Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CYFLWYNIAD ANERCHIAD I'R PARCH.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFLWYNIAD ANERCHIAD I'R PARCH. WILLIAM JAMES, B.A., D.D., MANCHESTER. Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn nghapel Moss Side, Manchester, ar yr 28ain o Chwefror, y Parch. William J. Roberts, Warrington, yn y gadair, cyflwynwyd Anerchiad (' illuminated address in book form') i'r Parch. William James, B.A., D.D. Y Llywydd a ddywedai nad oedd am gymeryd dim o amser y cyfarfod ei hunan, ond galwai ar yr Ysgrifenydd i ddweyd pa fodd y daeth y peth oddi- amgylch. Y Parch. Edward Humphreys, Rochdale, yr Ysg- rifenydd, a ddywedai fod yn ddiameu fod amryw o aelodau y Cyfarfod Misol, fel yntau, wedi teimlo y dylid gwneyd rhywbeth er dangos eu teimladau da tuag at Dr. James, yr hwn oedd wedi bod yn Manchester am yn agos i 40 mlynedd, ac na threul- iodd un awr segur, ond gwnaeth waith mawr iddynt hwy fel Cyfarfod-Misol ac fel cylch. Darfu iddo ef (Mr. Mr. Humphreys) grybwyll wrth gyfaill neu ddau mai da fyddai symud yn y peth; cydolygai y cyfeillion, ac anogent fod y peth yn cael ei gario allan. Anfonodd lythyr cyfrinachol at swyddogion yr eglwysi, y rhai a gymeradwyent y symudiad, a gresynai rhai na buasai y peth wedi ei wneyd er's talm. Tybiai eraill fod y peth a awgrymid yn rhy fach, ac y dylid gwneyd tysteb o £.500 neu £ 1,000. Ond teimlai ef nad oedd digon o arian yn y ddinas i ddangos y gwerth a rodclent ar Dr. Jones ac heblaw hyny, gwyddent fod Dr. James wedi priodi, a phe rhoddid swm o arian iddo, prin y buasai yn ei weled (chwerthin). Yr oedd yr Anerchiad bellach yn barod i'w gyflwyno i Dr. James. Mr. William Jones, o eglwys Heywood Street, a ddywedai fod yn dda ganddo ef fod hyn wedi dyfod oddiamgylch, oherwydd ei fod yn rhoddi cyfleusdra iddynt roddi amlygiad o'u gwerthfawrogiad o lafur Dr. James yn eu plith ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd Dr. James wedi bod yn wael ei iechycl yn cldi- weddar, ac yr oedd ar rai o honynt ofn colli y cyfie i ddweyd wrtho beth oedd eu barn am dano, a'u gwerthfawrogiad o'i lafur, yr hyn a wneid yn yr Anerchiad, a hyny mewn geiriau gwell nag y gallai ef. Nid oedd neb oedd yn dyfod i Heywood Street yn fwy cymeradwy fel pregethwr nac yn cael ei barchu yn fwy na Dr. James. Yr oedd wedi bod yn eu plith am flynyddoedd lawer wedi bod gycla hwynt ar dywydd braf, pan yr oedd yr haul yn tywynu, ac wedi bod gyda hwynt mewn ami i ystorm hefyd. Cawsant ei gydymdeimlad a'i arweiniad, ac yr oedd yn arweinydd doeth a diogel. Fel pregeth- wr yr oedd wedi gwasanaethu yr eglwysi y iuallan i'w eglwys ei lnm, Moss Side, a gallai "efe (Mr. Jones) dystio ei fod wedi rhoddi iddynt fwvd crvf ac iachus ar hyd y blynyddoedd, a gobeithiai eu bod wedi tyfu rhyw gymaint dan ei weinidogaeth ni roddai iddynt cldim amheus, ond yr hyn oedd yn cydfyned a'r gwirionedd bob amser; y graig dan ei draed bob amser pan yn pregethu, ac yn eu harwain i'r porfeytld gwelltog. Ambell dro byddai y bwyd yn rhy gryf i rai, ond yr oedd y mwyafrif mawr yn yr eglwysi wedi cymeryd mantais ar a Z, gwerthfawrogi gweinidogaeth Dr. James ar hyd y blynyddoedd. Cresyn fuasai colli dim ychwaneg o amser heb roddi amlygiad i Dr. James o'u teimlad- au da tuag ato a'u gwerthfawrogiad o hono, a go- beithiwn y bydd y peth o dipyn o gysur a help a chalondid iddo yn ei hen ddyddiau. Yr oedd y lie yr oedd Dr. James wedi ei enill yn ein syniad am dano yn gyfryw ag y gallai unrhyw- weinidog fod yn falch o hono. Clywsai lawer o bregethau ganddo ag y buasai yn dda ganddo eu clywed a'u gweled eto, a gobeithiai y byddai iddo gyhoeddi cyfrol drwehus o honynt yn gynysgaeth iddynt, ac yn goff- adwriaeth o'i lafur yn eu plith. Mr. John Jones, o eglwys Heywood St.-Teimlai yn rhwymedig mewn mwy nag tui ystyr i ddweyd rhywbeth ar yr amgylchiad. Yr oedd ganddo feddwl mawr o Dr. James bob amser, a da oedd ganddo gael bwrw ei hailing i hyrwyddo y symudiad. Ychydig ydoedd, ond nid arian oedd ar Dr. James eisieu, ond amlygiad o'u teimladau da tuag ato, a'u bod yn ei werthfawrogi. Daethai ef i Manchester oddeutu dwy flynedd o flaen Dr. James, ac felly clywsai gymaint a neb o bregethau Dr. James. Yr oedd wedi treio cyfrif pa sawl pregeth a glywsai ganddo, ond yr oeddynt mor liosog nas gallai eu cyfrif. Yr oedd yn cael mwynhad ac adeiladaeth wrth ddarllen ei nodiadau o honynt, ac yn teimlo ei gyfrifoldeb yn eu gwyneb. Llawenhai yn fawr yn y ffaith fod yr anerchiad hwn yn cael ei gyflwyno i Dr. James, a g;obeithiai y caffai adferiad llwyr a byw yn hir i bregethu, ac i fod o wasanaeth iddynt. Mr. Griffith Ellis, o eglwys Moss Side.—Teimlai yn ddiolchgar iawn am y symudiad hwn, a gresyn na buasai rhywbeth o'r fath wedi ei wneyd er's blynyddoedd lawer. Nis gallai neb o honynt ddweyd pa mor bell yr oedd dylanwad Dr. Tames wedi cario yn eu plith. Cyfeiriai un cyfaill fod. Dr. James wedi bod mewn ystormydd yn eu plith. Bu ef (Mr. Ellis) amryw weithiau yn un o nifer o frodyr wedi eu dewis gan y Cyfarfod Misol i fyned i rai eglwysi i geisio tawelu ystormydd. Yr oedd nerth Dr. James a gwerth ei garictor ef ei hun mewn amgylchiadau o r fath yn gyfryw nad oedd modd rhoddi pris arn- ynt. Yr oedd ei werth wedi ei brofi. mewn amryw o eglwysi y cylch yn y cyfeiriad yna. Ni hoffai ddweyd mai dyna ydoedd ei werth mwyaf, ond ar yr un pryd bycldai yn golled anadferadwy bron pan y collid Dr. James o'r cylch hwn. Nis gallai ef (Mr. Ellis) ar hyn o bryd daro ei lygad ar neb i wneyd y gwaith a wneid gan Dr. James mewn llawer iawn o amgylchiadau. Nid pob pregethwr, ac nid pob blaenor, a feddai ddigon o asgwrn cefn i sefyll mewn amgylchiadau yn berffaith ddiduedd. Ac yn y peth yna yr oedd gwerth carictor Dr. James wedi cael ei deimlo a'i br'ofi, nid yn unig yn ein cylch ni, ond yn nghylch ein Cyfundeb yn Ngoo-ledd Cymru, os nad hefyd yn y De i ryw raddau, pap ddelai dechreu y flwyddyn nesaf, byddent wedi cael byw gyda Dr. James am 40 mlynedd. Gallai yntau (Mr. Ellis) ddweyd yn ddibetrus nad oedd wedi blino ar ei weinidogaeth. Yr oedd yntau wedi j'sgrifenu cryn ddrabiau o'i bregethau fiynydddedd lawer yn ol, yn enwedig pan yr oedd Dr. Griffith Parry yn y dref. Yr adeg hono yr oedd y ddau yn nerthol an- arferol. Ni wyddai a oeddynt yn ceisio rhagori y naill ar y llall. Llawer gwaith y clywsai_ ei anwyl ddiweddar gyfaill, Mr. John Jones, Ducie Avenue, yn dweyd na chlywodd efe erioed mo Dr. James yn pregethu mor ardderchog a phan yr oedd Dr. Griffith Parry yn y dref (chwer.). Ond mae yn sic fod y rhai goreu yn y cynulleidfaoedd wedi gwerthfawrogi ei weinidogaeth, ac yn parhau i wneyd hyny. Gallai ddweyd hyny yn ddibetrus, heb wenieithio dim, ac yr oedd yn dda ganddo feddwl ei fod wedi cael cyd- fyw a chydweithio a Dr. James, yn eu cylch hwy fel eglwys yn Moss Side, yn enwedig ynglyn a'r Ysgol Sul, ac yn arbenig pan yn arholydd cafodd lawer o help Dr. James, yr hwn oedd bob amser wrth law i roddi help pan fyddai angen. Ac yr oeddynt fel Cyfarfod Misol yn eu hanrhydeddu eu hunain wrth geisio dangos eu parch i Dr. James ar ol yn agos i 40 mlynedd o lafur. Y Parch. Thomas Hughes, Stockport.—Ni char- asai i'r amgylchiad hwn fyned heibio beb ddweyd gair neu ddau. Er ei fod yn un o'r rhai ieuangaf oedd yn bresenol mewn un ystyr, nid oedd ond clau weinidog yn hynach nag ef. Pan yn dod i'r Cyfar- fod Misol hwn yr oedd arno fwy o ofn Dr. James na neb (chwer.), ac erbyn heddyw yr oedd arno lai o'i ofn na neb. Yr oedd wedi ei gael yn dad yn y ffydd, ac yn gyfarwyddwr lawer gwaith. Pan yn digwydd bod mewn anhawsder elai i ymgynghori Dr. James, ac yr oedd yn meddwl y gallai sefyll at yr hyn a gynghorai Dr. James, pe bai ei achos yn myned i'r Cyfarfod Misol neu i'r Gymdeithasfa y byddai ar dir diogel. Yr oedd yn fraint iddynt fel Cyfarfod Misol gael Dr. James yn eu plith. Er mai Cyfarfod Misol bychan yr ystyrid ef, yr oedd gan- ddynt un yn aelod o hono oedd yn arweinydd i'r Cyfundeb. Yr Ysgrifenydd (y Parch. Edward Humphreys), a ddywedai iddo dderbyn llythyr, y byddai yn gam a'r llythyr iddo beidio ei ddarllen. Yr oedd oddi- wrth hen gyfaill, a chyfaill ar y pryd, sef Mr. John Edwards, Coedcymer, Dolgellau, yr hwn oedd wedi cymeryd dyddordeb neillduol yn y symudiad o'r dechreu, ac yr oedd yn oficlus ganddo nas gallai fod yn bresenol oblegid afiechyd. Dymunai Mr. Ed- wards iddo hysbysu Dr. James ei fod yn ofidus oher- wydd ei anallu i fod yn bresenol fel y bwriadai fod. Yr oedd ei feddwl yn naturiol yn rhedeg yn ol i edrych ar yr amser maith o yn agos i 40 mlynedd o bregethu rheolaidd o flwydcJyn i flwyddyn, a'r z, y pleser a'r adeiladaeth a gafodd yn gwrando ar Dr. James: pregethau rhagorol, oedd wedi gadael eu hargraff arnynt, ac ar eu bywyd byth wed'yn caent eu dyrchafu ar adenydd meddyliau aruchel a gogon- eddus am Dduw, i gymdeithas yr anweledig a'r tra- gywyddol, y byd ysbrydol a'r riefolion bethau. Ed- mygai gyfansoddiad y pregethau, eu hiaith Gym- raeg bur, a'r brawddegau wedi eu cyfleu mor ddestl- us, eglur a mawreddus; dim geiriau llanw; y meddyliau mewn logical order,' fel y dywedir; pob brawcldeg yn cynwys meddwl, ac yn gam ymlaen yn yr ymclriniaeth ar y testyn neu y mater dan sylw; dim ehediadau gwag dim afreidiol neu anmherthyn- asol; ac unoliaeth cyfan ynddynt oil. Mr. Ebenezer Williams, o eglwys Higher Ardwick, a ddywedodd iddo fod yn Manchester am dros 30 mlynedd. Dywedai un a fu gynt yn aelod o eglwys Heywood Street, fod yn rhaid dilvn Dr. James i ddeall ei bregeth. Trwy offrynoliaeth y brawd hwnw daeth yntau (Mr. Williams) i ddilyn Dr. James, yr hyn nas gallai ei wneyd pan" y daeth i'r dref; ond ymdrechodd, ac ni bu eclifar ganddo. Fel meddyl- iwr nid oedd yn adnabod neb gweU ystyriai ef yn gydradd a'r diweddar Barch. David Charles Davies, a thybiai fod yr adnodau yr oedd Dr. James wedi eu cymeryd yn destynau wedi en hegluro mewn ffordd wreiddiol nad oedd yn ddyledus i neb arall am dani. Dywedai y diweddar Ddr. Charles Ed- wards mewn cyfarfod yn yr hwn y cyflwynid rhodd o lyfrau i Dr. James, nad oedd Dr. Tames y pryd hwnw wedi cael ei le priodol yn y Cyfundeb. Ond daeth y Cyfundeb i weled ei werth, ac i'w osod yn y safleoedd uchaf y gallai ei osod, ac i edrych arno fel un o'i brif arweinwyr. Mrs. Hughes (Victoria Park), fel un o aelodau hynaf eglwys Moss Side, a ddymunai ddweyd gair. Yr oedd wedi bod yn Manchester am yn agos i 48 mlyrredd, ac yn aelod yn Grosvenor Square a Moss Side, a thybiai y gallai fyned i mewn i deimladau Dr. James oherwydd iddi hi fod flynyddoedd yn ol yn dderbynydd peth cyffelyb. Yr oedd hi hefyd tua'r un oed a Dr. Tames. Tybiai nad oedd dim a dueddai yn fwy i'w galonogi yn y gwaith nag amlygiad, mewn ffurf fel hyn, o edmygedd a gwerth- fawrogiad ei gyfeillion. Awgrymai, os oeddynt yn gwerthfawrogi gwasanaeth Dr. James mai priodol fvddai cael gwr ieuangach i ddod i'w gynorthwyo. Credai yn fawr mewn pobl ieuainc, ond yr oedd yn rhaid iddynt wrth brofiad rhai hynach. Mr. Daniel Roberts, o eglwys Pendleton.—Gallai fyned yn ol gyda Mrs. Hughes o ran ei feddwl, ond nid oedd am ddweyd ei oed (chwerthin). Cofiai v cyfarfod ymha un yr oedd y diweddar Mr. Tames Hughes, priod Mrs. Hughes, yn ysgwyd dwylaw a Dr. James yn hen gapel Grosvenor Square, i'w groesawu fel gweinidog yr eglwys. Yr oedd ganddo y parch mwyaf i Dr. James. Yr oedd eglwysi Manchester yn ddyledus iddo mewn llawer ffordd. Am amrvw flynyddoedd efe oedd yr unig weinidog yn y dref, ac yr oedd vn barod bob amser i roddi ei wasanaeth pan ofynid iddo. Yr oedd y Cyfun- deb wedi dangos ei werthfawroeiad o Dr. James. Er iddynt ar brydiau gael gwaith deall ei bregeth- au, ni ddarfu iddo ef ostwng y safon. Ni phregeth- ai ar brynciau poblogaidd, ond pregethai yr efengyl. ftb Yr oeddynt yn eu hanrhydeddu eu hunain ddangos trwy yr Anerchiad eu parch iddo a u u, mygedd o hono. Dymunai iddo lawer o oedd i edrych ar yr Anerchiad. Mr. Samuel Han nam, o eglwys Oldham.—Tel yn ddiolchgar i bwy bynag a feddyliocld am y iad hapus o gyflwyno Anerchiad i Dr. JaIr^ Gresjm na buasai y cyfarfod yn agored i fwy bresenol, fel cawsai yr eglwysi wybod beth syniad y Cyfarfod Misol am dano. Buasai yn ganddo joe buasai amser i ddweyd pa mor y ydyw ym marn yr eglwysi cenhadol, yn y r"a gg mae yn llawn cymaint, os nad yn fwy ei barch 11 yn eglwysi Manchester. Yr Ysgrifenydd, cyn darllen yr Anerchiad, a wedai mai Cymro, Mr. Llewelyn Roberts, gwnaeth. Cynwysa ddarlun o Dr. James, a ti_ar. j o'r capel; hefyd enwau yr oil o aelodau y Cyfar Misol ar hyn o bryd. Mynai Dr. James se^^i1g^ y darlienid yr Anerchiad, yn datgan llawenydd j wydd ei adferiad o'i afiechyd, a diolehgarwcp Dduw am ei roddi yn ol iddynt. Teimlid mai prio ol oedd cymeryd mantais ar y cyfle i fynegi, pe £ ent, eu rhwymau iddo, pa mor fawr y parchent t pa mor gryf oedd eu gafael ynddo, a pha in0T. tgS oedd y gwerth a roddent ar ei wasanaeth wedi p yn myned i mewn ac allan yn eu plith am yn a§ j i ddeugain mlynedd, gan argyhoeddi pob cydwyw0/ ei fod ymhob dim yn ceisio gwneyd ewyllys Arglwydd. Profodd ei hun yn ei gysylltiad a'r ej>, lwys sydcl wedi bod am gyhyd o amser dan ei oI mwyaf neillduol,! yn weinidog cymwys y Newycld, yn was da i Iesu Grist. Cyflawnodd V. ymddiriedaeth a osodwyd ynddo yn gydwybofj gyda doethineb a gras mawr. Bu ei wasanaeth e6lwysi y ddinas a'r cylch yr un mor gymejadiwyt pregethocid y Gair yn ei burdeb, traethodd gyngor Duw; ni pheidiodd gynghori, liyfforo"J rhybuddio, a cheryddu, a gwnaeth hyny bob yn ddiderbynwyneb, ac eto mewn mwyneidd S doethineb, ac fel y gweddai i athrawiaeth Bu ei weinidogaeth, ac y mae eto yn parhau i iot' yn oleu a" grymus, ac mewn awdurdod Llanwodd gylch swydd gweinidog gydag utd& neillduol, a bu ei lafur yn effeithiol er adeiladaetlj' Edrychid i fyny ato fel arweinydd y Cyfarfod Mis° ac fel gwr o gyngor ymhlith Cymry ManchesteI' Er mai Benjamin y Hvvythau ydoedd y Cyfaf*? Misol hwn, codwyd ef oherwydd cysylltiad James ag ef i safle uchel ymysg ei frodyr. Tra y gwybod am ei ofal am yr achosion yn y cylch edrycliasant gydag edmygedd, boddhad, a diolc' garweh, ar ei wasanaeth anmhrisiadwy werthfaw'f Gyfundeb y Methodistiaid yn gyffredinol, Rhoddo". ei synwyr cryf, ei. ddysgeidiaeth fanwl ac farn. addfed, a dylanwad ei brofiad, yfi gwbl 1 wasanaeth. Yi' ydoedd, er's blynyddoedd' bellacjj' yn amlwg fel arweinydd a chynghorwr yn ei gyl' oedd uchaf, a rhoddwyd -tystiolaethau mvnych °J lie uchel a enillasai yn marn ei frodyr iV swy^1 uchaf a thrwy ei osocl i arwain yn. y rnaterion af pwysig ac anhawdd; a dangosodd yntau, b°, amser, amynedd a doethineb ynglyn a phethau £ y' undebol a phethau mwy cartrefol. Cawsant ef )' mhob man, ac ar bob achlysur yn wr Duw ac yP deilwng i sefyll gyda thywysogion yr Arglwydd; Terfynai yr Anerchiad gyda dyrnuniad ar fod 1 Arglwydd gyda Dr. James byth, ac fod i wyneb Arglwydd dywynu arno ef a Mrs. James a'r teul, a'u bendithio. Mr. Edward Evans, o eglwys Higher Ardwick, t blaenor hynaf yn. y Cyfarfod Misol, a yr Anerchiad i Dr. James, a dywedai ei fod y llawen oherwydd fod y cyfeillion da oedd yn g° am y symudiad. wedi gosod arno ef yr an rhy fawr hon, nid oherwydd ei fod yn teinilo fod ynd"^ gymhwysder; yr oecld llawer o frodyr mwy cynilivV.v/ i wneyd y gwaith, ond ei fod ef yn liyiiaf 3m y C.V^C. yn bresenol. Cafodd Dr. James ac yntau eu derby yn yr un flwyddyn, ac yn yr un mis,, yn aelodau 0 Gyfarfod Misol Manchester. Daeth Dr. James y01 yn Ion awr, 1866. Yr oedd efe (Mr. Evans) V11 J dref rai blynyddoedd cyn hyn, ac yr oedd Cenha1- aeth Gartrefol yn perthyn i'r tair eglwys yn y sef Grosvenor Square, St." Stephen Street (Salfow' ac Oak Street. Ni wyddai ymha le yr oedd un 0 tri chapel pan ddaeth yma. Yr oedd Dr. James & yntau yn ieuainc yr adeg hono, yn chwim ar eu > yn cerdded yn hoewv ac yn rhedeg os byddai raid > hwy oedd y ddau ieuengaf yn y Cyfarfod Cawsai ef ei ddewis ynglyn a'r achos yn Every Cafodd gwr ieuanc ei ddewis yn genliadwr yn^}^ a'r Genhadaeth Gartrefol yn y dref—nid un y undeb, a'r gwr ieuanc. hwnw fu yn offeryn i godi achos yn Every Street. Yr oedd yntau (Mr. Eva°^ yn byw yn y gymydogaeth, a chafodd y cenhad^ ar ddeall ei fod yn medru canu tipyn, a bu J arwain y canu am rai blynyddoedd, ac yn Hi Ardwick, wedi i'r eglwys symud i'r capel newy"^ yno. Yr oedd tair o eglwysi y tuallan i'r dref,' Bury, Ashton, ac Oldham, ac yr oedd y rhai hy^o dan nawdcl Cenhadaeth Gartrefol Manchester. oedd yma nifer o 'local preachers yr adeg ^0^9' ond 'doedd yr un yn awr ni wyddai paham. Yr oeddynt yn myned yn eu tro i'r lleoedd bach hyn^ Bu ef yn myn'd fel arweinydd i ambell bregeth1^ fyddai yn d'od i'r dref, ac yn myned i bregethu 1 cynulleidfaoedd oddiallan. Un pwrs oedd i egl^y,; y dref yr adeg hono, ond yr oedd pethau vte newid erbyn hyn. Parch da i Mr. Morris, fu drysorydd i'r eglwysi yn y dref; fe'i cydnabyddW-Y 9 ef mewn dull cyffelyb i'r un y gwneir a Dr. heno. Erbyn hyn y mae eglwys Grosvenor Sqlia 4 wedi dyfod i Moss Side eglwys Salford wedi m}'11.. i Pendleton eglwys Oak Street ac eglwyS Street i Higher Ardwick. Y symudiad' cvntaf oe<* efe yn ei gofio oedd yr un o Oak Street i Hey^0^ Street, ac ynglyn a'r symudiad hwnw gwelodd i°- rhywbeth yn Dr. James; oni buasai am dano e rCj wyddai sut. y buas'ai ar gyfeillion Oak Street y PrL hwnw; yr oeddynt mewn tipyn o drafferth J