Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Selections, cymerwyd rhan ynddo gan y Swed- ish Nightingale, Miss Nilsson, Mr. Stanley, Sims Reeves, a Madame Arabella Goddard ar y berdoneg, a'r Cor. Rhifedi ynghyd yrfail ddiwrnod, 3,793 der- byniadau, £3,067 12s. 5d. Gadawaf y rhelyw hyd yr wythnos nesaf. Sabboth diweddaf cynaliodd yr Annibynwyr eu eyfarfod blynydd- 01 yma cawsom y fraint o glywed yr hen dad o Lanwrtyd, yn dda iawn Evans Llanbryn- mair, ac Evans o goleg Aberhonddu, yr hwn sydd yn bwriadu ymsefydlu yn Birmingham. EFROGWYSON.
"AT AMICUS."
"AT AMICUS." Anaml iawn y byddaf yn myned i'r drafferth i ateb personau fydd yn dewis cyfeirio gofyn- iadau yn nghysgod ffugenw. Pa beth a gym- hellodd yr Amicus hwn i ddwyn cyhuddiad mor ddisail i'm erbyn sydd ddirgelwch i mi. Ymddengys ei fod yn bur hyddysg yn helynt- ion rhai pethau a grybwylla; ond rhaid dweyd ei fod yn gwbl o dan ei ddwylaw pan yn cry- bwyll pethau ereill-pethau y dysgwylid iddo fod yn eu gwybod. Rhaid i mi ddweyd un o ddau beth am Amicus, naill ai y mae wedi ei gamarwain yn waradwyddus, neu ynte y mae yn gymeiiad peryglus a diymddiried. Os ei gamarwain a gafodd, dysged wers oddiwrth yr amgylchiad hwn i beidio rhuthro i'r wasg i lunio bai lie na bo o hyn allan. Byddffi hysbus i Amicus, a phawb ereill y perthyn iddynt wybod, na throsglwyddodd y Dr. Price y S15 i mi o gwbl,-ni bu dim a wnelwyf a'r arian. Trosglwyddwyd yr arian i'r trysorydd—y diweddar Mr. William Grif- fiths. Buont yn ei feddiant ef am. beth amser, ac mor fuan ag y gwelwyd nad oedd ond gobaith gwan i ni i ymgymeryd a'r gorchwyl o godi drinking fountain, trosglwyddwyd yr anan i'r Post Office Savings Bank, Aberdar, ac yno y maent hyd y dydd hwn yn dwyn llog. Dichon mai y peth goreu i'r ysgolion hyny nad ydynt eisioes wedi derbyn eu cyfran fydd galw gyda Mr. Lewis Griffiths, ironmonger, am danynt. Ar ba sail y mae Amicus yn dweyd, a chyda Mr. Williams y maent yn aros, mor bell ag y gwn i, hyd heddyw ?" Tebygol y rhoddir cyfleusdra i chwi yn fuan i brofi hyny. Dichon mai y peth goreu bellach i Amicus fydd gwneud apology cyhoeddus i mi yn y GWLADGARWR nesaf, a hyny o dan ei enw pri- odol; yna byddaf ar dir mwy manteisiol i farnu o barth yr amcan oedd ganddo mewn golwg wrth ddwyn cyhuddiad mor ddisail i'm erbyn. Myn rhai mai tool yn nwylaw rhywun ydyw Amicus yn yr amgylchiad hwn. Beth bynag am hyny, cymered Amicus ei ddewisiad, naill ai gwnend apology cyhoeddus, neu ynte cael ei orfodi i dynu yn ol ei gabldraeth. Trecynon. J. WILLIAMS.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YN NGHAERFYRDDIN, MEDI 3, 4, 5, a 6. Fel y gwyr ein darllenwyr, yr Eisteddfod ydyw y sefydliad addysgol hynaf ag y mae genym hanes am dano yn Europ. Nid oes amheuaeth nad oedd y sefydliad hwn yn flodeuog yn y wlad hon ganrifoedd cyn y gor- esgyniad Rhufeinig. YD y chwechfed ganrif, yr ydym yn cael i Eisteddfod gael ei chynal, yn yrhon yr oedd Taliesin ac ereill, yn Nhreg- anwy, Gogledd Cymru. Yn 1107, yr ydym yn cael Eisteddfod yn cael ei chynal yn Nghastell Aberteifi, gan Bleddyn ap Cynfyn. Cynaliwyd un arall yn yr un lie yn 1177, gan Rhys ap Gruffydd, Tywysog Deheudir Cymru. Yn amser Iorwerth III., cynaliodd Ifor Hael Eisteddfod yn ei balas ei hun yn Ngwern-y- Gleppa. Yn nheyrnasiad Iorwerth IV., a thrwy ei ganiatad, cynaliwyd Eisteddfod fawreddog yn Nghaerfyrddin, gan Gruffydd ap Nicholas, un o henafiaid Arglwydd Dynef- wr. Yn 1523, darfu i Ham yr VIII., roddi cenad i gynal Eisteddfod yn Nghaerwys, sir Mint; a chynaliwyd un arall yn yr un lie, trwy ganiatad y Frenhines Elizabeth, yn 1568. Yr ydym yn cael hanes am amryw hefyd wedi eael eu cynal mewn gwahanol leoedd yn y ganrif ddylynol, ac yn 1819, cawn E'steddfod yn cael ei chynal dan lywyddiaeth Esgob Ty Ddewi, yn Nghaerfyrddin, a chawn fod Ar- glwydd Dynefwr yn bleidiwr gwresog iddi ac yn yr hon yr oedd Iolo Morganwg yn bres- enol. Ond nid gwiw i ni fyned yn mlaen a'r rhai a fu, ond rhaid dychwelyd at yr un bres- enol. Dydd Llun, yr oedd cryn fywiogrwydd i'w weled wedi meddianu hen dref Myrddin, a phob cerbydres yn arllwys rhyw gymaint' yn ychwaneg at ei phoblogaeth, fel erbyn y pryd- nawn yr oedd miloedd o Eisteddfodwyr wedi eyrhaedd, a'r heolydd yn ferw byw o bobl- ogaeth. Yfath gyfnewidiad oedd wedi cy- meryd He Yn y prydnawn, cynaliwyd eyfarfod a elwid conversazione yn yr Assembly-rooms, dan lywyddiaeth y Parch Latimer Jones. Cafwyd anerchiad rhagorol a thra phriodol ganddo, wedi yr hyn y can odd Cor' Merthyr, dan lyw- yddiaeth Mr Francis, y Boat Song." Anerchwyd y eyfarfod hefyd gan Mr Pro- bert, Ty Ddewi; Mr Frank Buckland, Mr Salter, ac ereill. Cahwyd yr Haf hefyd gan ger Merthyr, ac amryw bethau gan gor g Eisteddfod ynystod y prydnawn. Boreu dydd Mawrth, yr oedd y dref yn llawn bywiogrwydd, a hyny yn dra boieu, er fod gwlaw trwm yn disgyn, a'r nifer yn yfehwanegu pob awr gan arllwysfa y gwa- hanol reilffyrdd. Am ddeg o'r gloch, cynal- iwyd eyfarfod perthynol i'r Eisteddfod yn netiadd y dref, dan lywyddiaeth Mr Hugh Owen, Llundain. Yr un ba yt a ddarllen- wyd dedd eiddo y Parch H. Solly, ar Glyb: iau Gymdeithasol Gweithwyr Cymrn, gydftg awgrymiadau pa fodd y dylent gael eu sefydlu a'u cynal." Ni chymerodd unrhyw ymddydd- an le ar y papyr, a chan fod yr amser wedi dyfod i fyny, ni ddarllenwyd unrhyw bapyr arall, ond torwyd y eyfarfod i fyny, a de- chreuwyd parotoi yn orymdaith i gychwyn tua'r ORSEDD; Yn blaenori yr oedd y Sein- dorf, yna Maer Caerfyrddin a Chadeirydd y Cyngor Cenedlaethol; wedi hyny Vicer Caer- fyrddin a'r Cyn-Faer, y swyddogion trefol, Cyngor yr Eisteddfod, Pwyllgor yr Eistedd- fod, v cor, y beirdd, trigolion Caerfyrddin, Odyddion, Iforiaid, a chymdeithasau ereill. Wedi cyrhaedd yr orsedd, yr hon oedd o'r tu ol i'r babell, cymerodd agoriad ffurfiol yr Eisteddfod Ie, trwy ddarlleniad y cyhoeddiad canlynol, yn Gymraeg gan Ieuan Morganwg, ac yn Saesonig gan Teilo :— Y Gwir yn erbyn ybyd :—Yn y flwyddyn Un Fil wyth Cant Triugain-a-saith, pan yw yr Haul yn neshau at Alban Elfed, ar awr anterth, ar y trydydd o Fedi, wedi cyhoeddiad priodol o rybudd un dydd a blwyddyn, agorir yr Orsedd hon yn Nghaerfyrddin, yn nhalaeth Caerfyrddin i roddi gwys a gwahawdd i bawb a gyrchont yma, lie nad oes arf noeth yn eu herbyn, ac y cyhoeddir barn Gorsedd ar bob awenydd a barddoni, a roddir dan ystyr- iaeth, yn ngwyneb haul-llygad goleuni.-Y Gwir yn erbyn y Byd." Yn ganlynol, cafwyd anerchiadau barddonol gan Alltud o Eifion, Cynddelw, a Theilo, wedi yr hyn yr hysbyswyd na byddai i neb gael eu hurddo hyd foreu dydd Gwener, yn flaenorol i ba adeg y derbynid enwau yr ymgeiswyr, ac yr aed trwy yr arholiad angenrheidiol. Cymerwyd y gadair lywyddol gan Mr D. Pugh, A.S., yr hwn wrth gymeryd ei sedd, a dderbyniwyd yn nghanol cymeradwyaeth uchel. Cafwyd anerchiad grymus a dylan- wadol gan y Llywydd, yr hwn a dderbyniwyd gydag arwyddion o uchel gymeradwyaeth. Wedi i'r Llywydd eistedd, canodd Llew Llwvfo y gan genedlaethol. Beirniadaeth, T. O. Morgan, Ysw., Aberystwyth, a'r Parch. Joseph Tombs, Burton, sir Benfro, ar y traeth- awd ar Sefydliad y Flemingiaid yn Neheudir Cymru," gwobr pum gini. Yr oedd deg cyfan- soddiad wedi dyfod i law, a gwobrwywyd Meudwy, sef Mr. Owen Jones, ysgol Brytan- aidd, Treherbert. Cystadleuaeth menwaidd ar y Berdoneg, gwobr, tlws arian. Cystadleuodd chwech neu saith o foneddigesau ieuainc, a gwobrwywyd Miss Lizzie Moulding, Abertawe, yr hon a arwisgwyd a'r tlws gan faer y dref. Rhoddwyd v feirniadaeth gan Mr. Brinley Richards. Beirniadaeth Llawdden a Chlwydfardd ar y Gan i'r Corwg," gwobr, dwy gini. Yr oedd pedwar ar ddeg yn cystadlu, a gwobrwywyd Ceiriog Hughes, Lanidloes, yr hwn a arwysg- wyd gan Miss Jones, Pant Glas. Cystadleuaeth gorawl, sef canu "Ye Little Birds," gwobr chwe' gini a thlws arian. Un oedd yn cystadlu, ac yn deilwng o'r wobr. Cafwyd unawd ar y berdoneg gan Mr. B. Richards, yr hwn a dderbyniodd uchel gymer- adwyaeth gan y dorf. Beirniadaeth G. Osbourne Morgan, Ysw., ar y Traethodau (Cymreig neu Saesonig) ar yr Amddiffyniad goreu i'r Cymry yn erbyn ym- osodiadau y Saeson, gwobr, deg gini a thlws arian. Yr oedd wyth yn cystadlu ar y testyn hwn, a gwobrwywyd y Parch. D. Griffiths, gweinidog Annibynol ger Bangor. Cystadleuaeth ar chwareu y delyn deir-res, gwobr, deg punt ail, pum punt. Beirniaid Pencerdd a Cherddor y De. Ni ddaeth ond un i'r gystadleuaeth, sef Mr. Lewis Williams, Dowlais, i'r hwn y rhoddwyd y wobr flaenaf. Beirniadaeth Llew Llwyfo a Pedr Mostyn ar y Pryddestau ar Syr Rhys ab Thomas, gwobr, pum gini a thlws aiian. Anfpnwyd pedwar o gyfansoddiadau i mewn, ond y goreu oedd Ceiriog Hughes, Llanidloes, yr hwn a arwisgwyd gan Lady Hamilton. Yn ol y programme, yr oedd Miss Edith Wynne i roddi can, ond nid oedd wedi cyr haedd, pryd y cafwyd datganiad rhagorol o'r Y Gwenith Gwyn," gan Miss Anne Ed- monds. Wedi hyny cafwyd anerchiad gan Lleurwg, Llanelli, am yr hon y cafodd gymer- adwyaeth uchel y cynulliad. Canu Corawl, Dyffryn Towy," gwobr," deg gini a thlws arian. Nid oedd ond un cor yn cystadlu am y wobr hon eto, a chafodd y wobr. Yr adeg hon, cafwyd englynion rhagorol gan Gwilym Mai. Beirniadaeth Llawdden a Chlwydfardd ar yr Englynion i Geiliog y Gwynt, gwobr, gini. Yr oedd 97 wedi cyfansoddij a'r buddugol oedd eiddo Gwynfab, ond ni atebodd neb i'r enw. Cystadleuaeth y Brass Bands, gwobr, deg gini a thlws arian, ail wobr, pum gini. Enill- wyd y wobr flaenaf gan seindorf Aberaman, a'r ail wobr gan eiddo Caerfyrddin, wrth dder- byn yr ail wobr dechreuodd arweinydd sein- dorf Caerfyrddin rwgnachu ar y feirniadaeth, ond gwawdiwyd ef gan y dorf. Cafodd ergyd a ehwff hefyd gan Arweinydd y dydd. 1,1 Beirniadaeth W. Jones, Ysw., Llwyn y Groes, a L. Phillips, Ysw., Bolahaul, ar y traethodau ar "Gyfundrefn y Tylotty," gwobr, tair gini Dau gyfansoddiad a ddaeth i mewn ar y pwnc, a gwobrwywyd eiddo Mr. Lewis Thomas. Wedi cael canu penillion gvda'r delyn, caf- wyd beirniadaeth 0. Alaw a Thanymarian ar y gan boblogaidd oreu, gyda thon ar y cyfryw, ar Syr Thomas Picton, gwobr, pum gini. Yr oedd pump wedi dyfod i'r gystadleuaeth, ac eiddo Better late than never" oedd y goreu, yr oedd yn deilwng o'r wobr, o'r Eisteddfod, ac o'r gwron Picton, ond ni atebodd neb i'r eiiw. Terfynodd hyn weithrediadau cyfatfod, cyntaf yr Eisteddfod, pryd y cynygodd maer y dref ddiolchgarwct i'r llywydd, ac y rhoddwyd-tair tbanllef jddo gan y dorf ;Vac, wrth ymadael, caiiwyd "Hen Wlad fy Nhadau," O. Alaw yn canu yr unawd a'r dorf yn|cyduno ynycydgan. t ;). Yr oedd y cynulliad dydd Mawrth tu hwnt i ddim a ellid ei ddisgwyl, a'r diwrnod wedi bod yn lwyddiant perffaith yn mhob ystyr o'r gair. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngerdd ardderchog, yr hon a ddechreuwyd trwy i gor yr Eistedd- fod ganu I'r Awen." Cymerwy d rhan yn y gyngerdd hefyd gan Miss Annie Edmonds, Mr. Lewis Thomas, Mr. Brinley Richards, Mr. John Thomas, Madame Patev-Whytock, Mr. W. H. Cummings, ac ereill, ac aeth y cwbl yn mlaen yn dra chanmoladwy. Boreu dydd Mercher am ddeg'cynaliwyd ail gyfarfod yn Neuadd y dref, dan lywyddiaeth Mr. Hugh Owen. Oywedai y cadeirydd fod dwy ysgrif wedi eu hapwyntio i'w darllen, un gan Mr. David Williams, Llanelli, ar "Ysgolion nos i Gymru," a'r Hall gan Mr. Ifor B. B. James, ar Ysgolion nos i'r Cymydogaethau Amaethyddol." Modd bynag, cyn myned yn mlaen a'r rhai hyny, yr oedd ganddo bapyr bychan o eiddo Mr. Tompkins eisiau ei ddarllen, a chan nad oedd ei awdwr yn bresen- ol, galwai ar y Parch. J. Griffiths, Castellnedd, i'w ddarllen. Yr oedd yn bapyr rhagorol, ar Gymdeithasau Dyngarol, ac yn un a wnai les mawr ond ei gyhoeddi a'i ledaenu. Wedi i ychydig ymddyddan gymeryd lie ar y papyr hwn, darllenodd Mr. Williams, Llan- elli ei eiddo yntau, ond trwy fod yr amser i fyny, gohiriwjd hyd foreu dydd Iau. Am ddeg yn y babell, yr oedd y beirdd wedi ym- gyfarfod i ddadleu pwnc yr awdl a'r Bryddest. Cymerwyd y gadaii gan Mr. Francis, Manches- ter, ac wedi ymddyddan maith ar y pwnc, penderfynwyd anog y boneddigion a neilldu- wyd y flwyddyn ddiweddaf, yn Nghaer, ar fod i wobr y Bryddest fod yr un mor werth- fawr a gwobr yr Awdl, yr hyn hefyd a gy- hoeddwyd o'r orsedd. Am ddeuddeg o'r gloch taflwyd y babell yn agored i'r cyhoedd, ac nid hir y bu cyn cael ei llenwi. Cymerwyd y gadair gan Mr. John Johns, Dolaucothi. Ar yr esgynlawr, yn mhlith ereill, yr oedd Esgob Tyddewi, y Parch. Chancellor Williams, Mr. D. Pugh, A.S., a llawer ereill o brif foneddigion a boneddigesau y gymydogaeth. Wedi i'r seindorf chwareu y Gerdd Genedl- aethol, cafwyd anerchiad maith a champus yn mhob ystyr o'r gair gan y llywydd. I ganlyn hyn, cafwyd anerchiadau barddonol gan Bod- ran a Gwilym Mai. Wedi y Gan Genedlaethol gan Owain Alaw, y peth cyntaf, yn ol y rhagdrefn, oedd beirn- iadaeth Archddeon Williams a Watkin Wil- liams, Ysw., Llundain, ar y traethodau ar y Manteision a ddeilliant i Gymru oddiwrth ei Hundeb dan goron Lloegr. Gan nad oedd yr ail wedi gwneud ei ymddangosiad, dewis- odd yr Archddeon oedi rhoddi ei feirniadaeth. Cystadleuaeth wrywaidd ar y berdoneg gwobr, tlws arian. Yr oedd tri yn cystadlu, a rhoddwyd y wobr i Mr. W. Rees, Caer- fyrddin. Beirniadaeth Llawdden a Chlwydfardd ar y gan i'r Teulu Dedwydd gwobr, dwy gini. Yr oedd 36 o gyfansoddiadau wedi eu derbyn, a'r buddugol oedd Mr. John Thomas, Blaenan- erch. Yr ail oreu ar y testyn hwn oedd Mer- ton, sef Mr. D. Harris (Caeronwy), Llanelli. Cystadleuaeth gorawl; gwobr, 930 a thlws i'r arweinydd. Beirniad, Henry Leslie, Ysw. Cystadleuodd tri chor, sef Merthyr, Castell- newydd-Emlyn, ac Aberdar. Rhanodd y beirniad y wobr yn dair rhan, sef £ 15 a thlws i gor Merthyr, £10 i gor Castellnewydd, a 95 i gor Aberdar! Deallwn na dderbyniodd cor Aberdar y rhan dda oedd yn dygviydd iddynt hwy. Wedi cael englyn gan Iago Emlyn, ac un- awd ar y delyn gan Mr. Llewelyn Williams, cafwvdanerchiad hyawdl a derbyniol gan Mr. John Jones (Talhaiarn), yn Gymraeg a Saes- onig. Cyfeiriodd yn ei anerchiad at Eistedd- fod oedd wedi ei chynal yn N gbaerfyrddin bedwar cant o flynyddoedd vn ol, ac hefyd at wawd y Times ar y sefydliad. Beirniadaeth W. Spurrell, Ysw., a'r Arch- ddeon Williams ar y traethawd ar yr Hanes goreu o Dref a Sir Caerfyrddin; gwobr, pym- theg gini a thlws. Yr oedd pedwar o gyfan- soddiadau wedi eu derbyn, v rhai a ymddiried- wyd i'r ddau feirniad cymhwys, Rhoddwyd y tlws a deg gini i Cyfryngwr, a'r pum' gini arall i Caradog ab Ceridwen. Ymddangosodd y cyntaf yn mherson Mr. Alcwyri Evans, Caer- fyrddin, yr hwn a arwisgwyd gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi. Deallwyd trwy nodyn at yr ysgrifenj dd mai Mr. David Lloyd, New Tredegar, oedd Caradog ab Ceridwen. Beirniadaeth Llawdden a Chlwydfardd ar y gan i'r Teulu Annedwydd gwobr, dwy gini. Yr oedd pymtheg o gyfansoddiadau wedi eu derbyn, a'r buddugol oedd eiddo Mr. James Roberts, ger Trallwm, sir Drefaldwyn. Cystadleuaeth canu Codiad yr Ehedydd gwobr, dwy gini. Ymgeisiodd wyth o'r rhyw deg am y wobr. ond enillwyd hi gan Mrs. Mathews, Mountain Ash. Beirniadaeth y Parch. T. James, (Llallawg) ac M. Jones, Ysw., (loan Cunllo), ar y traeth- awd ar gyfansoddiad Athronyddol Enwau Lle- oedd Cymreig yn Nghymru, gwobr, pum gini. Yr oedd tri chyfansoddiad wedi dyfod i mewn, ond barnwyd eiddo y Parch. James James, (Iago Emlyn), Clifton, yn oreu. Beirniadaeth Llew Llwyfo a Pedr Mostyn ar y Bryddest Farwnadol i Glan Alun. Yr oedd unarddeg o gyfansoddiadau wedi dyfod i law, ac enillwyd y wobr gan Risiart Ddu, o Wynedd. Cystadleuaeth canu unryw Glee, gwobr, pum gini, ail wobr, tair gini. Yr oedd ped- war parti yn cystadlu, a rhoddodd y beirniad y wobr flaenaf i barti Merthyr, dan arweiniad Mr. Francis. Yna galwyd ar Llew Llwyf»i ganu can Gymreig, yr hyn a wnaeth, a gorfuwyd arno ganu yr ail waith. l Beirniadaeth Edmund Yates, Ysw.. Llun- dain, ar y gan newydd yn Saesonaeg, ar un- ryw destyn, gan Gymro neu Gymraes, gwobr, (gan W. Banting, Ysw.,) X20 a thlws arian gan y Pwyllgor. Yr oeed 93 o gyfansoddiadau wedi eu derbyn, ond cyngorodd y beirniad fod y wobr am y presenol i gael eu hatel, trwy nad oedd yr un yn dyfod i fyny i'r safon. Dy munai, modd bynag, am fod y wobr i'w chynig eto y flwyddyn nesaf. Daeth hyn a'r eyfarfod boreuol i derfyniad, pryd y rhoddwyd diolchgarwch i'r llywydd at gynygiad Rector Neath, ac y canwyd ar Dywysog Gwlad y Bryniau — Mr. Lewis Thomas yn canu'i unawd. Cynaliwyd cyngerdd yn yr hwyr, yn dech' reu am 6 o'r gloch, pryd y cymerwyd rhaB ynddi gan luaws o'r prif gerddorion. TESTYN Y GADAIR. Y Milflwyddiant," ac a enillwyd gan y Parch. R. Parry, (Gwalchmai), Llandudno. (I'w orphen yn ein nesaf.)
HIRWAUN A'R ETHOLIAD.
HIRWAUN A'R ETHOLIAD. Nos Fawrth diweddaf, cynaliodd etholwyr y lie hwn gyfarfod cyhoeddus er ystyried y llwybr goreu i weithredu gyda golwg ar yr etholiad dyfodol, ac i gael barn y He ar mater. Am wyth o'r gloch, daeth lluaws mawr o'r dynion mwyaf cyfrifol yn nghyd, i'r Ysgol Frytanaidd, ac yn fuan cynygiwyd y Parch. W. Williams, Nebo, i lywyddu y cyfarfod, yr hyn a gefnogwyd yn unfrydol. Cododd y llywydd i egluro amcan y cyfarfod, a'n bod trwy yr arsawd diwygiadol sydd newydd ddy- fod mewn grym, wedi cael ein breintio ag ail aelod i'n cynrychioli. Bod dau neu dri eisioes wedi cynyg eu hunain, ac y gallai ereill eto ddyfod cyn adeg yr etholiad, ond y dylem fel ymneillduwyr gael un o'r ddau aelod i'n cyn- rychioli yn y Senedd o ran ein hegwyddorion anghydffurflol Yn nesaf, cododd Mr David Evans, Grocer, a dywedodd y dylasem gael dau Ymneillduwr i'n cynrychioli, gan fod yr Ymneillduwyr yn 9 am bob un o'r Eglwyswyr felly, ei fod ef o'r farn y dylem ni eu cael yn ddios, gan fod yr ardal hon yn fwy Ymneillduol nag unrhyw fwrdeisdref yn Nghymru. Daeth Mr Howell Jones yn mlaen i ddarllen ypenderfyniad cyntaf, ac eiliwyd ef gan Mr Morgan Evans. Yna, cododd Mr David Evans i fyny, i ddy- weyd ein bod i gael dau aelod Ymneillduol hollol yn bresenol, ac eiliwyd ef mewn araeth wresog dros ben, a gwnaeth sylw o'i dad, set Mr Thomas Evans, Heolyfelin, a Henry Rich- ard, Ysw., a rhoddodd engraifft o hono fel Ym- neillduwr trwyadl. Dangosodd Mr Evans ei ragoriaethau i fod yn aelod drosom, a'i fod yn gobeithio y caem un arall ar y maes o'r un stamp a Mr Richard, fel y gallom gael dau o'r un syniadau a ni i'n cynrychioli yn y Senedd. Yn nesaf, cododd Mr G. Jones, Grocer, ar ei draed, agofynodd, A oedd hi ddim yn ber- yglus i ni wrth treio cael dau i fewn methu cael yr un ? A fuasai ddim yn well i ni sicr- hau un aelod yn bresenol1 Dywedodd Mr E. Watkins, Ysgolfeistr, yr un peth a'i ragflaen- ydd. Yn nesaf, cododd y Parch. D. Jones, a siar- adodd ar y perygl i ni geisio cael dau yn bre- senol, a buasai yn well i ni fachu un yn bresenol. Yn nesaf, cododd D. E. Williams, Ysw., a rhoddodd araeth frwdfrydig iawn, a chynyg- iodd welliant, a phasiwyd ef yn unfrydol, sef fod y eyfarfod hwn yn llawenhaufod yr Ysgrif Ddiwygiadol wedi dyfod yn ddeddf ein gwlad, ac hefyd yn llawenhau fod un aelod newydd yn cael ei roddi i Fwrdeisdref unedig Merthyr ac Aberdar, ac am hyny, ein bod o'r farn y dylem ni gael dau Ymneillduwr i'n cynrych- ioli yn y Senedd. Buasai hyny yn ddim ond cael ein hiawnderau ond ein bod yn myned i wneud ein goreu i ddychwelyd un aelod Ym- neillduol. Yn nesaf, cododd y Parch. D. Jones, a chy- nygiodd yr ail benderfyniad, sef fod y eyfar- fod hwn yn penderfynu i beidio addaw ein pleidleisiau i neb hyd nes y caffom amser i farnu y personau sydd yn bwriadu sefyll i'n hanerch, ac yn dweyd eu barn ar bynciau y dydd, ac eiliwyd ef gan Mr. John Lloyd. Yn nesaf, cododd Mr. David Evans, grocer, i gynyg fod y eyfarfod hwn i ddanfon cais at Henry Richard, Ysw., i dalu ymweliad a'r lie hwn pan ybyddo yn dyfod heibio, er mwyn iddo ein hanerch. Eiliwyd ef gan amryw, a phasiwyd ef yn nghanol cymeradwyaeth y dorf oedd yn bresenol. Penodwyd Mr.jE. Williams i ysgrifenu ato. Wedi talu diolch- garwch i'r llywydd, &c., ymadawvd|fwedi cael un o'r cyfarfodydd mwyaf brwdfrydig a fu yn y lie hwn er's amser maith. Yr ydwyf yn credu wrth lais y rhai oedd yn bresenol mai Henry Richard ydyw Idyn pawb yma, beth bynag, ac yr wyf yn credu ei bod yn ddyledswydd ar Mr. Richard i fdalu ymweliad a'r lie hwn, oblegyd mi glywais-fod yma tua 700 o etholwyr hollol Rhyddfrydol. Ydwyf, yr eiddoch, fel arfer, GOHEBYDD Y LLE.
,IECHYD LLUNDAIN/1
IECHYD LLUNDAIN/1 Yr oedd y marwolaethau o'r diarrheea ryT wythttos ddlweddaf wedi cynydduynfawryn yr hollorif drefydd, ac yu neillduol yn Man- Chester, Birmingham, a Sheffield. Yn Lluo- dam. bu farw 4 o bob mil; 6 o bob mil gyq 9 yn Sheffield, 11 yn Manchester ft halfoi'd, a 12 o bob mil yn Birmingham.. Nifer ymarwolaethau a gofrestrwyd yn Liundain"ytl ystod yr wythnos ddiweddaf oeddynt,1,288, o'r rhai hyn yr oedd 208 yn blantt, a,1,8 jtiewn oed, a fuqnt feirw o'r diarlieea. ■ ,B,u fat;w 16 V blant, a chwech mewn oed befj;d o'r cholera, yt hyn sydd yn ychydig o gynjdd ar yr wyth- ddiweddaf.