Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Rhaio RyfedfcSodau y Diwygiad…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhaio RyfedfcSodau y Diwygiad yn y GoffSeddm GAN DR. PHILLIPS, TYLOliSTOWN. II. Rhvfeddodau y Cyfarfodydd Diwygiadol cymysg y Gogledd. Cyfarfodydd y chwiorydd yn unig fu dan sylw genym yr wythnos ddiweddaf; ac fel y dangoswyd, rha.i rhyfeddc I yw y rhai hyn. Wedi ysgrifenu yr wythnos ddiweddaf, bum mewn tri eraill o honynt. Y nodwedd ryfedd yn y tri yma, sef rhai Conwy, Glanconwy, a Llandudno Junction, oedd wylo a distawrwydd llethol. Ychydig dorodd allan i v/eddio, oblegid fod dwysder y teimladau yn ormod i ganiatau ffurfiad geiriau a brawddegau. Wylo ac ocheneidio yn brudd a gwasgfa deimladol oedd yn teyrnasu yn y cyfarfodydd hyn. 1 Gwaeddodd un wraig yn. Nglan Conway" Canwcn chwiorydd," a chychwynodd don ei hun; ond gormod oedd dyfn- der y teimlad i allu myned drwyddi. Wedi gorphen yx odfa yn Llandudno Junction, daeth gwraig ataf dan. wylo, a dywedodd 0, na chawn gynyg ar fagu fy mhlant unwaith eto, i gael rhoddi gwell esiampl iddynt," yna torodd i wylo nes methu dweyd gair yn mhellach. Tri chyfarfod mawr eu dwyfoldeb oedd y rhai hyn er eu distawrwydd. Gwnant argraff ddofn, a bydd eu canlyniadau yn fawrion. Ond am ryfeddodau y cyfarfodydd cymysg y golygaf ddweyd gair yr wythnos hon. Dechreuwn yn Mhwllheli fel g/da chyfarfodydd y chwiorydd yr wythnos ddi- Y cyfarfod mawr y cododd y llanw ysbryd- ol ,i'w fan uchaf yw yr unig un y sylwn arno. Nos lau, Ionawr 12, oedd hyn. Codai y llanw o nos i nos, ac amlwg oedd fod yr argae i dori. Wedi gor- ym.daith fawr drwy y dref, llanwyd capel Salem (.\T'.C.)", a'r festri, hyd y dalient, a chyn hir torodd y tan allan yn y festri, nes cario pob peth o'i flaen. Cerddai rhai yn ol a blaen o'r capel i'r festri, a dechreuodd pethau ymgynhyrfu yn ofnadwy yn y capel., Rhaid fu i'r pregethwr dewi, ac aeth yn weddio drwyddi draw dros y capel. Anmhosibl dar- lunio yr olygfa ryfedd, er fy mod yn y pulpud yn syllu arni. Diau fod 2,000 yn y capel; oblegid nid oesfail heb ei lenwi hyd yn nod y ffenestri. Un, berw mawr yw y dorf yn awr,—-gweddio, canu, can- mol, a gorfoleddu sydd ar bob tu. Wedi cael ychydig ddistawrwydd, ac i'r dorf ymdawelu. aeth- uni i'r' festri, a dyma un o'r golygfeydd rhyfeddaf a welais yn ystod y diwygiad. Oddigerth tua 8 i 12 o chwiorydd sydd ar eu gliniau, y mae pawb ar eu traed, ac yn haner dawnsio gan orfoledd ysbrydol. Saif amryw ar eu traeds ar sills y ffenestri a'u dwylaw i fyny; cyfyd rhai eu cadachau poced i fyny gan eu chwifio, a gwaeddi Gogoniant a Diolch Iddo try rhai eu gwynebau at furiau y festri gan weddio yn'ddidor; chwardda eraill gan ddwyfol lawenydd. Yr oedd y lie o'i gyffelybu fel pe buasai 1,000 o adar wedi cydgyfarfod, a phob un a'i swn ei hun gariddo. Yr oedd cael cyfleusdra i ddweyd gair yn anmhosibl, fel ag i neb i'w deall. Ni feddyliai neb yma am ddeall iaith lefaredig eu gilydd; ond yr oedd yno bawb yn deall iaith calonau eu gilydd. Hwh yw y peth pwysig mewn diwygiad, ac nid y llall. Siarad gormod a'n deall y byddwn a'n gilydd, a rhy fach a'n calonau. Calonau yn siarad wrth galonau oedd yr oil yma. Mor llwyr yr oedd y dorf wedi anghofio eu hunain, fel y clywais fod un yn prysur dynu ei esgidiau ocldiar ei draed dan ddylan- wad y syniad o sancteiddrwydd y lie yr oedd ynddo a bod un arall mewn rhyw lesmair dwyfol yn dech- reu diosg ei ddillad oddiam dano. Hawdd iawn credu hyn, oblegid llwyr anghof y bobl o honynt eu hunain. Pan oedd y cyffro mawr hwn yn myned yn ei flaen, rhedodd Mrs. Jones, gwraig cyn-faer Pwllheli, i godi ei dau fachgen bach o'r gwely i gael golwg ar Ddiwygiad dechreu 1905 yn ei ogon- iant; gwisgodd hwynt ar frys, a dygodd hwynt i'r capel. 0, ddwyfol weithred! YI" oedd angylion gororau y gwawl yn canu nes synu y nefoedd wrth •weled y fam anwyl yn gwneyd y fath weithred a Iesu Grist yn cofio am ei fam yn ei ddwyn ef i Jeru- salem pan yn 12eg oed i weled cymanfa fawr y genedl ar Wyl y Pasg. Gwelai y Ceidwad mawr fod dyfodol y genedl yn ddiogel cyhyd ag y caiff gadw mamau fel yma. Llawenychai yn yr Ysbryd ar ei orsedd dragywyddol wrth feddwl fod mamau yn datguddio ei faAvrion fwriadau i'w plant ar fyn- yddau, yn nyffrynoedd, a threfydd Cymru. Wedi cael' ychydig dawelwch yny festri oedd yn awr wedi ei gorlenwi gan bobl o'r caDel, gwaeddwyd am or- ymdaith drwy y dref, er ei bod yn 10.30 y nos. Yn y fan wele 2,500 ar yr heol yn barod i'r ymgyrch. 0 fiaen y capel siaradodd a gweddiodd y Parch. S. Evans, B.A., yn'fyr cyn cychwyn, a ffwrdd a'r dorf drwy y dref dan ganu "Marchog, lesu, yn llwyddianus." Un'o'r pethau mwyaf rhyfeddol oedd clywed y bass wrth ganu yr emyn yma ar y don Ebenezer. Mor nerthol oedd y canu, nes y crynai gwydr y ffenestri a llechau ysgeifn ar fargod rhai o'r tai gan y symud- iadau cryfion a wnai yn yr awyr. Dychrynai an- nuwiolion yn eu gwelyau wrth wrandaw ar y canu, a chyfaddefai rhai dranoeth eu bod wedi myned allan trwy ddrws y cefn rhag i'r diwygwyr ddyfod i'w tai. Bu y canu yma yn unig,- yn foddion i yru saethau argyhoeddiadau i galonau amryw. Ar -ol myned drwy y dref, dychwelwyd i'r capel, a gorlanwyd ef mewn ychydig fynudau. Gwelwyd ar unwaith fod y lie ynjlawn. ,taji ysbrydol, a dyma ail adroddiad or cyfarfod cyntaf am droa awr o amser. Gweddir a gorfoleddir drwy y capel. Draw wrth y drws wele Mrs. Griffiths y factory, gwraig wylaidd a boneddig- aidd iawn, yn gweddio gyda'r fath nerth nes y clywir hi drwy yr holl adeilad eang; a lliaws ereill o wragedd a merched nad wyf yn gwybod eu henwau yn ei dilyn. Adnabyddwn wrth ei hym- ddangosiad eu bod yn rhai o'r dosbarth goreu feddai y dref. Y mae pob swildod ac ofn wedi cilio, a phawb yn arilwys- eu calonau 9 flaen Duw fel plant ar yr aelwyd. Safai un yn y set fawr, a gweddiai yn gyson, gan gau ei ddau ddwrn fel pe yn ymladd a'r diafol. Bu wrtbi o l'eiaf am haner awr. Ar ganol y llawr gwelaf gadach coch i fyny gan un o hen batriarchiaid '59, ac yn ei chwifio a gwaeddi Ar ei ben y byddo y goron," ac o'i flaen deil hen chwaer ati am lawn ugain munyd i ganmol yn ddi- dor. Yn agos i i o'r gloch, ceisiwyd cael yr odfa i ben, a llwydclwyd trwy fawr anhawsder. Wedi myned allan, can wyd drwy y dref drachefn gan y bobl ieuainc. Yn y cyfarfod hwn yr oedd llond cerbyd o Rydyclafdy, y rhai a gyrhaeddasant y pentref am tua 3 o'r gloch y bore. Yn ymyl y capel, gwnaethant i'r gyrwr sefyll; ac aethant oil i lawr i gynal cyfarfod gwedcli yn ymyl y gareg y pregeth- odd Howell Harris arni ar ei 37MWeliacl cyntaf a Lleyn. Yr adeg hon yr oedd Harris dan ei glwyfau oblegid erleaigaeth, a phregethodd ar gareg yn ymyl yr eglwys. Y mae Methodistiaid Rhydyclafdy wedi danger sel ardderchog, drwy fynu y gareg hon wedi ei symud, a'i gosod yn ofalus ar fan amlwg o flaen eu capel, ac wedi gosod colofn o feini dani, ac ar- graff yn dangos mai arni hi y pregethodd y seraff o Drefecca y tro cyntaf y daeth i Leyn. Rhof yr arjgraff ar ddechreu yr ysgrif nesaf. Dyna beth bendigedig oedd gweled bechgyn a merched ieuainc Rhydyclafdy ar eu gliniau am dri o'r gloch y bore o gwmpas y gareg hon yr edrychir arni fel y peth mwyaf cysegredig gan yr eglwys. Cafwyd hwyl yn y cyfarfod hwn a dorodd yn orfoledd mawr. Boreu dranoeth, am 10, gwelaf y rhai hyn bron oil yn Llanbedrog, a Beren, awdwr y penillion anfarwol, a eilw ef wrth yr enw Hardd Rosyn Saron,' gyda hwy. Aeth y cyfarfod hwn ar dan yn y fan; oblegid yr oedd pobl Rhydyclafdy a Phwllheli heb golli Ysbryd y noson gynt. Yna clywais weddiau rhyfeddol; ac nid anghofiaf un bachgen yn gwaeddi, Diolch i Ti, Arglwydd, am fy achub yn fy llawn nerth, er mwyn i mi allu gwneyd rhywbeth drosot." Cydiodd y gwres mawr oedd yn y bobl hyn yn y cyfarfod, ac unodd pobl Llanbedrog gyda hwy, fel y cafwyd bore bendigedig, ac amryw yn rhoddi eu hunain i Grist. Am 2, gwelwn yr un bobl eto yn gwneyd am Rydbach, lie yr aeth y gynulleidfa yn goelcerth o dan, a chwech yn rhoddi eu hunain i'r Iesu ar y diwedd. Dychwelodd pobl Rhydyclafdy i'w cartref y rhan fwyaf erbyn cyfarfod y n'os, a bu yno le ofnadwy. Yr oedd dwy ferch Bereh wedi llewygu yn ngwres ofnadwy cyfarfod Llanbedrog, yn y bore. Wedi dadebru, cahodd un o honynt yn swynol iawn. Dywedent wrth eu tad yn y ty capel, Er ein bod wedi canu llawer ar Hardd Rosyn Saron,' ni welsom ef felly hyd heddyw. 0! mae o yn hardd." Canai un o honynt yr 'harmonium' y noson hon yn Rhydyclafdy; ac yn sydyn dacw hi ar ei gliniau i weddio; ac yn y fan wele ei chwaer yn y pen arall i'r capel yn ei dilyn. Fel fflachiad mellten, dyma ryw ddylanwad anorchfygol yn treiddio drwy y capel. Beth sydd nesaf? Un dwndwr mawr drwy y capel, a Beren wedi colli ei hun yn gwaeddi: Arglwydd mawr, yr ydym wedi pryderu llawer am y bobl ieuainc yma; bellach dyma hwy yn dy law Di, a rhyngoch Di a hwy." Torodd y chwiorydd allan o'r bron i weddio, gor- foleddu, a chanu, a bu lie rhyfedd yno. Cafwyd cyfarfod lliosog iawn yn Pentre Uchaf yr un adeg a'r cyfarfod yma yn Rhydyclafdy, ac arhosodd am- ryw yn y selat; ond y peth mwyaf torcalonus am hwn yw, fod yno ddyn ieuanc yn gwrandaw yn ei ddagrau, yr hwn hyrddiwyd i dragywyddoldeb cyn canol dydd dranoeth, trwy i'r ceffyl redeg i ffwrdd arno. Da oedd iddo ei fod yn fachgen duwiol. Byddaf yn traethu ar gyfarfodydd rhyfedd Ffestin- iog, a manau eraill, yr wythnos nesaf.

DINBYCH.

Y DlWYGtAD YN CESAREA, ARFDN,