Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYFABFOD Y CYFARFODYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFABFOD Y CYFARFODYDD. Nos Sadwrn, Ebrill 8fed, yn Princes Rd., cyr- haeddir 'cyfarfod y cyfarfodydd yn hanes y diwyg- iad. Cyfarfod yr esgeuluswyr oedd hwn, a llwydd- wyd yn well nag arier i gadw eraill allan. Rhodd- wyd y lie goreu iddynt o flaen,y pulpud, ac anog- wyd cynifer ag oedd yn bosibl o'r aelodau i fyned i'r gallery a'r cchrau. Llwyddwyd i gael canoedd 0 esgeuluswyr i fewn, ac yn y fan ceir gweled y can- lyniadau. Dangoswyd fod y cyfarfod nos Wener yn begwn holl gyfarfodydd Roberts mewn amryw bethau ond am hwn, gellir dweyd ei fod yn gyfar- fod y cyfarfodydd. Saif hwn uwchlaw iddynt oil mewn un nodwedd neillduol. Am 2 o'r gloch, cyrcha y bobl i gyfeiriad capel Princes Road, ac am 4 yr oedd tua 400 o gwmpas y capel yn awyddus am fynediad i fewn. Er ei bod yn hysbys i bawb nad oedd ond yr esgeuluswyr a'r rhai fu yn ymweled a hwy i gael mynediad i fewn, eto deuai y bobl o gyrion y Gogledd ac o Loegr yno. Crwydrent o fan i fan i geisio am docynau, er nad oedd ganddynt rith o sail i feddwl am eu cael. Cymaint ag a fedra nifer mawr o heddgeidwaid yw cadw y doff rhag myned dros y railing o flaen y capel er ceisio bod wrth y drysau. Gollyngir y bobl i fewn yn hir cyn yr amser, a dyma gapel eang Princes Road yn or- lawn bob congl o hono. Y noson gyntaf cadwyd y llwybrau yn weddol ryddion, ond heno nid oes droedfedd o honynt heb draed arnynt. Os oedd 1,800 ynddo y nos Fercher y dechreuodd Roberts ei genhadaeth yn Lerpwl, y mae 2,000 neu ragor yma nos Sadwrn. Methodd lawn 500 a dyfod i fewn, a bu raid cael cyfarfod i'r rhai hyn yn nghapel y Wesleyaid Cymreig yn ymyl. Daeth y newydd i'r capel hwn fod 160 wedi eu dychwelyd yn Princes Road, a darfu i don o orfoledd ddyfod dros y cyfar- fod. Ar ol gorphen aethum i Princes Road. Gwel- wn Dr. Pan Jones, Mostyn, a Dr. Owen Evans, gynt o Lundain, yno, yn gwrandaw yn astud. Am yr awr gyntaf wedi i Roberts ddyfod i fewn, gweddio a chanu a nodwedda y cyfarfod. Ychydig iawn siaradodd ef, ond yr oedd ei eiriau oil yn briodol i'r lliaws esgeuluswyr oedd yno. Yn fuan torwyd ar ei draws gan ymarllwysiad o weddiau. Trwy an- hawsder gallwyd cael y cyfarfod i fan i'w brofi, a chafwyd y bobl i roddi eu hunain i fyny, nid bob yn un, ond bob yn ddau a thri, ac weithiau 4 ar y tro. Cododd hyn Roberts ar ei draed mewn ysbryd bendigedig. Gweddia gan bwyso ar y pulpud, a dywedai, Y mae yma rywun eto yn barod i ddod," ac yn y fan hysbysid fod rhywun yn dyfod. Ni welsom ef erioed yn medru rhag-ddweyd fel heno. Ceir gan rai i dderbyn Crist na fu mewn lie o addol- iad er's 23.0 flynyddoedd. Dyma un J. Hughes yn rhoddi ei hun i fyny, mam yr'hwn oedd wedi anfon llythyr y bore hwnw at y Parch. John Williams, Princes Road, i ofyn iddo weddio drosto. Darllena Roberts ddarn o Ezeciel yn rhybudd i'r annuwiol a gwna sylwadau ardderchog oddi arnynt. Eto, dyma rai yn rhoddi eu hunain i fyny gymaint a haner dwsin ar y tro. Yn fuan rhedodd rhif y dychwel- edigion i 200. Gweddia Roberts yn awr, ac ys.^yd- wir ef yn enbyd, yna cyfyd ei ben, a dywed Y mae rhywun eto yn barod." Bob tro atebir ef fod rhywun yn rhoddi ei hun i fyny. Yn y llawenydd o weled cynifer yn rhoddi eu hunain i fyny, metha y bobl a pheidio arllwys eu calonau allan mewn ad- nodau a phenillion, gweddiau a -mawl. Gofynwyd i'r holl Gristionogion sefyll ar eu traed. "Ie," meddai Roberts, yr annuwiolion ni safant yn y farn." Am 10.30 gofynwyd i'r bobl ddweyd Gweddi yr Arglwydd, ac ufuddhaodd yr holl dorf; ond ni fear Roberts ganiatau i'r cyfarfod derfynu yn y fan hon. "Y mae dyn ar y gallery," meddai, yn barod i ddyfod eto." Profwyd y gallery amryw weithiau trwy ofyn i'r bobl godi deheulaw, eithr ni ellir dyfod o hyd i'r dyn. Gweddia Roberts eto, ac edrycha dros y capel fel pe yn chwilio yn fanwl am rywbith. Yna dywed nid fan yma, nac fan yma, na chwaith y fan hon y mae ef. Yr wyf yn cael fy ngyru at y gallery fan draw o hyd. Yn y fan acw y mae ef." Atebodd gweinidog yn awr, a dywed- odd nad oedd ef yn medru gweled neb. Rhaid ei fod ef yna," meddai Roberts. Cyn pen ychydig fynydau wele ddyn yn dweyd wrth y gweinidog oedd ar y gallery mai ef oedd y person. Daliai ei law i fyny gyda'r aelodau am amser ond aeth yn rhy galed arno, a gorfu iddo gyfaddef a rhoddi ei hun i fyny. Nid oes terfyn i fod ar y cyfarfod eto. Os ydych am fyned aUan" meddai Roberts, esvch. Ni allaf fi fyned." Try i weddio eto, ac nid oes arwydd chwant myned allan ar y bobl. Yn mhcn yehydig, rhydd Sais ci bun i fyny yn ymyl y pulpud. Cafodd ei dynu i'r cyfarfod, yn oi ei ad- roddiad ef ei hun, gan ryw ddylanwad. nad allai gyfrif am dano. Aeth allan, a chododd yr hen awydd am ddiod arno, ac aeth i dafarn gerllaw, galwodd am beint, ond methodd yn lan a'i yfed, er ceisio gwneyd deirgwaith, a bu raid iddo ddychwel- yd i'r capel i roddi ei hun i Grist. Wedi cael hwn, a dweyd gair wrth y dychweledigion, teimlai Ro- berts yn rhydd i fyned adref. Beth yw nifer y dy. chweledigjon ar y diwedd? 213. Priodol, gan hyny, yw galw hwn yn gyfarfod y cyfarfodydd. 93 oedd y nifer mwyaf gafodd Roberts o'r blaen, a hyny yn Nghaerpbili. Y mae yn amheus a gafwyd y fath nifer mewn un cyfarfod gait unrhyw ddiwyg- iwr.

Advertising

PBGWIST CYFASFODYDD EVAN :aO]3…