eraill gadwr- aeth fanwl ar y llwybr cul, i eraill fywyd dilychwin, ac nid sathrfa i'r gelyn. Dyina'r adeg y launehiwyd' y llestri i'r dyfroedd, gellir disgwyl mordeithiau cyf- oethog oddiwrth lawer 0 honynt, Bydd tori unwaith trwodd yn gyhoeddus yn debyg o gadw rhag llawer temtasiwn. Ceir cyfarfodydd gweddiau arbenig iawn yn y tai. Darfu i un teulu gau ei hunan i mewn un noswaith yn eu cartref, a buont yn gweddio bron drwy'r nos hyd nes y ptygodd I pob un o honynt. Yn y cyfar- fod gweddi y nos Lufi dilynol, galwyd ar y tad ym- Itteti i weddio. Yf oedd ei blant wedi bod yn tweddib er's hoSweitfiiau af i Dduw blygu eu tad. lafeth j'ntaii ymlaSn, ac ni§ gallaf gyffelybu dylan- \v&d yr Ysbryd arnb, dnd yri unig fel pe buasai pob fhtyyhiyjl y tafod wedi goilwngj ac yntau'h llefaru fel y rhbddai yr Ysbryd iddo ymadrodd," gan gyf- 6ifio at rai o'r teuiil oedd yh absenol. Dywedai: Dywed wrthynt lie yr ydwi'ii awr. Dywed fy mod wedi plygu." Gan eu bod oil wedi aros gattref y dydd Lluh hwriw, dywedai y tad Mae hi yn rhyw wyl bath acw heddyw; yr ydwyf wedi rhoddi ami i Wythiios i'r diafol, pa'm na chai roi diwrnod unwaith i teSti Grist." Yiia daeth thai o'r teulu ymlaen i ddibich, ac yr oedd y cyfarfod yn ferw drwyddo. Syhdod i mi vdyw fod rhai sydd heb arfer gweddio yn gyhoeddus erioed yn gallu gwneyd mor goeth a chyda geiriau mor ddetholedig. Gweddiai gwas i fferm y noswaith o'r blaen, ac y mae rhai o'i frawdd- egau yn werth i'w hadrodd. i ddangos fel y gall Ys- bryd Duw ddysgu pobl i weddio. "Iesu mawr," meddai, "yr ydym wedi cael cyffwrdd yn ymyl dy wisg, ac yr ydym yn gweithio yn brysur i fyny am dy law dyro dy law i ni Iesu mawr—' Yn dy law y gallaf sefyll.' Mae'r llwybr i'r bywyd yn gul iawn, rhaid i bob baich syrthio cyn myn'd trwy hwn, d'allwn ni gario'r un baich i mewn. Tafi y life- line,' Arglwydd, a dyro gwlwm tangnefedd arni, fel y gall dynion afael ynddi." Golygfa fendigedig oedd gweled dau o weision un o ffermydd mwyaf ein gwlad ar eu gliniau yn ymyl eu gilydd, a'r meistr yno yn porthi yn ddistaw wrth eu hochr wedi ei orclifygu, y gwas wedi gorchfygu ei feistr ar ei liniau y tri ar yr un level' gerbron y Meistr mawr. C, Dywedir mai'r cyfarfod rhyfeddaf a gafwyd yma o gwbl oedd cyfar-fod gweddi y bobl ieuainc am 9 boreu Sul, Ion. 29. Gan nad oeddwn yn bresenol oherwydd gwaeledd, ceisiais gan rai eraill i roddi'r hanes, ond yn ddieithriad dywedir fod rhoddi hanes y cyfarfod hwnw yn anmhosibl. Ymddengys nad oes neb oedd yn bresenol yn cofio dim wedi i'r tan ddechreu cyneu. Ond llwyddais i gael gan Mr. W. Jones, y Postfeistr, i ysgrifenu a ganlyn, er y dywed wrthyf mewn nodyn ar y diwedd—" Drwg genyf ei fod mor salw, pan yr oeddych yn gofyn i mi wneyd ychydig nodiad, yr oeddwn yn meddwl y buaswn yn medru ysgrifenu llawer ond fedrai ddim yn wir, mae desgrifio yn anmhosibl." A ganlyn ydyw adroddiad Mr. Jones Cyfarfod a hir gofir yn Brynsiencyn ydoedd cyfar- fod gweddi y bobl ieuainc, a gynhaliwyd yn y Class Room boreu Sabbath, Ion. 29, pryd yr oedd yn bres- enol bedwar-ar-ddeg o frodyr ieuainc, ynghyda dau prweinydd. Teimlid rhyw arddeliad neillduol ar y canu a'r darllen yn y dechreu, ac yn fwy felly ar y weddi. Wedi i ddau g ffodyr jepginc weddio, dywed- odd y blaenor mai iqiiji ged4 i ni fod yno, ac aros y boreu hwnw, yn nghy^cigifhqis fetus yr Ysbryd Glan, a pheidio myned Ff eape). i'r bregeth, oblegid yr oedd erbyn hyn yp 9.30. Gajwpdd ar dri p frodyr ieuainc i gymeryd rhan ac yn awr mae desgrifio y cyfarfod yn anmhosibl. U, 'r olygfa ddieithr. Tawelwch llethol. Ton o ocheneidiau dwys. Ton o wylo, ton o weddio taer, yria ton o dawelwch, yn mha un y llefodd brawd ieuanc, "0 Dduw, bydd dru- garog wrthyf fi, bechadur mawr. Cymer fi fel yr ydwyf.' Ymhlith y cyfeillion ieuainc yr oedd pedwar o frodyr, ac yr oedd y tad i mewn. Nid ydym yn meddwl yr anghofir yn fuan yr olygfa o weled y tad a'i ddwylaw i fyny yn diolch, a'r pedwar mab ar eu gliniau wrth draed yr Iesu. 0, olygfa fendigedig. Nid ydym yn cofio fawr am ganu yn y cyfarfod, ac eithfio tiMvaitii* õ1ëÍ pan ganwyd y penill 'Y Gwr a fu gynt 0 daft hbelioftj Dros ddyn pechadurus fel n; A y-fodd y cwpan i'r gwaelod Ei hunan ar ben Calfari.' 0 ganu feendigedlf ni erioed ganu yr un fath. Canu a'i lorid o fytyrdb'd ,&yvy8i. Cymerid rhan ynddo gan bedv/ar yn ami gyda'u guydci ■ bfyd arall gweddiai pawb. Manteisiodd pob un ar ym- weliad Iesu Grist trwy ei Ysbryd, i ymgrymu iddo a'i gyffesu. Nodwedd fawr y cyfarfod rhyfedd hwn oedd ei ddifrifwch. Y mae Ilawer o ddigwyddiadau wedi cymeryd lie ynddo, ac y mae yn anhawdd eu desgrifio, na dweyd am danynt o,gwbl. Pan derfyn- wyd y bregeth yn y capel prysurai y bobl tua'r festri, oblegid gwyddeiit yn dcla mai yno yr oedd y bobl ieuainc.' Ac .nid anirflofir byth fflcddent hwy yr ol- ygfa gawsant. Ni chymerwyd iawr sylw o honynt yn dod i mewn gan,faiiit y dwysder; end wfel6 hwy yn dechreu 'plygu' y naill ar ol y Hall i lefaifi am drugaredd. Aeth yn orfoledd cyffredinol drwy y lie. 0, gyfarfod hyfryd iawn, Myfi yn llwm a'r lesu 'n llawn. Wedi y bregeth ymddengys fod y gynulleidfa o'r capel wedi dylifo i gyfarfod y bobl ieuainc, a hwyrach rai yn synu eu bod wedi gadael y bregeth; ond y foment y daethant at y drws, a gwel'd yr olygfa, aeth pob beirniadaeth i'r gwynt, ac yn lie barnu dechreuasant o un i un blygu, aethant dan y clefyd yn drwm, a dywedai un o'r blaenoriaid fod yn hawdd barnu pan yn y capel, ond fod hyny yn an- mhosibl wedi dod i'r ystafell a gweled y dylanwadau dieithr. Rhoddwyd emyn allan gan un o'r chwiorydd aeth i mewn, a'r swn dieithriol hwnw barodd i'r cyfarfod ddeall fod rhyw elfen newydd wedi dod i mewn. Yr oeddynt yn clywed y llais fel o berlewyg, a sain-can y dyrfa ddaeth i mewn o'r capel barodd i'r bobl ieuainc sylweddoli pa le yr oeddynt a pa amser ydoedd. Ehaid dweyd hefyd fod y gorymdeithiau gafwyd trwy'r pentref wedi dweyd inwy ar rai na dim. Tyn- wyd rhai i mewn i'r cyfarfodydd na buasai dim arall yn llwyddo. Cariwyd yr efengyl atynt i'w tai trwy y canu a'r gweddio ar yr heol. Y cyfarfodydd gweddi- au sydd wedi gwneyd y gwaith mawr yn ein plith ni. Mae yn awr waeledd mawr yn yr ardal, o ganlyniad nid ydyw y cyfarfodydd mor lliosog, er y daliant yn eu bias o hyd. Ond disgwyl yr ydym am don eto i gario y gweddill i mewn, gan fod gweddio mawr dros y gweddill.' Mae'r bobl am i bawb roi eu hunain 1 fyny i Iesu Grist, Hyderaf eto gaei y ffctint b anfoil gaif i ehwi am yr effeithiau a ddisgwylir eto yn ein plith gan ddiolch o galon i chwi am y lie amlwg a'r ysbryd rhagorol ddangosir yn y GoLEtrAD tuag at y symudiad bendi- gedig hwn.

GORSElNlON.

GRANVILLE, NEW YORK, U.D.A.

Advertising