Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y Traethodydd (Ma.i).

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Traethodydd (Ma.i). Wele gynwys y rhifyn rhagorol hwn -Uhland (T. Gwynn-Jones); Evan Roberts y Diwygiwr (R.H.W.); Can'mlwyddiant 'Ffynhonau lachawdwriaeth' (W. Jones, M.A.); Y Diwygiad Duwinyddol (J. Lewis Williams, M.A., B.Sc.); Emynau (Dyfed); 'Dawn Tafodau (Eleazar Roberts); Telyneg (Anthropos); Dagrau'r Mabinogion (W. J. Gruffydd, B.A.); Mynydd Sinai (J. Jones, F.R.G.S.); Tref Caer'n- arfon tua'r fwyddyn 1800 (gan Fachgen o'r Ddeunawfed Ganrif, ynghyda Nodion Llenyddol, &c., y Golygydd. Rhifyn campus; sylweddol drwyddo. Dyfynwn gyfieithiad o Mr. Gwynn-Jones o "Castell Glan y Mor" (Uhland): — "A welaist ti y Castell, Tal Gastell min yr aig? Mae aur a rhos gymylau Yn gwau dros gribau'r graig. Y mae fel pedfai'n plygu At y gwydr-loew lif, ar wyr Mae fel pe'n gwingo a dringo I wrid cymylau'r hwyr. Do, gwelais inau'r Castell, Tal gastell min yr aig; A'r lleuad ucho'n sefyll, A niwl yn hulio'r graig. A oedd ryw orddyar bywiog Gan y gwynt a'r tonau man p A glywaist o'r tal neuaddau Danatt a llawen gan ? Gorffwys yr oedd y gwyntoedd, Llonydd oedd tonau'r lli; Galarus gan o'r neuaddau, Ag wylo a glywais i. Welaist ti'r teyrn a'i gywely Yno yn rhodio'n rhydd, Llewyrch coronau euraidd, Toniad mantellau rhudd p Oni ddygent yn llawen I'w canlyn riain wen, Laned a'r haul ei hunan, A gloew .wallt aur ar ei phen ? Gwelais y ddau yn rhodio Heb goron ac arwydd bri, Mewn duon alar-wisgoedd—- Y rhiain, ni welais i."

CYFARFOD MISOL GOGLEDD ABERTEIFI.…

ARHOLIAD CYFUNDEBOL YR YSGOL…

ODDIWRTH Y PARCH. 11. J. WILLIAMS.

Casgliad Cenhadol.

Ddosbarth Uchaf y Rhondda.

Sohnidan.

Bryniau Lusha,i. , flop®'

Advertising

Nodion Lleftyddoh