Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CONCWEST Y GROES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CONCWEST Y GROES. Y Gerddoriaeth gan Mr. David Jenkins, Mus.Bac. Tyr'd gyda nerth O! Ysbryd Glan, Bedyddia'r byd a dwyfol dan; Gad ini deimlo'r gollfarn erch yn awr, Ac anfeidrol gariad yr Iesu mawr: Drosom ni, Iesu cu, marw wnes Di; Ac am y groes, a'r dwyfol loes, Canu'n oes oesoedd a wnawn ni. Cydlawenhawn! daeth, daeth y dydd! Iesu, mewn nerth yn achub sydd; Hen wrthryfelwyr, blygant wrth Ei draed, Llefant am faddeuant drwy rin Ei waed Seion wan, ddaw i'r lan, fel gwrol lu, Ac yspail fawr Pen Calfari, Leinw ei rhengoedd tanllyd hi. Cymer yn awr, Dy allu mawr, Teyruasa Iesu, dros y llawr; Duw yw ein Tad, a ninau'n frodyr sydd, Iesu yw ein Ceidwad, bob nos a dydd Yn ei law, heb un braw, ymladd wnawn ni, Er cryfed yw Teyrn Uffern ddu, Sigwyd ei ben ar Galfari. Mawrth II, 1905. EDWARD JENKINS.

--CYMRU'R DIWYGIAD.

V n DOLGELLAU.

y BETHANIA, BEDDGELERT.

. yr NODION O LERPWL. '

EMYNAU Y DIWYGIAD.

"COFIWCH Y GWAED."

CYFARFODYDD MISOL.