Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

BRAINT ORUCHEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BRAINT ORUCHEL. Ton- "Capel y Ddol." Braint oruchel gafodd Enoch 0 gael rhodio gyda Duw, Rhodio'n agos: bron yn cyffwrdd, Rhodio'i fewn i'r nef yn fyw; 0, 'r fath gariad Sydd yn nghalon Duw at ddyn. Braint oruchel gafodd Noah Pan y boddwyd anwir fyd, Yn yr arch trwy ddyddiau'r diluw Ef a'i deulu'n hollol glyd. 0, 'r fath gariad, &c. Braint oruchel gafodd Abram Trwy ei ffydd yn ngair yr 16r, Bod yn dad yr holl ffyddloniaid, Tyrfa fawr fel tywod mor; Oj 'r fath gariad, &c. Braint oruchel gafodd Moses Yn yr agen yn y graig, Llaw ei Grewr ar ei wyneb Yn diferu nefol saig; • 0, 'r fath gariad, &c. Braint oruchel gadd Elias, Myn'd i'r nef mewn cerbyd tân, Cerbyd Israel a'i farchogion Aeth ag ef i Wynfa lan; O, 'r fath gariad, &c. Braint oruchel gafodd Dafydd\, Duwiol wr, a phlentyn Duw, Calon hawddgar, edifeiriol, Am bechodau du eu lliw; 0, 'r fath gariad, &c. Braint oruchel gafodd loan, Pwyso'i ben ar fynw,es Crist, Clywed swn y m6r o gariad Yn y galon wrth ei glust; 0, 'r fath gariad, &c. Braint oruchel gawsom ninau Nid oes neb gadd freintiau mwy, Ysbryd Duw yn deffro Cymru, Cymru'n ffoi i'r marwol glwy; 0, 'r fath gariad Sydd yn nghalon Duw at ddyn. T. J. JAMBS,

RHYDD-GYFIEITHIAD 0 HOFF EMYN…

ER SERCHUS GOF

DEIGRYN HIRAETH

"AFONWEN, CAERWYS.

Y DDEDDF ADDYSG YN NGWRECSA…