Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MR. EVAN ROBERTS YN CAPEL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. EVAN ROBERTS YN CAPEL CURIG. ODDIWRTH EIN GOHEBYDD AKBENIG. Capel Curig dydd Mawrth. Gwnaed cofnodiad yr wythnos ddiweddaf am ym- weliad y Diwygiwr a Beddgelert. Ni raid dweyd fod llawenydd mawr ymysg y pentrefwyr pan ddeallas- ent pwy oedd wedi cyraedd y Bedd. Ymhen ychydig fynudau wedi i'r cwmni gyraedd y gwesty i gael ychydig ymborth, daeth IJythyr oddiwrth y Ficer yn dyrnuno ar i Mr. Roberts ddod i faes cyfagos, lie yr oedd plant y pentref yn cael te. Cyn hir yr oedd y Diwygiwr ar ei ffordd atynt, a mawr oedd gorfoledd y plant. Canasant amryw ganeuon, dan arweiniad yr ysgolfeistr, a chymerwyd photo' o honynt a'r Diwygiwr yn eu canol gan y Ficer. Yna gofynodd Mr. Ean Roberts iddynt adrodd dair gwaith gyda'u gilydd y frawddeg "Always do your best," ac ar ol hyny dair gwaith drachefn "1 will always do my best." Soniwyd yr wythnos ddiweddaf am y cyfarfod bychan hapus gafwyd yn nghapel y Bedd wrth ddod yn ol o gyfarfod y plant. Da iawn oedd genym weled y Ficer yn bresenol, ac yn ymddangos mor hapus, ac yn cymeryd rhan mor rwydd. Rhagor o hyn yn ein gwlad a'i gwnai yn Gymru llawer hapusach a mwy heddychol. Cyn gadael y Bedd am Gapel Curig, ysgrifenodd Mr. Evan Roberts y geiriau canlynol yn 'visitors' book y gwesty y bu yn cael lluniaeth ynddo — "Diwygiad mawr Beddgelert! Ogoneddus frawddeg. Dal dy enw, paid a marw: er mor arw mwy, Gloewa'th gledd yn y Bedd, a bydd hedd, nid clwy." Mae ganddo feddwl neillduol o gryf a bywiog, ac yn fynych ysgrifena heb unrhyw ragfwriad na pharatoad, frawddegau hynod dlysion a tharawiad- ol. Dyma rai engreifftiau o hvny. Dyma yr hyn ysgrifenodd ar Postcard pan ar ben y Wyddfa,, Sadwrn. Mai 6ed. i'w anfon i un o'i evfeillion The mountains are high-my Hope is higher; I The mountains are strong-my Faith is stronger; The mountains shall depart-but my God,- never." I Dyma yr hyn ysgrifenodd ar Postcard arall yn yr un amser a lie — I "Thy voice, thy face, thy hand, thy heart, All to Him., and all a hymn. A hymn to Thee." I fechgyn pur ieuainc yn nghymydogaethau Lerpwl yr anfonai yr uchod. Yr oedd wedi bod am dro gydag un o honynt un diwrnod, ac wrth ymadael a'u gilydd dywedodd y bachgen: Thank vou, Mr. Roberts for your nice walk." "Thank you, my lad," meddai yntau, for your nice smile. And always remember, it is by purity alone that you can keep it." Tra yn son am y Wyddfa, dylid dweyd fod yr hen greigiau serth a rhamantus yn adseinio gan lais Mr. Roberts yn canu. Yr oedd wrth ei fodd yn dringo'r mynydd, a chanodd lawer gwaith trosodd Never lose sight of Jesus;" ac adroddodd drachefn a tbrachefn yr hen benill Cymraeg ardderchog- Mi glywais gynt fod Iesu, A'i fod Ef felly'n awr,—Yn awr, yn awr," meddai lawer gwaith, ac eco'r creigiau yn adsain yn ol Yn awr," Yn awr," fel pe buasent hwythau hefyd y diwrnod hwnw wrth eu bodd. Diwrnod hapus iddo ef a phawb o'r cwmni oedd diwrnod dringo'r Wyddfa. Heddyw (dydd Mawrth) aeth Miss Davies a Miss Roberts (ei chwaer) yn ol i'r Deheudir. Mai lofed.-Vmadawodd y Parch. John Williams a Capel Curig heddyw,—wedi bod gyda Mr. Roberts er nos Lun. Cerddodd y Diwygiwr yn nghwmni Dr. McAfee a gweinidog Capel Curig i Pont y Pant, yn agos i Dolyddelen. Cafwyd taith ddifyr ar draws y mynydd, pob peth yn berffaith dawel. Dim ond brefiadau'r wyn A mamog weithiau'n mwmian Ei nie'n fwy cre na'r wyn man" yn tori ar y tawelwch. Treuliwyd y noswaith yn annedd Mr. Brandreth, a ghrydnawn dranoeth caf- wyd drive yn ol i Capel Curig. Yr oedd Mrs. Roberts, ei letywraig, wedi anfon cerbyd a phar o gfvftylau i'w gyrchu yn ol. Mai 12.—Y tywydd braf yn parhau. Yr haul yn gwenu a'r adar yn canu. Y mynyddoedd yn ym- gystadlu dangos eu llun am yr harddaf yn myn- v<:s y llyn. Y diwygiwr yn ddistawach nag ar- ferol heddyw, ond nid yn brudd. Cael ei hun yn synu mwy nag erioed at y Cariad Dwyfol, ac at fwriad grasol Duw at ddyn.' Ei enaid yn llawn dros yr ymylon o addoliad. Yn y prydnawn cafwyd bicycle ride i gyfeiriad v Fairy Glen,, Bettwsycoed. Dychwelwyd yn ol gyda'r hwyr, a buwyd yn swpera yn Siabod Villa, lie y cartrefa gwemidog Capel Curig. Cafodd Dr. Fraser, o Gaernarfon, gwmni y Diwygiwr yma. Efe ydyw Swyddog Iechydol Sir Gaernarfon. Mae yn swyddog gyda'r M.C. yn Castle Sq., Caernarfon, ac yn weithiwr caled ac egniol yn ngwinllan y Meistr Wedi cael cwmni Mr. Evan Roberts, dyma ddywed- ai I shall always be a better man after this. Mai 13, dydd Sadwrn.—Tywydd rhagorol eto. \Preulio y boreu ar y llyn. Dr. Fraser gyda n,i Soniwyd cryn lawer am y geiriau hyny, Y mynydd- oedd a giliant a'r bryniau a symudant, eithr fy nhru- garedd i ni chilia, a chyfamod fy hedd ni syfl." Wrth edrych oddiar y llyn ar yr hen fynyddoedd cedyrn, yr oedd grymusder yr adnod i'w deimlo yn fwy nerthol nag erioed, ac yn gwneyd i bawb o'r cwmni feddwl am "yr Hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo." J Yn hwyr y prydnawn cyrhaeddodd Dr. McAfee o Lerpwl, i dreulio y Sul gyda'r Diwygiwr. Buwyd ye cerdded yn hamddenol hyd lanau y llyn. Mai 14, Sul,—Bu Mr, Roberts yn y capel heddyw dair gwaith. Y boreu yn Capel Curig. Nid oedd y cynulliad yn lliosog. Mae cynulleidfa Capel Curig yn ymranu yn ddwy yn y boreu a'r ptydftawn. Pobl rhan ucliaf y gymydogaeth yn cael pregeth yn nghapel y pentref, a phobl y rhan isaf yu cael ysgol yn nghapel Tanygarth, rhyw filldir is i lawr yn nghyfeiriad Bettwsycoed. Y prydnawn mae y pre- gethwr yn Tanygarth, at ysgol yn nghapel y pentref. Ond yn ngwasaiiaeth yr hwyr mae yr holl gynull- eidfa yn nghapel y pentref. Y gweinidog oedd yma heddyw, y Parch. Robert Williams, Graig, ger Bangor. Bu Mr. Roberts yn odfa'r boreu yn y pentref, ac yn odfa y prydnawn yn Tanygarth., a mwynhaodd y pregethau yn fawr iawn. Erbyn yr hwyr yr oedd tyrfa anferth wedi dod ynghyd o bob cwr, yn y gobaith o gael clywed y Diwygiwr. Ymhell cyn haner awr wedi pump yr oedd y capel wedi ei or- lenwi, ac ugeiniau lawer o'r tu allan wedi methu mfiied i raewn. Ni fu y capel erioed o'r blaen mor llawn yr oedd y dyrfa wedi ymwthio mor dyn i'w gilydd fel nad oedd yn bosibl syflyd, wedi unwaith fyned i mewn. Cafwyd cyfarfod gweddi neillduol o gynes cyn i'r Diwygiwr wneyd ei ymddangosiad. Yr oedd rhai o'r gweddiau yn tynu'r nefoedd i lawr. Gwelid y dagrau yn llifo i lawr ami i rudd, a chlywid yr Amenau yn codi 0 waelodion ami i galon. Pan mewn chwarter i saith, daeth Mr. Evan Roberts i'r addoldy, gyda'r Parchn .Griffith Ellis, M.A., ac H. H. Roberts. Yr oeddis bron wedi digaloni am gael ei glywed y noson hono. Wedi iddo ymddanugos, canwyd amryw emynau, a gweddiodd Dr. McAfee yn Saesneg. Gofynai yn daer am i Dduw achub llawer y noson hono. Ar ei ol gweddiodd y Parch. Griffith Ellis yn rymus dros ben. Erfyniai am i'r Arglwydd ddynoethi ei fraich-yr hen fraich, y fraich fu yn gwneyd gwrhydri yn yr amser gynt." Yna cyfododd Mr. Evan Roberts yn y set fawr, a siaradodd yn syml ac effeithiol am oddeutu pum' munyd ar hugain. Dyma ychydig o'r anerchiad:- Yr ydym yn gofyn i'r nef wrandaw arnom. Os yn edrych i'r nef, ac am i'r nef wrando,, cofiwn fod y nefoedd yn disgwyl llawer genym ninau. Fe allwn ofyn am i Dduw achub, ac eto gwrthod yr Ysbryd. Peth ofnadwy yw disgwyl a gweddio am yr Ysbryd, a pheidio ei dderbyn pan ddelo. Y mae Ef yma heno. A ydym am ei dderbyn, am ufudd- hau iddo. Yr ydym yn dweyd Dy ewyllys Di a wneler.' Dylid dweyd hyny bob amser. Ond ewyllys Duw ydyw fod pob un yma yn cael ei achub heno. A ydym am i ewyllys Duw gael ei chyflawni, -a ydym am ufuddhau yn hyn iddo Ef. Gwell di- oddef pob erledigaeth gan y byd, na cholli heddwch Duw. Derbyniwn yr Ysbryd, a'r holl fendithion sydd ynglyn a hyny heno. Tybier y delai yr Ysbryd heno, a dadlenu bywyd dyn gerbron y gynulleidfa. Nis galla.i yr enaid hwnw sefyll. Mae'r enaid yn dweyd yn reddfol, 'Y mae Duw. Y mae Duw.' Os mewn amheuaeth yn nghylch bodolaeth Duw, peid- iwch a mentro gam yn mhellach. Rhoddwch y dechreuad yn iawn. Deuwch at Dduw gan gredu y bydd iddo ateb gweddi, a phan ddelo yr ateb peidiwch a'i briodoli i ddamwain. Dywedodd Iesu Byddaf gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.' Y mae yma heno yn gweled ac yn treiddio i ddyfn- deroedd enaid pob dyn. A ddarfu i'r un o honoch ei dderbyn? Derbyniwch ef yn awr." Yna gweddi- wyd gan un neu ddau a chanwyd. Wedi hyny, cy- merwyd prawf, pryd y datganodd un o'r newydd dros Grist." Mae yn debyg mai dyma'r cyfarfod olaf a gawn am beth amser yn Capel Curig gyda'r Diwygiwr, ac yr ydym yn diolch'i'r nefoedd am dano. Dyna deimlad pawb yn y lie. Dydd Llun.—Diwrnod tawel oedd hwn. Ymad- awodd Dr. McAfee am ei gartref. Mr. Roberts yn teiwlo yn chwith wrth feddwl gadael Capel Curig. Dywedai ei fod wedi mwynhau ei ymweliad a'r lie yn fawr. Nid oes ball ar ei ganmoliaeth i'r ardal, ac addawa ddod yma yn fuan eto. Dydd Mawrth.Ymedy Mr. Evan Roberts am Sir Fon. Daeth y Parch. J. Williams yma i'w gy- farfod, ac ymadawyd am y tren 4.30 yn Bettwsycoed. Credaf fod ei ymweliad wedi bod yn fendith i'r ardal; ac y mae edmygedd pawb yma o hono yn ddibendraw. 0 Frenhin bydd fyw byth," dyna ddymuniad pawb yn capel Curig. Ystyriwn hi yn fraint o'r fath fwyaf fod wedi ei gael i'n mysg am gymaint o amser. Nis gelilr canmol gormod ar ofal a charedigrwydd Mrs. Roberts, ei letywraig, tra bu yn aros yno. Nid oes dim yn ormod ganddi ei wneyd er ei wneyd yn gysurus, a buasai yn fodd- lawn iawn i estyn ei gwahoddiad iddo i aros yn capel Curig hyd y dymunai aros. Rhaid aros yn y fan yna. Dyma y Programme at y dyfodol, hyd y mae yn wybyddus—Treulio wythnos neu ddwy o dawelwch yn Wylfa, Cemaes, Mon, ac yna dechreu ar ei waith yn ynys Môn. Cymer tua mis i fyned trwy yr ,eglwysi yno. Nid oes ganddo ddim program pellach wedi ei barotoi na dim sicrwydd eto lie y dechreua. MR. EVAN ROBERTS YN MON. Aeth Mr. Evan Roberts o Gapel Curig i F6n ddydd Mawrth yn righwmni y Parch. John Williams, Princes Road. Ar hyd y ffordd yr oedd y dyddordeb mwyaf yn cael ei ddangos gan drigolion y dref a'r wlad y teithid drwyddynt. Ni ddigwyddodd dim neillduol ar hyd y daith, a chyrhaeddodd Mr. Williams a Mr. Roberts yn ddiogel i Wylfa gyda'r hwyr. Yma y mae yn debyg y bydd i'r Diwygiwr orphwys am beth amser cyn dechreu ar ei daith drwy y sir.

[No title]

MARWOLAETH Y PARCH. HENRY…

LLANELIDAN, GER RHUTHYN. IIc

TANYGRISIAU.. j f