Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

UN 0 ANERCHIADAU MR. EVAN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UN 0 ANERCHIADAU MR. EVAN ROBERTS. GAN Y PARCH. T. CHARLES WILLIAMS, M.A. Cefais y fraint y Sadwrn diweddaf o fod am beth amser yn nghymdeithas Mr. Evan Roberts, ac o fyned gydag ef i'r cyfarfod a gynhelid y noswaith hono yn nghapel y Wesleyaid yn Shaw Street. Cyfarfod i'r esgeuluswyr' oedd hwn i fod ond nid un felly ydoedd yn hollol. Nid wyf yn bwriadu ceisio rhoddi unrhyw ddesgrifiad o hono. Yr oedd yn gyfarfod hynod iawn,-un o'r rhai rhyfeddaf ar lawer cyfrif y bum ynddynt erioed. Yr oedd dau beth yn arbenig yn tynu fy sylw. Un ydoedd, mor lleied o gyfarfodydd- Mr. Roberts gymerir i fyny ganddo ef ei hun. Cyrhaeddasom yno ychydig wedi saith; ond yr oedd y lie yn orlawn er's oriau. Buom yno hyd haner awr wedi-deg. Ond, o'r holl amser yna, ni siaradodd y Diwygiwr ond am brin chwarter awr. Y peth arall a'm tarawodd ydoedd mor llwyr oedd ei lywodraeth er hyny dros y gweithrediadau o'r dechreu i'r diwedd. Elai y cyfarfod ymlaen heb ball yn y drefn- arferol o ganu, darllen, a gweddio; rhai yn Gymraeg, eraill yn Saesneg yn cymeryd rhan, ac amryw ar brydiau yn gweddio yr un pryd. Bu y Diwygiwr am awr neu fwy heb ddweyd yr un gair. Pan gyfododd i siarad, yr oedd i bob ym- ddangosiad yn gwneyd hyny yn gwbl ddifyfyr, ac ar gynhyrfiad y foment. Awgrymwyd y testyn iddo gan frawddeg yn ngweafli brawd o weinidog am yr lesu yn galw." Ni ysgrifenais air ar y pryd; ond wedi myn'd i'r ty, ceisiais alw ei eiriau i gof, ac yr wyf yn eu hanfon fel engraifft o un o'r anerchiadau a draddodir ganddo yn gyffredin. Dyma sylwedd yr hyn a ddywedai Wei, yr ydym ni yma heno am fod yr Iesu yn galw. Chwi glywch ei eiriau, Deuwch ataf fi.' Ar bwy y mae yn galw ? Ar gyfoethogion ? Ie, ond nid am eu bod yn gyfoethogion. Ar diodionp Ie, ond nid am eu bod yn dlawd. Nid yw'r Iesu yn edrych ar amgylchoedd dyn. Ni sydd yn gwneyd hyny. Galw ar y dyn y mae Efe, ac ar y pecchadur. A galw ar bob dyn, Deuwch ataf fi ball/b.' Pa bryd y mae yn galw? Yn yr haf ynte'r gauaf yn y dydd ynte'r nos? Galw o hyd y mae. Mae'n galw bob dydd, bob awr, bob eiliad; a phe bae modd rhanu eiliad, mae'n g;alw'r pryd hyny. At bwy y mae yn galw? Nid at ei eglwys; nid at ei dy; nid at ei angylion, cerubiaid na seraffiaid. Ond ato ei Hun. I Deuwch ataf Pi.' Beth sydd i dalu? Wel, oes genyt ti rywbeth i'w dalu pe bae yn gofyn P Ond nid yw yn gofyn. Mae Duw wedi gofyn pob- peth ganddo Ef, ond nid yw Efe yn gofyn dim genyt ti. ( O deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched arno.' Dyma'r lie i dori syched. Mae pobl yn myn'd i leoedd eraill i dori eu syched; ond nid yw eu syched yn cael ei dori yno. Coda syched mwy y mae y lleoedd hyny., a gyru dyn yn y diwedd i wlad y bydd arno syched heb ddim i'w dori. lesu Grist sy'n tori syched yr. enaid.. Paham y mae yn galw? 'A mi a esmwythaf arnoch.' Mae'n galw ar bawb blinderog a llwythog,' a gwyddom oil beth yw hyny. Mae'r lesu, nid yn unig yn gwybod am y baich, ond yn gallu myn'd o dano, Wyddom ni yn fynych fawr am feichiau ein gilydd, a phe bu- ftsem yn gwybod allasem ni gynorthwyo fawr. Yr ydym ni yn caru ein cyfeillion, ond y mae Duw yn eu caru yn fwy. Yr oedd rhywun yn awr yn gweddio dros ei 'frawd,' ond y mae y Brawd goreu yn nes. Mae ein calonau ni yn curo mewn cydym- deimlad, ond y mae y galon Ddwyfol yn curo yn gyflymach. Yno y mae y tan mawr o gariad-yn y Fynwes Ddwyfol, ar yr aelwyd fry. A Duw y Cariad gy'n galw. Mae yn galw a'i lais. Hwyrach nad ydym ni yn clywed. Mae Efe yn galw, serch hyny. Mae'r pur o galon yn ei glywed. Dywedwch wrtho yn awr, Mi glywa'th dyner lais yn galw arnaf fi.' Mae ei lygaid yn galw, fel llygaid tad yr afradlon. I A phan oedd ef eto ymhell oddiwrtho, ei Dad a'i canfu ef.' Mae ei freickiau yn galw. 'Mae'i freichiau 'nawr ar led.' Buont ar led ar y Groes er mwyn bod ar led i dderbyn pechadur. Beth sydd eisiau i ufuddhau? Nerth? Wel, ti-gei nerth, a ffydd, os oes arnat eisieu ffycld. Mae'r lesu wedi gorchfygu, ti orchfygi dithau ond i ti gredu. 'Yr wyf yn teimlo,' meddai'r dyn. Ie, ond nid yw teimlo yn ddigon. A wyt ti yn credu? Fe grymodd yr lesu ei ben. Dyna Fe, wedi ei wrthod gan y byd a'i ddirmygu gan gythreuliaid, a'r nefoedd yn cuddio ei hwyneb oddiwrtho. O'i fodd y gwnaeth Efe hyny. Fuasai neb yn medru tynu ei ben i lawr. Fe grym- odd ei ben i ti gael codi dy ben byth. Wel, f'enaid, weithian cod dy ben.' Fe gododd yr lesu ei ben wed'yn y trydydd dydd. Beth am uffern y pryd hwnw? Wedi ei gorchfygu? Beth am y nefoedd? Wrth ei bodd. Oes arnat ti eisieu gwisg? 1 -Xi a'i çei-y wisg oreu.' Dy wisgo a'i gyfiawnder. Dyma wisg wen! Mae'r blodeu yn brydferth, ond yn gwrido yn ymyl hon. Bydd hon yn wen byth. Beth yw ei hyd? 'Hyd y llawr.' Nid gwisg i guddio pechod mohoni, ond gwisg i guddio purdeb. Mae yn disgleirio gan y gwyndra sydd o'r tufewn. Galw i'r teulu y mae. Nid oes dim gwahaniaeth i fod rhwng dynion yn nheulu Duw. Yr oeddwn yn pasio tent rhai o'r gipsies yn ddiweddar; ac meddai hen wraig oedd yno wrthyf, Good livening, Sir.' £ Good Evening,' meddwn inau yn ol. Ond aeth y Sir' at fy nghalon. Pa le yr oedd y 'madam' genyf fi P Ar yr enaid mae Duw yn edrych, nid ar yr amgylchoedd, nid ar yr environment. Dowch i'r teulu. Mae pob peth yn 'eiddo' y rhai hyn: nid yn gyrhaeddadwy iddynt, ond yn feddiant. Mae dyn wedi ei achub am achub pawb, fel un wedi dianc o'r wreck am achub y gweddill. Nid rhyfedd fod llawer yn gweddio yr un pryd yn y cyfarfodydd yma. Peidiwch treio eu rhwystro. Pe buasai nifer o ddynion mewn perygl bywyd., nid un ar y tro fuasai'n gwaeddi am help, ond pawb ar unwaith yn un fonllef fawr. A wrandewch chwi ar yr lesu yn galw? Mae pobpeth yn barod. Duw yn barod, y wledd yn barod. Wyt ti yn barod i ddod? Nid yfory, ond heddyw. Mae'n disgwyl am danat yn awr.' Galw i'r goteu y mae. Nid oes neb yn rhy ddrwg, na neb yn rhy dlawd. Mae yr lesu yn galw pawb o dywyllwch i'w ryfeddc7 oleuni ef. Ufuddhewch i'r Ysbryd. Dowch i'r teulu. Gwrandewch arno yn galw rhag i chwi yn y man fyned i fethu a'i glywed byth." Torodd lliaws allan ar hyn i ganu a gweddio, ac er i'r siaradwr ddatgan yn gryf ei ofn fod rhai yn y cyfarfod, oherwydd cenfigen ysbryd, yn atal dylan- wad yr efengyl, pan dynwyd y rhwyd i dir, caed fod tri a thriugain wedi clywed llais yr lesu y nos- waith hono am y tro cyntaf erioed, ac wedi credu ynddo, ni a obeithiwn, i fywyd tragywyddol.

HENLLAN.

CYFARFODYDD MISOL.