Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DECHREUAD Y DIWEDD. --

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DECHREUAD Y DIWEDD. GAN Y PARCH. DANIEL ROWLANDS, M.A. Y MAE dechreuad y diwedd erbyn hyn yn lied amlwg o'n blaen., ac ymwared yn agoshau oddiwrth drefn ar bethau sydd wedi profi am amser maith yn ddir- fawr anfantais i achosion mawrion Addysg a Chre- fydd. Nid rhyfedd, feallai, fod pobl sydd yn teimlo fod eu tipyn uchafiaeth mewn perygl oddiwrth y cyfnewiddad'au sydd yn taflu eu cysgod arnynt, yn colli eu tymer ac yn brochi. Yr oedd yn wirion- eddol ofidus i ni oil weled Esgob Llanelwy,—ie, o gadair-cyfarfod y Feibl Gymdeithas, lie yr ydym oil yn gadael o'r neilldu bob man wahaniaethau yn yr olwg ar ogoniant yr amcan cyffredin fydd wedi ein dwyn ynghyd,-yn bytheirio y fath gyhuddiadau gwylltion a chwbl ddi-sail yn erbyn ei gydwladwyr Ymneillduol, ac yn enwedig y Methodistiaid Calfin,- aidd. Ac nid nemawr gwell oedd gwaith Deon Bangor, mewn amgylchiad cyffelyb, yn brygawthan am yr anhawsder cynyddol i Eglwyswyr ac Ymneill- duwyr gyfarfod ar yr un esgynlawr, gan gymeryd yn ganiataol ein bod oil am "gau y Beibl o'r ysgol- ion dyddiol, ac mai unig gyfeillion y Llyfr Sanctaidd ydynt hwy o'r Eglwys Sefydledig. Y mae bron yr holl gynhorthwy a gaiff' Cymdeithas y Beiblau o Gymru, trwy y blynyddoedd, yn dyfod oddiwrth yr Ymneillduwyr; ac yr ydym yn barhaus, er ceisio cael yehydig o help yr Eglwys yn Nghymru, fel y ceir mor garedig yn Lloegr at y Gymdeithas dda, yn gwneyd ymdrech i gael gwyr fel yma i'w chyf- arfodydd, gan gynyg iddynt yr anrhydedd o'n llyw.- yddu. Ond pan ddeuant, gofalant am roddi ar ddeall gymaint yw eu hymddarostyngiad yn dyfod at greaduriaid o'n bath, a theimlant eu bod at eu rhyddid i'n gwaradwyddo ac i'n henllibio. Y mae yn dyfod yn gwestiwn pwysig ai nid ydyw ein ffyddlondeb i'r Feibl Gymdeithas yn galw arnom i adael gwyr fel yma o'r neilldu, a chydymroddi yn ysbryd y Llyfr Bendigaid ei hun, i helpu y Gym- deithas sydd yn gwneyd cymaint dros ei ledaeniad. Ac y mae yn dra anhawdd i ni gredu eu bod hwythau heb wybod mor ddi-sail ydyw y cyhuddiad- au a luchiant yn ein gwyneb. Ni fuasai neb yn meddwl am addysg fydol yn unig yn yr ysgolion, onibai am ymdrech benderfynol yr Eglwyswyr i wneyd yr ysgolion yn offer proselytiaeth, a mynu cael ein holl blant i'r Eglwys. Am yr Ysgolion Brytanaidd, y mae Cymru mor ddyledus iddynt, rhoddi addysg Feiblaidd bur oedd eu hamcan penaf. Felly y Bwrdd-ysgolicn i fesur tra helaeth, a thrwy y deyrnas oil. Ac o gael boddlonrwydd fod bythol derfyn wedi ei roddi ar allu culni sectol i beri blinder, mae yn ddiau na feddyliai yr un o'n Cynghorau am beidio trefnu fod y Llyrr Sanctaidd yn cael ei ddarllen a'i ddysgu yn eu hysgolion, a hyny ar y dealltwriaeth sydd yn gyffredin i'r holl fyd Cristionogol, gan adael yn gwbl o'r neilldu y man wahaniaethau y gofelid am danynt i gael eu dysgu yn eu cylchoedd eu hunain. "A apeliaist ti at Cesar ? at Cesar y cai di fyned," ebai Ffestus. Mae ein cyfeillion hyn yn, awr yn siarad yn ddi- ddiwedd am y Beibl, ac nid ydynt yn yngan gair am y mil o bethau gwrthwynebus ag yr ymdd'anghos- ai fod Eglwyswyr yn gosod y gwerth mwyaf ar eu haddysg grefyddol" er mwyn eu gyru i feddyliau ein plant. Ond os am y Beibl y maent, y Beibl yn ei burdeb a'i symledd dwyfol ei hun, fel y mynai yr Apostolion y gwnaent hwy y fath honiadau o fod yn "olynwyr" iddynt—ddysgu ei wirioneddau mawrion,—wele, y mae pob anghyd-ddealltwriaeth ar ben, ac yr ydym oil yn un! Fodd bynag, y mae yn bur glir mai ar y tir yma y mae ein hysgolion dydldiol, a gynhelir ar draul y boblogaeth, bellach, i gael eu cario yrnlaen. Gresyn fod yr Esgobion a'r Arglwyddi yn ffwdanu cymaint uwch ben y Mesur Addysg, ac yn ceisio dychmygu peryglon a drygau lie nad oes ond pob daioni. Wrth reswm, os nad allant osod gwerth ar ddim ond eu culni Eglwysyddol, y mae yn berffaith deg iddynt dalu am hyny, yn ol dyfarniad West Riding, o'u pocedau eu hunain. Y mae yn iachus gweled fod y Bwrdd Addysg wedi rhoi ar ddeall nad ydyw ysgolion a ddygir ymlaen felly i'w hadnabod mwyach fel "Ysgolion Cenedlaethol," yr hyn yn wir na fuont erioed; ond eu bod i'w galw, fel y maent, yn "Ysgolion yr Eglwys." Buan y gweler y dym- unoldeb o osod terfyn ar bob mympwyaeth o'r fath, ac y caffer holl blant ein hardaloedd yn ol darpar- iaethau rhagorol Mesur Addysg Mr. Birrell, i dder- byn yr addysg oreu yn ysgoliom ein Cynghorau, ac felly i gael eu cymhwyso yn y modd mwyaf effeithiol i wynebu ar yrfa bywyd. Mae y Ddirprwyaeth ar gwestiwn yr Eglwys yn Nghymiu, wedi dechreu ar èi gwaith. Hyderwn oil yr a ymlaen gyda goleuni a nerth. Drwg genyf weled fod y Cadeirydd weithiau yn ymostwng i hollti blew mewn rhai man ymofyniadau nad ydynt o un- rhyw werth, a hyny mewn ffordd sydd dipyn islaw urddas ei sefyllfa, Diau y dwg yr ymchwiliad i'r golwg lawer o bethau ag y byddt 0 fawr werth i'r deyrnas eu gwybod, er i Gymru, fod y drafferth a'r draul yn gwbl afreidiol. Mae hyny i'w weled yn dra amlwg yn y ffaith, er fod yr achos yma yn cael y fath le mawr ymhob man yn yr etholiad diwedd- af, na chafwyd cymaint ag un, allan o'r 34 a ethol- wyd dros Gymru, a ddywedai yn y Senedd gymaint a gair o blaid gadael pethau fel y maent. Ac y mae yn gysur gweled fod bellach nifer mawr, a nifer cynyddol, o rai ydynt eu hunain yn Eglwyswyr, yn gweled hyn mor glir a ninau. Pa Eglwyswr gwell na'r diweddar Mr. Gladstone, a phwy yn y byd yd- oedd yn fwy gcleuedig a chydwybodol? Eto fe ddy- wedai efe, Fod y Cymry yn genedl 0 Ymneillduwyr. Dywedai hefyd. Fod yr achos am ddadsefydliad yr Eglwys yn Nghymru yn gryfach nag ydoedd hyd yn nod yn yr Iwerddon, yn gymaint a bod pobl Cymru, y tuallan i'r Eglwys, wedi gwneyd cymaint er eu crefyddoli eu hunain. A gair mawr a ddywedodd ei fab, y Parch. Stephen Gladstone, a fu am 32 o flynyddoedd yn Ficer Penarlag, mewn cyfarfod o glerigwyr Rhyddfrydol yn Llundain, pan siaredid am Ddadsefydliad i Gymru, ac y cynhygiai un gwr parchedig, Eu bod yn datgan. eu barn mai gwell oedd gohirio yr achos am Gymru hyd oni chyfodai am y deyrnas oil; ondi galwai Mr. Gladstone eu sylw at y dirfawr wahaniaeth cedd rhwng Cymru a'r gweddill o'r deyrnas yn yr achos, a dywedai, Nad osdd ysbryd cenedlaethol na theimlad crefyddol pobl Cymru i'w cael o fewn Eglwys Loegr. Hawdd fu- asai ychwanegu lliaws o dystiolaethai cyffelyb. Mae ein cyfeillion sydd y dyddiau hyn mor hael ar eu geiriau mawr, yn ein condemnio oil o fod yn elynion i'r Eglwys, ac mai oddiar ein casineb a'n dybryd anghyfiawnder y cyfyd ein cais am ei dadsefydlu. Ond a allant siarad felly am y gwyr rhagorol a gry- bwyllwyd, eu brodyr goreu ? Ac os gwelent hwy y sefyllfa yn y fath oleuni, pa fodd y gellir cyfiawn,- hau pethau fel y maent? Ac yn enwedig, gan fod y boneddigion hyn yn gosod y fath bwys ar y gair yn eu Catecism—sydd genym oil yn y Beibl-Fod i ni wneuthur i eraill fel yr ewyllysiem i ereill wneu- thur i ninau, pa beth fuasent hwy yn ddweydl pe yn ein lie ni, ac yn ychwaegol at ofalu am eu hachosion crefyddol eu hunain, yn gorfod talu treth ar bob tamaid o'u bara at gynal sect nadi allai wneyd un honiad o fod yn Eglwys y genedl ? Ac y mae yn gysur cofio fod yr hyn sydd ar un ochr yn wir- ionedd a chyfiawnder, felly yr un modd ar yr ochr arall. Hefyd Cadarn yw gwirionedd a threch- af." Ac y mae yn dra hyfryd y gallwn sicrhau ein cyfeillion fod yr ofnau sydd yn eu brawychu wrth feddwl am Ddadsefydliad, &c., y fath fel na raid iddynt betruso eu gwynebu. Mae eu geiriau aruthr am ddymchweliad sicr yr holl wlad i baganiaeth, pe cymerai y fath beth Ie, yn bethau y mae iddynt dipyn o swn, ond dim gwirionedd. Ofnid yn gyffelyb am Eglwys yr Iwerddon. Ond dywedai Colonel Saunderson, Ceidwadwr cryf, ac nad oedd ei well fel cy-aill i Eglwys Iwerddon,—dywedai efe yn Dublin yn 1898: "Derbyniodd Eglwys Iwerddon, fel y meddyliem, ddyrnod dra throm wth mynedd ar hugain yn ol, pan ddedsefydlwyd ac y dadwaddolwyd hi. Er fy mod wedi fctio yn erbyn y mesur ar y pryd, eto pe gallwn, mi ddadwnawn y fotio hwnnw, canys yr wyf yn credu fod Eglwys Iwerddon yn gryfach ac yn fwy ysbrydol nag y bu erioed o'r blaen." Ac yng Nghongress yr Eglwys yn Bar- roWj ddechreu mis Hydref, dywedai Esgob Clogher,

-----CYMANFA YN VENEDOCIA.