Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Ya y Wasg, i fod yn barod yn ddioed, ESBONIAO AR EPISTOL I, lOAN, GAN Y DIWEDDAR BARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A. Ail", Argraffiad, dan Olygiaeth y PARCH. De CHARLES EVANS, F.G.S., TREFRIW. Jrlewn Llian hardd, pris 2S. 6c. nett, trwy y post 2s. IOC. E. W. Evans, Cyhoeddwr, Dolgellau. r Ar Werth gan y Parch. R. S Thomas, Abercynon, Glam, S W. f. Atebion i Ddwy Gyfres Holiadau Dr. L. Edwards ar Berson Crist, 2s. 6c. (Llyfr Newydd). .$. Yr lawn, 6s. 3. Cyfiawijhad Trwy Ffydd (ail argraffiad), ss. 4: Undod Personol y Duw-ddyn, 4s. 6c. J'w cael yn unig oddiwrth yr awdwr ar dderbyniad eu pris. Telerau i Lyfrwerthwyr, Dosbarthiadau Beiblaidd ac Ysgolion Sabbothol. [6908 LLYFRAU AR WERTH. I. "EIN POBL IEUAINC." Ail-argraffiad, 5ed fil. Pris 3c. a. DAFYDD JONES 0 DREFRIW.Ychwan- egiad gwerthfawr at Lenyddiaeth Gymreig. Gan y PARCH. O. GAIANYDD WILLIAMS. Pris Swllt. Drwy'r Post, IS. 2C. Telerau arferol i Lyfrwerthwyr. I'w cael gan yr Awdwr,— RO WEN, TALYCAFN, R.S.O. COFIANT Y PARCH. JOHN DAVIES, NERQUIS, Ijfnghyd a detholiad o 9 o'i Bregethau (Nn cynwys ei bregeth ar Fedydd ") fI/i Ddarlith boblogaidd :—" Jonah oddi mewn ac oddi allan i'r morfil," GAN CEORGE JONES, SYCHTYN ✓ PRIS CYHOEDDEDIG 2s. 6c., Yn crMV yn cael ei gynyg am 1s. 6c. er elirio y gweddill tydd ar law. Y prynwr i dalu y cludiad. Un copi 3c., m 1c. am bob copi ychwanegol. Te/ir cludiad haner dwsin 129 uchoa. BARN Y WASG AM DANO] Dyma Gofiant teilwng o'r hen bregethwr doniol, || darllenir ef gan filoedd gyda bias. Mae. y gyfrol ya glod i'w hawdwr, ac wedi ei hargraffu mewn or- graft ddarllenadwy.—Trysorfa'r Plant. .M Y mae y Parch. George Jones wedi llwyddo yn rhytedd, nid yn unig i dynu darlun cywir o'r hen feMgethwr, ond hefyd i ysgrifenu llyfr byw. Medd Bjrya a d'n ddyn i'w ddarllen o glawr i glawr cyn iosed o'i law. Nid cynyrch dychymyg mohono, (tad y John Davies a adwaenem ni sydd yma yn &W ar bob tudalen.—Y PARCH. J. MORGAN JONES, yn Y Deonglwr. Pqb archebion gyda blaen-daliadau i'w hanfon i'r lAwdwr,— PARCH. GEORGE JONES, SYCHTYN, NORTHOP. — — TYLAE PARTI BYCHAN CYMREIG YN AWR YN CAEL EI FFURFIO I DALU YMWELIAD A PALESTINA, &c. YSTOD Y PASG NESAF, ac y mae ychydig leoedd heb eu llanw 0 YMA PR OYFLEUSDRA OLAF A RHATAF. Aofoner yn ddiymdroi at- I. W. ROBERTS, 27, High Street, LLANGEFNI, WANTED £400 at 3! on Connexional Property at Cwmfelinfach. Security Monmouthshire Monthly Meeting. Apply,-H. A. JEREMY, Blackwood, Mon. YN EISIEU ^300 ar Gapel Newydd M.C. Wolver- hampton, ar log 3! y cant. Rhoddir sicrwydd Cyfar- fod Misol Trefaldwyn Isaf. Ymofyner a Mr. Joseph Evans, 57, Sherwood Street, Wolverhampton. (13908. YN EISIAU, Arian yn fenthyg ar neuaddau y Symudiad Ymosodol. Rhoddir sicrwydd y Cyfun- deb, a gofelir talu y Hog yn brydlawn. Ymofyner a Rev. J. MORGAN JONES, 6, Wordsworth Avenue, Roath, Cardiff. [16107. PEIRIANAU GWAU.-Modd esmwyth i enill eich bywioliaeth gartref. Pob dysg yn rhydd, a phob hysbysrwydd angenrheidiol. Lists yn rhad. Sefydlwyd 1871. W. GRIFFITHS, 8. Parade, Neath. MEMORIAL HALL, Cowbridge Road, Cardiff, wants to borrow C200 (sanctioned by Monthly Meeting). Apply stating interest required to Rev. T. M. CHARLES, 34, Major Road, Cardiff. CYMDEITHASFA PORTHAETHWY. EURILL 20, 21, 22, 1909. Dymunwn ar y cynrychiolwyr ac eraill a fwri ad- ant fod yn bresenol yn y Gymdeithasfa uchod i ddanfon eu henwau ar neu cyn Ebrill 7fed i CADWALADR DAVIES, Ynysfor, Menai Bridge. GWYLIAU Y PASC. Gan y bydd y Swyddfa yn nghau tiros wyliau y Pasg a ddydd Swene,. hyd dydd Mawrth taor erfynir ar I bobpeth a fwriedir at y rhifyn nesaf o'r I Goicuad -q gael ei anfon mor gynar ag sydd modd yr wythnos hon.
MR. ASQUITH*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MR. ASQUITH* PAN gyrhaeddo dyn safle o bwys, ac y daw ei enw yn air teuluaiddi, naturiol ydyw i chwil- frydedd ymddeffroi i geisio gwybod rhagor am dano. Mr. Asquith ydyw y gwladwr blaenaf heddyw yn yr Ymherodraeth Brydeinig. Natur- iol iawn, gan hyny, ydyw gofyn Pwy yw? 0 ba le y daeth? Beth yw ei hanes? Ac oddi- wrth yr hyn a fu beth ydyw yr argoelion am yr hyn a fydd? Ateb y ewestiynau hyn, ynghyda llawer eraill, ydyw ymgais y gyfrol brydferth a hylaw hon. Nid wyf yn cofio gweled enw Mr. Elias fel awdwr cyfrol gyffelyb i hon o'r blaen, er ei fod yn ddigon hysbys fel ysgrifen- ydd yn y cylchgronau. Yr oeddwn, gan hyny, yn teimlo yn awyddus i wybod pa fodd y troai allan ar faes eangach na darnau diflanedig. Darllenais y gyfrol drwyddi gydag awch a bias. Nid yw yn faith, ond ymdrinia a'r testyn yn gyflawn a chymesur o'i enedigaeth hyd ei es- gyniad i fod' yn Brifweinidog Prydain Fawr. Gwedd ffafriol a gymerir ar y gwrthddrych. Ond nid yw hyny yn rhwystro i'r awdwr edrych arno yn deg a di-duedd. Nid oes yma ddim gor-feirniad'aeth mwy na gor-ganmoliaeth. Pwysir a mesurir y cwbl yn fanwl a theg, heb orbrisio na dibrisio. Y canlyniad yw un o'r darluniau perffeithiaf o ddyn cyhoeddus y gell- id meddwl am dano, yn ei febyd, fel efrydydd, ac fel gwleidydd'wr. Y mae darlun godidog o Mr. Asquith yn y dechreu. Gellid tybied oddi wrtho, ei fod yn un da ryfeddol am eistedd i gymeryd darlun o hono, fel y dywed y gwawl- lunwyr. Yr un modd y mae yn gymeriad godidog i gymeryd darlun meddyliol o hono, ac fel un o'r rhai teilyngaf i bobl ieuainc ei efel- ychu. Ac y mae Mr. Elias wedi profi ri hun yn un o'r gwawl-lunwyr mwyaf llwyddianus. Nid wyf yn cofio pa bryd y darllen lis gyfrol mor swynol ac adeiladol. Ganwyd Mr. Asquith yn Morley, Swydd Yore, ar y i2fedo Fedi, 1852. Disgyna o hen dculu- The Right Hon. H. H. Asquith, M.P. A Bio- graphy and Appreciation. By Frank Elias. London: J. Clarke & Co. 1909. 3s. 6d. net. oedd Piwritanaidd ac Anghydffurfiol. Ail fab ydyw i Mr. Joseph Dixon Asquith, yr hwn a briododd gyda Miss Emily Willans, merch i Mr. William Willans, o Huddersfield, ac yr oedd yn un o bump o blant. Tra yn Morley addolai y teulu yn Eglwys Gynulleidfaol Re- hoboth. Symudasant i Mirfield, "c yno m\n- ychai y plant ysgol y Morafiaid. Bu farw y tad yn sydyn, a chymerwyd gofal ^ddy.ig y plant gan ddau ewythr iddynt, brodyr eu mam, sef y Meistri John a William Willans. Preswyl- iai Mr. John Willans yn Llundain. Yr oedd gwraig Mr. John Willans yn ferch i Syr Ed- ward Baines, y Rhyddfrydwr adnabyddus, a pherchenog y papyr dylanwadol Leeds Mer- cury." Symudodd teulu Mr. Asquith i Lun- dain, a mynychent y pryd hwnw, yr Eglwys Gvnulleidfaol yn Islington o dan ofal yr enwog Dr. Henry Allon. Ai ei frawd hynaf ac yntau, pan ddaethant yn ddigon hen, yn 1864, fel disgyblion dyddiol i Ysgol Dinas Lundain, ac oddi yno, yn 1869, enillodd ysgoloriaeth o £75 yn y flwyddyn yn Ngholeg Balliol, Rhydychen, at yr hon yr ychwanegwyd £ 50 y flwyddyn gan Gwmpeini y Chwegyddion (' Grocers Com- pany '). Yn 1870 aeth i Goleg Balliol, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ei ogoniant, ac o dan lywodraeth a dylanwad Jowett. Yr oedd llawer o debygol- rwydd rhwng y ddau. Un o Swydd Yore fel Asquith oedd Jowett. Dyfodiad i Lundain oedd yntau, ac o Ysgol Dinas Llundain, fel Asquith, yr enillodd ysgoloriaeth yn Balliol, yr hyn a'i dygodd i gysylltiad. a'r Coleg yr oedd y naill i feddu cymaint o ddylanwad ar y llall yn y dyfodol. Mwy na hyn, yr oedd llawer o debygolrwydd yn nheithi meddwl, tymherau, ac ymarferiadau y ddau. Ieithoedd oedd hoff- der Jowett. Felly Asquith. Nid oedd yn y naill ddim o'r bardd na'r proffwyd. Meddai y ddau feddwl grymus, annibynol a digyfeillach. Nid oedd dim chwareu ynddynt. Yr oedd gan- ddynt nod amlwg oi'u blaen, ac ymgadwent yn ofalus ymhob peth mewn trefn i'w gyraedd. Yr oeddynt yn ddysgwyr cyflym. Gofalent yn benaf peth am eu hamser a'u hiechyd, trwy fyned i'r gwely yn gynar a cherdded mwy na mwy. Felly pan ddaeth Jowett ac Asquith i gyffyrddiadi a'u gilydd yr oedd cydrywiaeth rhy- feddol rhyngddynt. Yfai Asquith ei ddysg, yn 9 enwedig yn yr ieithoedd, a chymerodd ei radd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad cyntaf yn 1873. Ychydig o athronydd ydoedd, ond yr oedd yn rhaid iddo feddu rhyw gymaint o hono yn ei arholiad terfynol, yr hyn a wnaeth yn 1874, gan gymeryd y dosbarth cyntaf. Fel hyn y terfynodd un o'r gyrfaoedd disgleiriaf yn Rhydychen. Ni chymerodd ddim rhan yn y chwareuon na'r cwmniau, ond yr oedd' yn un o aelodau disgleiriaf y gymdeithas ddadleuol yno a elwir yr Union. Yn hon nid oedd neb a'i cyfFyrddai. Cafodd yr anrhydedd o fod yn Gadeirydd, a disgwylid am ei anerchiadau ynddi fel rhywbeth i'w mwynhau. Traddododd ei araeth olaf ynddi ar Ddadgysylltiad, yn 1875, a dywedai fy nghyfaill Mr. Griffith Ellis, yr hwn oedd yn aelod o Balliol yr un pryd a Mr. Asquith, ei bod y peth goreu ar y testyn a wrandawsai erioed. o Rydychen penderfynodd! fyned! yn far- gyfreithiwr, ac, yn 1876, galwyd ef i'r bar yn Neuadd Lincoln. Anniben y llwyddodd, yr hyn a barai i rywun ofyn pa beth, wedi'r cyfan, oedd yn dyfod o'r bachgen dysgedig. Yn araf, er hyny, yr â, gwr ymhell. Ymunodd a chylchdaith y siroedd Dwyreiniol, ond pender- fynodd, os gallai fodd yn y byd, na chymerai lawer o waith cvlchdaith, gan mai anfynych y daw y rhai a adawent y Llysoedd yn Llundain i lwyddiant mawr. Penderfynodd hefyd na chymerai ddim ond y gwaith goreu. Felly pan gynygid iddo achosion amheus neu ddrwg- weithredol, gwrthodai hwy. Prin y gallasai dyn gwanach, o dan yr amgylchiadau, wneuthur hyn. Ond yr oedd ef yn ymwybodbl o'i nerth ac yn gwybod y gallai fforddio disgwyl. Un o'r rhai cyntaf i sylwi arno oedd Mr. Chamber- lain, yr hwn a ofynodd i Mr. Wright, ar ol hyny, y Barnwr Wright, ei gymerydi i'w ystafell- oedd. 0 hyny allan daeth yn gynhauaf arno. Cymerodd ran yn rhai o'r achosion mwyaf pwysig, yn enwedig Cyfraith Parnell' ar y Times,' gyda Syr Charles Russell, am Athrod. Nid damwain oedd iddo gymerydi y fath ran flaenllaw yn nadleuon yr Undeb yn Rhydychen, ond rhan mor wirioneddol e'i ymbarotoad ar