Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YR ADFYWIAD_YN Y DEHEU. .

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ADFYWIAD_YN Y DEHEU. GAN Y PAltCH H. WILHAMS, AMLWCH. Y DIWVGIVVR YN FI DDAGRAU A'l WENAU. Cyfarfod Ardderchog. Gorphenais yr ysgrif ddiweddaf gyda hanes yr hyn gymerodd le yn yr ystafell gyda Mr. Roberts. Dy- wedais ei bod yn un o'r golygfeydd rhyfeddaf a welais erioed ac i mi deimlo pethau hynod. Ie, teimladau nas gallaf eu portreadu. Hawsach i ti, anwyl ddarllenydd, eu dychmygu nag ydyw i mi eu desgrifio yn myd oer hanes. Dyma hefyd farn yr oil o honorn. Nid wyf yn tybied y gallwn ein pedwar byth anghofio yr hyn ddigwyddodd yn ys- tafell Mr. Mills yn Nantymoel, Chwef gfed, gyda'r gwas anwyl hwn i Iesu Grist. Ar y ffordd i'r Capel. Gyda theimladau a syniadau rhyfedd, ac anes- grifiadwy, gadawsom Mr. Roberts, ac aethorn i lawr tua chyfeiriad yr addoldy lie yr oedd cyfarfod yr hwyr i gael ei gynal, er mwyn sicrhau man i-eistedd. Ar y ffordd yno ni ddywedid yr un gair bron gan neb o honom, oblegid yr oeddym oil wedi ein taro a mudandod. Ac yn wir distawrwydd oedd yn gweddu i ni ar ol y fath olygfa. Ond yn sydyn torwyd ar y tawelwch gan sylw o eiddo Mr. Wil- liams, Hyfrydle Dyn rhyfedd yw hwn," meddai. "Ie," sylwai Mr. Evans, yr un mwyaf ysbrydol a fu yn Nghymru er's amser maith." Cawn gyfarfod rhyfedd heno, meddai Mr. Llewelyn Lloyd. Dyna'r oil, hyd yr wyf yn ei gofio, a ddy- wedwyd genym, ar y ffordd o'r ty oddiwrth y Di- wygiwr i'r capel. Nis gwn a ddywedais i rywbeth, oblegid teimlwn fod ei bwysau arnaf, ei lais yn gwaeddi, "0, fy Iesu anwyl!" a swn ei wylo, wedi alltudio pob syniad o iaith oddi wrthyf. Gwell fuasai genyf fyned yn ol i'm llety na myned i'r cyfarfod y noson hono, oblegid teimlwn fy mod wedi cael mwy nag a allwn ei ddal eisoes. Myned i unigrwydd a garaswn i fyfyrio ar y weledigacth fawr lion; ac i dynu i mi fy hun wersi oddi wrthi. Ond rhwng bodd ac anfodd yn y capel y cefais fy hun yn y set fawr gyda'm cyfeillion. yn y set fawr gyda'm cyfeillion. Yn y Cyfarfod. Yr oeddym yn y capel tua haner awr wedi pump. Cyn chwech o'r gloch yr oedd pob modfedd o hono wedi ei lanw. Nid wyf yn cofio i mi fod mewn addoldy wedi ei lenwi yn gymaint ag oedd hwn y noswaith hon. Yn wir yr oedd yn anioddefus. Saith o'r gloch y disgwylid y Diwygiwr i fewn. Treulid yr. amser hyd hyny mewn gweddio, canu, adrodd adnodau, &c. Dechreuodd rhywun y cwrdd trwy ganu emyn y Diwygiad, "Dyma gariad fel y moroedd," &c. Cenid hi hefyd ar don. yr Adfywiad, sef Ebenezer.' Teimlem ar unwaith fod yr Ysbryd yn cyniwair trwy y lie. Yn wir, ni bu oddi yno er y cyfarfod rhyfedd a gawsom yn y prydnawn. Yr oedd eneiniad ar y canu; a rhyw ddylanwad rhyfedd gyda phob peth. Yn sydyn gwelwn ferch ieuanc, a Beibl yn ei llaw, yn ceisio gwneyd ei ffordd trwy ganol y capel i'r pulpud. Wedi esgyn yno darllen- odd ranau o Actau ii., am Dywalltiad yr Ysbryd ar Ddydd y Pentecost. Yr oedd yn hyawdl ryfeddol. Nis gwn beth ddywedasai Paul pe gwelsai hi yn mhulpud Corinth. Wrth fyned ymlaen gyda'r dar- llen, gwnai sylwadau eglurhaol a chymwysiadol o'r geiriau. Cariai bob peth o'i blaen. Yr oeddwn yn diolch ynwyf fy hun nad oedd yr un o honom ein pedwar i bregethu ar ei hoi. Deallais wedi hyny mai Miss Olwen Reesv o Pontycymer, ydoedd. Merch ieuanc ragorol, ac wedi gwneyd llawer o waith gyda'r Adfywiad. Meddai, Dywedir yma (Act. ii.) fod y dynion hyn yn llawn o win newydd. Clywir y watwareg hon feallai gan rywun yn y cwrdd hwn. 1311 dyn ieuanc yn un o'r cyfarfodydd Diwyg- iadol, a dywedai rhywrai ei fod yn feddw Yr wyf yn feddw,' meddai yntau, ond yn fedclw gan yr Ysbryd Glan, ac y mae'r diafol wedi fy rhoddi ar y black list.' Ar ddiwedd yr anerchiacl hon, cod- odd yr holl dorf ar ei thraed, a chanodd I Dad y trugareddau i gyd, Rhown foliant holl drigolion byd," &c. Wedi hyn gweddiai un chwaer am i'r Arglwydd symud ymaith yr ysbryd cywreiniol oedd yn y rhai ddaethai i'r cwrdd, ac a barodd i'r cyfarfod y nos- waith flaenorol fyned mor oer a difywyd. Gyda'i bod wedi dweyd Amen,' daew weinidog o Bristol ar ei draed, ac meddai, Daethum yma o gywrein- rwydd, ond cywreinrwydd sanctaidd hefyd, sef awydd i deimlo effeithiau'r Diwygiad." Yna ad- roddodd hanesyn am foneddiges a ddaeth yr holl ffordd o Nottingham i Gymru o gywreinrwydd sanct- aidd. Ac wedi iddi ddychwelyd bu'n foddion i achub pedwar ar ddeg o eneidiau gyda'r tan a'r profiad a gafodd yn Nghymru; ac," meddai, dyna sydd arnaf inau eisieu—eisieu'r tan." Ar hyn dechreuodd rhywun ganu 0 anfon Di yr Ys- bryd Glan, yn enw lesu mawr," &c. Y Diwygiwr yn dyfod i fev/n. Am saith o'r gloch, daeth Mr. Roberts, gyda Mr. Mardy Davies, Miss Mary Davies, a Miss Annie Davies. Gyda llawer o anhawsder y llwyddodd i wneyd ei ffordd i'r pwlpud, gan mor lawn ydoedd y lie. Canai y gynulleidfa amryw emynau, ac un don brydferth ar eiriau liapus iawn,—. I will believe, I do believe, That Jesus died for me; That on the cross he shed His blood. From sin to set me free." > Yna, newidient hi am un arall, Dewch hen ac ieuainc, dewch." Trwy yr holl amser hwn eisteddai yr Efengylydd. Ond ymddangosai braidd yn gyn.- hyrfus a phetrusgar. Ond yn sydyn rhodclodd ei ben i lawr i weddio. Pan gododd yr oedd ei lygaid 5* — yn wlyb gan ddagrau. Yna, dywedai yn dawel a gostyngedig wrth y rhai nad oeddynt wedi derbyn Crist am beidio canu, "gan," meddai, "nas gellwch ganu o'r galon." Tra yr oeddynt yn canu, rhodd- odd Mr. Roberts ci ben rhwng ei ddwylaw, a gwelid ei holl gorff yn cael ei dynu gan ryw allu anweled- ig. Ymhen ychydig amser cododd i fyny, a'i wyneb yn wlyb gan ddagrau—dagrau yn dv/yn olion ym- drech enaid gyda Duw. Gweddiai pawb trwy y lie, Yn y set fawr torodd fy nghyfaill William Rowlands, Mochdre, allan mewn gv/eddi orfoleddus, O Arg- lwydd," meddai, "tro wyneb y bobl i Galfaria." Amen, Amen," llefai yr holl dorf. Yn cael ei orchfygu gan ei deimladau. Cododd Mr. Roberts ar ei draed, a dechreuodd siarad am yr angenrheidrwydd i bawb feddai ran mewn enili eneidiau gael calon bur. "Eta," sylwai, nid oedd hyn yn cyfreithloni rhai anychweledig a ddywedent 'eu bod hwy cystal a hwythau.' Y cwestiwn yw," meddai yr Efengylydd, gyda rhyw nerth a dylanwad, a oeddynt gystal a Christ." Ond nis gallai fyned ymlaen. Yr oedd mewn ym- drech gyda'i deimladau. Cwnai bob ymdrech i'w cadw dan ei lywodraeth. Dechreuodd fyned rhag- ddo gyda'i sylwadau, ond nis gallai; torodd i lawr yn hollol. Taflodd ei hun ar y pulpud, wylai, ac ocheneidiai fel pe y buasai mewn rhyw bangfeydd ofnadwy. Parodd yr olygfa hon i iasau oerion gerdd- ed pawb. Syrthiodd i lawr, gan wylo ac ocheneidio. Yr oedd yr olygfa hon arno yn rhywbeth dieithr, ac yn cario ryw ddylanwad rhyfedd. Clywid swn canoedd yn wylo. Ofirymid gweddiau at Dduw yn mhob ran o'r addoldy. Yr oedd yn ofnadwy. Yr oedd baich Gair yr Arglwydd yn llosgi ynddo, ac Ysbryd Duw yn cyniwair drwy y lie. Wedi hyn cododd ar ei draed, a gwen siriol ar ei wyneb. Trodd ddalenau y Beibl. Ond eto rhoddodd ei ben rhwng ei ddwylaw, a disgynai i lawr ar ei liniau yn y pulpud allan o olwg y gynulleidfa. Yna dechreu- odd un ymhen draw y capel weddio am i'r Ysbryd ddyfod i lawr gyda nerth anorchfygol. Yr oedd y teimladau erbyn hyn yn anorchfygol. Yr Amenau i'w clywed trwy y He. Gweddiai un arall am i'r Arglwydd symud pob peth sydd yn rhwystr i'r Ys. bryd achub. Yr oedd y lie yn ferw gwyllt. Yna cenid emyn er rhoddi mynegiad i'r teimladau cryf- ion oedd yno. Wedi hyn cododd Mr. Roberts ar ei draed gyda'i deimladau i bob ymddangosiad dan ei lywodraeth. Nid gwendid yw hyn. Yna. dechreuodd siarad. "Ac," meddai, buoch yn ymyl cael eich harwain at y Gwaredwr neithiwr, ond dywedodd yr Ysbryd wrthyf nas gallech gael y fendith neithiwr, ond y bydd i chwi ei chael heno. Daeth yr Ysbryd yma, Peidiwch a bod yn oer. Y mae calon yr Arglwydd yn gynes atoch chwi bob amser. Bu Crist farw drosom oil. Bu farw troswyf fi." Ar hyn gorchfygwyd ef yn llwyr eto. gan ei deimladau angerddol. Syrthiodd ar y pulpud, wylai, ocheneidiai, a gwaeddai, "0! Iesu mawr, O! Iesu mawr." Ymhen draw i'r capel gwaeddai hen wr, a'r dagrau yn treiglo ar hyd ei ruddiau: 0! Dad, symud ymaith y baich oddiar dy was." Ym- hen ychydig daeth yr Efengylydd ato ei hun" Ac," meddai, "gallai fod rhai o honoch yn tybied mai gwendid yw hyn, ond," dywedai, "mi a ddymunwn i chwi oil deimlo yr hyn yr wyf fi yn ei deimlo. Pa fodd y gallwn fod yn oer ac yntau wedi gwneyd cymaint drosom? Rhoddodd i ni Ei unig-anedig Fab drosom." Ac yn awr y mae gwen siriol i'w weled ar ei wyneb, a'r cyfarfod yn llawn brwdfryd- edd. 0 hyn i'r cliwedd yr oedd yn ogoneddus. Ar un adeg ynddo. gan ryrn y dylanwad, yr oedd yno bron bobpeth yn myned ymlaen, degau yn gweddio, eraill yn dweyd adnodau, rhai yn canu, a thystiol- aethau yn cael eu rhoddi. Wrth weled y fath an- nhrefn, ond mewn gwirionedd trefn yr Ysbryd, cod- odd Sais i fyny, a cheisiodd ostegu pethau. Na/' meddai Mr. Roberts, "gadewch iddynt, gall Duw glywed a deall y cwbl." Bu gorfod arnaf oherwydd y gwres a'r tyndra fyned allan. Nis gallwn oddef yn hwy. Ond tua deg o'r gloch llwyddais i gael myned i fewn trwy anhawsder mawr. Y peth cyntaf a glywais oedd cawod o adnodau yn disgyn .g:an y dorf. A dyma'r seiat fwyaf dedwydd y bum' ynddi erioed. Pawb bron yn dweyd adnod; tra yr adroddai eraill eu profiad. Yn sydyn, dacw'r Diwygiwr yn cymeryd i fyny yr adnod, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi." Gwnaeth i'r holl dorf ei had- rodd gydag ef dair gwaith yn Gymraeg a Saesneg. Yr oedd erbyn hyn yn tynu at un ar ddeg. Wele Mr. Roberts yn codi i chwilio am ei gob i hwylio myned allan, "ond meddai, cyn eich gadael dy- munwn d dweyd gair wrth yr anghredinwyr, a dyma to Wedi i chv/i fyned i'ch ystafell wely heno, ewch ar eich gliniau, a dywedwch fel hyn Dyma fi yn myned i gysgu heno, ond yn golledig." Dywedodd hyn gyda rhyw eneiniad a nerth ag oedd yn cario rhyw ddylanwad rhyfedd ar bawb, ac mi gredaf yn fwy felly ar yr anghredinwyr na neb arall. Wel, dyma fi wedi adrodd yn onest hanes cyfar- fodydd Evan Roberts yn Nantymoel. Ac yn ddi- ddadl y maent ymhlith y rhai rhyleddaf a welais erioed. Yn awr fy rheswm dros eu desgrifio mor fanwl oedd er mwyn parotoi pobl Sir Fon pa fath gyfarfodydd a pha beth hefyd i ddisgwyl oddiwrth .y Diwygiw-r pan ddaw yma. A gaf fi yn ostyngedig apelio atoch chwi, fechgyn a merched ieuainc Sir Fon, i neillduo rhai o'ch cyfarfodydd i weddio yn un pwrpas am i Dduw anfon ei Ysbryd ar sail y Gwaed gyda'r llestr ethol- edig hwn o'i eiddo i fod yn foddion i gyrchu y gweddill i'r diogelwch; ac i wresogi lliaws sydd eto yn ein heglwysi heb deimlo nerthoedd y tra- gwyddol Ysbryd yn Niwygiad 1904 a '05, Os caf hamdden, ceisiaf ysgrifenu eto benod neu ddwy ar yr argraffiadau a wnaeth Mr. Roberts arnaf,

[No title]