Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
lVIR. W. JONES, Dental Surgeon, THE ARCADE, 85, LORD-STREET, -6t blVE^POOb, New, Dainty, q J? Oi? p I J } Fit for a Artificial 1 Hi ij.il ill DUCHESS 3s. to 21s. Each. 30s. to 10 guineas per set, Upper or Lower. CROWN, BAR, AND BRIDGE-WORK, Gold, Porcelain, and other FiUings. CONSULTATION FREE. SlAREDIR CYMRAEG NEU SAESNEG. DAY TRIPS EVERY WEDNESDAY-
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GfiNEDIGAETH. Williams.—Mawrth. 23ain, yn Penygraig, Llangefni, -■ priod y Parch. J. H. Williams, ar ferch. PRiODASAU. Adams—-Blackwell.-—Mawrth 27, yrt hghapêl Beth- esda, Wyddgrug, gan y Parch; Evan Davies, Mr. Ernest E. Adams, ail fab Mr. Thomas Adams, Maesmawr, a Miss Catherine Blackwell, trydydd ferch y diweddar Mr. Joseph Blackwell, Cefn Ucha-y ddau y Cilcen. Evans—Gates.—Mawrth 2g, yh nghapel Clwyd St., Rhyl, gan y Parch. H. 0 ;Hughes, Henllan, Mr. W. Brown Evans, mab hynaf Mr. John Evans, Bryn Meirion, Henllan, ger Dinbych, a Miss Nellie Jane Gates) merch Mr. Gates, Small Heath, Bir. mingham. Jones—Hughes.=—Mawrth 17, yn nghapel Moriah, Llanfyllin, gan y Parch; Edward Griffiths, Meifod, Mr. Robert Jones, nlab Mr. John Jones, Factory (gynt), Bont Newydd, ger St. Asaph, a Miss Mary Hughes, merch y diweddar Mr. John Hughes, Bryn y Garn, Htolian, ger Dinbych. Roberts—Jones. =^=Mdwrth 22, yn nghapel Park Hill, Bangor, gart y Parch. R. W. Hughes, gweinidog, y Parch. W. Herbert Roberts, Valley, Mon, ag Elizabeth Ann Jones, o Amlwch. .Willianis—Evans.^—Mawrth 28, yn nghapel Clwyd St., Rhyl, gan y Parch. H. O. Hughes, Mr. Robert ThOfflas Williams, Llundain (nai i Mr. John Peters a Mrs. Anne Williams, Rose Cottage, Henllan), a Migs Laura Evans, y Contralto adnabyddusi, a merch i Mr. John Evans, Bryn Meirion, Henllan, ger Dinbych. MARWOLAETHAU. Edwards.-Mawrth 28, yn 54 ml. oed, Mr. William Edwards, Clare Villa, Falkland Road, Egremont, Liverpool. Evans.-Mawrth 25, yn 57 mlwydd oed, Dr. R. W. J. Evans, Bryn Isaf, Wrecsam. Griffith.-Mawrth 29, yn Mentone, o'r Influenza, Miss Beatrice Kingsley Griffith, trydedd ferch Mr. a Mrs. Giles Griffith, Caer ac Abergele. Hughes.—Mawrth 25, Griffith Hughes, postfeistr, Bethesda, yn ei breswylfod. Claddwyd ddydd Mercher canlynol yn Llanfairfechan. Hughes.-Mawrth 20, yn 38 mlwydd oed, Mr. Thos. B. Hughes, Attendance Officer, Mount Villa, Mount St., Fflint. Hughes.—Mawrth 29, yn 75 mlwydd oed, Mr. Joseph S. Hughes, 23, Park Street, Birkenhead. Jones.—Mawrth 25, yn 7, Princes St., Llangollen, yn ddisyfyd, David Jones, gynt 0 31, Mulliner St., Lerpwl. Jones.-Mawrth 25, yn 66 ml, oed, Mr. John Jones, Cefn Coed, Glyndytfrdwy. Jones.-Mawrth 21am, yn 67 ml. oed, Mr. William Jones, Seymour St., Aberdar, un 0 flaenoriaid hynaf eglwys Nazareth. Jones.—Mawrth 18, yn sydyn, Mrs. Jones, anwyl briod Mr. Evan Jones, Moelifor, Llanrhystyd, yn 63 mlwydd oed. Mills.—Mawrth 26, yn sydyn, yn 60 mlwydd oed, Mr. J. H. Mills, argraffydd, Llanidloes, mab ieu- angaf y cerddor adnabyddus Richard Mills, Llan- idloes. Yr oedd Mr. Mills yn aelod blaenilaw yn nghapel China St., ac yn dechreu y canu yno er's 25am mlynedd. Cafodd angladd parchus ddydd Llun. Morgan.-Mawrth 26ain, Annie, anwyl ferch Mrs. Catherine a'r diweddar Mr. James Morgan, 27, Strand St., Liverpool. Parry.—Mawrth 28, Thomas Augustus, ieuangaf ac anwyl. fab Mr. William a Mrs. Jessie Parry, 13, St., Alban's Road, Bootle. Roberts.—Mawrth 28, mewn oeclran teg, Mrs. Ro- berts, gweddw Mr. John Roberts, Albert Terrace (gynt o Nant.Lewis Alun, Llandyrnog), Dinbych. Rogers.—Mawrth 27ain, yn 67 ml. oed, Mr. Enoch Rogers, Castle St., Oswestry. Roberts.—Mawrth 23, yn 59 ml. oed, Mr. J. E. Ro- berts, prifathraw Ysgol y Cyngcr, Tcwyn. Vaughan.—Mawrth J4, yn 83 ml. oed, Mr. Richard Vaughan, penybont, Penllwyn.
-----CYDNABYDDIAETIi G GYDYMDEIMLAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYDNABYDDIAETIi G GYDYMDEIMLAD. Syr,—Teimlaf fi a'r Parch, D. Morgan, St. Dogmels, fy chwaer a'm brawd, ein rhwymau i gyd- nabod yn ddiolcbgar y nifer liosog o lythyrau yn -datgan cydymdeimlad a ni fel teuluoedd yn ein galar ar ol ein hanwyl da'd. Cawsom lawer o gysur a dyddanwch trwyddynt oil. Derbynied y cyfryw ein .diolchgarwch gwir. Yr eiddcch, &c., Brynseion, J. Morgans Aberdar.
RHOSLLANERCHRUGOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHOSLLANERCHRUGOG. ODDIWRTH Y PARCH. R. JONES. Cyd-darawiad hynod iawn ydyw i'r diwygiad dori allan Y11 ei clanbeidrwydd yn Rhos yr un dyddiau yn union ag y torodd allan yn Casllwchwr yn y Deheudir; er i ni ganfod gwawr boreu yr haf- ddydd hyfryd er's blwyddyn yn ol. Ac y mae wedi bod yn myned rhagddo yn ei rym fel y bore-oleuni Hyd yn bresenol. Ymwelwyd a ni yn ddiweddar gan frawd anwyl iawn o'r Deheudir,y Parch. W. Nantlais Williams, Ammanford. Dechreuodd ar ei genhadaeth nos Fawrth, y iz).eg o Fawrth. Dranoeth cyrhaeddodd Miss Maud Davies, Ceinewydd, ac ymunwyd a hwy y Sadwrn canlynol gan Miss Florrie Evans, Cei- newydd. Gorlenwid y Capel Mawr bob nos. Ben- dithiodd yr Arglwydd yn amlwg weinidogaeth werth- fawr ac amserol Mr. Williams, ynghyda llafur y chwiorydd ieuainc ymrocldgar o'r Cei. 0, nefol heulwen! hi dywynai yn hyfryd yn nghanu swynol Miss Davies, a threiddiai ei gwres adfywiol i galon- au trwy y pregethau a'r anerchiadau. Gwelwyd effaith y Dwyfol wres yn y cyfarfod eglwysig nos Fawrth, yr 21am, yn y Capel Mawr. Galwyd y seiat gan un brawd yn Wyl v Cymod.' Parhaodd hyd ddeg o'r gloch y rhan olaf yn cael ei threulio i gladdu amryw fan gwerylon, a barent ddieithrwch a theimladau oerion rhwng aelodau a'u gilydd. Yno y buwyd mewn ysbryd maddeugar yn dodi pob chwerwedd, a llid, a dig" yn eu beddau, ac yn ysgwyd dwylaw mewn cymod uwch y beddau. 0, olygfa fendigedig! a chawodydd o ddagrau, ond eu bod o ansawdd wahanol i'r dagrau a gollir yn gyff- redin mewn angladdau. Ond y dydd Llun blaenorol, sef yr 2ofed, oedd y diwrnod rhyfeddaf eto ynglyn a'r diwygiad. Cyn- helid y cyfarfodydd undebol yn y Capel Mawr. Dy- wedir fod eneiniad amlwg ar y cyfarfod cyntaf am 7 o'r gloch y boreu, ac yr oedd y gwlith yn disgyn yn drwm yn yr ail gyfarfod am 10. Ond yn y cyfarfod 2 o'r gloch, a'r capel eang yn llawn, daeth y dylamvad "megis gwynt nerthol yn rhuthro." Ys- grifena awdwr y brif erthygl yn Herald y Rhos," fel hyn Mae bron yn anmhosibl rhoddi desgrifiad cywir o'r cyfarfod hwp,, Dywed pawb yn ddiwahan- iaeth na fu ei debyg yn ystod y Diwygiad. Pa fodd y cododd y gwres mor uchel nid yw'n hawdd gwybod. Ond dyna y ffaith. Yr oedd rhywbeth yn ofnadwy ynddo! Disgynodd arswyd ar bawb oedd yn y lie! Wrth fyned tuag adref siaradai y dorf mewn sibryd- ion dan yr effeithiau yr oeddynt wedi eu.derbyn, a'u gwynebau yn welw, a'u gruddiau wedi eu rhychu gan ddagrau." Ys canai Islwyn, "Pan y myn y daw, fel yr enfys a'r gwlaw." Ar ganol y cyfarfod-oddeutu 3 o'r gloch, ar ol i'r brawd ieuanc anwyl, R. loan Davies, ganu yn doddedig y penillion, "Plygwn Iddo, &c., Nid oes neb fel Iesu Grist," dyna Missi Maud Davies, yn nghongi y set fawr, a than deimlad dwys yn tori allan i ganu "0 Iesu mawr, ffrynd dynolryw, A welaf fry a'i gnawd yn friw," &c., a theimlem megis pe byddai awr fawr holl oriau amser-3 o'r gloch Calfaria—wedi dod i bwyso'n drwm ar ei fynwes yr un awr o'r dydd y Llun byth- gofiadwy hwnw! Wedi i Miss Davies ganu, dyna frodyr lied ieuainc yn cydweddio—-John Griffiths a Wm. Dodd—ill dau yn afaelgar ac effeithiol iawn, a dyma'r dylanwad anorchfygol yn disgyn fel toriad cwmwl! 0, fynudau hynod! Y gair a glywsom yn glir olaf o enau J. Griffiths ydoedd-" 0 ryw anfeidrol gariad," a dyna'r gweddill yn cael eu boddi gan swn diolch, a moliant, a'r berw gorfoleddus drwy'r capel. Miss Florrie Evans a'i phen yn blyg- edig ar y bwrdd, ac yn murmur ei mawl a'i gweddi yn gymysg; Miss Davies yn eistedd a'i llygaid yn nghauad, a'i gruddiau yn wlybion, ac yn tywallt moliant ei henaid i'w Hiesu anwyl, anwyl A dacw ar yr oriel ar ein de un o'r dychweledigion ar ei draed—Levi Jarvis,—ac hyd y medrai gan wylo:, yn arllwys ei deimlad drwy'r penill, Dyma babell y cyfarfod," &c., a chyda'i fraich a'i fys estynedig, cyfeiriai at y lie yn y capel yr eisteddai pan dorwyd y fagl, ac y rho'wd ei draed yn rhyddion. Dacw'r gongl," meddai, "nid anghofiaf hi byth!" a gwaeddai Dyma fan yn ymyl Duwdod, I bechadur wneyd ei nyth." "Dowch, hen wrandawyr; pa'm na ddowch chwi? Dowch! a dyna Miss Evans yn codi, ac yn gweddio y tuhwnt o effeithiol, ac yn gofyn, Beth a dd'weda'i yn fwy am danat,, Iesu anwyl ? O! 'Dyma gariad fel y moroedd! &c." Nis gwyddom a allasai seraff ddesgrifio'r odfa, ond yr ydym ni yn methu. Yn unig ni a erfyniwn "0 Haul, aros!
.-">... LLYFRGELL
... LLYFRGELL 43" class="col-xs-12 no-padding">
... LLYFRGELL 43"
class="col-xs-4 article-panel-category">
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
-"> LLYFRGELL HEN FLAENOR ENWOG YN Y CYFUNDEB. 1. Geiriadur Ysgrythyrol, gan Thos. Charles. 9s. 2. Gweithiau Rhyddiaethol a Barddonol Williams, Pantycelyn. J. Kilsby Jones, a Chofiant gan Gwilym Hiraethog. 10s. 3. Y Traethodydd. Set gyflawn, 1845 i 1904. 10 vols. 1845-1854, Half Calf.; 45 vols. 1855-1900, Cloth. 4 vols. in parts. zCS. A nice set for Public or Sunday School Library. 4. Methodistiaeth Cymru, gan y Parch. J. Hughes. 3 vols. 13s. 6c. Half calf, but each different colour. 5. Cymru. Hanesyddol, Parthedigol, &c. Gan Owen Jones. 2 vols. 20S. 6. Esboniad ar yr Hen Destament, gan James Hughes. 4 vols. (Vol. 1. short). 10s. /TTT sb^ 7. Eto. Argraffiad mawr. 2 vols. (-1-11 I2S. 8. Eto. Testament Newydd. 12s. toti^ 9. Y Tadau Methodistaidd. Gan J. Morga a W. Morgan. 2 vols. Half Calf. 15s. M £0' 10. Islwyn. Gweithiau Barddonol. 0. wards. IOSI. 6c. 11. Goronwy Owen. Life & Works by I Jones. 2 vols., Full calf. 5s. Fisbef 12. Cefn Coch MSS. By Rev. J. B.D. 7s. ,,015,1 13. Testament yr Ysgol Sabbothol. I one vol. back loose. 4S. Gan 14. Y Cristion mewn cyflawn Arfogaeth. Gurnal. 6s.. OWen 15. Coll Gwynfa Milton. Cyfieithiad NV- Pugh. 3s. 16. Eto Eto. Gan I D. Ffraid. is. 6c. 17. Athrawiaeth yr lawn. Gan Dr. LeWi wards. 6c. f$, 18. Y Ffydd Ddiffuant. Gan Charles 2S, 6c. S fr 19. Geirlyfr yr Ysgol Sul. Gan Edward Davie 20. Mynegair Ysgrythyrol. Owen Jones, l02i?' Cofiant Henry Rees. Gan O. Th0^ D.D. Half calf. 8s. ) 22. Pregethau y Parch. Edward Morgan- vols- ^s- rrhtdfi 23. Cofiant John Jones, Talsarn, gan O. D.D. 2 vols. Back loose. 4s. 6c. oSe. 24. Pregethau John Jones, Talsarn. Back G Parry. 2S. 6c. 25. Tafol y Beirdd. Robert Ellis. 2s. pt 26. Darlithiau ar Dduwinyddiaeth gan Knapp. 3s. 6c. v0l, 27. Oriau yr Hwyr ac Oriau y Boreu in 1 Ceiriog. is, 28. Oriau Eraill. is. 29. Cant o Ganeuon. is. 30. Blodau Arfon. Dewi Wyn. is. 31. Caniadau Hiraethog. is. 6c. (fi 32. Emanuel gan Gwilym Hiraethog. 2 vols. 3S"25, 33. Caniadau Maes y Plwm, gan Ed. Jones. all 34. Gweithiau Barddonol Eben Fardd. qto 4s.), 35. Gweithiau Barddonol leuan Glan Getrl ydd. 3s. 36. Islwyn, ac eraill. is. rf 37. Barddoniaeth y Genedl Gymreig, ac aU1 J I eraill. is. 38. Esboniad: Genesis hyd Lefiticus xvi. Jones Jones, Wern. is. rdSI 39. Y Duw Ddyn. Principal T. C. Edwil D.D. is. 6c. 40. Beirniadur Cymreig. is. a 41. Hanes y Cymry,—Darlithiau gan 0 Jones, is. C. 42. Pregethau ar y Rhufeiniaid, gan D. Davies. is. n. 43. Drych y Prif Oesoedd, gan Theo Evans, M. Edwards. 6c. ¡Ie 44. Ymsonau, gan y Parch. J. J. Roberts amryw eraill. is. 45. Gwaith Dafydd Ionawr. is. 46. Elfenau Daearyddiaeth. D. Hughes. 15., 3 47. Helyntion Bywyd Hen Deiliwil, W. Rees, Chyfrinach yr Aelwyd. is. ft, 48. Epistol Cyntaf loan, gan D. C. Davies. ac 49. Theomemphus, gan Williams, Pantycelyn, amrywion. 2S. 50. Yr Hynod loan Jones. gc. C. 51. Y Beibl a'i Ddehongliad. II. Jones. lSWjl- 52. Drych y Prif Oesoedd. Back loose. J- liams. 9c. p( 53. 'Rhen Ffarmwr ac amrywion. W. Rees, 0' is. 54. Edmund Prys. T. R. Roberts. 2S. 55. Myfyrion. Erthyglau, Pregethau, a Chant au, gan y Parch. J. J. Roberts, is. „es 56. Cofiant Dafydd Rolant, Bala, gan Owen j° a Robert Thomas, is. 57. Cofiant Ann Griffiths, gan Morris Davies j amrywion. is. 58. Aelwyd F'ewyrth Robert. W. Rees. *s- eS, 5. Hanes Bywyd Robert Tomos, gan Owen J°n 2S. 6c, 60. Ninefeh a'i Gweddillion, gan Layard. lSl eS, 61. Ceinion Llenyddiaeth Cymreig. Owen J011 4 vols. IOS. dd, 62. Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meiriony gan R. Owen, M.A. 2 vols. 2S. 6c. 63. Blwyddiadur, yn rhwym. 6 vols., 1899-19 Is* 64. Esboniad Dr. Kitto, gan Owen Thomas, P' 2 vols. 65. Baner Cymru. 1857. Mawrh i Hydref. 2 66. Cymru Fydd. 4 vols., 1888—91. 3s. 6c, 67. Palestina;, gan J. Mills. 2s. 6c. 68. Cofiant y Parch. Thos. Jones, Dinbych, § y Parch. Jonathan Jones. 4S. ,Vi!' 69. Cofiant a Phregethau W. Morris, gan G. liams. 3s. 70. Cofiant a Phregethau Dr. Saunders, g;an J Jones a J. Cynddylan Jones. 38,. 71. Pregethau Dr. Owen Thomas. 2s. 6c. 72. Undeb yr EglvlYS gan Noel. 6c. 73. Breu-ddwydion y Dydd. J. J. Roberts. 2'- 74. National Eisteddfod (Liverpool), 1884. 3 75. Hud a Lledrith, ac amrywion. J. J. Robe is. 6c. 76. Y Cylcbgrawn, 1869—1883, ac 1891. v° I 6S. y 77. Gweithiau Williams, Pantycelyn. Dr. hafal Jones. 2 vols. res. Ymddengys rliestr ychwanegol yn y nesaf. Pob archebion i'w hanfon i MR. E. W. Dolgellau. Telerau; Tal gyda'r archeb, y P^ i dalu y cludiad.