Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

'CAERNARFON..

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAERNARFON.. Agorwyd Cymdeithas Lenyddol Moriah (y fam- «glwys) gydag ymgomwest a chyfarfod amrywiaeth- -:01. Y nos Fercher dilynol bu y Parch. W. Ilobley yn anerch y Gymdeithas ar Gymundeb a Natur. I Caedi gwledd. Y tro diwedd'af bu y Parch. R. D. Rowland (Anthropos), yn trad'dodi darlith ar Cam- rau rhyddid, crefyddol yn ystod teyrnasiad y Fren- hines Buddug. Dangosid gwahanol ddarluniau ar y canfas i egluro'r ddarlith. G-ofelid am y lusern ledrith gan Mr. W. Gwenlyn Evans, Pool St. Diolchwyd yn gynes i Anthropos am ei ddarlith ddyddorol ac i Mr. Gwenlyn Evans am y modd de- heuig yr edrychai ar ol y lusern ledrith. Llywydd" wyd yn yr oil o'r cyfarfodydd gan Mr. S. Maurice Jones, A.R.C.A. Agorwyd Cymdeithas Lenyddol Engedi trwy gynal ymgomwest a chyfarfod amrywiaethol. Llywydd- wyd gan y Parch. E. James Jones, M.A. (gr^nidog). Cymerwyd rhan gan amryw. Yn ystod y cyfarfod darfu i Mr. John Jones, 12, Dinorwic St dlarller) papyr hynod ddyddorol ar Dadau Engedl. Onid oes modd cyhoeddi y papyr hwn? Nos, Wener traddodwyd y ddarlith agoriadol gan y Parch. R. D. Rowland (Anthropos), ar "Gamrau Rhyddid." Gofelid am y lusern ledrith gan Mr. W. Gwenlyn Evans. Llywyddwyd gan y gweinidog. Diolch- wyd yn gynes i'r darlithydd a'r Cadeirydd. Agorwyd Cymdeithas Lenyddol Siloh trwy gael darlith gan y Parch. R. D. Rowland (Anthropos), ar "Y Bardd a'i feirniaid." Llywyddwyd gan Mr. J. Wynne Parry (Gwyn ap Gwilym). Siaradwyd gan y Mri. J. H. Lloyd, R. Jeffreys, R. Bryan, Owen Edwards, a J. R. Jones. Diolchwyd yn gynes i'r darlithydd,—y noswaith ctdilvnol dar- 11 en wyd1 papyr gan Mr. J. Wynne Parry ar "Y Parch. Thomas Jones, Dinbych, ei weithiau a'i ffydd." Llywyddwyd gan Mr. John Roberts, Rhos- bodrual. Siaradwyd ymhellach gan amryw.-Nos Fercher diweddaf traddodwyd darlith hynod" o ddyddorol gan Mr. R. W. Jones, B.A. (Siloh), ar "Yr Hen Gymraeg." Llywyddwyd gan Mr. J. LI. Roberts, Maesteg. Siaradwyd ymhellach gan amryw o'r aelodau. Diolchwyd yn gynes i Mr Jones am ei ddarlith. Nos Sul bu y Parchn. Wm. Jones, FeJinheli, W. 0. Jones, Caeathraw, a'r Mri. R. B. Ellis, "Bontnewydd, a W. E. Jones, Felinheli, yn cymeryd llais. eglwys Moriah ar dd'ewisiad gweinidog. Dewiswyd y Parch. Howell Harries Hughes, B.A., B.D., Maenofferen, Blaenau Ffestiniog. Deallwn fod Mr. Hughes wedi cydsynio a'r alwad. Yn ystod cyfarfod agoriadol Cymdeithas Lenvdd- ol Engedi darfu i'r Parch. E. James Jones, 1I1.A. (gweinidog), ar ran yr eglwys gynwyno anrheg werthfawr i Mr. R. 0. Roberts (y clerc trefol). Yr oeddis wedi bwriadu anrhegu ei dad (Mr. Owen Roberts), ond aeth ymaith cyn y gellid rhoddi y hwriad mewn grym. Felly pyflwynwyd yr anrheg aw fab (sydd ei hunan yn aelod selog o eglwys Engedi). Diolchodd Mr. R. 0. Roberts yn gynes am yr anrheg a dywedai y caffai y lie goreu yn ei d.eulu. Siaradwyd ymhellach gan y Mri. J. Jones, Dinorwic St., G. Owen, eto T. Jones, Newborough St. a David Jones, Llys.Arfon. Bu Mr. Owen Koberts yn Ysgrifenydd eglwys Engedi am 40 mlyn- edd o amser, ac nid oedd ei hafal fel ysgrifeydd jnanwl a chywir. Yna cyflwynodd Mr. R. O. Rob- erts ystadegau yr eglwys (wedi eu rhwymo yn hardd) a'r eglwys. Yr oedd yr ystadegau wedi eu easglu gan y diweddar Mr. Owen Roberts o 1866 i 19°5. JIefyd cyflwynodd 1h. R. O. Roberts gofnodion, y Gymdeithas Lenyddol i o^al yr eglwys. Diolchwyd yn gynes iddo am yr anrhegion.

Advertising

STodacMa y I Cartrof Cymreig.\

,- COWBRIDGE.

PALESTINA.

Capel Peel Boad.

Capel West Kirby.

Capel Douglas Read.

Y Gwir Anrhydeddus Samuel…

Argiwydd Faer Lerpwi.

Cyngerdd Park Hill.. 11..

Y Diweddar Brifatliraw John…

Cyngerdd y Tabernacl. -

Y Cymdeithasau Llenyddol.......

Advertising