Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR 0 KHASIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR 0 KHASIA. *■ Laitkynsew, Mawrth 6, iaot:. Anwyl Syr, Yn gyntaf oil dymunaf drwy eich hynawsedd fynegu fy niolchgarwch puraf i'r holl gyfeillion yn yr hen wlad, a ddatganasant eu cydymdeimlad a mi yn fy mhrofedigaeth buasai yn wir dda genyf allu eu hateb bob yn un ag un, end nis gallaf. Ni fedraf ddweyd wrthych pa mor werthfawr fu y cydymdeim- lad yma, ond ei fod yn felus "fel y diliau mel," ac adfywiol fel dyfroedd oerion i enaid sychedig." Hoffwn ddweyd gair byr am ddau beth ynglyn a'r Dosbarth, sef tlodi tymhorol" ac adnewyddiad ysbrydol sydd yn ffynu ar hyn o bryd. Dosbarth tlawd yw hwn byth er y ddaeargryn- hwy oedd cedyrn y wlad o ran cyfoeth cyn hyny, ond fe ddarostyngwyd eu nerth-ac eithrio ychydig o leoedd yma ac acw, tlawd yw y mwyafrif; ond ymhen ychydig flynyddoedd, pan y bydd y gerddi eurafalau wedi cael amser i dyfu i'w llawn dwf, ni bydd y tlodi agos gymaint. Eleni fodd bynag y maent mewn cyfyngder gwirioneddol, a hyny oher- wydd tua chanol yr haf pan yr oedd blodau yr eur- afalau yn dechreu ymddangos, cawsom ystorm enbyd o genllysg, rhai mor fawr ag wyau estrys, ac mor ddinystrxoi a chorwynt; a golwg ddifrifol oedd ar yr holl wlad dros ba un y cerddodd yr ystorm hon. Yn ftodus ni laddwyd unrhyw fod dynol, ond anifeil- iaid y maes nis gallasant ddianq, a chododd yr ystorm dreth drom oddiarnynt druain, a deifiodd yn ogystal yr holl blanwydd ar ei chw-rs fel nad oedd gobaith am ffrwyth eleni: ac fel y gwyddis yn Shella yr eurafalau yw eu ffon bara;' ac o ganlyniad y mae y gruddfan yn uchel a gwirioneddol. Yr wyf yn cydymdeimlo yn fwyaf a'r plant sydd yn yr ysgol yma yn Lait o'r gwahanol bentrefi-mae yma tua deg o honynt ag y byddai yn rhaid iddynt yjjadael yfory, oherwydd y cyfyngder, onibai am yr help a dderbyniant; ac fe fyddai yn loes gwirioneddol i mi i weled y bechgyn yma yn gadael yr ysgol ar hyn o bryd mewn mwy nag un ystyr. Y mae y Llywod- raeth yn gwybod am y tlodi hwn, ac wedi addaw agor rhyw waith i'r bobl, ond nid oes dim byd sicr hyd yn hyn. Un ffaith ryfedd mae yn rhaid ei nodi, sef, cyn eleni byth er adeg y Ddaeargryn, yr oedd afon Sheila yn wag o bysgod; ond eleni fe agorodd Duw yn ei Rfgluniaeth ddrws o ymwared dros amser drwy gyfrvvng yr hen afon; gan fe gafodd y bobl bysgod yr wythnosau a aeth heibio na cliawsant erioed mo'u cyffelyb yn yr afon o'r blaen. Dyna ddigon am dlodi tymhcrol, gan y mae yn llawer gwell genyf son am yr adnewyddiad sydd yn y Dos- barth byth er yr Assembly y mae yma fywyd newydd mewn amryw o leoedd. Yr oedd yma dciyhead mawr am ymweliad ysbrydol cyn hyny yniysg y bobl oreu—yn enwedig yn mynwes un'o'r Pastors yma, yr hwn sydd yn ddyn duwiol lawn; ac yr oeddwn I wedi gweled arwyddion amlwg pan yn myned drwy y dosbarth ddiwedd y flwyddyn fod y bywyd ere- fyddoi yil dbd yh beth mwy blyw .a gwirioneddol i lawer o'r bobl yma, yn enwedig i'r bobl ieu^int. Yn yr Assembly yn Naysawlia (fel y gwyädoCh yn ddiau erbyn hyn), cawsom adeg. ddedwydd, ac fe lifodd y fendith i lawr i Shella. Ymhen y bythef- nos yr oedd genym Gyfarfod Ysgol ymhen pellaf y Dosbarth. Oherwydd gerwinder y tywydd pan yn cychwyn, ychydig ddaeth ynghyd o'r pen yma i'r Dosbarth; ond fe ddaeth aelodau yr eglwysi cym- ydogol sydd yn Nosbardi Maram i'r cyfarfod yn gryno; eto er mae ychydig oeddym, 'daeth Duw yno, a melus oedd y cwrdd: yr oedd rhyw arogl esmwyth ar yr holl wasanaeth. Nis gallaf ddesgrifio i chwi fy nheimlad pan yn eistedd o flaen y ty lie yr arhoswn y nos Sadwrn hono,-noson fendig^dig hyd yn nod yn myd natur y lloer yn llawn ac yn ganaid wen fel ei Chreawdwr; a phan ar ganol dweyd fy nghyfrinion wrthi, .dyma odlau yr hen Hyfrydol' yn eSgyn i fyny, a thyrfa o'r bobl yma yn canu a'u holl gaion ani f "Cariad fel y moroedd, A thosturiaethau fel y lli' a theimlwn fy nghalon yn adlais Amen pan y cyffes- ent "Dyma gariad nad a'n anghof Tra bo'r nefoedd wen yn bod! • Hyfryd' yn ddiau i engyl Duw oedd gwrando arnynt, ac 'rwyn sicr fod llawenydd ymhlith holl deulu'r nef wrth glywed sain moliant y IChasiaid o'r pentref dinod hwn yn nghesail, y mynyddoedd; a tliroais inau i mewn i'm gorphwysfa; gan deilnlb fod bywyd yn werth ci fyw;" sterch fdd y gtoes yn ami yn drom. Ymhen yt wythnos yr ,oedd genyf achos i fyhed i Mawdon—pentref ag y bum ynddo tua daii fig yri gynt—a'r adeg hor o yr oedd tristweh loriaid if nghalon oherwydd agwedd afeiliedig .y t gwaith .ona ddydd Sabbath teimlais fod yna: rywbeth newydd yil y lie—ac nid o ddynion yr oedd hyn, beth bynag, gan fod yr amser yn rhy fyr i ddynion ddwyn y fati.i. gyfnewidiad oddiamgylch llanwyd yr ystafell drwy y dydd gan bobl astud,, ac yn y cyfarfod gafwyd ganol y dydd—cyfarfod gweddi-daeth awel heibio a llonyddodd yr eneidiau oil oedd yn bresenol; daeth pan yr oedd un wraig yn gweddio, dynes ag y gwyddwn fod ei henaid yn ddrylliedig gan ofid oherwydd ystad achos Mab "Duw yn y fangre hono a diolch iddi fe weddiodd nes gorchfygu gyda Duw., Nid oes genyf ofod i ddweyd wrthych am yr ysbryd Nid oes genyf ofod i ddweyd wrthych am yr ysbryd cenhadol sydd wedi meddianu pobl ieuainc, a phob oed o ran hyny yn Nonqwar, nos Sadwrn daethant i Laitkynsew yma i gynal cyfarfod; a phan aethum i'r pentref, y llais cyntaf a glywn yn canmol lesu Grist wrth ei chyd-Gasiaid oedd llais un ag y bum. yn ddiweddar yn treulio amser i'w cliymodi hi a'i gwr: a llawenydd oedd gweled y ddau yn awr yn un, yn canmol y Gwaredwr. Ond ddoe, y Sul, cefais wledd mewn gwirionedd. Ar ddechreu y gwasanaeth rhoddodd y pregethwr yr emyn hwnw allan sydd wastad i mi yn fendigedig yn iaith y Khasi—fel yn yr hen Gymraeg— "Wrth gofio ei ruddfanau'n yr ardd, "A'i chwys fel defnynau o waed." Canwyd hi gyda bias, ond dyna oeddwn yn myned i'w ddweyd: o'm blaen yn un o'r meinciau cyntaf yr oedd geneth ieuanc oddeutu 15eg oed yn methu yn lan a dal, a dyma y dagrau yn ddwy ffrwd risial yn rhedeg i lawr ei gruddiau; a wylo y bu hyd y terfyn. Gwerth dod o Gymru, gyfeillion, yr holl ffordd, pe ond i weled dylanwad tyner y Groes ar galonau y bobl ieuainc yma. Dydd Mawrth, y 4ydd o Ebrill, y mae genym gyfarfod arbenig i'r athrawon a'r blaenoriaid i edrych beth ellir wneyd 'tuag at ddwyshau yr argraffiadau sydd yn ddios yn cael eu teimlo. Fe deimlwn yn ddwbl ddiolchgar i Dduw pe cawsai Sheila brofi mewn gwirionedd o ysbryd y peth byw,' gan fod Sheila yn cael ei gyfrif yn ddosbarth mor galed. Nid wyf yn disgwyl nac yn dymuno iddynt (lamu o lawenydd,' ond fe hoffwn iddynt gael eu 'mwydo gan y gwlith nefol, nes y byddo balchder cynhenid eu natur yn toddi ymaith yn llwyr, Gan erfyn eich maddeuant am gymeryd cymaint o'ch gofod, a chyda chofion pur. Yn gywir, OWEN EVANS,

LLANGAFFO.

...,..' --------DIWYGWYR A…