Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DIWYGWYR A DIWYGIADAU CYMRU.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIWYGWYR A DIWYGIADAU CYMRU. ■ GAN Y PARCH. EVAN DAVIES, TREFRIW. IV. Y Diwygiad Methodistaidd, Yn y blynyddoedd o 1737 hyd 1751 yr oedd y Diwygiad yn myned yn ei flaen yn gyflym. Yr oedd y Diwygwyr fel aelwyd o dan yn Z, y coed, ac fel ffagl mewn ysgub o wellt yn goddeithio ac yn ysu pob peth oedd yn ceisioi ei atal. Nid oedd gwawd nac erledigaeth yn llwyddo i'w darfu, ond ei enyn i fwy o ang- erddoldeb. Yn y flwydd'yn 1742, y mae How- ell Harris yn ysgrifenu at George Whitfield fod "llwyddiant ar weinidogaeth y brawd Rowland, a llawer eraiil. Y mae y bobl yn cael eu clwyfo wrlh yr ugeiniau, ac yn ym- gasglu i wrando y gair wrth y miloedd ac y mac yn awr ddeg o wyr Egdwysig yn cael eu harddel yn rhyfeddol gan yr Arglwydd Iesu." Yn y flwyddyn 1743, galwyd ar Wil- liams Pantycelyn i dori ei gysylltiad yn llwyr a'r Eglwys Whidol, a cliysegru ei amser yn llwyr i bregethu i'r Methodistiaid, ac i gYll- orthwyo Harris a Rowlands yn y gwaith o arolygu y Cymdeithasau lliosog oedd; wedi eu Z-1 ffurfio ymhob rhan o'r wlad. Yr oedd yr Esgob cyn hyny wedi gwrthod iddo gyflawn urddau am ei fod yn pregethu tuallan i'r eglvvysyddi yr oedd yn giwrad ynddynt, ac yn gwneyd hyny gyda zel i argyhoeddi dynion. Yr oedd gan Williams allu arbenig i gadw y seiadau yn ddyddorol ac adeiladoJ. Byddai yn fudiliol i bregethwyr a blaenoriaid ddar- llen ei lyir ar D-drws v Seiat Brofiad. \n y flwydd'yn 1751, cymerodd yr ymraniad gofidus-jc rhwng Harris a Rowlands. Yr hyn a'j riachlysurodd oedd i Howell Harris dybied iddo gael rhyw ddatguddiad; eithriad- ol o tawrodd a dwyfoldeb person y Gwaredwr, fei y llefarai am ei farwolaeth fel marwol- aeth Duw," ac am waed Crist fel "Gwaed Duw." Parodd yr ymadroddion hyn, a'u cy- ffelyb dramgwydd mawr i'w frodyr; ac yn y diwedd ymwahanodd oddi wrthynt. Cym- erodd yr ymwahaniad le yn ffurfiol mewn Cymdeithasfa yn Llanidloes yn y flwyddyn a nodwyd. Ni wydidai llawer o'r aelod,au cyffredin fawr am achos yr ymraniad, ond glynent yn ffyddiog yn y naill neu y llall o'r ddau arweinydd yn ol eu syniad am danynt a'u teimlad tuag atynt. Cododd teimladau Z, cry lion rhwng y ddwy blaid; a bu hyn yn rhwystr mawr i'r X>iwygiadi, aic yn niwed mawr i grefydd yn Ne a Gogledd Cymru. Y mneillduodd Harris i Drefecca; aeth llawer o'i ganlynwyr ato yno, a bydd'ai yntau yn pregethu icldynt, ac yn eu hadd'ysgu yn mheth- au crefydd gyda dyfalwch mawr. Yn- glyn a'r ymraniad oerodd llawer o sel bre- gethwrol hyd yn nod Rowlands, a Howell Dav- ies, WiHiams, Pantcelyn, ac eraill. Collwyd yr arolygiaeth fanwl ar y cymdeithasau, dis- tawodd amryw o'r cynghorwyr, a diflanodd amryw o'r cymdeithasau, a daeth gwedd fwy gvvywedig ar yr holl achos. Trodd llawer o'r Z, aelodau yn ol i'r Eglwys. Ymunodd amryw a'r Annibynwyr, rhai a'r Bedyddwyr, ac e,raill a'r Presbyteriaid. Bu un mlynedd ar ddeg o ddiflaniad a diffrwythdra ar y Diwygiad, fel yr oedd yr achos Methodistaidd yn wanach o lawer pan yr ymunodd Rowlands a Harris a'u gilydd, yn y flwyddyn 1762, nag yn adeg yr ymraniad yn 1751. Ond yn gydamserol a'r ymuniad hwn rhwng y ddwy blaid, fe gaf- wyd ymweliad grasol oddiwrth yr Arglwydd, adfywiodd y cymdeithasau, daeth yr un ar- ddeliad ar y pregethu ag yn y blynyddoedd cyn yr ymraniad, a dychwelwyd canoedd ar ganoedd o wrancawyr mewn byr amser. Gan nad oedd gan y Tadau Methodistaidd un bwriad i gyfodi enwacl newydd yn Nghymru, hwyrfrydig fuont i godi capelau Z., L-1 lie yr oedd gwir angen am hyny, a phryd yr oedd nifer y dychweledigion a nerth y cym- deithasau yn gwneyd y baieh o adeiladu yn ysg-afn iddynt. Cyn adeg yr ymraniad, nid oedd gan y Methodistiaid fwy na chweeh o gapelau drwy holl Gymru, ac ni wnaed fawr o gynydd gydag adeiladu capelau mwy na dim arall hyd nes yr ymunodd y pleidiau drachefn. Wedi yr ymuniad, cacd adeg 0' lwyddiant mawr ar y gwaith yn ei holl ran- au; adeiladwyd amryw gtpelau, bob blwy- ddyn, fel erbyn y flwyddyn 1799 yr oedd nifer addoldai y Methodistiaid yn 165. Bu arddel- iad anarferol ar weinidogaeth Rowlands o adeg yr ymuniad hyd ei Farwolaeth a chodwyd gwrthwynebiad cryf iddo yn yr Eglwys. Tra yr oedd ei Weinidogaeth i raddau yn ddi- effaith, ac heb fod dan arddeliad amiwg", yn adeg yr ymraniad, yr oedd Rowlands yn cael perffaith heddwch yn yr Eglwys; ond pan ddaeth yr adfywiad, ac i'r nerthoedd gael eu teimlo dan ei weinidogaeth, y miloedd yn ym- gasglu i wrando arno, ac yntau yn pregethu yn yr awyr a gored mewn manau a ngliysegr- edig, cododd yr Esg-ob erledigaeth arno, a throwyd ef allan o'r Eglwys yn y llwyddyn 1763. Adeiladwyd capel iddo- yn Llangeitho hcb fod nepell oddiwrth Eglwys y plwyf, yr hwn oedd o ran mainlioli yn bymtheg llath o hyd wrth bymtheg- Hath o led. Ac y mae pob hancsydd diduedd yn dvveyd na phrofwyd1 yn un man dd'ylanv/adau grynuisach, wedi yr oes apostolaidc1 nag a deirnlwyd' dan weinidog- aeth Rowlands yn y He hwn. Wedi marwolaeth Harris a Rowlands, achos goildus yn hanes Methodisfiactli Cymru oedd diarddeliad. Peter Williams, am yr ystyr- id ei fod yn gwyro at Sabeliaeth yn ei olygiad- au ar Athrawiaeth y Drindod. Bu syhv ar ei achos yn ystod by wyd Rowlands, a gwrth- wynebid ei olyg'iadau yn oleu a phenderfynol gan Richard Tibbot, LJanhrynmair, one] eiriol- odd Rowlands droslo, ac addawodd yntau beidio llusgo ei syniadau ar y pen hwn i'w hregethau. Onclymddengys na chadwodd at ei addewid yn honot, a plian yr aed i drafod y mater eilwaith, yniddangosai yntau yn fwy ystyfnig- ac anhybiyg-, fel y pender!yn\vyd ymwrthod ag el tel. pregelhwr perthynol i'r Methodistiaid. Ymadavrodd rhai a'r ("vfun- deb y pryd hwn, ond cr pob peth myned* ym- laen yr oedd y gwaith, a llwyddo yn gyflym. Bu llawer o'r gwyr a enwyd yn pregethu yr efengyl gyda grym. ac efleithiolrwydd' trwy holl siroedd Cymru, ac effeithiau daionus yn dilyn eu gwaith, er iddynt fod mewn enbyd- rwydd am eu heinioes. 131..1 Howell Harris, Daniel Rowlands, Williams, Pantycelyn, Peter Williams, David Morris, Twrgwyn, ac eraill ar deithiau meithion yn y Gogledd, ac mewn canlyniad1 i'w gweinidogaeth nerthol dychwelid canoedd at yr Arglwydd. Heblaw y rhai a enwyd, gellid nodi William Davies, Castellnedd; David Jones, Llangan; John Williams, Lledrod; a Charles o'r Bala, fel offeiriaid oedd yn llafurio yn egniol g-yda y Methodistiaid oil yn weinidogion yn Eglwys Loegr. Yr oedd rhai pregethwyr hefyd a'u gweinidogaeth mor nerthol a hwythau, megis William Llwyd, o Gaio; D. Morris, Twr- gwyn, a Robert Roberts, o Glynog. Ar eu hol hwy ni bu y Cyfundcb yn ddiffygiol o ddi- wygwyr yn meddu gweinidogaeth nerthol a arddelld yn amlwg i droi eneidiau, megis Ebenezer Morris, Ebenezer Richards, John Elias, Michael Roberts, a lIuer-aill. Cychwyn- wyd y Cyfundeb Methodistaidd trwy bregethu nerthol;' a thrwy nerth ei weinidogaeth y llwyddodd, ac y llwydda eto. "Trwy bro- ffwyd y dug yr Arglwydd Israel o'r Aifft, a thrwy broffwyd y cad wyd ef." Am deithiau a llafur y prif Ddiwygwyr Methodistaidd, gall eu marwnadwyr ddweyd yn well na neb arall. Am Howell Davies y mae Williams, Panty-

Y FRWYDR YN MEIRION.