Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

-'"-'"-MR. EVAN ROBERTS YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. EVAN ROBERTS YN MON. Cemmaes, Dydd Mawrth. Bu llawer o bryderu a dyfalu a ddeuai y Diwyg- iwr i Fon. Ileddyw mae yn ffaith, a Mr. Evan Roberts yn aros yn ein plith. Mae pob sicrwydd erbyn hyn mai yma yr ymafl yn ei waith gyntaf ar ol ei seibiant. Cafodd Mr. E. Roberts dderbyniad croesawus ar ei ddyfodiad i Fon, ac yr oedd canoedd wedi ym- gasglu ar hyd y ffordd er cael cipdrem arno. Ar y cl ffordd yn mhentref Llanfechell cymerodd digwydd- iad le ac sydd yn dangos pa mor fyw o gydymdeim- lad yw Mr. Roberts a'r claf a'r musgrell. Yn y pen- tref yr oedd hen wr wrth ei ddwy faglen, wedi gosod ei hun yn brydlon mewn lie cyfieus erbyn dyfodiad y Diwygiwr, fel y caffai olwg arno. Disgynodd Mr. Roberts a Mr. J. Williams o'r cerbyd yn y lie hwn, ac un o'r pethau cyntaf ddaeth dan sylw Mr. Roberts oedd y cloff a'i ddwy faglen. Aeth ato yn union- gyrchol, ysgydwodd law ag ef fel y medr ac y gwyr pawb sydd wedi cael y fraint, y medr Mr. Roberts, a sibrydodd air neu ddau ag ef am ei iechyd er mawr fwynhad i'r hen wr. Mae yr ardal hon yn un o'r llanerchau prydferth- af ac iachusaf yn Nghymru, ac mae Mr. Roberts -wedi mwy na chael ei foddloni ynddi. Mae yma ddigon o dawelwch i sicrhau seibiant, ac ar y llaw arall gyiiawnder o'r golygfeydd mwyaf arddunol i foddio'r llygaid. Treulia Mr. Roberts ei oriau naill ai yn y cwch, neu ar y traeth, neu yn rhodiana ar hyd y creigiau. Yma y ceir y creigiau mwyaf serth ac ysgythrog yn Mon. Mae y cyfnewidiad o Gapel Curig i Gemmaes yn gyfnewidiad trwyadl. Mae y naill a'r llall yn meddu y golygfeydd mwyaf rha- mantus yn ein gwlad, ac eto yn hollol wahanol i'w gilydd. Ar ol ei ddyfodiad yma, teimla Mr. Roberts yn swrth a chysglyd. yr hyn sydd brawf sicr fod awyr y mor yn effeithio arno, a dyma'r moddion mwyaf effeithiol i sicrhau seibiant i'w feddwl a hun i'w am- rantau. Gan fod rhaid i'w gydymaith ffyddlawn Mr. Williams ei adael ddiwedd yr wythnos, sicrha- wyd cynorthwy iddo gyda'i ohebiaeth yn ddioed. Dydd Mercher dilynol cyrhaeddodd i'r ardal bedwar wyr Eglwysig o Ffrainc. Yr oeddynt wedi teithio o Paris er cael gweled, y Diwygiwr, a chyf- arch gwell iddo. Cawsant ymdrafodaeth a Mr. Ro- berts, a diolchwyd yn gynes iddo am eu derbyniad croesawgar. Dydd Iau ymwelodd ag ef wr o urddas o Chicago er cael ymddiddan ag ef. Cafodd ganiatad i weled Mr. Roberts, ac i gymeryd darlun o hono. Nos Iau cyrhaeddodd i'r ardal ddyn ifanc ag oedd wedi ei anfon gyda chenadwri neillduol gan ei dad 0 Dolwyddelen. Y genadwri oedd datgan diolchgar- wch y tad a'r ferch am i Mr. Roberts fod yn foddion i sicrhau troedigaeth ei ferch, ynghydag erfyniad ar i Mr. Roberts ymddiddan a'r mab ar fater mawr ei enaid. Caniataodd Mr. Roberts i'r gwr ieuanc gael ymddiddan ag ef, gyda'r canlyniad i'r goleuni dwyfol fflaehio i'w enaid, ac iddo gael troedigaeth wyrthiol. Mawr oedd llawenydd y dyn ieuanc, ac ymffrostiai i'w ymweliad droi yn fendith fawr iddo—i'r euog- rwydd cydwybod gael ei ymlid allan, ac i'w enaid gael ei lanw o lawenydd yr iachawdwriaeth. Nos Wener daeth ei frawd, Mr. Dan Roberts, i aros ato i'r Wylfa; a'r Sadwrn daeth Mr. James Ven- more yma er sicrhau na byddai i Mr. Roberts deimlo unrhyw unigedd. Dydd Sabbath am ddeg ymwelodd Mr. Roberts ag addoldy y Methodistiaid—Bethesda. Ni ofynwyd ar iddo gymeryd rhan, ond yr oedd yn amlwg ei fod yn mawr fwynhau y gwasanaeth, ac yn ymollwng i ganu a'i holl egni. Pregethwjjd yn rymus ar y geiriau Canys felly y carodd Duw y byd," &c., gan y Parch .Hugh Hughes, Brynyrefail. Edrychai Mr. Roberts ar bawb yn siriol, ac ymddangosai yn hollol ddiymhongar er yr holl warogaeth sydd yn cael ei dalu iddo. Disgwylid ef yn yr hwyr i'r un lIe gan dyrfa fawr; ond llithrodd yn ddistaw i gapel bychan Cemlyn, yn mhellach yn y wlad, i gyfarfod gweddi. 36 oedd yn bresenol, and cagd cyfarfod hynod iawn. Pan ddaeth Mr. Venmore, Mr. Evan Roberts a'i frawd i mewn, nid oedd yno and rhyw ychydig ffydd- loniaid wedi ymgynull, oherwydd fod y mwyafrif wedi troi eu cefnau am Bethesda y noswaith hono. Cyfarfod gweddi a gynhelir yn y gangen hon nos F,11, a llywyddid yr un neithiwr gan Mr. Jones, Nanner, yn ddeheuig iawn. Yr oedd yn amlwg i unrhyw un fod pethau mawrion wedi eu profi o'r bi aen yn Cemlyn; ac yr oedd tine yr adfywiad yn glywadwy ymhob gweddi. Taerni angerddol am weled yr ychydig oedd yn yr ardal heb roddi eu harfau i lawr oedd baich yr oil o'r gweddiau grymus a dywelltid o galonau dirodres hen ac ieuanc yn y cyfarfod hwn. Codwyd y cyfarfod i gywair uchel iawn, pan gy- merodd Mr. Venmore ran yn y cyfarfod, ac y diolch- ai i Dduw am y mudiad daionus oedd yn eu plith. Heno," meddai, "os oes yma rywun heb ddod dan arwydd y Gwaed, gwna'r ffordd yn rhwydd iddo, 0 Dad.' Pan adrocldodd efe yr adnod hono, Cosped- igaeth ein Iieddwch ni a roed arno Ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," torodd Mr. Evan Ro- berts allan ijefain "Diolch," a syrthiodd i lesmair, nes dwyn y gynulleidfa oil i deimladau angerddol. Wylai amryw yn hidl, a chlywid amryw yn ochen- eidio. Oddeutu wyth o'r gloch, cododd Mr. Evan Roberts, a dywedodd ei fod yn falch fod yr Arglwydd wedi ei arwain yno y noson hono. Dymunai arnvjit gofio fod Duw yn Dduw agos, ond Ei geisio fel yr oedd- ynt hwy ar eu gliniau y noson hono yn gwneyd, a'i fod hefyd yn Dduw y bendithion, a'r rhai hyny yn ddigyfnewid. Yr oedd un brawd wedi dweyd ar ei liniau fod pethau y byd yn rhwystr iddo gael golwg iawn ar Dduw ond yr oedd ef yn sicr pe byddent oil yn gryf wrth orsedd gras, a rhoi eu holl hyder ar Dduw, y ffoai y cymylau. Dywedwyd wrtho pan ddaeth i mewn i'r capel fod rhai pobl wedi troi eu cefnau arnynt a myned i rywle arall j ond os felly yr oedd, nid oedd Duw wedi troi ei gefn arnynt. Yr oeddynt hwy oedd yn bres'enol, fe gredai yn sicr, wedi derbyn digon lieno; ac os nad oeddynt, nid ar y cwrdd a'r Beibl yr oedd y bai. Mae Duw wedi dweyd yn ei Air, Pa le bynag y byddo dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i, yno y byddaf yn y canol." Ofnai eu bod hwy, fel y bu ef lawer gwaith rbyw ddwy flynedd yn ol, yn ofni dod i gyfarfod gweddi os na fyddai hwn-a-hwn yno. Pa bwys pwy fyddai yn y cyfarfod os caent Dduw i'w mysg ? Os nad ufuddhawn i alwadau Duw, yr oeddym yn cau y drws yn erbyn ei fendithion. Ond diolch i'r nef- oedd, mae'r addewid wedi ei chyflawni yma heno, a Duw wedi bod yn ofnadwy 0 agos. Y mae ef bob arnser yn anfeidrol fwy parod i roddi nag yr ydym ni i dderbyn. Pa beth ydym yn ei wneyd? A ydym yn caru lesu Grist a'n holl galon ? A allwn ni un ac oil ddweyd Hwn yw fy lesu anwyl ? A ydyw lesu Grist yn cael y lie cyntaf yn ein meddyl- iau ? Rhaid iddo gael hyny neu ni dderbynia ni o gwbl. Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyf- iawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Bydded i ni gael gweled lesu yn ei ddigonolrwydd, yn rhagori ar ddeng mil, ie, ar bob- peth. Faint well fyddwn ni, gyfeillion, os enillwn yr holl fyd, a cholli yr lesu? Cymharer y byd a'r lesu. Y mae yn anfeidrol ragorach. Y byd yn gwywo mewn amrantiad, a'r lesu yn dal yn ei lesni o hyd. Po fwyaf syllir arno, mwyaf yn y byd o'i ogoniant a ddaw i'r golwg. Yr oedd tragwyddoldeb a bywyd yn y gyfrinach a'r lesu. Wedi i mi gael y bedydd, yr oeddwn ar dan am fyn'd drwy Gymru ar unwaith i ddweyd am gariad lesu; ond na, meddai Duw, "Aros;" ac aros am dair wythnos fu raid i mi. Yr oedd arno eisieu dysgu'r wers i mi, a dy- munwn arnoch chwithau, gyfeillion, wneyd pobpeth i foddloni Duw, ac nid dynion. Cyfeiriai brawd arall ar ei weddi at "ofn," mai dyna oedd y fagl fawr, a sut i gael gwared o hono. Ei gyngor ydoedd y rhai hyny o eiddo loan, Mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn." Yr oeddynt y noson hono wedi teimlo o ddylanwadau eithriadol y nefoedd yn y lle hwnw; ac yr oedd yn rhaid i'r byd oddiallan deimlo oddiwrth ei ganlyniadau. A oedd y byd yn cael cyfle drwy ein bywyd ni i weled lesu, dyna'r cwest- iwn mawr. Mae'r dyfodol o'n blaen. Sut mae hi i fod ? A fyddwn ni yn gryfach i'w wynebu o hyn allan ai peidio? Bydded i ni roi ein goreu yn y gwaith yma, mae'r lesu yn rhoi ei oreu. Yna aed ymlaen a'r cyfarfod gweddi, a therfynwyd oddeutu haner awr wedi naw. Bu Mr. Evan Roberts yn siarad am chwarter awr. Bu trafodaeth faith yn Nghyfarfod Misol Beau- maris ddydd Llun ar ei Genhadaeth agoshaol yn Mon. Bwriedir iddo ymweled a'r lleoedd a ganlyn Caergybi (pedair noswaith), Amlwch a Llangefni (tair noswaith bob un). A bydd yn y lleoedd can- lynol am ddwy noswaith Gwalchmai, Brynsiencyn, Menai Bridge, Beaumaris, Llanerchymedd, Bryndu, Tabernacl, a Chemaes. Mae yr holl enwadau yn ymuno yn y lleoedd hyn. Buwyd yn bwriadu cael 'tent' symudol, gan yr ofnir y bydd y capelau yn llawer rhy fychain, ond ofnid na byddai hyn yn ym- arferol. Disgwylir y gall gychwyn ar ei waith yr wythnos nesaf, ac erys o leiaf am fis yn yr ynys. Mae'r paratoadau yn fawrion, a'r hyder yn gryf a chyffredinol am wenau Duw. Dydd Llun ymwelodd Mr. Roberts a'i gwmni a phentref Cemaes ac a'r Village Hall, ac yna aethant ger glan yr afon a thrwy y caeau, a mawr fwynha- wyd y rhodianau. Wrth ddychwelyd cyfarfyddasent dwr o blant yr ysgol, ac aeth yn ymddiddan cyd- rhyngddynt. Baich mawr cenadwri Mr. Venmore oedd ar i'r plant beidio arferyd eu hunain i ddefn- yddio myglys, ac hefyd ar gadw draw oddiwrth y ddiod. Pwysodd Evan Roberts y gwirionedd adref; yna caed adnod gan bob un o'r plant; a chyn ym- adael ysgydwyd llaw a phob un o honynt. Yr ydym ni fel ardal yn teimlo yn dra diolchgar i Colonel Wilson Gadlys am ei garedigrwydd yn rhoddi ei bleserfad at wasanaeth Mr. Roberts. Bu yn morio ynddo heddyw, a mwynhai Mr. Roberts ei hun yn fawr. Derbyniodd Mr. Roberts wahoddiad croesawgar oddiwrth Mr. Norman McLeod, Ysgotland, yn taer ddymuno arno ymweled a hwy yr wythnos hon, sef wythnos fawr y Cymanfaoedd. Nis gallai Mr. Roberts dderbyn y gwahoddiad am ei fod eisoes yn edrych ymlaen at ddechreu ei genadwri yn Mon.

UNDEB YSGOLION MANCHESTER.

Advertising